Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
DYFAIS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFAIS Os oes rhai o'n darllenwyr wedi dyfeisio rhywbeth newydd a defnyddiol yr hoffent gael breinteb arno gallant gael pob manylion angenrheidiol i'w cynnorthwyo drwy ysgrif- enu at Patent," Papur Pawb, Caernarfon. -1?
EIN CYSTADLEUON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIN CYSTADLEUON CYSTADLEUAETH Y POST CARD. — Goreu, Sidney Davies, Stafford House, Llandysilio, Clynderwen, R.S.O. MOLAWD GLAN TEIFI. — Cystadleuaeth gampus. Dyfernir y wobr i J. Evans, Blodfa, Talsarn, Ceredigion. Teilynga amryw ereill uchel ganmoliaeth. STORr FER.-Neb yn deilwng. LLUN Cr YN DAL YSGAFARNOG.-Neb yn deilwng. MAT.—Miss Maggie Jones, Incline, Seion, Llanddeiniolen. — Canmoliaeth i Dim gwaeth er treio," Brynkir. ,¿.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIM SIAWNS. I. Y FAM Na, Bobby, y mae pedwar darn o deisen yn llawn ddigon. BOBBY Yr ydach bob amser yn d'eyd nad ydw i yn byta yn iawn, ac wedi hyny, ni l'o'wch chi ddim siawns i mi ddysgu. Mae'n debyg fod ein darllenwyr yn gynefin a'r geiriau Clywch, clywch," a glywir mor ami mewn cyfarfodydd politicaidd, &c., ond efallai mai ychydig a wyr am eu tarddle. Yn II. Samuel, xx. 16, darllenwn Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, Clywch, clywch." Ie, pwy sydd yna ? Mrs Philpot. 0, doctor, beth a wnaf fi i'r baban? Mae o wedi llyncu darn tair ceiniog." Wel, peth siwr ydio, dydach chi ddim yn myn'd i wario hanner coron er mwyn cael tair ceiniog yn ol, ydych chwi ? Gofynodd boneddiges i forwr calonog a gwrol, yr hwn oedd wedi cael diangfa gyfyng o longddrylliad a ddigwyddodd ar ein glanau yn ddiweddar, pa fodd yr oedd yn teimlo pan oedd y tonau yn tori drosto. Atebodd yntau, Gwlyb, gwlyb ofnadwy, madam." "Mr Jones, y mae fy nhad yn gofyn a rowch chwi fenthyg eich ymbarelo iddo fo?" Ydyw hi yn gwlawio, machgen i ? "Ydyw, syr." Os felly, bydd arnaf achos am dano fy hunan. Dywed wrth dy dad am anfon eto ar ryw ddiwrnod teg." -Q- CrfiIl s Prynodd Deio Glasfryn lyfr Jonathan Edwards ar Y Pechod Gwreiddiol." Clawr papur oedd am y llyfr. Yn mhen tua blwyddyn, dyma Deio at y llyfr-rwymydd, a dywedodd, "Wyddost ti be, fachger., ma' arna'i eisia i ti rwymo fy Mhechod Gwreidd- iol' i mewn gwell cas." Y llyfr-rwymydd a ofynodd, Wel, fachgen, onid ydi dy bechod gwreiddiol di wedi ei rwymo eisoes mewn croen llo Adwaenwn fardd absennol' iawn fydd bob amser yn teimlo yn oer wedi myned allan o'r ty, ac yn enwedig felly os; bydd wedi anghofio cau y drws ar ei ol. Y gwyr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt," meddai'r apostol. Mae Uawer hen ddyhiryn a leiciai newid yr adnod yna a'i darllen fel hyn, "Y gwyr, curwch eich gwragedd, a byddwch chwerwon wrthynt." 4. Alia i ddim rhoi dim heddyw, ac nis gallaf addaw eich cynnorthwyo rhagllaw fel yr wyf wedi arfer gwneyd yr ydw i wedi priodi yrwan, ac y mae yn rhaid i mi wrth yr holl arian a allaf ddod o hyd iddyn nhw." Wel, wel, y mae hyna yn ormod o beth 'rwan. Dyma chi, mewn gwirionedd, wedi priodi ar fy nghost i." I.- TALU AM LETY. CRWYDRYN (yn disgwyl am gydymdeimlad): Yr oil ydw i yn ei ofyn ydi hyn, cael caniatad i orwedd yn yr eira yma am y noson. GWRAIG Y Ty (heb ddim seremoni): Neno'r dyn, 'does gen i ddim gwrthwynebiad i chwi orwedd yna, ond rhaid i chi ysgubo yr eira ymaith yn y boreu er mwyn talu yn ol,