Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE I CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. I GUARANTEED BY THE Htfrerjiool aittr 3tcrnban au& (iloiie insurance Ota. Assets exceed = i 11,000,000. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS, &c. | KINDLY Special attention is called to the Company's FORE- MOST" Personal Accident & Disease Policy, which WRITE FOR provides for Free Medical Attendance of Assured's nn^np-Tnc- own Doctor, in addition to the usual Compensation PROSPECTUS for Accidents and Diseases. \I,Il;Ui1 Branch Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for L| FE INSURANCE, Branch Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for L| FE INSURANCE, I Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager & Secretary. DANEDD I'R CYMRY. The ALLBRIGHT ENGLISH DENTAL INSTITUTE 42, Bishopsgate Street Without, E.C. HIGH CLASS TEETH ON MODERN PRINCIPLES 25 Expert Mechanicians on the Premises. Perfect Teeth for Singers and Speakers (our speciality). Special Teron for Welsh People. Lowest Inclusive Charges. Country visitors are invited to call for ex- peditious work. Teeth Completed by Arrangement in a few hours. Call or write for pamphlet and map showing exact position in Bishopsgate. Note Name ALLBRIGHT before entering. Estimates Free. Hours 10 till 7 Saturdays, 2 later by appointment. SIAREDIR CYMRAEG OS YN FWY DYMUNOL. All Information Free. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales. PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). STUDENTS are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Bmenw, of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 210. with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, Si. Men Students reside in Regis. tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. Warden- Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DA VIES, M.A., Registrar.
-------YNG NGWAWR Y FLWYDDYN…
YNG NGWAWR Y FLWYDDYN NEWYDD. Unwaith eto y mae'r llongyfarchiadau yn ilifo dros >11 helyntion a thrafferthion bywyd "Blwyddyn Newydd Dda" sydd ar dafodau aneirif, yn ieuanc a hen. Y mae rhai o honom wedi byw yn ddigon hir i ddeall nad yw newid blwyddyn yn newid buchedd, boed dda boed ddrwg. Ond y mae rhywbeth yn y newidiad i fagu ystyr- iaeth, a sobrwydd caloa, ac ymgaia at bethau gwell. Beth ddygir i Gymru yn 1909 ? Y mae arni eisieu llawer; a gaiff hi lawer, sydd bwnc arall. Y mae'n disgwyl am ryddhad crefydd oddiwrth y wladwriaith a diwrnod mawr iddi hi ac i'w chrefydd fydd hwnnw pan ddaw ei disgwyliad iben. Bydd bywyd cenedlaaethol ar ei ennill am byth, er cymaint yr helbul a'r chwerwder yn yr ym- drechfa. Nid oes dim yn peri cymaint o afiechyd i gymdogaeth dda yngfNghymru a sefyllfa yr EgI wys Sefydledig, fel y mae yn Z!5 In bresennol. Ond os yw Cymru yn disgwyl am gael, dylai fod ganddi ddisgwyliad uwch na hwnnw. Beth gaiff Cymru wneud eleni ? Pa gyfle gaiff hi i roddi o'r goreu sydd ganddi ? Y mae llawer o bethau yn ei hamgylchiadau, a'r cyffro sy'n llanw ei chymoedd, y dyddiau hyn, i beri i un ofni rhag iddi feddwl gormod am dani ei hun a rhy fach am ei dyled i ereill. Y mae ar Gymru eisieu tai mwy cysurus, pentrefi mwy dyddorgar a glanwaith, trefi mwy cyfleus i ddiwylliant; ond nid trwy gael eu gwthio oddi allan y daw y rhai hyn. Rhaid iddynt flaguro oddiar lendid mewnol, a'r glendid hwnnw yn cael ei feithrin trwy gyfleusterau allanol. Y mae ymdrechfeydd hyd at asgwrn cefn pob dyn-yn yr ymyl, o blaid rhyddid, a sobrwydd, ac iawnder. Nid amser yw hi i bob un grochlefain dros ei farn fach a'i blaid fach ei hun; ond i'r holl filwyr fod yn y rhengoedd, dan yr un faner, ac yn ateb i lais yr un arweinydd. Cynhaeaf uadeb a chydweithrediad yw hi: gwnaed pob un ei orchwyl yn ei faes, gan gofio ei fod yn cydweithio a miloedd o fed- elwyr ar fausydd ereill. Daw'r cynhieaE adref yn gyfan, os aaghofia pob un ei fym- pwy a'i fantais bersonol, er mwyn elw addfed yr oil. Nid adran, na dosparthiadau —ond cenedl a chenedl er mwyn cenhed- loedd ereill. ELFED.
------------------.SWN AMHEUAETH.
SWN AMHEUAETH. Ar ol datganiadau diweddaraf Mr. Asquith a Mr. Lloyd George, y mae cryn amheuaeth yn bodoli ymysg arweinwyr y pleidiau ym- neillduol beth fydd tynged Mesur Datgys- ylltiad yn rhaglen y tymor dyfodol. Nid oes neb yn ameu na fydd cyfeiriad arbennig ato yn araith y Brenin, ond y pwnc yw, a fydd y Weinyddiaeth yn barod i'w osod yn rheng flaenaf y Mesurau i'w hymladd hyd yr eithaf ? Ac mae'r safle a roddir iddo gan y Llywodraeth yn oll-bwysig i ni fel cenedl. Os na yrrir y Mesur drwy ei dri darlleniad yn y Oyffredin yn ystod bywyd y Wein- yddiaeth hon, y mae'n ddigon eglur na cheir Datgysylltiad o gwbl yn ystod oes y to presennol. Beth bynnag ellir ddiwygio ar Dy'r Arglwyddi bydd bwgan yr Eglwys yno o hyd yn ben, ac ofer yw meddwl y ceir un math o Dy uchaf nas deil i fynu holl draddodiadau yr Eglwys sefydledig, felly y mae o bwys dirfawr i ni godi ein llais yn ddigon croyw ar y dechreu, fod yn rhaid i Fesur hir-ddisgwyliedig y Cymry gael ei le priodol, y lie blaenaf, yn y rhaglen osodir ger bron y Ty yn araith y Brenin. Er mwyn sicrhau ei le priodol i'r Mesur, dylai'r Ymaeillduwyr, drwy eu harweinwyr, wneud ceiaiadau arbennig ar i'r Weinydd- iaeth drefnu'r ffordd i gadw ei haddewid ynglyn a Chymru. Yr ydym fel cenedl wedi disgwyl yn ddigon hir, ac wedi bod yn amyneddgar tu hwnt i fesur, a'n hunig obaith am y dydd disgwyliedig yw, ar i'r Weinyddiaeth hon wthio y Mesur drwodd yn lied gyflym, er mwyn gweled beth fydd ymddygiad yr Arglwyddi tuag ato. Os mai ei wrthod wnant, yna daw yn un o brif gwestiynau yr Etholiad Cyffredinol. Ac, ond i ni gael hynny, y mae gobaith y gellir gorfodi y gwrthwynebwyr cyn bo hir i roddi i'n gwlad y mesur o ryddid y mae wedi ceisio mor hir am dano.
[No title]
MAE'R pwyllgor sy'n gofalu am reolaeth y Ctwb Cymreig, Llundain, wedi trefnu i ffurfio Ilyfrgell ynglyn a'r sefydliad. Yn hon bwriedir cael casgliad gwych o lyfraii Cymreig, a phopeth o ddyddordeb i lenorion Cymru.