Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
COLLI GOLWa
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLLI GOLWa GWAHODDODD cybydd cyfoethog gydnabod tlawcl iddo i giniawa gydag ef, ac wedi eistedd wrth y bwrdd estynodd iddo ddarn bychan o gig, pan yn ddisymwth y neidiodd y gwr tlawd ar ei draed gan grochlefain, Yr wyf yn ddall! yr wyf yn ddall! yr wyf yn ddall! ac yn methu gweled dim Y cybydd, yn rhyfeddu at yr anffawd ddi- symwth hon, a ddymunodd arno eistedd i lawr, a gwneyd ail ymgais i weled. Ar hyn, y gwr tlawd, gan gymeryd y ddysgl yn ei law, ac edrych yn graff ami, a ddywedodd, Yr wyf yn meddwl y gallaf weled y mymryn lleia' 'rioed."
Y PEON SWIFT
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PEON SWIFT VVBDI sefydlu ei hunan mewn maes llafur hollol newydd, hysbysodd y Deon y byddai iddo gynnal gwasanaethau yn yr eglwys ar ddyddiau Mercher a Gwener, yn groes i'r hen arferiad yn y plwyf; o ganlyniad, canwyd y gloch, ac aeth yntau i'r eglwys. Y tro cyntaf hwnw, er disgwyl yn hir, ni ddaeth neb i mewn i'r eglwys ond y clochydd— Roger—efe oedd yr holl gynnulleidfa ac o'r diwedd dechreuodd y Deon: 11 Anwyl gar- iadus Roger, y mae yr Ysgrythyr Lan, mewn amrywiol fanau, yn dy gynhyrfu di a minnau," ac felly yn y blaen hyd ddiwedd y gwasanaeth.
LLAWCHWITH
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLAWCHWITH YR oedd Betsi, geneth o Benisa'rwaen—drwy fod yn gyson yn yr eglwys—er hob fedru darllen gair ar lyfr—wedi dysgu'r gwasan- aeth ar dafod leferydd," fel y dywedir. Ond yclaydig Suliau cyn ei phriodas, yr oedd ei chariad yn digwydd bod yn yr un eisteddle a hi, a chan nad oedd am iddo of wybod na fedrai ddarllen, cymerodd y llyfr gweddi yn ei llaw a daliodd of o'i blaen. Ond yr oedd ar ei chariad hefyd eisieu cael golwg ar y llyfr, ac yn anffortunus iddi hi, yr oedd y llyfr a'i ben ucha i lawr. Dywedodd y llanc yn synedig:—"Y nefoedd fawr, Betsi, yr wyt yn dal y llyfr a'i ben chwith i fyny'l' Yr wyf yn gwybod hyny Bob," meddai Betsi, mewn tipyn o benbleth, byddaf bob amser yn gwneyd felly; ddeallaist ti ddim tan heddyw mai llawehwith oeddwn i?"
CYMHWYSDER HYNOD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMHWYSDER HYNOD Y MAE boneddwr o sir Fon yn advertisio am was a morwyn nas gallant na darllen nag ysgrifenu. Yr achos fod y boneddwr yn gofyn y cymhwysderau hynod hyn drwy y papyrau newyddion ydyw, ei fod yn methu taro ar was a morwyn yn meddu y cym- hwysderau angenrheidiol yn ei gymydogaeth ei hun a chan ei fod yn brofiadol o lawer o anghyfleiisderau drwy fod ei lytliyrau, nodau, a'i bapyrau, yn cael eu manwl chwilio gan ei wasanaethyddion; wedi hyny yn dyfod yn destyn siarad y cymydogion, ac wedi hyny, yr holl ardal a'r wlad. Dalier sylw at y cymhwysderau gofynol.—Ni wiw i neb a fu o fewn i ysgol ysgrifenu i ymofyn am y lie.
YMCHWILGARWCH Y DYNION-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMCHWILGARWCH Y DYNION YR oedd yn y cyntedd hen awrlais yn tician, ac odditano y rhybudd hwn yn argrapliedig Peidiwch a'i gyffwrdd." Yr oedd y boneddwr mewn penbleth, a gofynai yr achos o'r rhybudd hynod. "Chwi," meddai y foneddiges, "yw yr ugeinfed boneddwr a ofynodd y cwestiwn. Merched sydd yn cael y bai 'o fod yn ymchwilgar. Y mae y rhybudd yna wedi ei roddi i fyny o bwrpas i brofi graddau yr ymchwilgarwch hwnw mewn dyn. Yr wyf wedi cadw rhestr gyflawn o'r boneddigion sydd wedi gofyn yr un cwestiwn a chwithau, ac nid oes yn eu plith ond un eithriad, ac yr oedd hwnw yn ddall."
..... DIM DWFR, OND BETH AM…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIM DWFR, OND BETH AM DAN? CYRHAEDDODD yrndeithydd blin, ar adeg o sychder i westty yn Neheubarth Affrica. Gofyn odd am ystafell ac am ddigon o ddwfr i olchi ei draed. Dwfr dwfr! Nid oes genym ddiferyn," dywedai gwr y ty. Syn- odd yr yrndeithydd glywed hyn, a datganodd ei syndod na fuasai ganddynt ddwfr, ac aeth i'w ystafell. Yno llefodd, gan gymaint ag y caniatai esgyrn ei safn a'i ysgyfaint, Tan tan!! tan! Mewn moment, dyma tua dwsin o weision i fyny gan gario pwcedi llawnion o ddwfr a pha un i ddiffoddi y tan. Ha," ebai yr ymwelydd, "gallwch adael y dwfr yn y bwcedi yn yr ystafell, os gwelwch yn dda. Diolch i chwi I"
="'''--o MUD A BYDDAR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
="o MUD A BYDDAR YR oedd boneddiges haelionus o Gaerlleon yn arfer dyfod adref o'r eglwys bob amser drwy heol gul, lie yr arferai y tlawd a'r anghenog ynigynnull, ac yn eu plith ambell gardotyn cyfrwys a rliagri thiol. Tynwyd sylw y foneddiges ddimwed at un creadur a golwg mwy truenus arno na neb arall, a gofynodd iddo, Druan tlawd, beth allai fod y mater befo chwi?" Y cardotyn llwynogaidd, yr hwn a wyddai yn dda am ei symledd a'i haelioni, a ddywedodd, "0, foneddiges anwyl, mud abyddar ydwyf fi." Dyn a'ch helpo," meddai'r foneddiges ddiniwed, "er's pa bryd yr ydych wedi myn'd felly ?" Byth or pan gefais y clefyd, Wyl Fihangel di- weddaf," meddai'r cardotyn. Rhoddodd y foneddiges iddo banner coron, ac aeth ymaith yn fawr ei gofid oherwydd ei anffawd.
-EV! PREGETH ELUSENOL
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-EV! PREGETH ELUSENOL YR oedd pregethwr poblogaidd yn ddiweddar yn pregethu mewn ardal heb fod yn mhell o Flaenau Ffestiniog, ac yr oedd casgliad i fod ar ddiwedd y cyfarfod tuagat ryw achos da. Yn mhlith pethau ereill tuagat gael cyn- northwy effeithiol, dywedodd fod yr achos yn un pwysig a difrifol, ac yn apelio at gydwybod pob Cristion cywir. Y dylai pawb oedd mewn heddwch a'u cymydogion, ac yn weddol wastad a'r byd ac yn byw yn onest, gyfranu yn lielaeth, ond nad oedd yr achos cldim yn galw ar i'r sawl oedd mewn dyled i gyfranu o gwbl. Y canlyniad fu, casgliad ardderchog.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
NOBLETT'S ORIGINAL E VERTO N T OFFEE, MANUFACTURED AT 21, VILLAGE-STREET, EVERTON, LIVERPOOL, Where the original Founder of Everton Toffee resided, and who opened the shop in 1790, where she manufac- tured her Toffee, which was purchased by every class of people, from Royalty downwards, and established for itself a name famed all over the globe. EVERTON TOFFEE, Is., 2s., AND 5s. PER BOX, May be purchased at any Confectioners, or wiil be sent (postpaid) from the Manufactory, 21, Village-street, Everton, Liverpool, upon receipt of 1/3, 2/4 £ or 5/H. HA Tnaf J llSu /jy^PILiLtSv \V\ if PRICE lS. l133-\l V |\ ST? HELENS 111 IENR.LAND. Look 6,000,000 Boxes Yearly, Which means Every time the Clock ticks 11 BEECHAM'S PILLS Have reached their destination. For Half a Century REECHAM'S PILL8 Have been Globe -trottili g,' and have worked their way into the innermost parts. It'S Well ^mow a ^OOD THING when If' c Rolf OP have a GOOD THING when lb o Duubul you can. BEECHAM'S PILLS should always be handy, and handed down to posterity as WORTH A GUINEA A BOX. I I Pn lo inn olmpi tlien wo should do our Llltj lu uUU ullUib) best to prolong it. Sufferers will find BEECHAM'S PILLS a 'trump card' to 'put down.' THEY 'SWEEP THE DECK' of Bilious and Nervons Disorders, Sick Headache, Liver Complaint, Impaired Digestion, Weak Stomach, Constipation, Uncomfortable Fulness, Loss of Appetite, And they regulate the Secretions.