Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. BORO'-Dydd Llungwyn diweddaf, Mai 20, rhoddodd y gweinidog, D. C. Jones, gwlwm priodas am Mr. Jenkin Evans, 7, Decima Street, Bermondsey, S.E., a Miss Jane Davies. Teiliwr y briodas ydoedd Mr. Morgan Evans, Bethnal Green, yn cael ei gynorthwyo gan Mri. Dan Lewis ac Evan Jones. Rhoddwyd y briodasferch ymaitli gan ei brawd, Mr. Evan Davies, Maerdy, Rhondda Fach. Y morwynion priodas oeddynt Miss Maggie Evans, Aberystwyth, a Miss Mary Jane Davies, Berws Uchaf, Llan- geitho, chwiorydd y priodfab. Cynhaliwyd y wledd briodasol yn 7, Decima Street, pryd yr eisteddodd torf o gyfeillion y ddeuddyn lion o gylch y bwrdd i gyfranogi o'r dan- teithion. Boed i Mr. a Mrs. Evans oes faith, ddedwydd, lwyddianus ydyw dymuniad eu holl gyfeillion. Yr oedd gwisgoedd y briod- asferch a'i morwynion yn brydferth a den- iadol. DEWI SANT, PADDINGTON.-Gladdedigaeth. Claddwyd Mr. John Pierce yn Lanfi- hangel Geneu'r Glyn, ddydd lau, Mai 23ain, yn y 64fed flwyddyn o'i oedran. Y noson cyn i'w weddillion marwol gael eu cludo i Gymru, cynhaliwyd gwasanaeth coffadwr- iaethol iddo, yn Eglwys Dewi Sant, pryd y daeth tyrfa fawr o bob rhan o'r ddinas ynghyd i dalu iddo eu cymwynas olaf. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchion. L. Roderick, Camberwell; J. Crowle Ellis, St. Benets; a'r Parch. W. Richards, Caplan. Meddianid pawb gan deimladau dwys, a chydymdeimlent yn fawr a'r teulu yn eu galar. Ar ddiwedd y gwas- anaeth chwareuwyd y Dead March." Gwelsom wreaths wedi eu danfon oddiwrth y rhai canlynol: Cyngor Eglwysig Dewi Sant, Cor Dewi Sant, Mr. Dan Lloyd a Miss Maggie Pierce, Mr. a Mrs. Lewis, Harlesden; Mr. a Mrs. D. Roberts, Acton; Mr. Edward Pierce (brawd), a Mrs. Pierce; Mr. a Mrs. Williams, Ifield Road; Mr. a Mrs. David Hughes, Mr. H. Pierce (brawd); Mr. H. Pierce a Miss Jordan, Mr. a Mrs. R. H. Pierce, Mr. a Mrs. Davies, New Cross Mr. a Mrs. Jones, Porteus Road Mr. D. Jenkins, Shelden Street; Mrs. Williams, Chelsea; Mrs. G. Thomas a Miss Evans. Oddiwrth ei gydweithwyr yn Holloway; oddiwrth y y plant; oddiwrth gyfeillion yn 25 a 27, Haverstock Road; Nurses Maggie, Jennie, Kate, a Lizzie Evans; Parch. W. a Mrs. Richards. Heddwch i lwch ein hanwyl frawd, yn naear Cymru, a nodded y nef fyddo dros y weddw a'r holl deulu, yn eu hadfyd. EGLWYS ST. MAIR, CAMBERWELL.—Dydd Llungwyn aeth Ysgol Sul yr Eglwys uchod am ei gwibdaith arferol, a'r tro hwn dewis- wyd Ashtead, Surrey, fel man ei hymweliad. Er mor oer oedd yr hin, credwn i bawb fwynhau eu hunain yn bur dda. Ar ol cyrraedd y lie, eisteddodd y rhan fwyaf i lawr i bryd 0 de blasus, a baratowyd gan Meistri E. Felton a'i gwmni. I'n hysgrif- ennydd ffyddlon, Mr. Charles Solomon, y mae i ni ddiolch am wneud y trefniadau. Ar ol te, aethom i fyny ar y fron y tu hwnt i'r pentref, pryd y tynnodd Mr. Wynne ddar- lun ardderchog o'r oil ag oedd yn bresennol. Daeth pawb yn eu hoi yn ddiolchgar, ac os heb gael llawer o gwmni'r haul, eto anadlwyd awyr iach a phersawrus, o'r fath ag a rydd y wlad i ni ar y tymor yma o'r flwyddyn. DEIGRYN hiraeth ar ol fy nghyfaill hoff, y diweddar Mr. John Pierce, o Eglwys Dewi Sant, Llundain. Bu farw Mai 18, 1907. Dydd du oedd hwn yn Eglwys Dewi Sant, Pan y cymerwyd un o'i ffyddlon blant Trywanwyd calon pawb a thrydan gledd, Uwch ben marwolaeth un oedd llawn o hedd. Un diwyd oedd, ac yn cynllunio byw- Am flwyddau maith-nid hyn oedd bwriad Duw; John Pierce hoff symudwyd uwch bob clwy, Rhy addfed oedd i'w adael yma'n hwy Nid gwiw yw edrych am ein hanwyl ffrynd 0 ferw'r ddinas fawr-mae wedi mynd ) Na chwaith i Lanfihangel Geneu'r Glyn. Lie gorwedd ei weddillion y pryd hyn; Elfen hiraeth welir yno-a braw, Ond ffydd a gobaith gwel i'r ochr draw. Rhaid edrych am ddiddanwch lie cadd ef, Diddanwch Ysbryd Duw ar ffordd i'r nef; Dyma nerth dirgelwch ei yni byw, A'i lwyr ymroddiad gwir yn Eglwys Dduw. Bu'n dad a phriod cywir yn ei oes Amlygiad llawn o grefydd bur a roes Addysgodd ef ei blant i gadw'r Ffydd Os yn ei fedd—llefain mae bob dydd. Bu'n athraw yn yr ysgol hyd ei fedd Anrhydedd roddodd ar bob swydd a sedd Ynghor yr Eglwys ar y Sul oedd ef- Ond heddyw'n canu mae—ynghor y nef. Gwyddfryn. YR HAF.—Dyma fis Mehefin wedi dod, ac y mae gobaith y ceir tywydd hafaidd bellach. CYMANFA'R PLANT.—Yn y rhifyn hwn rhoddir manylion am enillwyr y gwobrau yng Nghymanfa Plant yr Ysgolion M.C. Llundain. Nos Iau yr wythnos hon y caed yr wyl yng nghapel Jewin. GOFAL A GWAITH.- Yll ol adroddiad yr arholwyr ar yr adran Ysgrifenedig, y mae'r plant wedi dangos cryn fedr a gallu, ac 'roedd arwyddion amlwg fod eu hathrawon wedi llafurio yn galed a gofalus i'w partatoi i'r gwahanol arholiadau. CYFARFODYDD MAI. Caed cynulliadau boddhaol yng nghyfarfodydd Cymraeg Eglwys St. Padarn, a chapel y Wesleyaid City Road, ddechreu yr wythnos hon. Yn sicr, nid yw'r bregeth eto wedi colli ei dylanwad ar gynulliadau Cymreig. PREGETHU EFFEITHIOL.-Beth yw prif nod ac amcan pregethu ? Cred rhai mai rhyw- beth i chwareu ar deimladau a gyrru y bobl i wallgofrwydd crefyddol ddylai fod, tra mae'r hen ddosbarth o bregethwyr yn rhoddi pwys ar ddiwylliant meddyliol ac addysg ymarferol drwy gyfrwng y pulpud. Cafwyd engreifftiau o'r ddwy agwedd yn y Boro' y nos Sul o'r blaen. 'Roedd Stanley Jones am ddysgu pob gwrandawr ei gyfrifoldeb per- sonnol, ond ceisiai Peter Price fod yn fath o Evan Roberts, y Diwygiwr. GWAITH A PHROFFES.—Hawdd proffesu bod yn Gristion, ac esgeuluso gweithredu yn unol a'r broffes honno. Mae masnachwyr y dyddiau hyn ar eu prawf, yn enwedig y Cymry sydd yn y fasnach laeth. A ydynt yn gofalu fod eu nwyddau yr hyn a broffesant eu bod ? Gwneir ymchwiliadau manwl gan swyddogion y Llywodraeth yn ystod y mis- oedd nesaf yma, a gofaled y Cymry fod eu nwyddau yn bur ac yn rhydd oddiwrth bob aflendid. Dylai crefydd y capel fod yn ymddygiad yn y siop hefyd. Gwir y dywed- odd y Parch. Sam Prytherch, beth amser yn ol, Mae Mr. Jones yn wr da ar ei liniau," ebe un hen frawd, ond meddai Mr. Prytherch, Beth yw e ar ei draed ? BARDD ARALL. Y gwr fu'n fuddugol yn y gystadleuaeth am y penillion disgrif- iadol goreu o Jewin Newydd yn yr Eistedd- fod ddiweddar, oedd Mr. John Nicholas, o Jewin. Gan ei fod yn dechreu mor addawol, rhaid i ni ddisgwyl am lawer o ffrwyth awen y bardd ieuanc hwn yn y blynyddoedd sydd i ddod. GWLEDD I GROESAWU, neu yn hytrach wledd i ganu ffarwel, oedd y ciniaw a roed yn y National Liberal Club nos Wener diweddaf, tan lywyddiaeth Mr. D. Lloyd-George, A.S. Rhoddi cyfle i'r Seneddwr William Hughes, o Awstralia, i ddod i gyffyrddiad a llu o hen Lundeinwyr, ac i'r Llundeinwyr Cymreig ddod i ddymuno'n dda i Mr. Hughes, oedd prif amcan y cyfarfod a chaed noson lawen a chartrefol dros ben. Ym mysg y cwmni roedd Mri. Herbert Lewis, A.S., W. Llewelyn Williams, A.S., Timothy Davies, A.S., Owen Philipps, A.S., Mr. W. L. Griffith (Canada),. Parch. G. Hartwell Jones, Mri. John Hinds, J. T. Lewis, P. W. Williams, John Owen, a Rhys Roberts, a'r Parch. J. Thickens,, ynghyd ag ysgrifennydd y mudiad, Mr. E.- Vincent Evans. Y SIARADWYR. Caed araith hapus a- theyrngarol gan y llywydd, a galwodd ar Mr. Herbert Lewis i gynnyg iechyd da i Mr. Hughes, a gwnaed hynny yn felus a difyr gan yr aelod tros Flint. Atebwyd gan Mr. Hughes mewn araith faith ac edmygol i'r Cymry yn Awstralia. Cymry tu hwnt i'r moroedd" oedd llwncdestyn Mr. W. Llewelyn Williams, a chaed hanes doniol ganddo am waith Madog yn darganfod America yn yr oesau gynt, ac am y modd y gofalai Mr. Griffith am Canada yn yr oes. hon. Atebwyd yn hapus gan Mr. Griffith,, yna yfwyd iechyd da i'r cadeirydd ar gynyg- iad Mr. 0. Philipps a therfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau," tan arweiniad Mr. David Evans. BATTERSEA RISE.-Tua hanner awr wedi pump prydnawn Llun diweddaf bu farw Mr- David Evans, 33, Henderson Road, Wands- worth Common, S.W., yn dra sydyn o feth- iant y galon. Cleddir ef yn Wandsworth. Cemetery ddydd Llun nesaf, Mehefin 3, am* 4 o'r gloch. Bydd colled fawr ar ei ol yn eglwys ieuanc Battersea Rise, lie yr oedd yn, ddiacon a thrysorydd gweithgar. Ond ei briod a'i nith, Miss Owen, gaiff y golledt, fwyaf. Cydymdeimlwn yn fawr a hwy yn eu galar a'u prudd-der. FALMOUTH ROAD.-Eisteddjod y Plallt. Nos lau, Mai 16eg, cynhaliwyd Eisteddfod1 Flynyddol y Plant, o dan lywyddiaeth Mr- C. Lloyd Davies, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol. Cystadleuodd nifer liosog. iawn o'r plant yn y gwahanol adrannau. Trueni fod mor lleied o aelodau'r Eglwys yn cefnogi mudiad mor bwysig a hon. Gwas- anaethwyd fel beirniaid yn y gwahanol1 gystadleuaethau gan y canlynol:—Mri. D. James (Cerddoriaeth) Wm. Hughes a D. R, Hughes (Adroddiadau); J. Richards a Mrs. J. Davies (Amrywiaethol). Enillwyd y gwobrwyon gan-Adrodd dan 8 oed 1, May, Thomas; ail, Howell Jones. Adrodd' dan 12 oed: Jennie Evans a Llew Jones (cyfartal). Adrodd dan 16 oed 1, Maggie- Evans 2, Maggie Jenkins. Datganu dan 8 oed 1, Blodwen Hughes 2, May Thomas 3, Gwen Davies. Datganu dan 12 oed 1,. Jennie Evans; 2, C. Lloyd Davies; 3, Blodwen Roberts. Datganu dan 16 oed I" Rachel Jones 2, Gwen Davies 3, Maggie- Roberts. Deuawd dan 16 oed 1, Maggie a Gracie Roberts 2, Rachel Jones a Maggie Jenkins. Unawd ar y Berdoneg dan 12 oed 1, Willie Prytherch; 2, Nellie Fellowes. Unawd ar y berdoneg dan 16 oed 1, Annie Evans; 2, Katie Hughes. Parti o 12 dan 16, oed: 1, Parti Gracie Roberts. Map o Wlad Canaan 1, Maggie Jenkins. Free- hand Drawing, dan 12 oed): 1, J. Evans- Davies 2, T. B. Lott. Freehand Drawing, dan 16 oed: 1, John Williams; 2, Annie Evans 3, R. Claridge. Needlework, dan 12 oed: 1, Gracie Roberts a Maggie Hughes; 2, Mary Williams a Blodwen Roberts; 37 Jennie Evans a Katie Evans. Gwniadwaith dan 16 oed 1, Hannah Lewis; 2, Maggie Jenkins 3, Maggie Roberts a Katie Hughes (cyfartal). Mae yr Eisteddfod, o dan nawdd yr Ysgol Sul, ac yn agored i Blant Ysgolion