Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD LLUNDAIN.
EISTEDDFOD LLUNDAIN. RHAGLEN YR WYTHNOS. DYDD MlIWRTH (15fed). 9 15 Hyde Park (Kensington Gardens). Gorsedd y Beirdd. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Arglwydd Tredegar. Cystadleuaeth Pedwarawd. Amryw gystadleuon. 1 0 Cadeirydd y prydnawn, y Gwir Anrhydeddus A. J. Balfour, A.S. 2 15 Cystadleuaeth y Corau Mawr. 8 0 Cinio'r Meddygon Cymreig. DYDD MERGHER (16eg). 9 15 Cymdeithas Can Gwerin Cymru (tan nawdd Cymdeithas y Cym- mrodorion). 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Arglwydd Aberdare. Unawdau a chystadleuon ereill. 2 0 Cadeirydd y prydnawn, y Prif Weinidog, Mr. H. H. Asquith, A.S. Coroni'r Bardd. 2 45 Ail Gystadleuaeth Gorawl. 6 0 Cyfarfod y Beirdd. Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. 6 30 Cymdeithas Lyfryddol Cymru yn Castle Street. 8 0 Cyngerdd cyntaf yn Queen's Hall. Cadeirydd, J. Pritchard Jones, Ysw., D.L. DYDD IAU (17eg). 9 15 Gorsedd yn Kensington Gardens. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Syr John Williams, Barwnig, K.C.V.O. 12 0 Cystadleuaeth y Madrigals. 2 0 Cadeirydd y Prydnawn, y Gwir Anrhyrlerldus D. Lloyd George, Ysw" AS. Cad (,i rio'r Bardd. 3 0 Corau Merched. 5 0 Cymdeithas yr Orsedd a'r Eis- teddfod yn Albert Hall. 8 0 Ail Gyngerdd yn Queen's Hall. Cadeirydd, Syr S. T. Evans, K.C., A.S. DYDD GWENER (I8eg). 9 15 Yr Orsedd yn Kensington Gardens. 11 0 Eisteddfod yn Albert Hall. Cadeir- ydd y boreu, Arglwydd Mostyn. Cystadleuon amrywiol. 1 45 Cadeirydd y prydnawn, Madame Patti. 2 0 Cystadleuaeth Corau Meibioo. 8 0 Cyngerdd Cenedlaethol yn Queen's Hall. Cadeirydd, E. Vincent Evans, Ysw. Rhaglen yn cynnwys yr holl fanylion am yr Eisteddfod a'r Cyngherddau, pris SwIll. Ar werth yn yr Alberl Hall.
CROESAW LLUNDAIN.
CROESAW LLUNDAIN. Heddyw lllae'1' Eisteddfod yn dechreu ar ei gwaith. Pan eilw'r corn gwlad ei luoedd ynghyd i erddi Kensington, bydd Cymry'r ddinas yn barod i ufuddhau. Er cymaint y gwawd roddir ar ben yr hen Orsedd, deil yn ei bri i swyno'r Oymro ym mhob gwlad ac mae urddas swydd yr Archdderwydd heddyw yn hawlio gwarogaeth plant y genedl ymha le bynnag y b'ont. Daw If or Hael," a'r cylch barddol, i agor y gweithrediadau yn yr Albert Hall, ac mae Arglwydd Tredegar yn hawlio hyn o an- rhydedd, oherwydd ei gysylltiadau teuluol ef a'r hen Wyl. Yn oedfa'r prydnawn, ceir cyne i glywed Cyn-Brifweinidog y Deyrnas hon yn rhoddi araith, a gwyr pawb sydd yn ei adwaen yn bersonol fod Mr. Balfour yn gerddor o gryn f ri, a dyddorol fydd cael ei farn ar ganu'r Cymry yn yr Wyl heddyw. Rhoddwyd croesaw cynnes i'r ymwelwyr a'r Gorseddogion neithiwr gan Grymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, dan arwein- iad Arglwydd Tredegar. 0 bell ag agos, dylifai'r torfeydd ynghyd i'r ystafelloedd gorwych yn Piccadilly, ac yn swn cerdd ac alaw caed noson hapus. Yn yr areithiau a gaed, rhoddwyd croesaw calonnog i'r dieithr- iaid a'r ymwelwyr, a theimlai pawb fod yn bosibl teimlo'n gartrefol ar ol y datganiadau teuluol hyn. Yng ngwahanol gyfarfyddiadau yr Orsedd, rhoddir cyfle i'r Llundeinwyr weled a chlywed rhai o'r ymwelwyr hyn a sicr y bydd pawb yn unol er codi yr hen wlad a'i defion i uwch bri nag y buont erioed yn ei hanes.
[No title]
BLIN fydd gan lawer ddeall am hryder Elfed y dyddiau hyn. Mae mab bychan iddo yn gorwedd yn wael iawn, ac yn anyra- wybodol ers dyddiau. 0 nan y fath bwn, amhosibl fydd gwneud dim ynglyn a'r Eis- teddfod. DIWRNODAU y trioedd yw y rhain; a phriodol sylwi mai tri phrif-feirdd Llundain ydynt, Elfed, Rhuddwawr a Machreth. DYWED y rhai sydd wedi cael cyfleustra i glywed Cor yr Eisteddfod yn ymarfer, ei fod yn un o'r rhai goreu a welwyd ynglyn ag unrhyw Wyl yn y blynyddoedd diweddaf hyn. Mae disgwyliad cyffredinol am dd-t- ganiad tra effeithiol o Caractacus" ganddo nos Fercher. CYFERFYDD y meddygon Cymreig i gyd- wledda beno. Gan eu bod yn manteisio ar wythnos yr Wyl i gynnal ei gloddest, dis- gwylid y buasent yn gwahodd nifer o'r beirdd i'r cynulliad; ond deallwn mai ychydig o'r ymwelwyr hyn sydd yn ddigon urddasol i ymuno a'r cwmni,
YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. CROESAW Y CYMMRODORION. Neithiwr dechreuwyd ar waith wythnos yr Eisteddfod. Rhoddodd Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion groesaw i'r beirdd a'r Eisteddfodwyr mewn ystafelloedd hardd yn Piccadilly, a daeth cynulliad mawr ynghyd. Tro hapus oedd hwn ar ran y Cymmrodorion, a thro teilwng o anrhydedd a safle yr hen Gymdeithas. Am dros gant a hanner o flynyddau mae aelodau y Cymmro- dorion wedi bod yn noddwyr cysson i len a chan y genedl, a phan mae y brif wyl ar ymweliad a'i dinas ei hun nid oedd ond priodol iddi ei chroesawu mewn modd urddasol, yr hyn a wnaeth. Arglwydd Tredegar oedd yn derbyn y gwahoddedigion, a chan mai efe yw pennaeth y Gymdeithas ar hyn o bryd hawdd deall yr ysbryd gwir Gymreig sydd yn rheoli y gweddill o'r aelodau. Wedi i'r cwmni gael ymgom a gwneud eu hunain yn gattrefol caed araith a chan i lonni'r dorf. Siaradwyd gan yr Archdderwydd ar ran y beirdd, gan Syr Marchatit Williams ar ran Cymdeithas yr Eisteddfod, a chan Syr John Lillys, i ddiolch i'r Llywydd, ar ran y Cym- mrodorion a chydunai pawb a'r teimladau siriol a ddatganwyd drwy yr areithiau. Oaed rhaglen swynol o ganu yn ystod y cynulliad gan Barti Madame Clara Novello Davies, Miss Winifred Lewis, Mr. Dan Thomas, Mr. Lewis James, ynghyd a phen- niilion dawnus gan Miss Cordelia Rhys ac Eos Dar. Anrhydeddwyd rhai o aelodau Pwyllgor yr Eisteddfod, a'r beirdd, gan foneddigesau perthynol i'r Lyceum Club, a. gwledd flasus hanner Dydd y Llun. Llywyddwyd y byr- bryd gan Arglwyddes Maitland, a chefnogid hi gan Arglwyddes Tyddewi, Lady Evans, Lady Edwards, Mrs. John Hinds, Mrs. Llew- elyn Williams, Mrs. Helme, a Mrs. J. Clarke. Ar ran Pwvllgor Llundain yr oedd Arglwydd Aberdar. Mr Vincent Evans, Mr. Prichard- Jones, Mr. J. Hinds, Mr. Richard Roberts, Mr. J. T. Lewis a Mr. W. E. Davies yn bresennol.
[No title]
'Does dim golwg Eisteddfodol 0 gwmpas Llunden heddi," ebai Eos Dar, pan yn cyfarfod a Silyn ar yr heol. Be ydych chi am weld ? holai'r bardd hwnnw, Beware of pickpockets, fel yr hysbysir ar barwydydd y Sowth pan fo Eisteddfod yno ? Daeth rhai o'r Aelodau Seneddol i groes- awu'r Cymmrodorion neithiwr, ac roedd yn amlwg fod teimladau cryf wedi cael eu har- ddangos yn y gynbadledd gaed yn gynarach yn y dydd. Roedd golwg sur ddifrifol arnynt i gyd. "Mae Eifionydd yn abl i ysgrifenira telegrams yn rhagorol," tystiai Mr. W. E. Davies, y dydd o'r blaen, ond naw wfft i'w lythyrau. Rhaid wrth amynedd Job cyn deongli y rhai hynny." Dydd Iau fydd diwrnod cyflwyno'r urddau i'r buddugwyr ar yr arholiadau barddol. Mae nifer y dosbarth hwn yn cynyddu y naill flwyddyn ar ol y Hall. Bu'r bardd South ey un adeg yn feirniad mewn Eisteddfod yn Llundain. Cloriarinu marwnad Seisnig oedd ei waith; ond ni ddaeth yr un cystadleuydd i'r maes. Beth am gystadleuaeth y Cor Mawr yn y Palas Grisial, pan yr ennillodd Caradog ei fuddugoliaeth—ai Eisteddfod oedd honno ?