Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

HELAETHIAD Y 'TYST.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HELAETHIAD Y 'TYST.' Anfonasom bapurau bychain i'n holl Ddosbarth- wyr yr wythnos ddiweddaf, yn cynyg1 helaethu Y TYST os cefnogent ni trwy ychwanegu y derbynwyr. Yr ydym wedi derbyn atebion sylweddol oddiwrth luaws o honynt eisioes, ac y maent yn parhau i ddylifo i'r swyddfa gyda phob Post. Nid oeddym erioed wedi dychmygu fod ein gwasanaeth mor dder- byniol a chymeradwy gan ein derbynwyr a'n dos- barthwyr. Er nad ydym wedi cael ond ychydig, YCHYDIG- IAWN o aebwyniadau er cyhoeddiad y rhif- yn cyntaf o'r TYST a'r ychydig hyny wedi dyfod agos yn g-Ivbl o'r un parth, ac oddiwrtli bersonau nas gallasem ddisgwyl llawer o gefnogaeth oddiwrth- yiit ond nid oeddym erioed wedi dychmygu fod ein TIafur mor foddhaol gan ein cyfeillion, nes y daeth y cynyg am helaethiad y TYST yn achlysur iddynt i'w ddatgan ini. Byddai yn rhyw beth rhy debygi ym- ffrost ynom i gyhoeddi y cymeradwyaethau a dder- byniasom, ond cadwn hwy yn ofalus, a derbynied ein cyfeillion ein diolchgarwch mwyaf diffiiant am (iaiiynt. Yr ad-daliad goreu ganddynt fydd yr hys- bysiad ein bod wedi penderfynu helaethu y TYST yn dclioed. Gwneir pob Colofa yn HWY o DDWY FODFEDD a phob Tudalen yn LLETACH, fel ag i gynwys PUM COLOFN yn lie PEDAIR-y colofn- au oil yr un ]led a'r colofnau presenol, bydd felly rhwng yr WYTH COLOFN ychwanegol ac estyniad yn y colofnau, yn cynwys TAIR COLOFN AR DDEG MWY o FATER nag y mae yn bresenol, ac o sanlyniad y NEWYDDIADUR CEINIOG MWYAF YN YR IAITH GYMRAEG. Bydd yr helaethiad i ni yn draul ychwanegol bwysig iawn; ond y mae ein hyder yn ein dos- barthwyr a'n derbynwyr y fath fel y cwbl gred- wn y bydd yr ychwanegiad yn rhif y derbyn- ii-yr yn ddigon i'n diogelu rhag colled yn yr antur- iaeth. Nis gellir anfon ond tri, wedi yr helaethiad, trwy y Post am geiniog; ond disgwyliwn y bydd pawb sydd yn derbyn 4. bellach yn cymeryd 6—a'r rhai sydd yn cymeryd 8 yn cymeryd 12 ac felly yn y blaen yr ychwanegir haner rhif y derbynwyr presen- ol. Disgwyliwn y gemr gwneyd y cyfnewidiad gyda Tliifyn Mai 29ain, a byddwn ddiolchgar iawn i'n holl ddosbarthwyr a anfonant i ni yr archebion ych- v.'anegol cyn hyny.

Advertising

AT EIN GOHEBWYR.

IUCHELWYLIAU MIS MAI.

IYR UNDEB CYNNULLEIDFAOL.

BLAENAU FESTINIOG,

[No title]

TRELYN A'I HELYNTION.

WHITLAND.

TYSTEB Y PARCH. D. PRICE.