Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

HUNANGOFIANT HOGYN ,neu Yr…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

fasa gorfod arcs yn yr un fan a hi am fis yn ormod o gosp i lofrudd dest iawn" Fydda ti yn myn'd i'r Ysgol Sul, Bob ?" ebrwn wrtho. I'r Ysgol Sul! faswn i'n meddwl y byddwn i, wir—achos da pam; chawn i ddim peidio myn'd. 'Ro'n i yn cael fy ystyried yn hogyn bach gybeithiol dros ben hefyd, tan ddaru rhwbath ddigwdd i stompio'r cwbwl. 'Dwn i ddim lie 'roedd y bai 'radag hono, ond mi wn na wneis i ddim 'blaw yr hyn 'roedd athraw y clas wedi ddeud wrthon ni." Be oedd o wedi ddeud ?" Wel, fel hyn 'roedd hi: 'Roeddan ni fel clas wedi bod yn darllan hanas oedd yn deyd mai i'r hwn y mae ganddo y rhoddir lot yn chwanag nag sydd ganddo,' ne rwbath i'r cyfeiriad yna, ac mi ofynis ina i'r athraw onid oedd o yn meddwl fod hyny yn beth reit ulw anheg a phobol, achos 'roedd pawb wedi cael eu creu efo'r un siort o bridd, ac i gael yr un chwara teg a'u gilidd, faswn i yn meddwl." Wel, mae y peth yn edrach yn anheg ar yr olwg gynta," ebra'r athraw; ond tydi'r geiria yna yn gneyd dim 'blaw gosod i lawr ddeddf sy wedi bod yn rheoli y ddynoliaeth er yr adag y cawson nhw eu creu gynta 'rioed; deddf naturiol ydi hi," ebra fo, achos 'rydach chi'n gwbod mae'r bobol sy gynyn nhw fwya o bres yn Mhwllheli yma ac yn mhobman sy'n medru cael mwya o bres erill atyn nhw." "Y rhei sy gynyn nhw fwya o bres ar eu gwyneba, ydach chi'n feddwl, hwrach," ebrwn ina wrtho; ond rwsut chym'rodd o ddim sylw o fy awgrym i, a mi aeth yn mlaen:— Mae arian," ebra fo, yn medru gneyd arian, a mae talenta yn medru gneyd llawar o waith, ac miawn ystyr yn enill talenta erill. 'Dydach chi'n gwbod," ebra fo, fod arnon ni fel clas eisio hel pres i fyn'd i ffwrdd am bicnic i'r Bermo, ac mae eisio eryn lawar o bres at hyny. Wel, 'rwan, wrth son am yr adnod yma, mae plan wedi dwad i fy meddwl i sut i gael y pres, a hefyd 'run pryd sut i ddangos i chi miawn ffordd ym- arferol mai i'r rhai sy gynyn nhw fwya o dalenta y rhoddir mwya, ne yn hytrach y rhei sy gynyn nhw fwya o dalenta sy yn medru gneyd mwya. 'Rwan, gwrandewch arna i-mi rof swllt i bob un ohonach chi heiddiw ar gyfer y picnic, ac erbyn mis i heiddiw mi fyddaf yn disgwl y bydd pob un wedi dyblu y swllt yna, ne hwrach fwy na hyny, a felly mi gawn lot o bres at y picnic." Felly fuo mi ges i a'r Ileill swllt bob un, a gorchymyn i'w ddyblu o erbyn mis i'r dwrnod hwnw, er mwyn profi'r adnod, a hefyd er mwyn oael pres at y picnic. O'r diwedd, dyma ben y mis yn dwad, a'r athraw yn gofyn am gyfri genon ni fel eulodau'r clas o'n gorichwyliath. I mi y gofynodd o gynta faint o'n i wedi chwanegu at y swllt. "Wel," ebrwn ina, "dyma'r swllt wedi dyblu ei bunan,achos 'roedd gen i swllt arall efo fo erbyn hyn, wyt ti'n dallt ? "Da iawn, Bob," ebra fo, "dyna brofi'r pwnc, ynte ? A 'blaw hyny, 'rwyt ti wedi dangos dy fod di yn feddiannol ar dalenta i neyd rhwbath heblaw gneyd drygioni- mae pawb yn gwbod fod y rhei ola gen ti yn barod i radda gormodol, faswn i yn meddwl. Da machgian i hwyrach y doi di yn ddyn mawr, wedi'r cwbwl, er fod amball un yn deud mai cael dy grogi fydd dy ddiwadd di. Wel, Wiliam Ffowc," ebra fo wrth yr hogyn oedd yn eista agosa ata i-hogyn llywath gwirion, a slo oedd hwnw—" be neis di efo dy swllt ? Sawl gwaith mae dy dalenta di wedi amlhau ?" 'Toes gen i ddim swllt, syr," ebra Bili Ffowc, gan dynu gwyneb hir. Be! Lie mae'r swllt rois i i ti fis i heiddiw ? Tybed nad wyt ti wedi gneyd defnydd ohono yn y fath fodd fel ag i enill rhwfaint ato ?" Mi ddarum dreio gneyd hyny, syr," medda Bili, ond mae Bob Jones wedi ei enill oddarna i wrth chwara pitsio a thosio." Mi ffendiodd yr athraw sut 'roedd fy un dalant i wedi myn'd yn ddwy, a 'toedd o ddim, rwsut, yn leicio yr eidia o dosio am dalenta, a mi gefis wers ddychrynllyd geno fo am fy mhechadurusrwdd, a byth er hyny tydi'r athraw ddim yn son 'run gair am adnod y talenta wrthan ni nag yn trystio 'run ddime i 'run ohona ni, a mi gollis i 'radag hono hyny o gymeriad oedd gen i. Wyddost ti be faswn i wedi neyd, Bob," ebrwn wrtho. Na wn i." Wel, mi faswn wedi gwadd y clas i gid o'r neilldu, a thosio efo nhw am bob swllt oedd gynyn nhw ar eu helw, er mwyn rhoid treial teg ar y ddeddf 'roedd yr athraw yn son am dani, wyddost-gael gwel'd oedd gweulod yni hi; a wedi enill pob dime fasa gynyn nhw yn eu pocedi, mi faswn wed'yn yu Cin i mi orphan deud, dyna rw sgrech fwya tanddeuarol a dychrynllyd glowsoch chi 'rioed yn dwad i fyny ar yr awal o gyfeiriad y môr. Mi stopis siarad miawn mynud, a fy nghalon wedi neidio yn lwmp i fy ngwddw nes dest a fy nhagu. Ac am Bob, 'roedd owedi dychryn mor gynddeiriog fel y neidiodd reit tu ol i mi, i ben pella 'rhen ogo hono. 'Toedd 'run ohonan ni yn edrach yn debig iawn i f6rladron 'rwan; 'roeddan ni'n dau yn ormod o gowards o'r hanar i fod yn bdirats respectabl, yn ol fel y mae nhw yn cael eu dangos miawn llyfra. Wedi gwrando, edrach glywan ni chwanag o'r swn rhyfadd hwnw, dyma Bob yn gofyn, Be oedd o, dywad ?" "Wn i ddim, os nad rhw arwydd.' Arwydd o be ?" Arwydd bod ni yu myn'd i farw ne rw- bath felly. Arwydd ydi pob peth felna, medda modryb a hwrach y'n bod ni'n dau yn myn'd i gael ein saethu y mynud cynta y byddan ni yn 'mosod ar long." Mae modryb ina hefyd yn coelio pob math o arwyddion, achos hen ferch ydi hi," ebra Bob. Fedar hi ddim diodde gwel'd un fran yn y bore; a thasa hi yn digwdd gwel'd y lleuad newydd drw wydyr am y tro cynta yn y mis, mi fydda'r beil arni am y gweddill o'r mis hwnw, ac mi fasa'n disgwl cael marw bob dydd." Un waith 'rioed y gwelis i fwgan," ebrwn wrth Bob miawn llais distaw; "a 'toes arna i ddim eisio gwql'd 'run arall byth. Beth pe tasa yspryd yn cerddad ar draws y mor atom ni i'r ogo yma ? Mi fasa wedi darfod arnom ni, 'rydw i'n credu. Ond mi ddeuda i be faswn Brensiach mawr Dyma'r sgrech hono wed'yn yn tori ar ddistawrwydd y nos, a fel pe yn dawnsio atom ni ar friga y tona gwnion oedd yn rhedag ac yn rhuo rhyngom ni a'r lan. 'Roedd y swn yn debig iawn i tasa rhwun yn gweiddi miawn budda, ac yn 'spedain o gwmpas yr hen ynys bach hono lie 'roeddan ni'n dau yn treio 'mochel rhag y storom ar noson ddu dymhestlog fel hon. Beth oedd y twrw, wyddwn i ddim, a dyna lie 'roedd Bob yn gwasgu am fy nghanol i a dest iawn crio, 'rydw i'n meddwl, Wil, wyt ti'n meddwl fod perig ?" Hwrach fod. 'Dwn i ddim bedi o— dyna'r drwg. Tasa hi'n ddydd mi fasa gynon ni rhw well siawns am ein bywyd. Taw!—dyna fo eto I" A chida hyny dyna dwrw fel ergid o ganon fawr reit yn ein hymyl ni. Mi fentra i allan os doi di, Bob," ebrwn a dyma ni'n dau yn myn'd i geg yr ogo, ond gida'n bod ni wedi cyredd yr awyr agored dyma fflas o'r fellten fwya disglaer welis i 'rioed yn fy einios yn suo heibio'n gwneba ni, ac 'roedd y da-ran ddaeth ar ei hoi hi yn ddigou ofnadwy i neyd un feddwl fod holl blaneda/r greadigeth wedi dwad i golision efo'u gilidd i gid ar unwetli. Ond wrth oleuni y fellten hono mi welis long fawr, yn cael ei gyru gin y gwynt reit i ddanedd y creigia oedd yn ein hymyl ni. Arwydd o fywyda yn myn'd i gael eu colli oedd y sgrech hono (I'w barhccu.)