Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE CSNTRAIj INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co. Assets exceed 911,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. DANEDD I'R CYMRY. The ALLBRIGHT ENGLISH DENTAL INSTITUTE 42, Bishopsgate Street Without, E.C. H.GH CLASS TIESJESTJBE ON MODERN PRINCIPLES 25 Expert Mechanicians on the Premises. Perfect Teeth for Singers and Speakers (our speciality). Special Term for Welsh People. Lowest Inclusive Charges. Country visitors are invited to call for ex. p-ditious work. Teeth Completed by Arrangement in a few hours. Call or write for pamphlet and map showing exact position in Bishopsgate. Note Name ALLBRIGHT before entering. Estimates Free. Hours 10 till 7 Saturdays, 2 later by appointment. SIAREDIR CYMRAEG OS YN FWY DYMUNOL. All Information Free. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgrifau gwrthodedig.
CREU RHWYSTRAU.
CREU RHWYSTRAU. Fel yr hysbyswyd gennym yr wythnos ddiweddaf, mae y pedwar Esgob Cymreig wedi gwrthod cymeryd rhan yn y Gynhad- ledd a fwriedir gael yng Nghaerdydd i hyrwyddo'r cais tros sicrhau Y sgrifennydd i Gymru. Rhagor na hyn mae'r Eagob Owen wedi cyhoeddi ei anghymeradwyaeth o'r mudiad, ac o'r cais am gael Cyngor Addysg arbennig i Gymru. Trwy eu hymddygiad gwrth-Gymreig wele'r arwein- wyr Eglwysig yn gwneud eu .goreu er gwneud y ceisiadau yn fafcer plaid yn hyt- rach nag yn fater cenedl. Prin yr ydym yn credu y buasent yn yniddwyn mor anheyrn- gar pe bae Gweinyddiaeth Doriaidd mewn awdurdod, a bydd yn syn gennym weled un o honynt yn codi i gondemnio'r ceisiadau yn gyhoeddus yng Nghymru. Na, rhyw ymladd yn anheg a Ilechwraidd y mae'r dosbarth hwn bob amser, ac mae'r ymddygiad olaf yma o geisio codi rhwystrau ar Iwybr ein bywyd cenedlaethol yn wers a hir gofir gan y genedl, ac yn sicr o gael ei adgoffa pan fydd gan yr Esgobion gais i'w wneud. Yn ei lith dywed yr Esgob Owen bethau canmoliaethus am y Bwrdd Canol yng Nghymru. A phan gofir iddo ef a'i ddosbarth wneud eu goreu yn erbyn sefydlu y Central Welsh Board, y mae'n syndod i'w glywed yn cyhoeddi ei fendith uwch ei ben yn awr. Y gwir am dani yw, nad yw'r cyfan ond trie gwleidyddol o'r fath waethaf, ac yn deilwng o gael ei restru gyda'u gwaith yn cadw draw rhag helpu Ty'r Arglwyddi i sobreiddio'r wlad pan oedd y Mesur Trwyddedol di- weddaf tan ystyriaeth yno. Mae clywed pobl fel hyn yn siarad tros y Mesur pan ymhlith eu praidd, ac yn gwrthod myned i'r Ty i'w gefnogi yn esiampl nodedig o'r hyn a gredant yw eu dyledswyddau at eu pobl yn ogystal ag at eu gwlad. Rhaid i'r naill fel y Hall gael eu bradychu os bydd hynny yn fanteisiol i'w plaid wleidyddol hwy. Y fath humbugiaeth tan rith crefydd
-----CYMRY YN ALASKA.
CYMRY YN ALASKA. ( Parhad.) Palas yr Eira. Gan fod yr hin yn rhy oer i fyw mewn goraeth (tent) y gauaf yma, yr ydwyf wedi adeiladu log cabin-gosod y coed, pren ar bren, a llanw rhyngddynt gyda mwswgl polion ar y to, ychydig o fwswgl i gadw'r baw rhag syrthio rhwng y polion, a rhyw bedair modfedd o bridd ar y top. Gallaf blanu lettuce (gwylath) neu faip yn yr haf ar y tô. Wedi gorffen y castell ac iro sach flawd hefo lard a'i hoelio yn lie gwydr i wasanaethu fel ffenestr, a naddu polion, gyda chanfas yn ddrws. Daeth ataliad ar y gwaith, gan nad oedd gennyf "hinges," a chan ein bod ddeuddeng milldir oddiwrth siop, rhaid oedd cael rhywbeth am y tro, ond nid oedd yma ledr na dim. Pa fodd bynnag, gwnes bar efo plisgyn neu groen bacon (bacon rind), ond gwnes gamgymeriad mawr trwy ei hoelio ar yr ochr allan i'r adeilad, a'r canlyniad fu pan ddeuais yn ol wedi bod yn hela, fod haner blaidd i fewn yn y cabin, wedi bwyta'r hinges ac yn helpu ei hun i dorth o fara. Mae yn ddiameu gennyf pe bawn wedi aros awr yn hwy, y buasai'r creadur tenau wedi bwyta'r stove. Gwersyll newydd ydyw hwn rhyw ddau gan milldir i'r gogledd o Fairbanks ar lan afon Tanana, ryw ddeugain milldir o Fort Gibbon ar yr Yukon. Gelwir y dref Hot Springs, gan fad y lie yn llawn o ffynonau poethion sy'n cadw y ddaear yn boeth fel na rewa am rai milltiroedd. Y mae pob math o lysiau yn tyfu yma, hyd yn oed sweet corn a tomatoes. Yr ydwyf yn byw yng nghanol y goedwig ar lethr mynydd 12 milldir o'r lie uchod yn torri coed ar specu- lation i'r boilers mawr sydd yma eisoes. Os try y gwersyll newydd hwn rywbeth yn debyg i Fairbanks neu Dawson bydd y coed gystal a claim unrhw ddydd. Y Golygfeydd. Un noson braf ym mis Medi aethum gyda Sais o'r enw Shaw i gopa un o'r mynyddoedd hyn i gael golwg ar frenin bryniau Alaska, sef Mount McKinley, a'i ddwy fil ar hugain o droedfeddi yng ngoleu lleuad. Eistedd- aSlm yng nghysgod craig am ysbaid dwy awr i aros haul Dafydd Jones godi, ond cyn i'r tywyllwch tew ein hamgylchu, gwelsom ddwy arfches wrth droed- y mynydd a gwnaethom bopeth yn barod i roi derbyniad cynnes iddynt os y deuent yn nes atom, ond deallasant yn ddiameu ein bod ar y bryn, ac yn gwybod hefyd mai un marwol oedd gwn Morris, felly troisant i rywle arall i bori ar y grawn. Yn fuan taenwyd mantell o dywyllwch dros y lie, a chododd y gwynt i suo heibio ystlys ein lloches wael. Dech- reuasom rwgnach a blino aros cyhyd, a gwnaethom ein meddyliau i fyny i fyned adref a dod yn ol ryw noson gynesach. Gan fod y lloer yn debyg iawn i galon menyw, bob amser a dyn ynddi, felly yn anmhosibl dibynnu arno, ni allem fyned adref gan ei bod mor dywyll, felly bu raid aros am ychydig yn rhagor. Cyn bo hir gwelwn goryn arianaidd McKinley, a choron o oleuni uwch ei ben, fel rhyw gip o nwy ar gap y nos. Ymhell tua'r de gwelwn ddwy fflam goch yn goleuo'r awyr ac yn esgyn i'r nefoedd o fynydd tanllyd Mount Wrangle, sydd yn poeri tan a mwg er's oesoedd lawer heb leihau—neb llai na Duw ei hunan yn ddiameu yn alluog i borthi y crochan hwn a defnydd tan o hyd. Ar ei ymylon y chwareua yr Aurora Borealis yn gwefrio ei belydrau trydanol amryliw o bolyn i bolyn. Meddyliais wrth edrych arnynt fod Mount Wrangle yn porthi yr Aurora, a dywedais wrth y Sais- Aurorau ei goleu ga 0 grochon y Duw gorucha. Ond nid englynwr Cymreig yn siwr ydoedd Shaw. Fel yr oedd y lloer yn dringo'n uwch, yn is y gwelwn y goleuni o r McKinley, a'r tywyllwch ymhob man arall heblaw ar ei goryn marmoraidd disglair, a meddyliais wrth ei weled mor agos i'r awyr fod Mab y saer ymhob seren-y gwelwn Yn gwylio'i ffurfafen; > Cadwa Bill rhag codi'i ben, I dwymo, a'i troi'n domen. Yfais y gweledigaethau nefolaidd hyn am ddwy awr, wedi fy syfrdanu cyn i'r lloer ddechreu ymddangos ar y cribau islaw. Edrychent fel lli fawr a'i danedd i fyny, ac o droedfedd i droedfedd esgynodd i'r gwas- tadedd. Gwlad y Gwylltfilod. Dywedir fod defaid gwylltion wrth y canoodd hyd yn oed ar gopa McKinley yn chwilio am damaid melus, a bod geifr yn gwneud eu cartref ar ysblentydd oesol y Rockies a Ptarmigan, mor uchel ag y tyf yr helyg man eirth ar ei chlogwyni isaf a moose mawr ar gopa'r timber line, y llwynog a'r blaidd, ieir y mynydd, lynx, wolverine, a chreaduriaid dirifedi, yn y coedwieroedd o gylch ei draed. Pan dywyna yr haul ar y glaciers maent yn disgleirio fel gwydr, nes y maent bron yn anmhosibl i syllu arnynt. Meddyliwyf yn fynych wrth geisio syllu arnynt am Moses yn edrych wyneb yn wyneb a Duw ar Sinai gynt. Un o'r golyg- feydd prydferthaf a welais erioed oedd afon risialaidd yn rhedeg o dan un o'r rhai hyn am filldiroedd o'r lie y torrai allan o'r mynydd, Rhaid fod y glacier oddeutu dau gant o latheni o uchder ac oddeutu dau gant o droedfeddi o led, a phob rhyw ychydig eiliadau byddai holl wyneb y rhew yn disgyn i'r afon islaw, rhyw dair neu bedair troed- fedd o drwch, yn rheolaidd trwy'r dydd a'r nos; ac ymddengys nad ydyw y glacier yn lleihau er yr holl dunelli sydd yn disgyn yn ystod yr haf. Cerddais ar y gwastadedd am oddeutu 40 milltir ar for o rew hollt. Yn awr ac yn y man lied orweddais ar ei ymylon, ond nis gallwn weled y gwaelod. Weithiau clywn Awn dwfr ym mherfeddion y ddaear. Yn 1898 syrthiodd dyn i lawr i un o'r holltiau hyn; ond gan nad oedd ganddynt raffau i'w gyrraedd nid oedd dim i'w wneud ond ei adael yno, a dywed rhai eu bod yn medra ei weled oddeutu dau gant o droed- feddi i lawr, a rhewodd y creadur druan yn eu golwg. Rhaid terfynu yn awr gan fy mod yn arogli y sour dough bread yn llosgi yn y pobty, a chan fod mis er pan gefais grys glan mae'n rhaid golchi cyn myned i wala.