Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CAPEL SHIRLAND ROAD.

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

MANION. PRIODAS AERES BRONWYDD.-Dydd Sadwrn diweddaf yn eglwys enwog St. Georges, Hanover Square, unwyd mewn glan briodas, Miss Nesta Lloyd, Bronwydd, Sir Aberteifi, a Mr. F. E. Withington, Bicester, mab y diweddar Barch. F. Withington. Hana'r wraig ieuanc o hen deulu parchus a phob- logaidd yng ngodre Sir Aberteifi. Hi yw merch hynaf Sir Marteine a Lady Lloyd, y Bronwydd, ger Henllan, ac mae ei rhieni yn fawr ei bri gan dylawd a chyfoethog yn ardal Oastell Newydd Emlyn. Yr oedd yr eglwys wedi ei haddurno a blodau ar yr amgylchiad a daeth torf o urddasolion yno i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Rhoddwyd y cwlwm priodasol gan Canon Syr John Hawkins (ewythr y gwr ifanc), a'r Parchn. D. Anderson, St. Georges, a E. Owen Jones, Llangtmllo. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad, a gwasanaethwyd arni gan bump o forwynion gwych. Ar derfyn y gwasan- aeth caed croesaw yn 41, Wilton Crescent, S.W., lie y daeth torf o wahoddedigion ynghyd i ddymuno llwydd ar yr uniad, ac i weled yr anrhegion hardd oedd wedi eu cyflwyno i'r ddeuddyn hapus. Yn ychwan- egol at y llawenydd a gaed yn Llundain yr oedd yr uniad yn destyn hapusrwydd i denantiaid ystad y Bronwydd am y dydd, a chaed dathliadau 11awen yn ardal Henllan, lie gwelwyd amryw goelcerthi yn goleuo'r ardal hyd hanner nos. EGLWYS ST. MAIR, CAMBERWELL. — Nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf, treuliodd aelodau yr eglwys uchod noson ddifyrus dros ben. Ymgymerodd dau o'n haelodau mwyaf ffyddlon, sef Mr. Lewis, Philip Street, a Miss Mary Jones, Tyneham Road, a'r gwaith o sicrhau cyngerdd ardderchog, ynghyda danteithion blasus. Dechreuwyd am 7.30, ac aed trwy raglen hynod ddyddorol. Gwasanaethwyd gan Llew Caron, Mr. Tudor Evans, Mrs. R. L. Davies, Clapham Junction Miss Enid Edwards, a Mr. Esmond Evans fel adroddwr. Yr ydym fel Eglwys yn teimlo yn wir ddiolchgar i'r boneddigion a'r boneddigesau a enwyd, ynghydag ereill a gymerasant ran, am eu zn caredigrwydd yn ein cynorthwyo fel yma mor galonog. Ni fydd yn iawn i ni adael allan gohetru y gwaith rhagorol a wnaed gan Miss Jones, Tyneham Road, a Mr. Lewis, Philip Street. Y maent bob amser yn hynod barod i wneud rhywbeth er daioni i'r Eglwys yn Camberwell, a thystioiaeth pawb y tro yma eto oedd, iddynt fwynhau eu hunain yn fawr. Y cadeirydd oedd Mr. Enoch Jones, Greenwich, a gwnaeth ei waith yn bur ddeheuig. Brysied y dydd pan gawn gyfarfod eto yn debyg i hwn.— D.D.

Advertising