Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. Cynhaeaf Eisteddfodol. Er cymaint y curir ar yr ysbryd cystad- leu J, parhau mewn bri mae'r man Eistedd- fodau lleol. Yn ol yr arfer, caed llu o gynulliadau yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst; ac mae pob tref a phentref o fri erbyn hyn wedi sicrhau eisteddfod" yn rhyw fath o wyl flynyddol. Mae'n wir mai yr un darnau a genir, ac yn ami yr un corau a'r un unawdwyr sy'n ennill, ond be waeth am hynny gan y rhai sydd yn eu rhedeg Eu bamcan pennaf hwy yw cael gwyl lwydd- iannus, a rhywbeth a fydd o ddyddordeb i'r cyhoedd yn y tymor yma o'r flwyddyn. Y beirniaid cerddorol yw'r unig bersonau sydd yn rhoddi un math o ddifrifwch ar y cynull- iadau. Ant hwy i'r drafferth o edrych yn hynod sobr ac i anghofio eu hunain trwy draddodi anerchiadau hirion ar y pwysig- rwydd o ddysgu darnau newydd, ac i chwyrnu yn erbyn yr her unawd, a phethau o'r fath gan dybio nad oea neb ond hwy wedi meddwl am y peth. Y gwir yw fod y pwyllgorau Ileol yn chwerthin yng ngbil eu bochau pan yn clywed y traethiadau hyn yn cael eu traddodi, oblegid, yn eu tyb hwy, nid yw'r cyfan ond tipyn o rialtwch hafaidd i "adverteisio'r dref" 0 fewn deng milltir. Ddechreu y mis hwn caed engraiff t ragorol o fri'r Eisteddfod wledig yn un o ardaloedd y Deheubarth. Yng ngodreu Ceredigion mae dwy dref fechan, Aberteifi a Llandyssul ac mae'r ysbryd Eisteddfodol yn fyw iawn ynddynt. Penderfynodd un o'r trefi gael Eisteddfod yn Awst, 1909, ar ddyddiad arbennig, a gwnaed yr un peth gan y Hall. Dyma hi yn ornest galed wedyn pa dref oedd i roddi'r ffordd, gan y byddai yn amhosibl cael dwy Eisteddfod lewyrchus ar yr un dydd mewn dwy dref oeddent yn dibynnu yn hollol ar ddieithriaid. Aeth y ddau bwyllgor mor ystyfnig ag asynod, a bu hyn yn fath o symbyliad iddynt i weithio. Y canlyniad fu i'r ddwy dref gynnal yr Wyl, ac ni chaed erioed ddwy Eisteddfod mwy Ilewyrchus Daeth miloedd o ymwelwyr iddynt, a bu raid gohirio rhan o'r rhaglenni hyd trannoeth Y cyfan yn ffrwyth gweith- garweh a chydymgais Y Gaeaf nesaf. Mae'r rhagolygon eisoes fod Cymry'r ddinas i gael tymor hynod o fywiog, canys gwelir fod rhestr berffaith o gyng- berddau ac Eisteddfodau wedi eu paratoi. Mae pobl Mile End Road yn draanturiaethus, ac yn bwriadu cael Cor Meibion Machyn- lleth i ddyddori'r dorf ym mis Tachwedd. Dyma esiampl gwerth ei hefelychu, a gwnai les i ni gael clywed rhai o'r corau Cymreig yma yn ein mysg yn awr ac eilwaith. Gydag ychydig weithgarwch dylai pobl Mile End sicrhau "full house" i glywed y cor rhagorol hwn pan ddel i'n plith. Cofio Caradog. Caradog a'i Gor Mawr! Dyna un o adgofion disglair y byd cerddorol yng Nghymru. Erbyn hyn mae'r rhai fu'n cymeryd rhan yn yr ornest fythgofadwy honno yn y Palas Grisial yn myned yn llai eu nifer, a dyddiau henaint yn dod i ran y rhai sydd yn aros Ond mae son am Oaradog a'i Gor Mawr yn ysbrydiaeth par- haol i gerddorion Cymru. Caradog oedd un o'r arweinyddion corawl goreu a welodd em cenedl ni, ac mae'n llawen gennym ddeall fod mab iddo yn trefnu coffhau ei dad mewn anodd teilwng ac urddasol. Mae wedi cynriyg dwy ysgolori letli sylweddol, teilwng o'r cylchoedd cerddorol, ynglyn a Oholeg Oaerdydd. Mae'r gyntaf yn ysgoloriaeth gwerth hanner can punt, ac yn agored am dair blynedd i unrhyw efrydydd sydd yn bwriadu myned i fewn am y gradd o Mus. Doc. ym Mhrifysgol Cymru. Mae'r ail ysgoloriaeth yn gynwysedig o ddwy wobr o Y,25 yr un, ac i fod yn ddaledig am dair blynedd, ac yn agored i efrydwyr ydynt yn bwriadu astudio am Diploma yngholeg y Brifysgol. Dyma ysgoloriaethau teilwng o fyd y gan, onide ? a cheir pob manylion ond gohebu a. chofnodydd Coleg Caerdydd—Mr. J. Austin Jenkins. Pedr Alaw. Er ei fod wedi symud i Gymru mae Pedr Alaw yn dal yn ffyddlon i alwadau cylchoedd cerdd. Ar ddydd gwyl y Bane diweddaf, efe oedd prif feirniad Eisteddfod Llan- sannan, a chafodd waith caled drwy y dydd yn cloriannu y gwahanol gystadleuwyr oeddent wedi tyrru i'r lie. Ond nid cerddor yn unig yw Pedr Alaw, canys yn yr wyl dan sylw traddododd anerchiadau barddol i Syr Herbert Roberts, y llywydd am y dydd, ac ereill o urddasolion yr Wyl. Yn yr un Eisteddfod hynododd Miss Kate Cordelia Rhys ei hun fel cantores penillion, a bu raid iddi ateb ail-alwadau nes dihysbyddu ei chruglwyth penillion.
AR GRWYDR.
AR GRWYDR. [GAN O.L.R.] Unig bryder y teithiwr gwledig yn y dyddiau hyn yw'r tywydd Bob pen boreu, yr holiad cyffredinol yw Sut mae'r tywydd ? ac mae'r atebion yr wythnos hon wedi bod yn hynod o amrywiol. Mae'n hen ddywediad gan dramorwyr mai tridiau o heulwen a storm o fellt a tharanau yw haf y prydeiniwr, ond cafwyd pythefnos o heulwen y tro hwn cyn i'r mellt ddyfod i greu rhagor o derfysg ymysg y ffermwyr gwledig. Ond er gwaetha anwadalwch yr hin ni raid cwyno. Mae'r ffermwyr wedi cael cynhaeaf bras, a'r cnydiau wedi. bod yn hynod galonogol. Yr oeddwn yn siarad ag un hen ffermwr yn Nyffryn Clwyd y dydd o'r blaen, a phriodolai ef y cyfan i'r Weinyddiaeth bresennol; y cnydau, yr hin, a'r llwyddiant masnachol. Arwr y Cymro. Nid oes dim byd arall i'w ddisgwyl," meddai, pan y gwyddom fod gwr mor rhagorol a Lloyd George yn gofalu am danom." Dyma arwr mawr y ffermwr gwledig yn y dyddiau hyn ac mae'n amheuthyn eu clywed yn siarad mor gar- trefol ac mor edmygol am y gwr o Griccieth. Cyfrifant ef fel un o'r teulu, un o blant eu haelwyd. Pan yn ei enwi, chlywir byth ddim o'r rhagair Mistir." Gadewir i Saeson a phaganiaid ereill i'w alw yn "Mr. Lloyd George ond Lloyd George blaen yw ef gyda phob Cymro ae, yn wir, a rhai mor eon arno a'i alw yn George yn unig. A phan geir gan genedl gyfan i wneud hyn, nid oes berygl y cyll ei barch nai ddylanwad, a gwae y neb a rydd iddo anair ar unrhyw adeg! Cwyn Ellis. Mewn ymgom a gefais gan Ellis o'r Nant y dydd o'r blaen, yr oedd yn flin gennyf ddeall nad yw'r arwest a geir ar lan Llyn Geirionnydd yn sefydliad arianog iawn. Yn wir, a barnu oddiwrth yr arwyddion, mae mwy o gynffonwyr yn dilyn yr Arwest nag sydd gan yr Orsedd ei hun, a gwyr pawb mai sefydliad hynod deneu yn yr ystyr arianol yw corff y perthyn Dyfed ac Eifionydd iddo. Yr oeddwn yn gweled yn yr Arwest eleni fod amryw o wyr cyfoethog yn barod i dderbyn o'r urddau ac yn sicr dylasent dalu yn hael am y miri hwn. Chwareu teg i'r hen feirdd, o ddosbarth Ellis o'r Nant a'i ganlynwyr, am gadw yr hen ddefodau hyn yn fyw. Maent yn rhoddi cryn ddifyrwch i bobl o'r tuallan, a'r peth lleiaf ellid wneud yw talu ychydig bunnoedd tuag at y treuliau. Gyda'r Ffabiaid. Dosbarth nad oes gennyf fi fawr o olwg arnynt yw'r Ffabiaid yna. Hyd yn hyn nid wyf wedi gallu dirnad o ba les ydynt i gymdeithas, rhagor na bod yn fath o gym- deithas i hysbysu eu hunain. Mae bod yn aelod o'r Fabian Society yn rhyw fath o ernes fod y gwr yn Sosialydd parchus, ac yn nesaf at y Rhyddfrydwr parchus, neu'r Crefyddwr parchus. Y creadur hyllaf ar wyneb daear Daw yw'r Sosialydd parchus. Mae rhyw werth mewn Sosialydd neu grefyddwr, neu Ryddfrydwr; ond pan mae'r bobl hyn yn honni bod yn barchus neu o ddefnydd gwell na'u cymttirodyr, y maent yn fy adgoffa ar unwaith o'r Pharisead hwnnw yn y deml. Wel, yn ardal y Bermo y bu'r Fabiaid yn cynnal eu Hysgol Haf eleni eto; ac o dan lywyddiaeth Mr. Bernard Shaw-y coegyn hynafol hwnnw-y caed nifer o gyfarfydd- iadau. Yr oedd amryw Gymry yn eu plith, ond ni chaiff neb gyfle i ddangos ei hun na'i allu pan fo rhai o'r Saeson hunan- hysbysebol hyn o gylch y fan ac eleni, fel arfer, bu'r cyfan yn fath o ffair neu arddan- gosfa i ddau neu dri o wyr blaenaf y mudiad Ffabiaidd. Coffa Ceiriog. Mae'n dda gennyf ddeall fod y mudiad o blaid codi cofgolofn i Ceiriog yn ennill bri yn yr ardal lie ganwyd y bardd. Y bwriad yw, cael math o neuadd goffa yng Nglyn Ceiriog, ac i fod yn rhyw goffhad priodol i'r gwyr da fu yn trigo yn y cylchmegis Eos Oeiriog-a fodolai yn oes y Brenin Siarl- Ceiriog Hughes; a Chynddelw, yr hynaf- iaethydd a'r lienor gwych. Mr. A. T. Davies, o'r Swyddfa Addysg yn Llundain, sydd wrth y llyw, ac mae pob lie i gredu y llwyddir yn yr anturiaeth. Angen mawr Cymru yw cael lleoedd o'r fath. Nid yn unig gallant fod o les fel sefydliadau addysg- iadol, eithr hefyd yn fagwrfa i ysbryd anibynol y Cymro ac i'w adgoffa o'r llwybrau Ilwyddiannus a gerddwyd gan y tadau yn .yr oesau gynt.
ARIAN. v
ARIAN. v Mae rhai yn dweyd gall arian Ddwyn serch yn well na chusan. Os gwir yw hyn—cred eneth wiw Gwell i ti fyw dy hunan. Paid mynd yn foddion cysur I ddyn sy'n byw yn segur; Ni chei'n ei gwmni fywyd gwyn- Drwy hyn dy lygad egyr. Ni wyr y ffol anhydyn Werth pres ar ol eu derbyn, Fe waria'r oll er boddio'i chwant A thyr y tant yn sydyn. Wrth geisio byw yn uchel- Peth hawdd yw syrthio'n isel, A daw tylodi'n chwim i'r bwth 'Rol hyn y crwth fydd dawel. Mae'n rhaid cael nerth a synwyr I fyw dan werddlas awyr, A chadw'r prês mewn sach yng nghlwm Fel calon blwm pechadur. Gwell mynd yn wraig i gybydd Na'r dyn sy'n gwario beunydd. Mae euraidd god yn hawlio clad- Gwneud lies yw nod awenydd. Nid gwiw yw byw mewn palas A dim ond gwynt yn urddas Heb wen yr aur-diflanna r tes, A'r hanes dry yn ddiflas. Rhaid dechreu byw mewn bwthyn, Ac arfer pwyll wrth esgyn Os na wnei hyn enethig dderch, Paid rhoi dy serch ar lolyn. Harrow. LLINOS WYRE.