Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TELERAU.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
TELERAU. 1. Cyfansoddiadau buddugol i fod yn eiddo Papur Paivb. 2. Attelir y wobr oni bydd teilyngdod. Ni ddychwelir y cyfansoddiadau anfudd- agol; a bydd hawl gan Parztr Patvb i'w I cyhoeddi trwy dalu 2s 6c. 3. Disgwylir teilyngdod llenyddol yn liytrach na cliadw at hyd neillduol; ond ni fydd unrhyw ysgrif a lanwo fwy nag un tuclalen-tua 1600 o eiriau—yn dder- byniol. 4. Y cyfansoddiadau i gael eu lianfon i Papur Pawb, Caernarfon, fel ag i gyr- haedd ar y dydd a grybwyllir uchod, gyferbyn a phob testyn. 5. Ysgrifener mewn inc du, ar bapyr gwyn, ar un ochr i'r ddalen yn unig. 6. Dyfarniad Golygydd Papur Pawb i fod yn derfynol. Gwneir y dyfarniadau yn hysbys, os yn ddichonadwy, yn mlien pythefnos ar ol derbyn y cyfansoddiadau, 7. Pob ymgeisydd i nodi ei enw priodol, a'i drigfod; hefyd, i ddatgan fod ei waith yn wreiddiol, neu ei fod yn efelycliiad o ryw waith, mewn iaith arall, heb fod yn ddarostyngedig i Ddeddfau Hawl-ysgrif; hefyd, ei fod yn cydsynio a'r telerau.
BLODAU BARDDAS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLODAU BARDDAS COLOMEN FUD. 0 flaeil ystormydd erch, colomen fad Ysgubwyd gynt i ryw estronol wlad Y sglyfiol adar ruthrent arni lu, Gan faeddu hon a thynu'i gwynion blu Rhoi duon blu a geisient hwy ymhlith Ei gwynion blu, er gwneyd aderyn brith O'r hardd golomen wen—a hithau'n fwyn Heb symud aden, na dyrchafu cwyn Dim ond griddfanu'n ddistaw nos a dydd Yn holltau'r graig, ac mewn ogofau cudd; Mewn unig fan, a mi'n ymholi'n syn Beth allai fod y diniweidrwydd hyn, Dieithriol lais ddisgynodd ar fy nghlyw Colomen fuel meivn gwlad estronol yw
"MOES DY LAW."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
"MOES DY LAW." Cyfosthog wyt, ond nid wyt falch, Nid wyt hunanol, greulawn fryd Mewn cydymdeimlad edrych wnei Ar y cyifredin yn y byd; I ranu'th aur y crwydri ymhell, Gyda'r gofidus yn ei gell, Cyfodi'r truan wnai o'r llwch, A chynnorthwyo'r weddw dlawd, Nawdd i'r amddifad—moes dy law, Dy garu 'r ydwyf megis brawd. Wyt dlawd, ond nid dirmygu wnei Er hyny gyfoetliogion byd Ar nerth ac iechyd rhoddi werth, Gan weithio'n ddiwyd iawn o hyd O'th brinder rhoi i'th gyfaill ran, Echwyna wnei i'r truan gwan Ar gol cymeri ddynolryw, Mewn ereill y canfyddi di Ryw bethau teilwng-moes dy law, Dy garu megis brawd 'rwyf fi. Pa mor gyfoethog wyt, ni'm dawr, Os ydyw dy feddyliau'n bur Ac nis gwaeth genyf pa mor dlawd, Os ymdrech wnei, a dioddef cur Nid adar sy'n gwneyd haf yn ffaith, Nid coron sy'n gwneyd brenhin chwaith; Os ydwyt uniawn, doeth, a da, Y mae gwell cyfoeth genyt ti Nag ereill oll-0 I moes dy law, Dy garu megis brawd 'rwyf fi. Eryri. LLYSTYN.
GALAR GWRAIG Y MEDDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GALAR GWRAIG Y MEDDWYN. TON—" Mari'r Ucheldir" (Highland Mary). Ust! taw a'th gri, fy maban mwyn, Dy glafaidd gwyn a'm briwia Cwsg enyd ar fy ngliniau'r Gwan; Ac yn y man daw Data;" Ha livli, lwli, huna di, Nid oes i mi ond blinfyd; Och! na chaem fyn'd ein dau 'run pryd Dros geulan byd i'r gweryd. Draw yn y dafarn mae dy dad, Ac ni ymad oddiyno Nes d'ryso'i gof a cholli ei bwyll Gan swyn y twyll sy'n hudo Ow! mae'r rhegfeydd a'r cabledd cas Yn taro ei flas yn amgen Na'th ddolef di, fy eiddil claf, Oel-i I beth a wnaf i'm bachgen Cly wch tery'r awrlais un ar ddeg Ust! dyna'i reg i'm dychryn Efallai mae fy nharo gat, Er hyny af i'w dderbyn Ond erbyn agor iddo'r drws, Ah! 'i gorgi tlws oedd yno Mae'r Dyn o'i artref wrth ei fodd, A'i gi a flinodd arno Oh! f'anwyl faban, nesu mae 0 wlad y gwae i'r gwynfyd Ei dad ni cha ei wel'd yn fyw Ni ddaw hyd clyw'r anwylyd; Dych'mygaf clywa' i acw'i floedd, A'i fab yn ingoedd angau Ah dyna'i drwst yn dod yn awr, Mae'n drydedd atvr o'r boreu Na I na dychymyg gwyllt rodd dro, Rhyw lech o'r to a syrthiodd Ffarwel, ffarwel am wel'd ei wedd, Hyll angau'i gledd ddynoethodd Och dyma'r fywiol ffun yn ffoi Pa le mae troi am gysur ? Mae loesau'm baban trwyddoi'n gwau, A rhwygant ieuau'm natur Ust! tery bedwar !—dyma'i droed, 0 Dduw, boed i'm dawelu j Ond 0 na welsai'r un difai Cyn marw, a'i gusanu Pwy wyr na fuasai'r olwg syn Yn rhwmyn tyn i'w gadw Ond, Ow uwch corph fy angel glan Fe uda gan !—mae'n feddw LLAWDDEN.
TREM AR AFON MENAI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREM AR AFON MENAI. Ah! wyneb siriolaidd, pwy sylla heb wenu ? Ar lygaid mor loewon, mor glir yn swyn- dremu; Mae'r haul o'r uchelder yn chwenych ymgomio, A lieirddion ororau teg Menai heb flino Tryloewa'r ymylon, goreura'r coedwigoedd, Grisiala'i belydrau fan donau y dyfroedd; Mae'n gweled ei arlun yn nrych y gain afon, 'Does arno gywilydd troi yma'i olygon. Ei Grewr ei hunan a wnaeth y drych gloew Holl fodau y nefoedd gant ynddo'u gwir ddelw; Y coedydd o'r ddeutu yn deg ymddiddanant, Dros wyneb y dyfnder, a'u gilydd ymgomiant; Sisialant drwy'u gilydd yn fiwsig berseiniol, A denir yr adar i'r corawl le swynol; Ah dyna gerddoriaeth — llais anian yn mydru, Trigolion y dyfnder sy'n hyfryd ryfeddu Celfyddyd ac anian sydd yma mewn mawredd, Y gwycli adeiladau sy' i'r fro yn anrhydedd; o liaen fy ngolygon, mae cedyrn balasau, Y cestyll ardderchog fel nawdd idd ei glanau; Y pontydd haiarnaidd ar faen dyrau nertliol; Y tramwyfeydd dyogel-O! ddyfais orchestol! Brenhinoedd y ddaear a gyrchant mown syndod, Heb neges amgenach na gwel'd y rhyfeddod. Gorchestwaith celfyddyd a welant yn brydferth Yn cynnal bywydau uwch llifogydd anferth Holl ddoethion y ddaear chwenychant ymdremio, Trwy'r oesoedd dyfodol, pan yma'n ym- deithio; Nis gall yr holl wyntoedd a'r tonan cynddeiriog, Byth syflyd o'u sylfaen, y tyrau ardderchog; Er bygwth yn llidiog o for y Gorllewin, Gan ruo'n gynhyrfus, a churo yn erwin A heibio'n siomedig a'i nerth yn andwyol, 'Nol rhoddi ei ddyrnod i'r creigiau tragwyddol; Celfyddydd a natur sydd yma'n ymryson, I ddangos gogoniant y Crewr yn gyson.
------.-------..__----CAN'…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CAN' PUNT OWOBRWYON Cynnygir y swm o Hanner Gini yn wythnosol fel y canlyn :— Y GYFRES GYNTAF. EBRILL 29. Diangfa ar y Rheilffordd. MAI 6. Breuddwyd Y Byd hob Flodau. 13. Llythyr Merch Oddicartref at ei Thad Gweddw. 20. Can Gwas y Ffermwr. 27. Hunangofiant Ci. 0 MEHEFIN 3. Ymgom Nain ac Wyres. 10. Diangfa rhag Lladron. 17. Breuddwyd Y Byd heb Arian. 24. Rhestr Oreu o Destynau Cys- tadleuol. GORPH. 1. Llythyr Cariadferch. 8. Can y Morwr. 15. Hunangofiant y Mul. 22. Ymgom y Gwr Priod a'r Hen Lane. 29. Dernyn o Farddoniaeth ar ryw Ddigwyddiad Diweddar.