Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Bu Beirdd Gorsedd Tir larll yn cynnal eu Gorsedd, ym Maesteg, ddydd Mercher di- weddaf, a bu'n ddydd 0 wyl yn yr ardal. Arweinid y gweithrediadau gan Dyfed, a chefnogid ef gan Morien, Cadrawd, Arlunydd Penygarn, Cochfarf, ac ereill.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. DONIAU DIEITHR.-Gan fod tymor y gwyl- iau ar ddechreu y mae'r Eglwysi yn trefnu i nifer o ddoniau o'r wlad ddyfod i'n gwasan- aethu am y tri mis nesaf. SWN ADFER.—Mae'r Parch. Peter Hughes Griffiths yn graddol wella yn Australia, ond ar gymhelliad ei gyfeillion nid yw yn dych- welyd y mis hwn fel y bwriadai beth amser yn ol. Mae'r eglwys wedi estyn ei dymor hyd ddiwedd yr Hydref nesaf. GYDA'R BRENIN.-Bu'r Parch. Evan Jones, Caernarfon, ar ymweliad a'r Brenin Sior yr wythnos hon yn talu teyrnged o warogaeth iddo ar ran yr Eglwysi Rhyddion. Mae'r hen ymladdwr Ymneilltuol hwn yn hen gyfarwydd a brenhinoedd, canys ychydig amser yn ol yr oedd yn cael ymgom ddifyr a'r Kaiser yn ei balas yn Berlin. EGLWYS PADARN SANT.—Deallwn y bydd y Parch. John Humphreys, yr hwn sydd wedi bod yn genhadwr yn New Zealand am dros dair blynedd, yn pregethu yn Eglwys Padarn Sant nos Sul nesaf. Cyn ymadael a'r wlad hon bu Mr. Humphreys yn giwrad ym Mhenygraig yng Nghwm Rhondda. Mae yn gefnder i Mr. John Hughes, Fitzroy Square, un o wardeniaid yr Eglwys uchod. HOLLOWAY. Cynhelir cyfarfodydd pre- gethu Capel M.C. Holloway yn ystod y Sul (yfory), ac yn ychwanegol at sicrhau dau o gewri y pulpud, mae'r swyddogion yno wedi trefnu i Mrs. Laura Evans-Williams ganu unawd gysegredig yn oedfa'r hwyr. Ceir y manylion mewn colofn arall. CASTLE STREET.—Diwrnod mawr ym mysg Sabothau y capel hwn yw Sul y Blodau," a chynhelir y gwasanaethau arbennig hyn yno yn ystod y Sul (yfory). Mae argoelion y ceir cynulliadau llawn iawn. COLLI RHIENI.—Yr wythnos ddiweddaf bu Mr. Evan Griffiths, y masnachydd poblog- aidd o King's Road, Chelsea, ar ymweliad pruddaidd a Chymru. Bu raid iddo fyned i dalu y gymwynas olaf i goffa ei anwyl dad, yr hwn fu farw ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, yn 82ain mlwydd. Sid oes ond tri mis o amser er y bu Mr. Griffiths yn claddu ei anwyl fam—y ddau wedi cyrraedd oedran mwy na'r addewid. BORO'Nos Iau, Mehefin 16, rhoddodd plant y Boro' ddatganiad destlus o'r gantawd A Day in the Woods," gan C. H. Gabriel. Arweiniwyd gan Mr. D. R. Jones, A.C., yn ddeheuig ac effeithiol. Nid oes ymysg Cymry ein heglwysi yn y dref alluocach cerddor na Mr. Jones. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss Jenny Jones, A.R.C.M. Cymerwyd y prif gymeriadau i fyny yn effeithiol gan y Misses Maggie Jones, Rachel Thomas, Ethel Edwards, Marie Evans, Mary Ellen Davies, Gwladys Edwards, Blodwen Hodges, Olwen Jones, Lizzie Evans, Jenny Morgan, Annie Morgan, Maggie Morgan, Hannah Jones, Claudia Evans, Lynnwood Jones, Hannah Gwen Jones, Kitty James, Mri. John Morgan, John James, Thomas James, J. E. Evans, E. D. Evans, Thomas Gibbon James, Rheidol Powell, Emrys James, ac ereill. Canodd y cor y corawdau yn effeithiol, a rhoddodd y gynulleidfa gym- eradwyaeth uchel iddynt am eu destlusrwydd, naturioldeb, a'u disgyblaeth. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf y mae plant y Boro' wedi datganu amryw gantawdau. Nid oes dim yn rhoddi gwell disgyblaeth gerddorol i gor na dysgu llyfr da. Pythefnos yn ol datganodd Cor y Boro' Iesu yn Nain," ac wele eto y plant yn datganu A Day in the- Woods." EGLWYS ST. BENET.-Nos Sul ddiweddaf cynhaliwyd gwasanaeth arbennig, gan fod y Weddi Brydnawnol" wedi cael ei dweyd am 4 o'r gloch, yn lie yr Ysgol. Felly am 6 30 dechreuwyd drwy ganu emyn gorym- deithiol Marchog Iesu yn llwyddiannus," a gweddiwyd amryw golectau gan y Ficer, yna. cawsom ddatganiad melus a da o'r rhan gyntaf o'r gantawd Prynedigaeth y Byd," gan V. Hemery, wedi ei addasu i'r Gymraeg gctn Mr. D. Emlyn Evans. Cynwysa y gwaith ragymadrodd i'r offerynau, ynghyd ac unawdau i'r pedwar prif leisiau, pedwar- awdau, deuawdau, a chydganau. Ar ddiwedd y rhan gyntaf, cawsom bregeth ardderchog a phwrpasol iawn i'r gwasanaeth gan y Parch. D. Jenkyn Evans, Ficer Porthfaen a Morville, yn cael ei dilyn gan emyn "0 Gariad, 0 Gariad," &e. Yna dechreuwyd ar yr ail ran o'r gantawd, a diweddwyd gyda'r hen emyn ardderchog Duw mawr y rhyfeddodau maith," a datganiad o'r Fenditk gan y Ficer. Cymerwyd yr unawdau gan aelodau Cor yr Eglwys, sef Mrs. Whiterod, Miss Getta Davies, a Mr. W. Emlyn Edwards, L.R.A.M., a'r deuawdau a'r pedwarawdau gan Mrs. Emlyn Edwards, y Misses Row- lands, G.S.M., Annie Davies, M. Davies, M. Howell, A. Evans, a'r Misses Lewis, y Mri. Edwards, W. Owen, a C. Morgan. Gwnaeth yr oil eu rhan yn ysplenydd, fel y cawsom ddatganiad da o'r gwaith, yr hwn a gymerodd dros awr o amser. Chwareuwyd yr organ gan Mr. Sydney Brown, tra yr arweiniwyd yr oil gan Clwydian," organydd yr Eglwys. ——— G. WALHAM GREEN.—Boreu Sadwrn, Mebefin, lleg, bu farw yn 75 oed, Mrs Phillips, serchus briod Mr. Isaac Phillips, 10, Walham Grove. Daeth Mr. a Mrs. Phillips i fyny o Ddinbych tua 40 mlynedd yn ol. Ymsefyd- lasant yn Fulham, lie y mae y teulu yn fawr eu parch. Ymunodd a'r Eglwys yn Walham, Green tua 13 mlynedd yn ol ar ei sefydliad. Cynhaliwyd gwasanaeth yng nghapel Wal- ham Green, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Davies (y gweinidog), a S. Taylor. Datganodd Mr. Thomas (Warwick Road) ar ran yr Eglwys, ei gydymdeimlad dwfn a Mr Phillips a'r plant yn ei galar. Siaradodd Mr. Timothy Davies yn uchel iawn am Mrs Phillips yr oedd yn ei hadIJabod er pan y daeth i Fulham. Bu yn hynod weithgar a ffyddlon gyda'r achos yn Hammersmith er ei gychwyniad ac wedi aberthu llawer er mwyn ei enw Ef. Yr oedd yn wraig dawel a charedig, ac yr oedd yn credu fod popeth yn dda rhyngddi hi a'i Harglwydd. Gweddi yr Eglwys oedd am i Dduw fod yn nodded i Mr. Phillips a'r plant. Canwyd yn y capel gyda dwysder, Mor ddedwydd yw y rhai trwy Ffydd," ac hefyd wrth y bedd, Bydd myrdd o ryfeddodau." Y galarwyr oeddynt Mr. Isaac Phillips, Mrs. E. Archer, Mr. a Mrs. Nutt, a Mr. Caradog Phillips a'r plant. Daeth cynulliad lliosog i dalu y gymwynas olaf i'r chwaer anwyl. Yn eu plith yr oedd y blaenoriaid, Mri. Timothy Davies, John Thomas (North End Road), John Jenkins, Isaac 1. Lloyd, a John Thomas, Warwick Road hefyd Mr. John Hughes, Mr. Thomas Jones (Cenhadwr), Mri. Robert Parry, William Jones, Gomer Jones, W. Hughes, Ben Evans, John Lloyd, Mrs. John Jenkins, Mrs Webber, Mrs. Thomas (War- wick Road), Mrs, Hubert Thomas, Mrs. Wm. Williams, Mrs D. Davies, Mrs. R. T. Williams, a Mrs. Ben Evans.
[No title]
Rhaid i gyfansoddiadau Eisteddfod Colwyn Bay fod mewn llaw erbyn y laf o Orffennaf, ac enwau yr ymgeiswyr yn y gwahanol adrannau ereill gyrraedd yr Ysgrifeoyddion erbyn y 15fed o'r un mis.
A BYD Y GAN.
pryd, y mae'n galondid mawr i Mr. Davies ddeall na chawsant lawer o gyfle i fod yn llawdrwm arno y tro hwn. Dyma ddyfyn- iarluu o rai o'r beirniadaethau a gyhoedd- w.vl :— Daily Telegraph: Mr. Gwynne Davies has a genuine tenor voice of agreeable quality and adequate range, and he possesses plenty of temperament. His rendering, at the outset, of Bach's beautiful air, My dearest Jesu, I have lost Thee," revealed no little skill in interpretation, and was marked with genuine fervour. The Welsh artist afterwards presented Jensen's charming song, Lehn deine wang an meine Wang," in an attractive light, and threw much fire mto his rendering of Rubenstein's Der Traum." He reflected faithfully, too, the impassioned mood of Greig's Eros." The obvious sincerity and earnest- ness of the singer, and the zeal with which he flung himself upon his task, could not fail to make an impression. Morning Post :-The reputation of Wales as the land of good voices is well sustained in the case of Mr. Gwynne Davies, who gave his first vocal recital at Bechstein Hall last night. His voice is a tenor of excellent quality, and legitimate character with it, he combines temperamental gifts which enables him to express all phrases of feeling with conviction. The possibilities of his voice are great. He sang songs in English, Welsh, and German, with excellent charac- terisation and won the entire approval of his audience. Pall Mall Gazette :-A new Tenor.—Mr. Gwynne Davies may be said to have made a good beginning. What promises well for his future career is the evidence of temperament and a voice of much power and no little attractiveness of quality. The Standard :-Mr. Gwynne Davies is a Welsh tenor with a voice of good range and pleasant quality. Jensen's Lehn deine Wang' an meine Wang'" and Rubenstein's "Der Traum were given with sym- pathy and taste, and his singing of Cornelius's 11 Komm, wir wandeln and of Korbay's "List to me, Rosebud," which was encored, won general approval. He evidently possesses musical instinct, as he phrases well and sings with feeling. Lancet in Referee "Mr. Gwynne Davies gave a recital and created a most favourable impression by the musical quality of his voice, and his dramatic style. Mr. Gwynne Davies has a future. Gyda'r fath gymeradwyaeth ni raid i Mr. Davies wanobeithio, a sicr y ceir clywed am dauo yn ami yn y prif gyngherddau ar ol hyn. Pob llwydd iddo yn ei fyd newydd. Miss Ceinwen Price. Cynorthwywyd Mr. Gwynne Davies yn ei gyngerdd gan ereill o ddisgyblion y gan a'r areithfa. Gwasanaethwyd fel cyfeilydd gan Mr. Idris Lewis, gwr ieuanc sydd yn graddol ennill ei le fel perdonydd o'r radd flaenaf, a gwnaeth ei ran yn gelfydd iawn y tro hwn. Fel unawdydd ar y berdoneg cafwyd cyn- rychiolydd campus yn Miss Hilda Saxe, merch ieuanc sydd yn debyg o wneud enw iddi ei hun yn y gelf hon. Ac at y rhai hyn dylid ychwanegu Miss Ceinwen Price, yr adroddes, yr hon gyflwynodd nifer o ddarnau yn hynod o effeithiol. Ychydig amser yn ol gwnaeth Miss Price ei hym- ddangosiad cyntaf yn y cylch Seisnig fel adrcddwraig, a chydnabyddid ar y pryd fod ganddi dalent arbennig at y gwaith. Er yr adeg honno nid yw Miss Price wedi gorffwys ar ei rhwyfau, canys yr oedd yn amlwg ei bod yn llawer mwy cartrefol ar y llwyfan yn awr, a'i llais dan reolaeth drylwyr. Rhagorai yn y darnau chwareus a gyflwynwyd ganddi, a bu raid iddi ail ymddangos ar ol gorffen ei rhan, yr hyn dystiai i edmygedd y dorf o'i thalent arbennig. Yr ydym wedi cwyno yn ami am nad oes gennym gynrychiolwyr teilwng ym myd areitheg, ond pan y gwelwn ein merched ieuainc yn ymgymeryd at yr adran hon ni fydd eisieu digaloni na roddir i ni ein lie cyfiawn cyn bo hir. Mae Miss Price yn sicr o gadw i fyny ein hurddas yn hyn o faes, os nad ydym yn camgymeryd yn ddirfawr.