Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
DYFAIS
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFAIS Os oes rhai o'n darllenwyr wedi dyfeisio rhywbeth newydd a defnyddiol yr hoffent gael breinteb arno gallant gael pob manylion angenrheidiol i'w cynnorthwyo drwy ysgrif- 0 enu at "Patent," Papur Pawb, Caernarfon.
EIN CYSTADLEUON
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIN CYSTADLEUON CYSTADLEUAETH Y POST CARD. — Goreu, William Jones, Glandwr, Llangranog, Ceredigion. STORI FER.—J. D. Lloyd, Erw Fer, Gellan, Llanbedr-pont-Stephan. MOLAWD Y DDWY GLEDDAU. — Goreu: Bardd Crug-yr-hwch. Anfoned ei gyfeiriad. Pos RHIFYDDOL (Rhif 22).-Ateb, 60, a 30 milldir yr awr.-Neb yn gywir.
\RJiestr Newydd yr Wythnos…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
\RJiestr Newydd yr Wythnos Nesaf.] AGOS lAWN. Y TAD: Mi ddeudis i y buaswn yn dy chwipio y tro nesaf faswn i yn dy ddal yn y dwr. Y BACHGEN: Do, nhad, a dyna'r rheswm i mi redeg allan wedi'ch gwel'd chi. Y rheswm roddodd Mrs SymbolsTdros hanner newynu ei mochyn un diwrnod, a'i fwydo yn ormodol diwrnod wed'yn, oedd fod arni hi eisieu tipyn o gig coch a thipyn o gig gwyn hefyd. wmi Yn ddiweddar, pan oedd clwyf anifeiliaid yn ardal Ffestiniog yn galw am sylw manwl yr heddgeidwaid rhag i grwyn anifeiliaid ddod i'r ardal, aeth hen frawd o'r gymydogaeth gyda llwyth o bytatws, ar ymweliad a'r lie. Cyn iddo groesi y terfynau gwaharddedig, mae llais awdurdodol yr heddgeidwad yn gofyn oedd ganddo grwyn yn y drol. OE s, siwr." "Yn mha le maent?" ebe yntau, gan chwilio a chwalu y tatws. Wel, greadur od, welis di datws ryw dro heb grwyn?" Cwestiwn a ddaeth dan sylw mewn dosparth yn un Ysgol Sul ydoedd, obagenedl oedd Paul? 0 genedl yr Hebreaid, onite?" meddai un canys y mae yn dyweyd, Yr ydwyf yn Hebrewr o'r Hebreaid.' "Wei," meddai un arall, "yr ydw i yn meddwl mai o genedl y Phariseaid ydoedd, canys y mae yn dyweyd, Wedi fy nwyn i fyny yn Pharisead. "Wel, beth ydach chi "yn ddeyd, Robert Dafydd ? ebe'r athraw. Wel," atebai yntau, 'Dwy yn meddwl mai Awstrian oedd Paul, canys y mae o yn deyd yn rhywle, Ystrian o ddyn wyf fi.' "Ystruan," meddai yr athraw. Ie," atebai Robert Dafydd, Yr oeddwn yn deyd Austrian." "Wel," meddai yr athraw, nid ydi Robert Dafydd yn mhell o'i Ie. Mae'n siwr mai Austrian Jew oedd-Paul, cany-s y mae yr adnod yn profi," Un nos Sul, pan oedd y gwlaw yn disgyn yn drwm, a dynion yn myn'd gartre' o'r cwrdd, gellid gweled Ifan Benwan yn chwilio yn ddiwyd am rywbeth yn y gwter, yr hwn oedd yn llawn dwfr. "Am beth ydych yn chwilio, Ifan?" gofynai Bob Fusneslyd. Am hanner cqron," oedd ei atebiad. Chwiliodd y ddau am hir amser, er fod y gwlaw yn disgyn. Yn ddisymwth, gofynodd Bob, B'le coll'soch chi'r hanner coron ? Ymsythodd Ifan, ac edrycbai yn myw llygaid y gofynydd, ac atebodd, Chollais i ddim un, chwilio am un yr ydw i." mm Y FAM Ddaruch chi ddeyd ar ych glim. u hogen mor ddrwg fuoch chi ? LIZZIE Naddo. 'Roedd arna i g'wilydd. 'Roeddwn i yn meddwl y basa yn well i'r peth beidio myned allan o'r teulu,