Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

BETH AM Y NEWIP

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETH AM Y NEWIP YR oedd awdurdodau yr excise yn methu yn deg a llwyddo i ddwyn cyhuddiad yn erbyn hen wreigen o werthu whisci heb drwydded. Pan ddaetli swyddog ieuanc i fyw i'r dref, 11 y dywedodd efe y gallai yn liawdd ddal y troseddwr. Aeth yn union i ganol y ty a gofynodd am wydriad o lefrith. Estynodd yr hen wreigau y ddiod iddo. Yna gofynodd am ycliydig wisci. Dywedodd hithau wrtho fod ganddi ycliydig mewn potel. Taflodd y swyddog bunt felen ar y bwrdd i dalu am y ddiod. Cymerodd y ddynes y sofren, ac aeth allan. Tybiodd y swyddog mai i chwilio am newid yr oedd hi wedi myned, ac eisteddodd i'w disgwyl yn ol. Gan na 11 y ddychwelodd hi, aeth efe i chwilio am dani, a darganfyddwyd hi yn nhy cymydog. Yn lie mae fy newid i?" gofynodd. "Newid? newid ? Nid oes dim newid. Nid oes genyf fi ddim trwydded. Yr hyn sydd genyf fi yn y ty byddaf yn ei roddi i gyd yn rhad a'r hyn a roddir i mi a fyddaf yn gymeryd i gyd heb ddychwelyd dim ohono." Aeth y swyddog ieuanc ymaith yn ddyn tlotach ond doethaeh na phan yr aethai i'r ty.

\ CREDU MEWN ETHOLEDIGAETH

--'-'-DEG 0 GYFEILLION

CAMGASGLIAD

SPRI RASMWS

iZ-CLYCHAU

Advertising