Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

BLODAU BYTHOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLODAU BYTHOL. Gwaeddi mawr fu bob amser am flodau a gadwant yn iraidd ac ieuengaidd eu gwedd yn barhaus, er wedi eu tori oddiar y plan- higion. Nid yn ami y mae rhai yn talu sylw i'r peth, er ei fod yn fater hawdd i'w gario allan ond arfer gofal a phwyll. Y mae'r henafiaid a'r tramorwyr yn fwy cywrain na ni yn y petli hwn. Pwy bynag a fydd lwyddiannus yn y cyfeiriad yma, y mae ei ffortiwn wedi ei sicrhau, gan fod llawer o alw am flodau bythol newydd, yn enwedig y 11 mewn amgylchiadau galarus. Hefyd y mae galw am danynt i addurno tai pan fydd blodau gerddi yn brin. Ceir llawer math o'r blodau bythol. Dywed lIyfr Daniels am danynt, "Ar wahan i'w defnydd at addurno eglwysi a thai, gellir llifo y blodau goleuaf i wahanol liwiau claer, a bydd y rhai hyn wedi eu gwneyd yn flodeuglwm cymysgedig a gwelltglas o wahanol fathau, yn swynol dros ben. Ni welir unrhyw reswm dros adael i'r estron o wlad arall gadw y cywrain- waith hwn oil iddo ei hunan, a diau na lwycldant i gadw garddwyr anturiaethus oddiwrth yr adran yma. Ceir y blodau bythol yn goch a gwyn, gwyn a glas, melyn a gwyn gydag arwynebedd o satin-arianaidd, rhai ereill mewn ysgarled melyn, porphor, rhosynaidd, a chlaer wyn, y rhai diweddaf yn weddus neillduol at addurno y bwrdd yn y gauaf. Efallai mai y mwyaf defnyddiol ohonynt ydynt HELIOHRYSUM FIREBALL." Y maent yn ddewisol oherwydd eu lliw disglaer. I gadw y blodau bythol yn iawn, dylid eu tori tra y maent yn dechreu ym- agor, yna dylid eu rhwymo i fyny yn 8ypynau, a'u crogi mewn lIe oer a sych, gyda'r blodau ar i wared. Os rhwymir hwynt yn sypynau mawr y maent yn fwy tueddol i lwydo.

GWENYN A MEL.

LLADD BlEI DDIAI D

CHWECHED RESTR 0

GWOBRAU MISOL.

TELEEAU.