Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
»0 Oiie jYLorr,.crt ?Iea-set 1 Tw- PA Do not miss the chance. Our Speeial 2 10 areets OFFER- fy £ > ED FOR FOR 28 DA. YS. K"1" LOOK HERE!! 1 lb Prize Dairy Butter at 1/2 per Ib 0 7 2,- (Very Rich Flavour). 2 lbs Latimer's Damson Jam 0 6 i lb New Cheshire Cheese at 7td per lb 0 4 J lb Maelor Blend Tea at 1/8 per Ib 0 5 1 lb Overweight Margarine at 1/ per lb] Splendid Substitute for Pure Butter, > 1 0 i lb given FREE with every lbj 2 10 OFFERED FOR 2/6 This is such grand value that the offer cannot be held open for more than 28 days. Grasp now the opportunity! Try it to-day! TRY OUR Danish Xam5 & aeon, Smoked or Tale. We recommend with confidence knowing the quality to be perfect. Gives satisfaction wherever tried. ORDERS CALLED FOR AND DELIVERED BY REQUEST. Mr CASH WITH ORDER. -fM I!II n JÐHN WILLIAMS. wlws enSH GROCER & PROVISION DEALER, Bank Stores, Rhos, & Maelor Stores, Penycae. BOOK Debts purchased, cash down, JD any district.-W Jackson, 26, Cor- poration street, Manchester. NOTICE OF REMOVAL. MISS M. E. HUGHES begs to in- form her customers that she has REMOVED from the Cross Shop to High Street, Rhos, (opposite the Blue Bell Inn) where she will continue the bus- iness of Wholesale & Retail Tripe Dealer. .uw" I -LI L Meetings & Entertainments Johnstown Council School —o A Grand Performance of the Japanese Operetta, pripe^ss ju-ju, 99 Will be given at the above School on Wednesday &,Thursday Evenings APRIL 27 & 28, 1910. Excellent Orchestra under the leadership of Mr S. A. DUCE. -0- Doors open at 6-45, Performance at 7.15. —o— Admission:— Wednesday, Front Seats, 2s; Second, is. Thursday, Front Seats, 1/6 Second, gd. RUABON FORESTERS' i FETE Whit-Monday, May 16, 1910 Inconnectioo with the above Fete TWO GRAND MORAL COMPETITIONS Will be held. Prizes to the amount of 130 Cash will be given. -0- :8.ALE VOICE CHOIR COMPETITION. The limit of 40 originally fixed has been rornwed. Test piece, 44 Pilgrim's Chorus" (lh. Parry). First Prize, E15 cash, and S,i)M Medal for conductor Second Prize, E5 cash. CHILDREN'S CHOIR COMPETITION, not coalite? 25 in number; age not over 16 years. Tfcsfc Piece, 44 The Voyage," two parts (Hop- sin Evans). First Prize, £6 cash, and Gold tre Medal for conductor; Second Prize, £ Sca»h. Full particulars and information to be obtain- ed Jmm the-Secretary, Mr S. W. Davies, 7 Tai gflx"L)., auaoon. Adjudicator, Proff. D. D. Parry, LJanrwst. 1 JSn&ries close Monday, May 2nd, 1910. SAML. EVANS, A.C. Begs to state that he is open to accept engagements as MUSICAL ADJUDICATOR, FESTIVAL CONDUCTOR, &c. I Lessons given in VOiCE TRAINING, HAR- MONY, THEORY, &c. I For terms, apply BROAD STREET, RHOS, RUABON.
I.,....--...----..-''"--T&toCpubau.
I T&toCpubau. (PULPIT SUPPLIES) SABBOTH, EBRILL 24, 19,10. I Y MRTHODISTIAID OALFINAIDD Giptl Motor—10 a 6, John Kvans, Llanfair .Bethel, Pankey-10 a 6, R Jones, Rhos eforiah, Ponkey—10 a 6, Griffith Ellis Jones, Bala Rill-st,-10-30 & 6, R L Boose, Holt Johnstown—10-30 a 6, J T Williams, Llanfrothen Pentrefelin—10 Cyf Plant, 2 Ysgol, 6 Gwasanaeth (ffou-Samnel Owen, B.A., Carneddau Tainant-gamael Owen, B.A., Carneddau 1TB AJMNIBYNWYK Bothl,-hem-10 J P Gongh, Caergwrle, 6 Jno Lewis Williams, 3LA., B.Se., Aberystwyth Salem, Bauti-<t—10 J Low is, Williams, U. A., D. Se., J P Goagh Sfvny dd Seion,-10 a 6, E Evans, Wern Ebenezer, Queen St.-lO a 6, 0 J Owen Johnstown (8)-10-80 A 6-T Arthur Thomas Y REDYDDWYii. Penuel-10 a 6 E Williams Bethania,—10 a t; Sum, Pottkey-10 a 8, E Mitchell Tabernacle Ponkey-10 A D ioulkes, 6 T Hughes Boar, Abordarfyn-10 James Jones, 6 W S Jones Oalfaria, Rhos-10 Daniel Daviea, 6 John Jones Mt Pleasant, Ponksy-10-30, & 6, J W Humphreys Noddfa, Johiutmm-10-30 a 6, J 0 Jones Peaø-lO a 6, W B Jones Groes-tit S W B Jones DISGYBLION CRIST. Bethel, Campbell Street-10 a 6, Y WE8LEYAID. Rhos-10 Cyfarfod Gweddio, 6 W Price Johnstown-10-30 Enoch Jones, 6 Edward Morris Stryt Issa-10 Cyfarfod Gweddio, 6 T N Roberts Flasbennion—10-30 W Price, 6 Miss Oissie Morris PRIMITIVE METHODIST. Uhor—10-30 & 6, A Parrish, Black Park Oopperas—2-30 & 6, J Machin, Cefn YB EGLWYB 8EFYDLBDIG. Vioar, Rev J H Thomas Ooratee Jenkina-Monlove. 8 Jc. %is' Okurah-Borvice at 10.80, and 6. fglwys St. David—Gwasanaetham 10 a 0 8t .Mary's Ohurch Johnstown-Borvias at 3 A (> PENYCAE Vicar-Rev Joseph navies It Thomas s Ohurch-Servioe at 10-30 and 6 SALVATION ARMY. Barracks, Smwage 2, 6-45 Etuugn Shepherd, A Lieutenant R LazzeU.
V\VVVVVVWVVtU\\VUWVlVlVUUl\VA\\\UWVVIi…
V\VVVVVVWVVtU\\VUWVlVlVUUl\VA\UWVVIi CYNGHOR PLWYF RHOS. Cyfarfyddodd yr uchod am y tro cyntaf wedi'r etholiad yn y Public Hall, Rhos, nos Wener diweddaf, pryd yr oedd y Cynghor- wyr canlynol yn bresenol:— WARD Y PONKEY: Mri W M Jones, Dd Davies, Watkin Jones. 1 Ken Wynne. t WARD Y RHOS: 1 Mri Samuel Roberts, Tom Roberts, William | Garner, Llew Davies, Wm Hughes. { WARD Y PANT J Mri C Morgan Ted Jones, Joseph Charles, [ Joseph Price A'r Clerc, Mr J Trevor Jones. Penderfynwyd fod c^farfodydd rheolaidd y Cynghor i'w cynal yr ail nos Iau yn mhob mis. Bu peth ymdrafodaeth yn nglyn a dewis Cadeirydd. rhai aelodau yn awyddus i weled y swydd yn un newidiol, a'r anrhydedd yn cael ei osod ar wahanol aelodau y Cynghor yn eu tro. Yn derfynol penderfynwyd i ail- ethol Mr W M Jones. Fel Is-Gadeirydd appwyntiwyd Mr C Morgan yn unllais. Yr oedd dau Overseer yn angenrheidiol, a phenderfynwyd ar y Mri Watkin Jones a William Hughes. Llanwyd y gwahanol Bwyllgorau i fyny fel y canlyn :— Fel cynrychiolwyr y Plwyf ar Bwyllgor Addysg Rhanbarth Ruabon etholwyd y Mri Ted Jones, Joseph Charles, a Saml Roberts; ac yn yr un swydd ar Reolwyr Ysgol An- narbodol y Rhos, Mr Ken Wynne. Pwyllgor Unedig Elusenol,—Cadeirydd, Is-Gadeirydd, a Mr W Garner Pwyllgor y Peiriant Tan,—Cadeirydd, Is- Gadeirydd, Mri Llew Davies, Jos Charles, Ken Wynne, Ted Jones Pwyllgor y Ffyrdd,—Is-Gadeirydd, Mri Watkin Jones, Jos Charles Llew Davies, S Roberts, Ken Wynne, Tom Roberts, a Jos Price. Pwyllgor Goleuo,—Cadeirydd, Mri Jos Charles, S Roberts, Joseph Price, a William Garner. Pwyllgor y Gladdfa,—Mri Ken Wynne, Ted Jones, Dd Davies. Pwvllgor Arianol,—Cadeirydd, Is-Gadeir- ydii, Mri Dd Davies, Watkin Jones, Ted Jones, Tom Roberts, a Wm Garner. Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth Mr Samuel Pritchard yn hysbysu nad oedd am ymgymervd a'r swydd fel Cynghorwr Plwyf- ol Penderfynwyd i appwyntio Mr Joseph ,Griffiths, Ponkey, i lanw y sedd. Cytunwyd hefyd fod Mr J W Williams, un o'r aelodau newydd etholedig, i gael can- iataa i arwyddo yr ardrJangosiad o'i ymgym- eriad o'r swydd, yn y cyfarfod nesaf. Cafwyd adroddiad gan y Clerc o nifer y claddedigaethau gymerodd le yn y Gladdfa am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31ain yr hyn oedd yn 90; tra yr oedd cyflog y torwr beddau am yr un cyfnod yn jQ28 I IS. Derbyniodd y Cynghor gan yr Overseers y swm o £100 i ddibenion cyffredinol, a ^230 i ddibenion goleuo. Swm y dreth a gasgl- wyd yn y plwyf yn ystod yr haner blwyddyn diweddaf oedd ^3,228.
YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. Deallwn fod gwahanol bwyllgorau yr uchod yn dechreu bywiocau, ac yn brysur parotoi ar gyfer g-wyl flynyddol ein hardal. iyr hon a gynhelir fel arfer y dydd Llun cyntaf yn Ngorphenaf. Cyfarfyddai y [ Pwyllgor Arianol nos Wener diweddaf, J pryd y daeth y cwestiwn o werthu tocyn- au, &c., dan ymdriniaeth. Penderfynwyd gohirio y cyfarfod hyd nos Iau, er cael cyfle i alw i fyny yr holl rai fu yn gwneyd y rhan hwn o'r gwaith y blynyddoedd o'r blaen. Daeth cynulliad rhagorol yn nghyd nos fau diweddaf, i'r Public Hall, pryd y llywyddwyd gan y trysorydd, Mr Samuel Jones. Mae'n wybyddus i lawer fod math o glwb wedi ei sefydlu, gyda'r diben o dderbyn cyfraniadau wythnosol gan rai sydd yn analluog i dalu am doc- ynau ar unwaith. Nos Iau, penderfyn- odd y pwyllgor fod y gweithwyr yn myn-, ed allan o amgylch yr ardal ar unwaith i sicrhau enwau ac i dderbyn cyfraniadau. Gall unrhyw un sicrhau cerdyn cyfranu ond ymholi ag un o'r rhai hyn, neu swydd- ogion yr Eisteddfod. Mae y cynllun yn un hawdd ei ddilyn gan bob carwr y sef- ydliad trwyV ardal, a gall pawb, try datu ychydig geiniogau yr wythnos o hyn i ddyddiad yr Eisteddfod, sicrhau iddynt eu hunain docynau blaensedd neu ailsedd am y dydd. Mae argoelion Uuoscg am Eisteddfod fwy llewyrchus nag un o'r rhai blaenorol. Yn yr ail gorawl bydd nifer dda o gorau o'r ardal a'r cylch hwn yn ymgeisio, yn ol pob swn sydd ar hyn o bryd. Carem gymell hefyd i sylw ein pobl ieuainc yr ad- ranau llenyddol a barddonol. Ni ddylai yr adranau hyn gael ei hanwybyddu mewn ardal lie mae cymaint o fanteision i'w dilyn. Yn sicr, mae defnyddiau llenorion a beirdd yn yr ardal fel y prawf gwaith ein Cymdeithasau Diwylliadol, ond yn un- ig iddynt ymrdodi at y gwaith.
Gwrecsam a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Gwrecsam a'r Eisteddfod Genedlaethol. Nos Iau diweddaf galwyd cyfarfod cyff-' redinol o drethdalwyr Gwrecsam i ystyried cais i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r dref yn 1912. Cymerwyd y gadair gan y Maer, Mr J Stanford. Darllenwyd telerau yr Orsedd gan Mr Lawson Taylor, y Clerc Trefol, a rhoddwyd adroddiad gan y Maer o'r ddau ymgais wnaethant er 1888, pryd yr oedd ddiweddaf yn y dref, i'w sicrhau. Yr oedd teimlad cryf yn ffafr y mudiad, a phawb yn barod i anghofio y drwg deimlad achoswyd dro yn ol oherwydd gwrthodiad, ac i wneyd appel yn unol a thelerau yr Or- sedd. Cynygiwyd fod y camrau cyntaf i'w sierhau, a phasiwyd hyny yn unfrydol. Dewiswyd hefyd bwyllgor cryf i ddwyn hyn oddiamgylch, a chyflwyno adroddiad mewn cyfarfod dilynol.
-----------RHOS j
RHOS j CVWIRIAD. Drwg genyro adael alian enw Miss A Margretta Jones, Ponkey, fel yr un fu yn fuddu^ol ar y cyfieithtad yn Nghyfartod L!enyddo( Bethlehem a Salem, yr wythnos ddiweddaf. Hefyd mae y ferch uchod wedi Hwyddo i fyned drwy y rhan y¡¡!af o'r Teacher's Prelim- inary Examination. CASGLIAD MAVVR.—Gwnaeth aelodau Ysgol Sul Bethlehem eu casgliad mawr chwarterol, pryd y sicrhawyd y swm o £ 26 15s ic. MARWOLAETH.—Drw^ genym gofnodi marwolaeth Mr Benjamin Navies, mab i Mr Robert Dalies, Mountain street, yr hyn a gymerodd le dydd Mawrth (wyth- nos), ac efe ond 22 rnlwydd oed. Ym- ddengys iddo gael tarawiad o'r pneumon- ia, ac er pob gofal ac ymdrech i'w at bed, bu farw fel y dywedwyd. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu trallod. Cymer- odd yr angladd le yn Nghladdfa y.Rhos dydd Gwener diweddaf, pryd y gwasan- aethwyd ar yr achlysur gan y Parch R Roberts. DOSBARTH SOL-FFA.-Cyfarfyddodd y dosbarth uchod nos Sadwrn diweddaf, ynghyda'u hathraw, Mr G W Hughes, G. & L., yn Denbigh House, i gytranogi o wledd ardderchog oedd wedi ei pharotoi 1 ar eu cyfer gan Mrs Edwards. Eistedd- odd oddeutu 30 wrth y byrddau. Wedi gwledda cynhaliwyd ol-gwrdd o dan lyw- yddiaeth Mr Richard Jarvis, Hill street. Cymerwyd rhan ynddo gan y rhai canlyn- ol :-Adroddiad, Mr Llew Phillips; deu- awd, Mri W Williams, Campbell street, a David Francis, Penycae ymgom, Rhys Lewis," Parti o Penycae unawd, Mr J Ellis Thomas, Campbell street. Yna daethpwyd at brif waith y cyfarfod, sef anrhegu Mr Hughes a ffon gerdded hardd. Cyflwynwyd yr anrheg ar ran y dosbarth gan Miss Myfanwy Phillips, ac yn dilynol siaradwyd gan amryw o'r dosbarth, yn dwyn tystiolaeth i aliu Mr Hughes fel athraw. Diolchodd Mr Hughes iddynt am yr anrheg a'r teimladau da tuag ato mewn ychydig eiriau pwrpasol. Yna caf- wyd unawd 44 Arm, arm, ye brave," gan Mr John Allen Williams, Wesley street; pedwarawd, parti o Penycae; ymgom, John Bull," parti o Penycae unawd, Mr William WilJiams, Campbell street; unawd, Mr Tom Griffiths, Penycae. Pas- iwyd pleidlais o gydymdeimtad a Miss Sarah Davies, Mountain street, aelod o'r dosbarth, ar farwolaeth ei brawd, Mr Benjamin Davies. Terfynwyd y cyfarfod drwy ganu "HenWlad fy Nhadau," Mr John Allen Williams yn cymeryd yr an- awd. MARWOLAETH.—Y mae cydymdeimlad cyffredinol a'r Parch E Williams, gtoein- idog Penuel, yn y brofedigaeth o golli ei fam, yr hyn a gymerodd le yn Aber, yr wythnos ddiweddaf. Yn Penuel nos Sul, pasiodd yr Eglwys bleidlais o gydymdeim- lad ag ef yn ei drallod. Y FEIBL GYMDEITHAS.—Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Canghen y Rhos o'r Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor yn Ysgoldy Bethlehem, nos Lun. Lly- wyddwyd gan y Parch R Jones. Cyflwyn- odd Mr Joseph Rogers, yr Ysgriifenydd, ei adroddiad am y flwyddyn, yr hon oedd yn dangos fod y derbyniadau, yn cynwys y casgliadau a'r rhoddion, yn cyrhaedd £ 46 4s roc, ac fod y swm o £ 28 wedi eu hanfon i'r fam gymdeithas. Yr oedd y derbyniadau yn rhagori ychydig ar rai y flwyddyn ddiweddaf. Ar gynygiad y Parch William Price, yn cael ei eilio gan y Parch J Howell, cadarnhawyd adrodd- iad yr Ysgrifenydd. Cynrychiolydd y j Gymdeithas eleni oedd y Parch 0 G 1 Griffith, Dolwyddelen, gan yr hwn y caf- wyd anerchiad ddyddorol ar Waith y Gymdeithas. MARWOLAETH.—Gyda gofid cyffredinol I y derbyniwyd y newydd am farwolaeth Mr Alun Dodd, New street, yr hyn gym- le yn gynar heddyw'r boreu, wedi afiech- yd byr ond trwm. Mae'r newydd wedi taflu ton o alaeth dros y gymdogaeth, ac achosi prudd-der cyffredinol. Cawn gyfldl yn ein nesaf i roddi nodiadau manylach am dano. Mae cydymdeimlad pawb yn myned allan at ei briod ieuanc, ei dad, a'i chwiorydd, yn eu profedigaeth lem. u
Y Dosbarth Cymraeg.
Y Dosbarth Cymraeg. Mae'n hysbys i'n darllenwyr fod y dos- barth uchod wedi cael ei gynal yn ystod misoedd y gauaf yn Ysgol y Cynghor, Ponciau. Dyma'r tro cyntaf y cynhalT iwyd Dosbarth Cymraeg o dan nawdd Pwyllgor Addysg Plwyf Rhiwabon yn y Rhos, a gobeithiwn mai nid dyma'r tro olaf. Nifer yr efrydwyr ydoedd 13. Y testyn-lyfrau a fabwysiadwyd oeddynt Grammadeg Cymraeg a Gwers-lyfr Mr S J Evans, M.A., Llangefni yn chwanegol at y rhai hyn, rhoddwyd nodiadau helaeth ar hanes, nodweddion, cynaniad, a phriod- ddulliau'r laith Gymraeg, gan y Parch J W Humphreys, yr athraw. Talwyd sylw manwl hefyd i berthynas y Gymraeg a'r leithoedd Clasurol. Cafodd y dosbarth ei ddwyn i fyny yn ffurfiol am 6 o'r gloch, nos Wener diw- eddaf, pryd y cynhaliwyd cyfarfod neill- duol yn Ysgoldy Mount Pleasant, Pon- key. Ymddiriedwyd gofal y te a'r ym- borth i Miss C E Humphreys, chwaer yr athraw, ac yr oedd y darpariadau yn rhag- orol. Cyflwynwyd diolchgarwch gwres- i ocaf y dosbarth iddi am y parotoadau teilwng. Yn ddilynol i'r wtedd, cynhaliwyd cyf-' arfod arall i anrheguY athraw a llaw-ffon hardd. Y cadeirydd ydoedd Mr John WiHiams, Oueeii street, yr hwn a ddyw- edodd eu bod wedi cyfai fod i anrhydeddu eu hathraw, Nis gailasent bylh fynegu maint a dyrnder eu diolchgarwch i'r ath- raw am y sleshad oeddynt wedi ei dderbyn o dan ei ofal. Cyflwynodd yr anrheg yd- oedd Mr Eddie Wiight, Pant, Rhos, Dywedodd ei fod ef yn awr, ar ol myn- ychu y dosbarthiadau, yn gallu ar y Gym- raeg mewn gwedd hollol newydd. Mae'r iaith yn werth i'w hastudio a'i meistroH. Llavueoydd diffuant idflo oedd cyflwyno'r ffon i'r athraw. Rhoddwyd anerchiadau priodol a byrion hefyd gan Meistri Fred Davies, Bank st, Ponciau, John Williams, W R Williams, Bank street, Rich Edwards, Hill street, Emlyn Jones, Brynvdd, a Wilson Rob- erts, Wesley street. Cafwyd adroddiad- au campus gan Mri Fred Davies, a Wilson Roberts. Atebwyd mewn anerchiad faith gan yr athraw. Dywedodd mai nid gwerth arianol a masnachol y ffon ydoedd yn gwneyd y rhodd yn werthfawr yn ei olwg, ond ei gwerth cynrychioliadol Cynrych- iolai barch, edmygedd, ac hoffder, ac nid oedd pris i'w osod ar y pethau hyn. Yr oedd yr arysgrif ganlynol ar y ffon Rhodd Dosbarth Cymreig y Rhos, 1909-1910 Disgwylid anerchiad gan Mr D W Jones (Lay-Reader), Rhos, ond rhwystrwyd ein cyfaill i fod yn bresenoL Terfynwyd y gweithrediadau trwy ganu'r Anthem Genedlaethol Gymreig. UN O'R DOSBARTHU
PONKEY.
PONKEY. Y COR NEWYDD.—Deallwn fod Cor Meibion Unedig y Ponkey, dan arweiniad Mr Watkin W Williams, wedi dechreu ar eu gwaith o ddifrif. Mae corph cryf n leisiau rhagorol wedi ymuno ag ef, a chyda ychydig ymarferiad, mae pob lie i gredu y gwnaiff enw iddo ei hun. Cyfar- fyddant yn Ysgotdy Seion, Ponkey, ac hyd yn hyn mae'r presenoldeb yn uchel. Dangosir brwdfrydedd neillduol gan yr aelodau a'r swyddogion, a diau y ceir cyfle i'w clywed mewn amryw o'r Eisteddfodau Ileol cyn hir. Yn ychwanegol at yr ar- weinydd, mae'r rhai canlynol wedi eu dewis tel swyddogion :-Llywydd, Mr William Phillips, Stanley road Trysor- ydd, Mr Thomas Morris, off Bank street; Ysgrifenydd, Mr Jonah Hughes, New st. Dymunwn iddynt hir oes, a llwyddiant mawr. MARWOLAETH.—Nos Lun diweddaf, ya ei breswylfod yn Bank street, Ponkey, bu farw Mr Daniel Jones, yn yr oedran teg o 74 mlwydd. Ni fu yn gwaelu yn hir iawn, ac ni chaethiwydef i'w wely. Yn- gynar prydnawn LIun, teimlai ei hun yn waeth, ond ni thybid y pryd hyny fod dim difrifol arno. Ond oddeutu deg o'r gloch gwelwyd cyfnewidiad yn dod drosto, ac yn dawel a disymmwth ymwahanodd en- aid a chorph. Claddodd ei briod oddeutu pum mlynedd yri ol, a bu hyn yn ergyd dtom iddo. Yr oedd yn ddyn adnabydd- us iawn yn y cylch, ar y cyfrif iddo fod yo gweithio fel fireman am rywle oddeutu 35 mlynedd. Yr oedd yn un o swyddog- ion hynaf y gwaith, ac ystyrid ef gan feistr a dynion yn ddyn unplyg ei farn, a chydwybodol gyda'i waith. Mynychai y Gapel Salem, a diau y teimla'r Eglwys golled fawr ar ei ol, oherwydd yr oedd yn gyfranwr mawr a chyson. Gadawa un mab, Mr William Jones, Bank street, ac un ferch, Mrs R Williams, Bank street, mewn galar ar ei ol, gyda'r rhai y mae cydymdeimlad cyffredinol. Cymerodd yr angladd le prydnawn Iau, pryd y rhodd- wyd ei weddillion i orwedd yn Mynwent Mynydd Seion, Ponkey. Gwasanaeth- wyd wrth y ty a'r bedd gan y Parch E Mitchell, a'r Parch R Williams, Hill st.
j JOHNSTOWN.
JOHNSTOWN. GALWAD.—Bydd yn llawenydd ac yo chwithdod gan lawer ddeall fod y Parch W H Lewis, gweinidog Siloh, Johnstown, wedi derbyn galwad gan Eglwys M.C. Gymreig, Beaumaris, Man. Deallwn het- yd fod Eglwys Gymreig Birmingham wedi bod yn bwrw golwg arno, ac fod y ddau le dan ystyriaeth ganddo.
CEFN MAWR.
CEFN MAWR. GALWAD.—Y mae Mr Humphrey Ellis, Cefn Mawr (brawd i Mr David Ellis) yr hwn sydd yn awr yn fyfyriwr yn Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, wedi derbyn gal- wad oddiwrth Eglwy's Gymreig Llangefni, Sir Fon. Deallwn fod Mr Ellis wedi der- byn yr alwad, ac yn bwriadu dechreu ar ei weinidogaeth yn mis Gorphenaf,
Helynt Ysgol Erbistock.
Helynt Ysgol Erbistock. Mewn canlyniad i waith rheolwyr yr ysgol uchod yn gwrthod ymadael ar gais y Rheithior, y Parch E Evans, pan aeth yno rai wythnosau yn ol i geisio ei thros- glwyddo i awdurdodau Addysg Sir Ddin- bych, mae yr achos i gael ei ddwyn ger- bron llys barn yn Ngwrecsam, Mai i8fedr o flaen y Barnwr Moss. Mae'r Rheithior wedi codi gwys yn y Llys Sirol Gwrecsam, yn erbyn tri o'r rheolwyr. Dywed yr erlynydd mai efe bia'r hawl'o'r Ysgol a'r tir chwareu cysylltiedig, y rhai yr oedd yn eu gosod dan dreth i'r rheolwyr, ac fod y denantiaeth hon wedi dirwyn i ben trwy rybudd i ymadael a gawsant, yr hon oedd lyn terfynu ar y 2saio o Fawrth.