Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

DAL El HELFA YN FYW

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAL El HELFA YN FYW YR oedd mintai o filwyr draw yn y Gor- llewin, heb ryw lawer o ddim i'w wneyd, wedi penderfynu myned i hela eirth. Buont allan am bymtheng awr heb weled yr un, a chan eu bod yn newynog a blinderus, dychwelasant i'r gwersyll. Wedi cyrhaedd y gwersyll, cawsant fod un o'r cwmni ar ol, ond nid ofnent, a dywedodd un ohonynt y byddai yn sicr o ddychwelyd yn ddyogel cyn bo hir. Gwnaethant dan, a dechreuas- ant ddarparu swper. Yr oedd y coffi ar y tan, ac un ohonynt yn sleisio tatws, a'r Hall yn stiwio cig, a'r gweddill ohonynt yn eistedd o flaen y tan i aros swper, pan y dyclirynwyd hwy yn ddisymwth gan ryw ruadau arswydus yn dynesu at y gwersyll. Yn ddisymwth, gwahanwyd y berth oedd yn amgylchu y gwersyll, pan y rliuthrai y dyn 11 z7, colledig i mewn, a'i wallt yn sefyll yn sytli, a'i wyneb fel y galchen yr oedd wedi colli ei wn, a'i ddwylaw fel ar ehedeg yn yr awyr fel p3 am ymaflyd mewn rhyw wrth- ddrycliau anweledig, a tliua dwy lath ar ei ol yr oedd arth ddu enfawr. Ymafiodd y milwyr yn eu gynau ar unwaith, annelasant, a saethwyd yr arth yn farw. Trodd y milwr ymlidiedig yn ol pan welodd yr arth yn syrthio, a chan edrych ar un ohonynt, gofynodd ar golli ei wynt, Ydi o wedi marw ?" "Wrth gwrs," moddai un o'r dynion, pah am na buasit ti yn ei saetlia yn lie rhedeg oddiar ei ff jrdd ?" Beth ydych ya feddwl ydwyf '?" meddai yr ymlidio li*. •' Ydych chwi yn meddwl y buaswn inor ddwl a'i saethu pan y gallaswn ei ddwya i imwn yn fyw ?

- PAID A CHROESI PONT NES…

LLEIDR MEDRUS

[No title]

Advertising