Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

-----_----RHODRI, YR ARCHYSPEILYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHODRI, YR ARCHYSPEILYDD. n R oedd enw Rhodri wedi dyfod yn arswyd drwy yr holl wlad yn nghyffiniau Northumberland tua diwedd y ganrif ddiweddaf. Ni theimla yr un ffermwr ei bod yn ddyogel iddo fyned i'r gwely y nos i orphwys rhag y byddai ei wartheg wedi diflanu cyn y boreu. Ac yr oedd ei holl yspeiliadau yn dangos y fath fedr a beiddgarwch nes oedd y brodorion yn edrych arnynt fel pe buasai gan ei fawr- hydi Satanaidd law yn y gwaith; ac nid oedd neb yn gallu llwyddo i wneyd cydna- byddiaeth bersonol ag ef. Chwarddai ar ymdrechion egwan y gyfraith i'w gospi, a heriai yr holl wlad. Ac er mwyn cael cipolwg ar yr archyspeilydd yn ei waith adroddwn am un o'i orchestion. Yn ystod un o'i grwydriadau drwy y wlad, ar brydnawn hyfryd, digwyddodd i'w lygaid ddisgyn ar bar o ychain golygus yn pori yn dawel mewn maes yn agos i Denton Burn, pentref yn agos i Newcastle. Gan benderfynu eu meddiannu, crwydrodd Rhodri o gwmpas nes y daeth hi yn nos, gan wylio i ba le y gyrid hwy; a'i ffawdd dda arferol yn digwydd bod yn ei gynnorthwyo, ni fu ond ychydig o amser yn sicrhau ei yspail. Yr oedd, hefyd, wedi cynllunio fel arferol i adael rhyw olion ar hyd y llwybrau a'r ffyrdd o'i ol ag a gamarweiniai berchenog yr ychain, ac a'i gwnai yn sicr yn ei feddwl fod, y lleidr wedi myned ymaith tua chyf- eiriad y Tweed. Prysurodd tuag yno gyda brys mawr. Yn y cyfamser, pa fodd bynag, yr oedd Rhodri wedi gofalu am adael rhyw olion ereill oedd yn arwain y ffermwr i obeithio ei ddal tua'r gorllewin oddiyno. Mor gyflym oedd ei symudiadau gyda'i yspail, fel y cyrhaeddodd Lanercost mewn amser byr. Yma, daeth i gydgyfarfyddiad a ffermwr ar farch, yr hwn a hoffodd yr anifeiliaid yn fawr, ac a'u prynodd yn ddiymdroi. Yr oedd Rhodri, wrth gwrs, yn falch o gael gwaredigaeth oddiwrth yr hyn yn fuan neu yn hwyr a beryglai ei ryddid, os gorfodid ef i'w cadw yn llawer hwy. Yr oedd y ffermwr, hefyd, yn marchogaeth un o'r cesyg harddaf a welodd Rhodri erioed, a phenderfynodd rbyngddo ag ef ei hun ei meddiannu drwy rywfodd neu gilydd, teg neu annheg. Gan hyny, derbyniodd wahoddiad caredig y ffermwr i fyned gydag ef i'r ty fferm i gracio potel o win er mwyn dathlu y fargen. Cyn bo hir, gofynodd Rhodri i'r ffermwr a wnai efe wertbu r gaseg iddo. Gwerthu fy nghaseg I" meddai y ffermwr edi ei daro a syndod ei glywed yn gofyn y fath gwestiwn. Gwerthu fy nghaseg! Na wnaf, diolch i chwi! Does yma yr un gaseg debyg iddi drwy holl wlad y gogledd yma." Dydw i ddim yn eich amheu o gwbl, Mr Musgrave; ac oddiwrth yr hyn a welais i ohoni y boreu yma, yr wyf braidd yn sicr nad oes o fewn can' milldir o gylch yr un debyg iddi. Ond," meddai Rhodri yn foes- gar, "gan nad ydych am ei gwerthu, allaf ft ('dim gwell na dymuno i chwi hir oes i'w mwynh: u.' Anrhydeddwyd y moesgyfarchiad hwn, wrth gwrs, gyda llwnc ychwanegol o win. Yr ydw i yn gobeithio," meddai Rhodri, eich bod yn cadw gwyliadwriaeth ofalus ar eich ystablau, Mr Musgrave, oherwydd tra y bydd y lleidr anfad yna, Rhodri o Kings- wood, a'i draed yn rhyddion, nid all dyn ddim bod yn siwr ar un boreu braf na wel ei ystabl yn wag." "Ystabll ha! ha I" meddai y ffermwr. "Yr ydw i yn tybio mai gormod o dasg i Rhodri o Kingswood na neb arall fyddai lladrata fy nghaseg i o'i hystabl." Yn wir, yn mha le y gallai ei hystabl hi fod ynte ?" meddai Rhodri. "Ei hystabl hi I dyn a'ch helpo, syr I" meddai Mr Musgrave, y mae genyf breseb wedi ei ddodi i fyny iddi hi yn bwrpasol yn fy ystafell wely fi fy hun, ac nid oes dim miwsic yn y byd mor hyfryd i mi a'i chlywed hi yn malu yr yd rhwng ei ddanedd bob nos wrth erchwyn fy ngwely." Yr oadd Rhodri wedi synu-fel y gallasai yn hawdd-at y fath ofal a rhagochelgarwch; ond yn hytrach na datgan ei syndod, dywedodd wrth y ffermwr ei fod yn mawr edmygu y moddion oedd wedi ei fabwysiadu i sicrhau dyogelwch yr anifail. Mae'n debyg fod genych glo da ar eich ystafell wely?" meddai Rhodri. Deuwch gyda mi, a mi a ddangosaf i chwi," meddai'r ffermwr difeddwl-ddrwg. Hyn, wrth gwrs, oedd ar Rhodri eisieu. Dangosodd y ffermwr y clo iddo, sylwodd yntau arno yn fanwl, a chafodd allan yn lled fuan y gallai ei bigo yn ddigon rhwydd. Ond, pa fodd bynag, dywedodd wrth Mr Musgrave ei fod o'r iawn ryw; byddai yn anmhosibl cael ei well, y mae yn glo anffael- edig," &c. Wedi cael boddlonrwydd fod y clo yn an- ffaeledig, aeth y cwpan o amgylch unwaith yn rhagor. Ac wedi yfed llwnc cyfeillgar to their next merry meeting," aeth Rhodri ymaith i'w daith. Wedi i'w westai fyned ymaith, aeth yr hen ffermwr o amgylch ei dy, gan gloi y drysau a chan y ffenestri gyda'r gofal mwyaf. Wedi hyny, yn ol ei arfer, rhwymodd y gaseg wrth y post, ac aeth i'r gwely, ac yn bur fuan yr oedd yn cael ei suo i gysgu gan swn malu yd fel y dywedai. Aeth y nos ymaith. Fel yr oedd y wawr yn gloewi'r ffurfafen, a'i phelydrau o bell yn yn gloewi'r ffurfafen, a'i phelydrau o bell yn dyfod a gwrthrychau yn amlwg, yr oedd Mr Musgrave yn deffro, ac wrth deimlo yn oer ac yn rhynllyd, edrychodd oamgylch i gael gwybod yr achos. Er ei ddirfawr syndod, canfyddai fod y cwrlid wedi ei gymeryd oddiar y gwely, a'i blancedi wedi eu taenu ar hyd y llawr. I ba bwrpas y gwnaed hyn o 2" gofynai Mr Musgrave iddo ei hun. A oedd yr hunllef wedi bod yn ymweled ag ef, yntau heb iawn ddeffro yr ydoedd ?" Wrth droi ei lygaid yn ddamweiniol i'r lie y dylasai ei gaseg werthfawr fod, beth oedd ei syndod wrth wel'd ei He yn wag. Nid oedd hi ddim yno. Rhwbio ei lygaid wedi hyny, a'u hagor yn llydan. Nac oedd, yr oedd hi wedi mynd-wedi ei Iladratta I Yn ystod y nos yr oedd rhyw leidr beidd- gar wedi tori i mewn i'r ty fferm, ac wedi agor clo yr ystafell wely, wedi taenu y dillad ar hyd y llawr, yn lie bod carnau y gaseg yn gwneyd swn, ac wedi myned ymaith yn fuddugoliaethus gyda'r yspail. Wrth gwrs, cyfododd Mr Musgrave yr holl deulu ar unwaith, a gwnaed ymchwiliadau manwl ac egniol ar unwaith i geisio cael allan i ba le yr oedd y lleidr wedi myned. Ond yn ofer. Nid oedd yr yspeilydd wedi gadael dim affliw o'i 61 i neb ei ddilyn, ac wrth gwrs, gorfu i Mr Musgrave ddychwelyd o'r ym4 chwil yn aflwyddiannus, ac ni fynai ei gysuro, ac i ymfoddloni ar chwytbu bygythion a chelaneddau a rhegfeydd yn gawodydd ar ben y Ileidr. Yn y cyfamser, yr oedd y cuaf Rhodri—oherwydd efe oedd wedi gwneyd y weithred-yn eistedd yn gysurus ar gefn caseg oreu y sir, ac yn ychwanegu y pellder bob mynyd rhwng ei pherchenog ag yntau. Yr oedd y gaseg yn un mor gyflym ar ei charnau nes erbyn y boreu yr oedd yn ddigon pell o gyrhaedd ei ymlidwyr. Yr oedd wedi cyfeirio ei gamrau tua'r dwyrain, ac wrth groesi'r afonig yn agos i Denton Burn, pwy a ddigwyddodd gyfarfod ag ef ond perchenog yr ychain oedd wedi eu lladrata ychydig ddyddiau yn ol, ac wedi eu gwerthu i Mr Musgrave. Yr oedd Rhodri yn adnabod perchenog yr ychain yn dda, ond yn ffodus iddo ef, nid oedd hwnw yn ei adnabod ef. Gan hyny, cyfarchodd Rhodri, a gofynodd iddo a welsai efe ddim ychain ar ei daith tebyg i'r rhai oedd yn pori yn y cae gerllaw, gan roddi iddo ddesgrifiad manwl o'r ychain oedd wedi golli; a dywedodd ei fod wedi chwilio am danynt yn ofer. Mae'n siwr i chwi fy mod wedi eu gweled," meddai Rhodri, "rhai yn union yr un fath ag ydych chwi yn ddesgrifio. Yr oeddynt yn pori ar dir Mr Musgrave yn Lanercost mor ddiweddar a doe. Yr oeddwn i yn sylwi arnynt, ac wedi holi yn eu cylch, cefais allan mai newydd eu prynu yr oedd Mr Musgrave ddoe diweddaf. Mae'n ddiamheu mai eich ychain chwi ydynt. Cynghorwn i chwi i fyned i Lanercost ar unwaith a'u hawlio." Mae'n ddigon siwr yr äf," ebai y ffermwr. Ond yr wyf wedi blino yn arw yn cerdded ar draws ac ar hyd y wlad. Ac y mae cryn ffordd i Lanercost oddiyma. Yr wyf yn gweled eich bod phwi yn marchogaeth caseg ragorol. Wnewch chwi ei gwerthu hi ?" Wedi peth bargeinio caled, cytunwyd, a thalwyd am y gaseg yn y fan a'r lie, ac ym- adawsant,—y ffermwr i hawlio ei ychain oddiar berchenog y gaseg oedd wedi ei lladrata, ar ba un yr oedd yn marchogaeth, tra yr oedd Rhodri yn cyfeirio ei gamrau i ba le bynag y mynai. Y boreu canlynol, cyrhaeddodd y ffermwr i Lanercost, ac, wrth gwrs, a adnabu ei ychain ar unwaith yn pori yn y maes. Marchpgodd ar unwaith i fyny at hen wr oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedodd wrtho, Gyfaill, fy ychain i yw y rhai yna sydd yn pori yn eich cae chwi; pa fodd y daethoch o hyd iddynt ?" A phe'm blingid," meddai'r llall, wedi rhoddi trem synedig ar yr anifail ar yr hwn y marchogai yr ymofynydd, os nad hona ydyw fy nghaseg innau! Pa fodd y daethoch o hyd i di 2" Desgrifiodd y naill i'r llall y dyn oedd wedi gwerthu yr ychain a'r gaseg ac wedi iddynt wneyd hyny, cawsant allan eu bod wedi cael eu "gwerthu" gan ryw leidr a gyfrwysdra anghyffredin. ¡