Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Gwahoddir cynyrchion barddonol a gohebiaeth i'r Adran hon. Bydd adreddiadau Cymraeg hefyd yn dder- byniol. Adolygir pob math o lyfrau a chyhoeddiadau. Ein harwyddair:- Yn lloniant ac yn lluniaeth Ein lien fo-yn llawn o faeth.
Y LLAETHWR.
Y LLAETHWR. Yn llwythog y daw y llaethwr-deg-lifrai, Dwg lefrith a glasdwr, Enwyn, hufem, i yfwr,— Fintai dda! ond faint o ddwr? E. O. JAMES, B.A.
Y DYN TEW.
Y DYN TEW. Ni eill redeg; yn lie rhodio—'n weddaidd, Aniddig masn rhalio; Rhyw fustach ffair ar fostio, Dafad Iwnc, difoda 10.- E. O. JAMES, B.A.
HEDDYW.
HEDDYW. (Rnglyn buddugol Eisteddrod Llangeitho, Awst, 1910.) I orsedd Doe daeth Heddyw,-fory-n hen Fr farn a, i eilfyw; Dawn ar aden anr ydyw, A gafael ar gyfle yw. Aberdar. AB HEVIN.
I YSTORM 0 FELLT.j
YSTORM 0 FELLT. Troellog fellt dyrr allan,-a brochus Wybr uchod yn clecian; Llythrena n'n ngwyll uthr anian Gerfia Duw ag arf o dan. Aberaeron. E. O. JAMES, B.A. Aberdar. DEWI AERON. —
ENGLYN DIFYFYE
ENGLYN DIFYFYE Wrth weled rr Boot and Shoe J) uwchben maelfa crydd yn Aberaman. *Boof a 'Shoe' i Bet a Shan—a werthir Heb wrthod yn Aman; 'High-soled Boot' oseiiiad ban, A 'rubber' dani'n rwbian. Eto wrth weFd y mellt yn dawnsio ar lwyfan natur nos Sul, Awst Meg, 0 1 syndod na. fai sandal-y fellten < Folltiog yn creu anial; Ond mae £ in Duw yma'n dal,—(drwy Ei weis o neutu; Efe sy'n atal. Ogaru) Aberaeron. E. 0. JAMES, B.A.
G YDA'R BORE BACH.
G YDA'R BORE BACH. Mwyn yw gwel'd ar nn afonydd, Gyda'r bore bach, Helyg gwyrdd uwch dyiroedd llonydd, Gyda'r bore bach; Drwy ein trafferth a'n gofalon Fe ddaw -Icsnir nef i'r galon Gyda'r bore bach. Mwyn jw'r awel yn y llwynî, Gyda'r bore bach; Mwyn yw adar ar y twyni, Gyda'r bore bach; Ac yn swn y mwyn awelon Nid mor bell yw byd angelior. Gyda'r bore bach. Tithau, fy anwylyd, ddeui, Gyda'r bore bach; Gwedd y bryniau a oleui, Gyda'r bore bach; Meillion gylch dy draed a chwarddant, A meddyliau glanach darddant Gyda'r bore bach. ELFED.
CYFAECHIAD PRIODASOL
CYFAECHIAD PRIODASOL I Mr. Tommy Harries, Cardiff Road, Aberaman, a Miss M. J. Thomas, Gftrdiff Road. Cymerodd y briodas le yn Siloa, Aberdar. Tro call wnaeth Tommy Harries, Rhoi modrwy aur i'r ferch, Ehagorach fil o weithiau Oedd modrwy cyflawn serch; Mae'r ddau yn rhwym i'w gilydd Tra ytta ar y llawr, Gwir gariad, serch a'u rhwymodd, Nid cyfraith Prydain Fawr. We1 geneth hardd a phrydferth Yw Mary Jane erioed, Ond harddach a bob blwyddyn 'Chwanega at ei hoed; Adnabod wnaent eu gilydd Yn blant yn Cardiff Road, A charai'r ddau eu gilydd Fel pe ond hwy mewn bod. Wel, caru wnewch eich gilydd, Anwylach ewch o hyd O'ch gilydd ar eich gyrfa Tra byddoch yn y byd; Gwnewch lynu wrth eich crefydd, A charwch un sydd fwy, 'Rhwn garodd y ddynolryw, Nes dioddef marwol glwy'. AFANYDD MORGAN.
Ebion Golygyddol.
Ebion Golygyddol. Gafodd Alaw Sylen anhap tra yn gweithio dan y dywarchen, ond da oedd gan Abercwmboi a byd y beirdd ei welel yn gwella mor fuan. Ni fenodd y ddam wain ar ei gynghanedd, fel y gwelir oddi- wrth ei englyn i Crippen a'i gydymaith. Nid oes byth angen olew ar rodau llinellau Brynfab. Maent mor ystwyth aJr faneg. Ac yn ei benillion telyn cymer y gynghanedd ei lie mor naturiol a phin mewn papyr. Wele engraifft:- Pan fydd Bleriot, White a Farman Wedi dysgu'r beirdd i hedfan, Ni a gawn o lawn lawenydd GadwJn gwyliau gyda'n gilydd. Tra fo Llydaw'n tyfu wynwyn, Tra fo Cymru'n tyfu cenin, Cadwed Llydaw, cadwed Cymru, Ar ddwy faner—Hedd i fyny! Ond pa eisieu dysgu beirdd i hedfan? Onid yw pob awenydd yn berchen aden- ydd, a phwy welodd fardd heb fod yn hedegog P. Bedair biynedd yn ol llosgwyd llyfrgell Dr. Zimmer, y gwr dysgedig a fu farw yn ddiweddar Bernir i hyny effeithio ar ei iechyd a hyrwyddo ei angeu. Aeth liawer o yegrifau gwerthfawr yn ebyrth i'r tan. Ceredigion ydyw y sir sydd wedi cy.n- j yrchu mwyaf o offeiriaid yn Nghvmru, a Llanbedr ydyw y plwyf mwyaf ami ei blant clerigol yn y sir. ——— Diau mai fi' dechreuad goSdian n ydyw yr helynt bresenol yn nglyn a Choleg Coffadwriaethol Aberhonddu. Dipyn o amser yn ol darfu i awdurdodau y Coleg wrthod derbyniad i fyfyriwr neillduol oedd yn vmgeisydd am-gael yfed o ffynon dysg rhwng muriau yr Athrofa. 11:<- wedir mai y rheswm dros wrthod derbyn y myfyriwr ydoedd y ffaith ei fod yn tu- eddu at athrawiaeth y Parch. R. J. Campbell, yr hon a adnabyddir wrth yi enw U Y dduwinyddiaeth newydd." Yr oedd y Parch. J. M. Jones, M.A., gweinidog eglwys Annibynol Seisnig Tabernacle, Aberdar, yn un o aelodau pwyllgor y Coleg. Beiddiodd efe feina- iadu gwaith awdurdodau y Coleg yn gwrthod derbyn y myfyriwr, ond nid aeth pethau yn mhellach ar y pryd. Modd bynag yn ddiweddar daeth yr adeg flyn- yddol i ethol pwyllgor yr Athrofa, a chafodd y Parch. J. M. Jones ei hun allan yn yr oerfel, wedi colli ei le ar bwyllgor Aberhonddu, er ai fod wedi dal y swydd am flynyddau, ac wedi bod yn un o golofn- au y Coleg. Yn awr y mae y gwr parchedig yn -an o gedyrn y Dduwinyddiaeth Newydd" yn Nghymru, heblaw bod yn gyfaill per- sonol i'r Parch. R. J. Campbell. Nid yn unig y mae y diweddaf wedi bod yn pre- gethu yn mhwlpud y blaenaf, ond hefy l y mae Mr. Jones, o bwlpud Tabernacle, wedi sefyll i fyny i amddiffyn Mr. Camp- bell a'i gredo. Yn awr y mae y cri o « boycottJJ a a victimisation yn y gwynt. Myn rhai fod pwyllgor y Coleg wedi dial ar y gwr parchedig o Aberdar o herwydd ei heresi. Wrth gwrs nid oes prawf o hyn, ond dyna y casgliad y deuir iddo gan lawer sydd yn gwylio arwyddion yr amserau. Y mae yn yr eglwysi gryn chwer^edd tuag at y rhai sydd yn coledd athraw- iaeth Campbell, ac ymdrech i'w cadw y tu allan i'r gwersyll os yn bosibl. Ac wrth gwrs y mae yn naturiol i geisio eu cau allan o'r colegau hefyd. A llawn mor angenrheidiol, er mwyn iechyd y :ffydd, ydyw ceidw y gweinidogion heretic- aidd oddiar fwrdd llywodraethol y Coleg ag ydyw cadw cylch y myfyrwyr yn rhydd oddiwrth bresenoldeb un or dis- gyblion cyfeiliornus. Nid yw Elfed yn myned i gael llawer o orphwys hwnt i'r Werydd. Mae yn barod wrthi yn ddiwyd, yn pregethu a darlith- io, ac y mae rhaglen lawn ar ei gyfer gan yr Ianciod. Lie gwael ydyw America i Gymro talentog a phoblogaidd fyddo ai fryd ar orphwys. Pan oedd Mynyddog yn waei ei iechyd aeth dros y Werydcl i'r Talaeth- au, gan obeithio y byddai newid awyr yn fudd iddo. Ond druan o hotio! Nid oedd llonyddwch i'r eisteddfodwr enwog yn mhlith ei genedl y tu draw i'r dwfr. Buasai yr un man i'w feddygon yn Nghymru ei dransportio i Botany Bay, oblegyd cafodd ysbaid o lafur caled yn ngwlad Uncle Sam, a daeth yn ol i Gyn.- ru i farw. Yn awr y mae y Methodistiaid Calfm- aidd hwythau yn myned i ymgeisio am y living wage." Dywed yr Hen Desta- ment am beidio cau safn yr ych sydd yn dyrnu, a dywed y Testament newydd y dylai gweinidogion yr efengyl fyw wrth yr efengyl. Dyna hefyd deimlad y cyn- ulliad Methodistaidd yn Mlaenanersli. > Dywed y pwyllgor sydd wedi bod yn chwilio i mewn i sefyllfa pethau gyda'r Methodistiaid mai cyfartaledd cyflogau gweinidogion yr enwad ydyw £ Qb y flwyddyn. Dywedir hefyd fod llawer o weiuidogion yn enili dim ond pymtheg swllt yr wythnos. Dyna beth yw byw a bod is law y poverty line," onide P Gellid tybio mai y pregethwyr ydyw T cymwynaswyr goreu cwmnioedd y rheil- ffyrdd. Amcan-gyfrifid fod ^84,360 yu cael ei dalu gan weinidogion De Cymiu am docynau rheilffyrdd bob blwyddyn. Yn awr ymdrechir cael "minirnum wage o £ 84 y flwyddyn i bob pregethwr a gofal eglwys gfinddo. Mae hwn yn is na safon yr Annibynwyr. Pan oeddynt hwy yn trafod mater cyffelvb ychydig fis- oedd yn ol yr oeddynt am ddodi y mini- mum yn gan' punt y flwyddyn, os nad yn £ 120. Yn yr un cynulliad Methodistaidd cyn- ygiwyd fod cof-golofn i Dr. Lewis Ed- wards i gael ei chodi. Cyst hon tua £ 1,200. Os oes rhywim yn teilyngu colofn i goffhau ei enw a'i waith i'r oesaii a ddel, awdwr y H Traethodau Llenydd- 01" a sylfaenydd Coleg y Bala ydyw hwnw. Ond ai nid gwell gofalu am angenion y byw nag am goifa y marw? Credwn pe cawsai y Dr. Lewis Edwards, jx hwn, 'yn ngeiriau Gwalchmai, H A fagodd bendefi,-Ion Ami eu rhif i demlau'r Ion," lais yn y mater y buasai efe yn dywedyd, a Goflwch am fy meibion a feithrin- wyd ar fy aelwyd, yn hytrach nag am goffa eu tad. Gwariwch y deuddeg cant punau ar eu cysur hwy ac nid fy nghoffa. i." Bu y diweddar Arglwydd Spencer o fewn ychydig i fod yn Brifweinidog. Dy- wedir ddarfod i Gladstone ei enwi fel ei olynydd, ond ddarfod i'r Frenhine,- Victoria ddewis Eosebery yn hytrach. Y mae cyfansoddwyr anthemau cenedl- aethol mor lluosog yn ein mysg fel Cymry ag ydyw gwneuthurwyr galarnadau yn mron. Y diweddaraf i a dreio ei law ar anthem cenedl ydyw yr Athraw John Morris Jones. Teimla y Parch. T. E. Jones, Ficer Caergybi, yn flin am fod Sais uniaith wedi cael ei benodi yn Brifathraw Ysgol Dduwinyddol Bangor. Er hyny nid yw y Ficer wedi cael ond ychydig o gefnog- aeth i'w brotest oddiwrth ei frodyr Eglwysig. Sylw prin y mae Esgob Ban- gor wedi ei roddi i gwyn y Ficer gwlad- gar. Myn rhai fod y byd yn gwaethygu. Mae hyny yn enllib ar y Duw mawr sydd wedi ymgymeryd a'i achub. Na y mae y byd yn gwella. Mae dynion da yn amlhau a I dynion drwg yn dod yn well.-Y Parch. Evan Phillips, Castellnewydd-Emlyn. "Pe buasai ambell i hen ddiacon a ad- waenwn yn cael cadw drws y nefoedd bychan iawn fuasai nifer y rhai a elent i mewn," meddai yr henafgwr parchedig o Gastellnewydd-Emlyn wrth son am eangder arfaeth Duw a chyfyngdra ar- faeth dyn; Pan ddel y flwyddyn 1912 bydd dau can' mlwydd a haner wedi pasio er pan aeth y gweinidogion Ymneillduol allan o Eglwys Loegr. Awgryma rhai Ymneill- duwyr y byddai yn burion peth coffhau y ddau can' mlwydd a haner yn gyffredin- 01 a chyhoeddus. Ond ai nid doeth ceisio anghofio yn hytrach na chofio ymran- iadau en witdol ? Na wneler dim fyddo a thuedd i ledu yr adwy sydd rhwng y gwahanol enwad- au, ac na wneler unpeth a dueddo i bwysleisio y gwahaniaethau rhyngddynt. Yn hytrach tyner i lawr ganolfuriau y gwahaniaeth a rhwyger lleni y terfynau. Mewn eglwysi Seisnig, yn enwedig y rhai a ddeuant dan y deegrifiad ffasiyn- ol," mae yr "organ recital" ar bryd- nawn Sul yn dod i fri, a'r ysgol Sul yn peidio a bod yn ffasiynol. Eler i eglwysi up-to-date" yn ein hymdrochleoedd neu ardaloedd y ffynhonau a cheir gweled ys Ysgol Sul yn ngradd olaf darfodedig- aeth, a'r P.S.A., y cyngherdd, neu yr "organ recital yn blagtiro fel y llawryf gwyrdd. Wrth gwrs ni anghofir y "silver collection." Y mae mammon a miwsig yn myned i mewn i'n crefydd yn gyflym. Yr oedd eglwysi Aberystwyth yn lied anfoddlon i'r Territorials ddod i babellu I i gymydogaeth y dref hono. Darfu iddynt wrthdystio yn erbyn i "wyr y cledd hir eu clod ddod i'r lie, ond bu eu protest yn ofer. 0'1' ochr arall yr oedd y masnachwyr o blaid iddynt ddod, a hwy a orfu. Felly yr oedd plant y byd a phlant y goleuni mewn gornest a'u gilydd. Dichon fod plant y byd, fel arfer, yn I gallach yn eu cenedlaeth na phlant y goleuni. Modd bynag bu gwyr y cledd yn foddion i ddod a llawer o gregyn hedd- wch i'r dref sydd yn nodedig am gregyn naturiol a chregyn cwerylon. Y mae Aberaman yn edrych i fyny. Gwelwn fod cyrddau blynyddol yr Un- deb Cynulleidfaol Cymreig i gael eu cynal yno yr haf nesaf. Yn ddidadi ni bydd pobl dda Aberaman a'r cylch yn ol yn y gwaith o letya yr TJndeb. Gyda Haw sut yr aeth Aberaman o flaen Aber- dar? Fel rheoi y mae y pregethwr Cymreig yn boblogaidd gyda'r Saeson, er ei fod yn gorfod cael "manuscript" pan yn pregethu yn yr iaith fain. Nid yw y Sais mor fanwl yn nghylch y traddodiad. Nid yw lawer o wahaniaeth ganddo ef pa un ai darllen ai siarad o'ff rest y mae y pregethwr, cyhyd ag' y ca sylwedd gan- ddo. Ond rhaid i'r Cymro gael pregeth- wr dibapyr. Y mae yn syndod gynifer o bregeth wyr ydynt yn traddodi pregethau hyawdl yn Gymraeg, ond pan yr ant i ymgodymu a'r Saesneg rhaid iddynt wrth gymhorth ffyn baglau papv- T Cyfeirio yr ydym at bregethwyr ydynt wedi taflu eu coelbreni gyda'r Saeson, ac yn pregethu yn rheolaidd o bwlpudau Seisnig. A oes rhywbeth yn fwy Hex I tempore" yn natur y Gymraeg? Os oes, el hyny yn mhell i brofi mai hi yw yr I iaith wreiddiol—o leiaf ei bod yn wreidd- iolach na r Seisnig. >
celrlog rei CYTaIU.j
celrlog rei CYTaIU. Dyn absenol ei feddwl ydoedd Ceiriog yn rhan olaf ei fywyd. Yr oedd yr awen yn myn'd ai fryd, a chwmniaeth cyfeill- ion difyr yn myn'd a'i amser, fel nas gallai roddi ei feddwl ar ei fusnes, Efe ydoedd rheolydd (manager) y rheilffordd fechan sydd rhwng Caersws a gwaith mwn y Van. Un tro yr oedd masnachwr yn y Van yn disgwyl tryc o nwyddau i mewn. Aeth i holi Ceiriog am y tryc, ond nis gwyddai efe ei hanes mwy na'r dyn yn y Ileuad. Wedi hir a hwyr a llawer o ymorol a chwilio daethpwyd o hyd i'r tryc. Yr oedd Ceiriog wedi ei anfon i orsaf arall! A fu golledig ac a gafwyd meddai y bardd wrth anfon at y masnachwr fod ei glud ar gael. I Fel y gwyddis. bardd telynegol ydoedd Ceiriog. Nid oedd yn llwyddiant fel awdlwr. Cystadleuodd ar awdl i'r 'Mor yn yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith, a siomwyd ef yn fawr pan ddeallodd nad eiddo ef y clod, y god a'r gadair. Bu yn ofidus iawn am ysbaid ar ol yr eisteddfod hono, a cheisiai foddi ei ofid mewn hylif cryfach na dwfr croyw Plynlumon. Ryw dro ar ol hyny yr oedd Ap Vychan-yr hwn a enillodd ar awdl "Y Mor"yi,i myned ar daith bregethu neu ddarlithio i Drefeglwys. Nid oedd rheil- ffordd fechan Caersws yn ffordd reolaidd i deithwyr, ond yr oedd llawer yn cael eu cludo trwy ganiatad y rheolydd. Gofynodd arwr « Y Mor am docyn, ond gwrthodwyd ef yn bendant gan awdwr "Alun Mabon." "A, mi'i curais i o," meddai yr hen Ap, a mynai fod Ceiriog yn ceisio talu y pwyth yn ol ar draul ei orchfygwr. Nis gwyddom a oedd rhyw- beth yn hyny ai peidio. Medrai Ceiriog fod yn lied chwerw tuag at ei elynion, neu y rhai y tybiai eu bod yn elynion iddo. 0'1' ochr arall gwnelai unrhyw beth ar ei ben i'r sawl a gvfrifai yn gyfaill iddo. Tin tro yr oedd cyfaill o fasnachwr i'r bardd yn myned i Lys Sirol Llanidloes i crlyn dyledwr. "Deuaf gyda chwi," meddai Ceiriog, ffyr wyf am weled y Barnwr newydd. Y mae genyf barch mawr i'w dad." Y Barnwr newydd yd- oedd Mr. Brynmor Jones, Syr Brynmor Jones yn awr, yr hwn ydoedd newydd ddechreu ei waith yn Nghylchdaith Canol- barth Cymru. Galwyd enw y masnachwr a'i ddyledwr yn mlaen. Yr oedd yr er lynydd yn lied "nervous," ac yn dioddef oddiwrth "court fright." Methai wneyd pethau yn glir iawn i'r Barnwr, yr hwn yntau oedd yn lied anghynefin ag arferion yr ardal. Yn sydyn wele ddyn parchus yr olwg yn codi i fyny yn y llys, ac yn gofyn i'r Barnwr os cai efe siarad, y gallai dafill goleuni ar y « case" oedd ger bron. "And who are you?" meddai Judge Brynmor, gan daflu golwg gilwgus ar y gwr beiddgar oedd yn tori rheolau y llys mor ddiseremoni. I am John Ceiriog Hughes," oedd yr ateb. Cododd y Barnwr o'i sedd ar unwaith a gwnaeth a fow" i'r ymyrwr. Teimlai Brynmor yn ddiau ei fod yn mhresenol- deb tywysog—un o bendefigion lien a chan. Rhoddodd groesaw i'r tyst newydd i ddweyd ei stori, a bu hyny yn fenditii i'r masnachwr ofnus, yr hwn yn ddilynol a enillodd y "case." Ar ddiwMd y Vys aeth y Barnwr yn mlaen at y bardd, ac ysgydwodd law yn galonog ag ef. Teimlai Brynmor yn falch o gael cwrdd a brenin y gerdd, a theimlai Ceiriog yntau hiL yn anrhydedd i gael ymgom a mab y seraff- bregethwr, Thomas Jones o Abertawe. Nid oedd Ceiriog yn caru ffurf-athraw- iaeth, a chasbeth ganddo ydoedd hollti blew duwinyddiaeth ag eirf beirniadaeth orfanwl. Un tro yr oedd y Parch. Rich- ard Roberts, o Fachynlleth, y pregethwr Weeleyaidd enwog a fu farw yn ddi- weddar, yn pregethu yn ardal Llanidloes. Aeth Ceiriog i'w wrando. "Beth ydych yn feddwl o'r pregeth- wr?" gofynai cyfaill i'r bardd. a 0 yr oedd gormod o gysgodau yn ei bregeth," meddai Ceiriog, a golwg siom- edig ar ei wedd. Yr oedd Mr. Roberts I yn pregethu ar yr aberthau, ac yr oedd yn canfod cysgod a sylwedd yn mhob item" o'r ddeddf seremoniol. Tybiai Ceiriog fod y pregethwr yn gweithio ei gyffelybiaethau a'i gynrychiolaethau yn rhy bell, nes yr oedd y bardd yn dod i'r casgliad fod mwy o gysgod nag o sylwedd yn y bregeth.
-----------__-_-Pethau Hen,
Pethau Hen, Yn y Pare yn Aberdar y mae careg I fawr, Popler y gelwir hi, Careg ddod yw I hi, hollol ddieithr i'r ardal. Ceir yn yr ardal, yn wasgaredig hwnt ac yma, ami i un yn debyg iddi, ond dim haen o graig y gellir hawlio perthynas a hi o fewn i'r nawfed ach. Dywedir fod rhai yn debyg iddi, perthynasau agos, yn nyffryn Merthyr Tydfil; ond na cheir cymaint ag un yn Nghwm Rhondda. Esponiad daearegwyr yw mai oddiar Fanau Brycheiniog y daethant yn wreiddiol, ac mai amser eu cychwyniad ar eu taith anhyffordd oedd Cyfnod yr la (Ice Ag'e) filoedd lawer o flynyddau'n ol. Dyfelir gan wyddonwyr fod y cyfnod hwn wedi I dechreu 240,000 o flynyddau'n ol, a the: fynu 80,000 o flynyddau'n ol. Yr oedd Prydain y pryd hwnw, nid yn ynys, ond yn rhan or Cyfandir. Yn y cyfnod hvnnv, yr oedd y parthau hyn o Gymra dan y dwfr; felly'r oedd y dyffrynoedd y 1 soniasom am danynt; a phan dorodd y Cyfnod la i fyny, fe lithrodd y talpau ia yn grugiau mynyddog (icebergs) i lawr i'r dyffrynoedd, gan gario'r poplenallyn eu col; ac fel yr oeddynt yn toddi, drop- ient hwy hwnt ac yma ar y ffordd i Jawr i'r mor. Dywedwyd genym yn barod na cheir un o'r poplenau hyn yn Nghwm Rhondda, a'r esponiad a roddir yw fod y mynydd rhyngddynt a'r Rhondda yn rhy uchel iddynt ei groesi. Llithrent hwythau yn naturiol ar hyd y 'line of least resistance.' Yn raddol iawn y ciliodd y dwfr allan o'r dyffrynoedd, ac wrth gilio darfu iddynt ddyfnhau'r dyffrynoedd yn fawr. Ger gorsaf y G.W.R., yn Nglynedd, wrth edrych i fyny i'r mynydd yn nghyf- eiriad y De, fe welir tair llinell yn rhedeg ochr yn ochr-'ancient water marks' y galwai Eobert Chambers hwy yn ei I "Vestiges of Creation." Traeth y IIYL. fyddai pob un o'r rhai hyn ar wahanol I adegau fel y byddai'r dwfr yn cilio. Arosodd y dwfr yn mhartb isaf Cwm Aberdar, a siarad yn ddaearegol, hyd yn gymharol ddiweddar; arosodd fel Llyn Fawr, hyny yw, o Aberpennar (Mountain Ash), lie daw y mynyddau i gyffyrddiad agos a"u gilydd, i fyny hyd at y bont haiarn yn y dref, sef ar waelod Com- I mercial Street, Aberdar. Yr oedd hyn oil cyn dechren 'hanes o gwbl. Cuddid y cwm, ar ol trai y dwfr, o'r pen uchaf i'r pen isaf, hyd o fewn cyrhaedd hanes, a, fforest o goed, a dywedir y gallai gwiwer fyned bob cam o goeden i goeden o Aber- pennar i fyny i'r Ehigos heb ddisgyn un- waith.—Yr Ymofynydd" am Awst, 1910.
Letters to the Edit©p«
Letters to the Letters on any subject of publie interef* are invited. It should be nnderstocNi that we do not necessarily agree with the views expressed therein. Corres- pondents will oblige by writing on one side of the paper, and must invariably enclose their names and addresses, not necessarily for publication, but roll guarantee of good faith.
THE TASK OF ABOLISHING NON-UNIONISTS.
THE TASK OF ABOLISHING NON-UNIONISTS. SHOULD WE SEEK: THE ASSISTANCE OF EMPLOYEES? Sir,—There may be a few good points in Mr. C. B. Stanton's scheme of ridding the South Wales coalfield of non-union- ism, but there are others so utterly grotesque that I marvel how Mr Stanton, holding the extreme views that he does, Z, should entertain them for one moment. For instance, there is his suggestion that the contribution to the Federation-2d. in the pound per member—be kept back at the colliery offices, I consider this proposal a most retrograde one. 1 am aware that the old Cambrian Association, over whose destinies Mabon and Mabon Bach presided many years ago, allowed the employers to deduct so much per month out or the workmen's wages in the colliery offices. And then I remember Mr. Brace coming along and condemning such a system, and advocating voluntary contributions. The men succeeded to free themselves from the grasp of the Cambrian Association cum Employers' Association, and it is now proposed to resuscitate one of the most baneful and backward movements that any man could propose. If the workmen of their own free will and by their own efforts cannot succeed in running an organisation with- out the aid of their natural enemies-the employers, then let them give it up as a bad job. It is not so very long ago that a large section of the workmen in the bottom part of the district were agitat- ing for the abolition of the poundage sys- tem re doctors. We know only too well how hard was the struggle to change that system. What we want as miners are not increased deductions, but our pay in full-every half-penny of it. The Truck Act was passed with the object of pre- venting employers deducting money for this, that and the other. Only the other day Mr. Stanton, if I remember rightly, opposed certain colliery companies de- ducting damages from the earnings of the workmen. How then can he con- sistently advocate a kind of partnership between men and their employers with the view of increasing the Federation contributions? The Federation is for the men; it is an organisation to improve the wages and conditions of the miners; it is an organisation opposed to the employers' interests, because it does these things, How, then, can we ask the Coal- owners' Association to assist us to gather ammunition in order that we may be better able to fight them whenever the time arrives? It would be just as wise to ask Germany to lend this country a ship-building yard for the erection of a British dreadnought. Mr. Stanton has been preaching for years that the inter- ests of the employers and employed are diametrically opposed. I, for one, there- fore, am opposed to go cap in hand to I. our masters and say: "Dear sirs, since 1898, the year of the big strike, wo have tried to form a strong organisation called the Miners' Fedeiation. Its object is to raise our wages and reduce our working hours and Icwei* your profits. We have succeeded to some extent, for we reaPv believe that if our Federation had been in existence, the Eight Honrs Bill would never have reached the Statute Book. However, the Federation is not yet perfect, and we believe that we couid wrest manv mere concessions out of you if we were stronger and better united. Some of your collieries pay 10, 20, 30 and 10 per while there-are men work- ing in those same pits for 25s. or 30s. per .week. We want to bring down voll" dividends get a minimum wage of 4s. 9d. per day plus percentages. If we had every man jack inside the Feder- ation we cuild get this, and now we :ome to ask you to help us by keeping back the Federation contributions at the col- liery offices. What the workman doesn't see he doesn't mips, do you see?" I won't attempt to draft a reply. It can be better imagined than worded. However, as I said in the beginning, there are several proposals in Mr. Stan- ton's scheme which are worthy of adop- tion, but for heaven's sake, let us con- tinue our Federation on the voluntary principle.—I am, Aberaman. y NABOM.
Wales and Music.
Wales and Music. BY SEMI-BEEVK." Glancing over remarks made by the well-known musician, Mr D. Emlyn Evans. I found that he made reference to the singing over and over again of the same choruses. There is no doubt that here the neccessary element, to which some of our musicians have referred, is to be found. Mr Evans refers to the choral ham- mering or force as a thing that is fast passing away, and that the use of the lighter glees and part-songs as tests in our chief choral competitions is becom- ing more general. 11 Although some of our eisteddfod au are held mainly to make money, some for charitable purposes such as hospitals etc, it is pleasing to note that they also introduce new test pieces, Most of our eisteddfod committees cater for Ladies', Male Voice, and Mixed Choirs, but it is only a few that cater for children's choirs—boys and girls. I hope to see committees take more interest in the children, and thereby encouraging our musicians to compose for the youngsters. Another branch that is neglected by the committees is the orchestral, and some writers during the past weeks have made reference to it. Progress is slow with our committees, conductors and adjudicators, but nevertheless we are gradually moving forward. Our local church choirs will soon be making preparations for their next year's sing festivals, and I hope that choristers will give more attention this time to their singing practices, so as to bring the Gymanfa Ganu"up to the old standard. {
Advertising
Hi 8 mako* jggj1* B jEr "M" H 2 gallons of B 9 H H delicious home mad* Buna hI n Lemonade. Produced solely FMtRdyw lower Lemonade
Advertising
A WOAE II" LADIEJ 2 st jur „ur mw and original jlllusua Booklet, containing plain and prastfcal HÍ\;ÏC2 I1tsd Irregularities. S"C"iTisir.ns may lie or ?3ftioved ttuars in y/ suentf vi ;jv n-V. i. -a •, ■ js Lat'sf% ji, '»,>,>: » \■ MARTLi:t.K:y j'
Advertising
Why go out of the District to buy ONE& FURNITURE When you can get all you require at tttMBBttMSmNBr W t)t tU)t i))T JAY'S )!)NB!ttB The People's Furnishers, At prices to suit ail. Cheapest for Cash & most convenient for hire, 4 WE have the Largest and Finest Stock in the Valley to select from, Send for our Illustrated Catalogue, or better still, give us a call and we will be only too pleased to show you round. I TERMS AS FOLLOWS iEB worth of Goods 1/6 weekly. P.30 worth of Goods 4/6 weekly. iCI2 „ It 2/- It £50 If ii 6/- it £20 „ „ 3/- „ NO DEPOSIT REQUIRED, We employ no canvassers, so by dealing direct with us you save the Agents' costs, &c. Catalogues Free. AR JAY & Co., 8 Commercial St., Aberdare
Power of the Federation.
Power of the Federation. Mr. Stanton and the Discon- tents. Mr C. B. Stanton, Aberdare, was one of the speakers at the Rhondda Miners Demonstration on Monday. The other speakers were Mabon and Mr Brace. Mr C. B. Stanton expressed himself in agreement with a good deal of what had been said on the platform. Whilst it was true that he and his colleagues had "fallen out," he was quite prepared to give credit to the collective wisdom of his colleagues. After all, the Feder- ation, with all its faults, had done mighty work. (Hear, hear.) Their forces had not been strong enough to fight the employers, and it still remained for all of them to co-operate and see whether they could not wrest from the employers a fairer share of the wealth which labour had created. They had not had many samples of the generosity of the employers. They had had to fight for everything. Unfortunately, thousands of workmen were dissatisfied with the Federation, but thousands were suffering from such rheumatism in the elöow" as prevented them from putting their hands in their pockets. (Laughter and applause.) ONLY A DOMESTIC ROW. At the Federation they had only had a little domestic row. (Laughter and applause) Effort was being made to belittle the Labour leaders with a sug- gestion that to contribute to the Feder- ation enabled the leaders to roll in wealth. Ability, however, was paid for in every walk of life, and it was not the fault of the leaders that the workmen were not better paid. Employers gloried in a division in their ranks. They wanted the South Wales Feder- ation members to get at one another's throats, but he was afraid they would be very much disappointed. (Applause.)
Advertising
'2l; "0, & SEE ANALYST REPORT ON BOWEN'S I VERETTA. I PAGE 8. 1
I------.---------New Empire,…
New Empire, Aberdare. Another fine programme was placed before a large and appreciable audience on Sunday night last, at the above place, The concert was opened with a fine over- ture, rendered by the orchestra. Beatrice McIIandon, instrumentalist, charmed the audience with her fine cornet play- ing. She is one of the turns for this week. The pictures that were shown were splendid, and included the follow- ing :—"Sophie" (Capital of Belgravia)* "Sweetmeat Making," "The Empty Cradle," The Pineapple Industry," and The Planter's Wife. I The turns for the week nights will not fail to attract large crowds. They are excellent in every way. The Whitwortk Trio Trick Cyclists make up the chiet turn for this week. They are wonder- fully clever. Another splendid turn }e Jennie Alexander, the clever child mimie and comedienne. Her impersonations ot Harry Lauder and others are remarkabp good. She is also a very fiiie singer. comes direct from the London HipP0" drome. Beatrice McHandon is a ve« charming musician. Phil Kaufman is ,fl splendid coon comedian. His singing excellent. Some very laughable pictures are also shown.