Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

EIN CYSTADLEUON --

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN CYSTADLEUON Oherwydd achosion anocheladwy, rhaid gohirio y dyfarniadau am wythnos. I MR CAUADLAW (yn cynnyg dimai i'r gwein- ydd) Dyma, fy nghyfaill, gydnabyddiaeth fechan i chwi. 11 GWEINYDD: Diolcli syr: cedwch hi-bu'm yn dlawd fy hun unwaith. Borou da i ti Die bach, a ydyw dy dad toewn ?" Nac ydyw, y mas newydd fyned i dv y dyn sy'n byw yn shop y dannedd." Shop y dannedd!" Ie, y mae gwr shop y dannedd yn myn'd i edrych i mown i ddannedd mam. Y mae mam adre os mynech ei gweled hi." MRS LARGE (wedi gwastraffu dwy awr o amser y siopwraig i edrych pethau, ond heb brynu dim ond dwy goler): Anfonwch nhw i'n ty ni yn ddiymdroi. Y SIOPWRAIG (wedi gwylltio oherwvdd colli cymaint o amser i werthu gan lleied) Gwnaf siwr, ma'm, mewn trol. YR YMWELYDD CYNTAF Tyr'd i'r ty yma am de. YR AIL YMWELYDD: Na na i. 'Does arna' 'i ddim eisien bwyd. YR YMWELYDD CYNTAF 0, na hidia befo hyny. Mi fydd arnat ti cyn y byddan' nhw yn barod! Yr oedd Jones yn darllen i'r teulu ramant o'r canol-oesoedd. A'r adeg hono, tarawyd pum mynyd wed' deuddeg ar gloc y castell." "Ond," ebai Mrs Jones, nis gallai un- rhyw gloc daro pum mynyd wedi deuddeg." Oh gallai," ebe Jones yn gywreiniol, yr oedd bum mynyd ar ol." CYFREITHIWR (yn gwneyd ewyllys): Mae eich eiddo lawer yn llai, syr, nag y tybir yn gyffredin. GWR CLAF: Ydyw, ond cadwch hyny yn dawel hyd yr angladd. Mae eisieu arnaf gael lot fawr o alarwyr i'r cynhebrwng. Cofiwch, fy maehgen," ebe newythr James, wrth estyn ceiniog i Tommy, am ofalu am y ceiniogau, a gofala y punnoedd am danynt eu hunain." TOMMY (yn betrusgar): Yr wyf yn gofalu am y ceiniogau nes y deuant yn bunt —yna gofala fy nhad am danynt." @ Er mwyn cael ychydig o sport," gofyn- odd ymwelydd i swyddog mewn gorsaf rheilffordd, Pryd y mae tren ddeuddeg o'r gloch yn myned ?" Y SWYDDOG: P'run ? Tren ddeuddeg ddoe, ynte tren ddeuddeg heddyw ? Y mae un ddoe heb ddyfod i mewn eto I" TEDDY: Nhaid, rhowch geiniog i mi, er mwyn i mi ei rhoddi hi i'r dyn dall acw. TAID Siwr iawn, fy machgen i, dyma hi. TEDDY: A allaf fi ei rhoddi yn fy mocs cenadol ? TAID: Gellwch, gellwch. Gwnewch y peth a fynoch a hi. TEDDY: Wel, mi brynaf afalau hefo hi. Wrth fyned trwy'r tynel, tro gwaol ydyw i deithiwr gusanu cefn ei law yn hyglyw, Wedi dod i'r goleu, mae yn peri teithwyr edrych yn ddifrifol ac amheuol y naill ar y llall. MODRYB SHAN (wrth fy ewythr) Hy! Buaswn yn leioio gweled ffwl mwy nag wyt ti. Fy EWYTHR SHON: Edrych yn y glas, ynte! MISS FINNIKINS: Ydwyf, yn wir, fy nhad, yr ydwyf wedi gwneyd pobpeth a fedv-af i gadw Jeremy rhag dyfod i edrych am danaf. MR FINNIKINS Twt! twb! twt! Nac ydwyt ddim. 'Dydwyt ti ddiiii wedi canu iddo I mm MAM: Pa bryd y mae y dyn ifanc sydd genych chwi yn bwriadu gwneyd ei fwriadau yn hysbys ? JANE ELEN: Credaf y gwna yn fuan. Neithiwr gofynodd yn awyddus os gallaswn wisgo ar ddeg punt y flwyddyn. MR WAGTOP Miss Jones, gaf fi tipyn o'r pysgodyn marw yma i chi ? MISS JONES Pysgodyn may-. yh Tewch, peidiweh a'rr CarnarYon, sal,