Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
HUNAN-LADDIAD GER PONTYPRIDD
HUNAN-LADDIAD GER PONTYPRIDD Ddoe cafwyd hyd i ddarnau o gorph Joseph Davies, glanhawr hetiau, Trefforest, ar linell rheilffordd y Taf. Yr oedd er's peth amser yn hynod isel ei ysbryd, ac yr oedd wedi hysbysu wrth ei ferch am beidio gofidio os digwyddai rhywbeth iddo.
TANAU DINYSTRIOL YN NGHAERDYDD.
TANAU DINYSTRIOL YN NGHAER- DYDD. Torodd tanau dinystriol allan yn Nghaer- dydd neithiwr. Y cyntaf ydoedd siopau gweithio yn Collingdon-road, lie y g\ynaed llawer o golled. Torodd yr ail allan yn yr East Moors, ond da genym hysbysu fod y tan-frigad wedi llwyddo i'w ddiffodd cyn i nemawr golled gael ei wneyd.
Family Notices
Genedigaethau, Priodasau, a Marwolaethau. GENEDIGAETHAU Griffith-Medi 7. yn 10, Water Street, Hirael, Bangor, priod Mr. W. Griffith, ar fab. Hughes-Medi 5, yn Mostyn, priod Mr. E. Hughes, H.M. Customs, ar ferch. Jones-Medi 9, priod Mr. E. O. Jones (Gwalia Office), 3, Tithebarn Street, Caernarfon, ar ferch-cyntaf- anedig. PRIODASAU. Elliott-James-Medi 6, trwy drwydded. yn Eglwys blwyfol Galltmelyd, gan y Parch. E. O. Williams, y ficer, Francis Arthur, mab y diweddar Mr. George Elliott, masnachydd yd, Lerpwl, a Louisa Alberta, merch henaf Mr. James James, Prestatyn, ger Rhyl. Griffiths—Phillips—Medi 11, yn Eglwys Conwyl, Caer- fyrddin, gan y Parch. J. Morgan, ficer, Mr. T. Griffith Griffiths, arwerthwr, Aberteifi, a. Miss Sarah Phillips, Blaenpwrcel, Abernant, ger Caerfyrddin. Jones-Roberts-Medi 9, yn Eglwys y plwyf, Llanfair, gan y Parch. Basil Jones, M.A., ficer, yn cael ei gyn- orthwyo gan y Parch. F. G. Nott, B.A., cefnder y briodasferch, Dr. Richard Jones, mab Mr. Humphrey Jones, Bangor, a, Margaret Livinia (Einnie), merch ieuengaf Mr. Thomas Lloyd Roberts, Garthgynan, ger Rhuthyn. Llewelyn-Kershaw-Medi 9fed, yn St. Lukes, Farn- worth, gan y Parch. George Bond, M.A., ficer, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. Preston, M.A., ficer, Holy Trinity Church, Runcorn, y Parch. D. J. Llew- elyn, curad, Maesteg, Bridgend, a. Miss Annie Ker- shaw, merch henaf Mr. H. Kershaw, Farnworth, Lancashire. Probert-Allmon-Medi 16, yn Eglwys St. Paul, Cwm, Ebbw Vale, gany Parch. Albert Jordan, M.A., curad, Mr. John Probert, a Miss Emma Allmon-y ddau o'r Cwm. MARWOLAETHAU. Chadwick—Medi 5, yn 58 mlwydd oed, yn 6, Erddig Road, Gwrecsam, Mr. Richard Chadwick. Evans-Medi 5, yn 58 mlwydd oed, y Parch. David Evans, rheithor Llansantffraid G.D., Corwen. Roberts—Medi 8, yn 38, Newsted Road, Lerpwl, yn 42 mlwydd oed, Elizabeth (Lizzie), priod Mr. Jonathan Roberts. Richards—Medi 9, yn 44 mlwydd oed, Mr. Stephen Richards, 21, Yorke Street, Gwrecsam. Smith—Medi 7, yn 41 mlwydd oed, Mr. William Smith, Albion House, Mostyn Street, Llandudno. Thomas—Medi 8, yn 75 mlwydd oed, Mr. Joseph Thomas, ffarmwr, Garthneuad, Llanelidan ac ar yr un diwrnod, oddeutu chwe' awr yn hwyrach, ei wraig, yn 67 mlwydd oed.
--EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LERPWL. ODDIWRTH EIN GOHEBYDD NEILLDUOL. Yn foreu ddydd Llun, yr oedd arwyddion di- gamsyniol i'w canfod ar hyd y dref fod y brwd- frydedd o blaid yr Eisteddfod yn angerddol. Gofalodd y pwyllgor am adeilad ardderchog i'w chynal, sef y tu mewn i'r hen farchnad wair ger- llaw Scotland-road, ac yr oedd yn ddigonol i gynal tua 12,000. Yr oedd pobpeth yn ac oddiamgylch y babell yn dra chysurus, a chanoedd o arwydd- eiriau, banerau, &c., wedi eu gosod ar y parwyd- ydd. Y rhai canlynol oeddynt gadeirwyr y gwa- hanol bwyllgorau :—Mr. John Davies, Parch. G. Ellis, M.A., Mr. James Venmore, Mr. Edward Samuelson, a Mr. Thomas Edwards, ysgrifenydd mygedol, Mr. Llew "Wynne; ysgrifenydd cyffred- inol, Mr. W. M. Roberts. CYMDEITHAS Y CYMRODORION. Am dri o'r gloch prydnawn ddydd Llun, cyn- haliodd Cymdeithas y Cymrodorion gyfarfod yn ystafell y Cynghor Dinesig, yn y Neuadd Drefol, pryd y llywyddwyd gan y Maer. Cafwyd anerch- iad penigamp gan Mr. Henry Richard, A.S., yr hwn a gafodd dderbyniad tywysogaidd, ac amryw eraill. CYNGHERDD Nos LUN. Dechreuwyd gweithrediadau yr Eisteddfod nos Lun drwy gynal cyngherdd mawreddog, :pryd y daeth cynulliad da ynghyd. Y Llywydd ydoedd yr Henadur Samuel, gan yr hwn y cafwyd araith bwrpasol. I ddechreu cafwyd cystadleuaeth chwareu dernyn a gyfansoddwyd yn arbenig ar gyfer yr Eisteddfod hon ar y cornet. Daeth saith ymlaen, a dyfarnwyd Mr. George Dodd, Heywood, yn oreu, a chafodd y wobr, sef cornet hardd, gwerth £ 20, rhodd Mri. Ward a'i feibion Lerpwl. Can, "The Storm Fiend." lorwerth ap Owain. Can, Yr aderyn pur," Miss Beata Francis. Can, Llwybr y Wyddfa," Eos Morlais. Can, The workers," Miss Eleanor Rees. Yna cafwyd cystadleuaeth y seindyrf pres, cyfyngedig i Gymru, pryd y daeth y seindyrf canlynol ymlaen:—Seindorf Meirchfilwyr Sir Ddinbych, Llanrug, Corris, Drefnewydd, a Tre- foris. Y dernyn ydoedd detholion o'r "Last Judgment (Spohr), a'r beirniad ydoedd Mr. Charles Godfrey. Y wobr gyntaf ydoedd X20; ail, £ 15 trydedd, 910; pedwaredd, .£5; a dyf- arnwyd y gwobrwyon i'r pedwar cyntaf yn ol y drefn a nodwyd uchod, ac felly, ni wobrwywyd Treforris. Can, "Qui la voce," Miss Beata Francis. Can, Peidiwch gofyn i mi ganu," Eos Morlais. Can, Sunshine and Rain," Miss Eleanor Rees. Can, Fel milwr Dewr," Iorwerth ap Owain. Deuawd, "The Sailor sighs," Miss Rees ac Eos Morlais. Wedi talu y diolchiadau arferol, terfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. DYDD MAWRTH. Dydd Mawrth, daeth miloedd lawer o ddi- eithriaid gyda'r cerbydresi o bob parth o'r wiad, gan fod y brif gystadleuaeth gorawl i gymeryd lie y diwrnod hwnw, ac yr oedd yr adeilad eang yn orlawn, a chanoedd yn methu myned i mewn. Dechreuwyd y gweithrediadau drwy gynal Gorsedd Beirdd Ynys Prydain ar Fryn Awstin, Heol Shaw, am naw o'r gloch, o dan arweiniad y Prif Fardd Clwydfardd. A ganlyn ydyw rhestr swyddogion yr Orsedd Arch-Dderwydd,-Clwydfardd. Derwyddon,-Gwalchmai a Llawdden. Bardd yr Orsedd,- H wfa Mon. Marchogion,—Yr Alltwen, a Watcyn Wyn. Ceidwad y Cledd,-Ceiriog. Ceidwad y Corn Gwlad,-Dewi Haran. Gwarcheidwaid y Porth,-Rhuddfryn, Caeron- wy, Taliesin Hiraethog, a Cyfeiliog. Gwylwyr y Maen Llog,—Glanffrwd, a Pedr Mostyn. Cyflwynfeirdd,-Nathan Dyfed, Llew Llwyfo, Dewi Wyn o Esyllt, Tudno. Ysweiniaid,-Meiriadog, Alltud Eifion, Mor- wyllt, Cadvan, Tudwal, Ieuan Ionawr, Gaerwenydd, Rhuddenfab, Gwilym Eryri, Anarawd, Gurnos. Dadgei,niaid,-Idris Fychan, Iolo Trefaldwyn. JEhingyll,—Glwysfryn. Cofiadvr,-Eifionydd. Dechreuodd y cyfarfod cyhoeddus cyntal am 11 o'r gloch, o dan lywyddiaeth y Maer. Arwein- yddion,-Kilsby, a Glanffrwd. Yr oedd yr ystafell eang a ddarparwyd ar gyfer yr Eisteddfod yn orlawn, a thebygir fod dros 10,000 o bobl yn bresenol. Ar yr esgynlawr yr oedd amryw foneddigion adnabyddus, megys Henry Richard, Ysw,, A.S., William Rathbone, Ysw., A.S., Syr G. Macfarren, John Thomas, Ysw. (Pencerdd Gwalia), Dr. Parry (Pencerdd America), Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., Alderman Samuelson, Hwfa Mon, Clwydfardd, Gwalchmai, Andreas o Fon, Dr. Owen Thomas, Dr. John Thomas, &c. RHAGLEN 1, Anerchiad gan y Llywydd. 2, Anerchiadau gan y Beirdd Meiriadog, a Glanffrwd. 3, Can yr Eisteddfod, Hen wlad y menyg gwynion," gan Eos Morlais. (Encore). "Anwyl yw Cymru fy ngwlad." 4, Beirniadaeth y Parch. William Howells, Trefecca, ar y Cyfieithiadau o Benillion Hiraethog i'r Saesneg. Gwobr 5 gini-40b ymgeiswyr—goreu, Parch. R. Richards, Pembroke Chapel, Lerpwl. 5, Beirniadaeth Pencerdd Gwalia a Dr. Parry ar y Baritone Solo. Gwobr 5 pun-pump ym- geisydd—goreu, Robin Goch, sef, George Edwards, Llundain ail-oreu, Musicus, William Davies, Llangefni. I 6. Beirniadaeth ar y Monochrome. Gwobr 5 punt-tri o ymgeiswyr-goreu, Thomas Leonard Hughes, Holywell. (Canmoliaetli uchel). 7, Cystadleuaeth plant dan 12 oed, hanedig o rieni Cymreig, ar y Berdoneg. Jenny Jones (Skeaf). Gwobr, gini-29 o ymgeiswyr-goreu, Miss Grace Williams, St. Helen's. 8, Beirniadaeth ar y Traethawd Cymraeg neu Saesneg, ar Onestrwydd Masnachol." Gwobr, deg gini-goreu, Adda Smith, sefy Parch. W. O. Evans, Nefin; ail-oreu, Parch. E. C. Jones, Pen- dleton, Narberth. 9, Beirniadaeth ar y Cerflunwaith mewn pridd- faen (Terra Cotta). Gwobr, XIO-dim ym- geisydd. 10, Cystadleuaeth Canu penillion gyda'r tannau, yn ol arddull y Gogledd, ar yr alaw" Serch Hudol." Fwobr, dau gini, Beirniaid, Llew Llwgfo ac Idris Fychan-pump ymgeisydd- goreu, Eos y Berth. 11, Beirniadaeth ar y Myfyrdraith, "Oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaear, a marw, hwnw a erys yn unig; eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer (heb fod dros 300 llinell). Beirn- iad, Pedr Mostyn, Glanffrwd, a'r Parch. W. Nicholson. Gwobr 5 gini-12 ymgeisydd—goreu, Dwys, sef y Parch. Richard Jones (Glanalaw). 12, Beirniadaeth ar yr oil painting heb fod dros 12 troedfedd o arwynebedd. Gwobr, X20. Neb yn deilwng. 13, Can—" When the heart is young," gan Miss Marian Williams. 14, Beirniadaeth Dr. Parry a Mr. Jenkins ar yr Anthem angladdol." Gwobr, £10. 11 o ym- geswyr neb yn deilwng. 15, Cystadleuaeth chwareu Pen Rhaw ar y delyn Gymreig deir-res. Gwobr, tri gini. Beirn- iad, Pencerdd Gwalia-dau ymgeisydd-goreu, anadnabyddus. 16, Beirniadaeth ar y Traethawd Saesneg, The fisheries of Wales: the best means to develop them "—dau ymgeisydd-goreu, Caradog. Gwobr, £20. 17, Beirniadaeth ar gywreinwaith nodwydd mewn sidan neu edafedd. Gwobr, t5. Goreu, Miss Jones, High Street, Dinbych ail-oreu, Miss Roberts, Castle Road, Rhuthyn. 18, Cystadleuaeth: soprano Solo, Softly sighs." Gwobr, 4 gini. Beirniaid-Syr G. Mac- Farren, Dr. Parry, a J. Thomas, Ysw.-32 yn ymgeisio-goreu, Madame Graffe. 19, Cystadleuaeth ar y pedwarawd, Blessed arethey" o Macfarren's "Johnthe Baptist."Gwobr, 5 gini-dau ymgeisydd—goreu, Mr. A. Skeaf's Quartette Party. 20, Beirniadaeth ar y cerf-waith mewn llech. Gwobr gyntaf, X5; ail, X3-goreu, Mr. Jones, Bangor ail-oreu, E. O. Roberts. 21, Anerchiad gan H. Richard, Ysw., A.S. 22, Cystadleuaeth: violin solo. Gwobr, 3 gini —dwy yn ymgeisio-rhanwyd y wobr rhwng Miss Stephenson, a Miss Argent, Birkenhead. 23, Beirniadaeth ar yr esiampl goreu o "Carved Dado." Gwobr, £ 5—dim ymgeiswyr. 24, Cystadleuaeth gorawl mewn canu, Be not afraid (Bach), Lord, thy arm hath been up- lifted," o Spohr's "Fall of Babylon," Let us sing together," o Emmanuel Dr. Parry, a Happy and blest," allan o Mendelshon's St. Paul. Corau i rifo dim llai na 150 na mwy na 180. Gwobr, 200 gini, a bathodyn aur. Beirniaid, Syr G. Macfarren, Dr. Parry, a J. Thomas, Ysw. Cys- tadleuodd pedwar cor yn y drefn ganlynol:— Croesoswallt, yn rhifo 178 o gantorion, o dan arweiniad Mr. H. M. Hughes Bethesda, yn rhifo 177, o dan arweiniad Dr. Rogers Liverpool, yn rhifo 180, o dan arweiniad Mr. William Parry; a'r Manchester Philarmonic Choral Society, yn rhifo 180, o dan arweiniad Mr. Lane. Goreu, Bethesda. Pan hysbyswyd y dyfarniad, yr oedd y banllefau yn annisgrifiadwy o galonog, a'r miloedd yn curo eu traed a'u dwylaw mewn modd nas anghofir ef am amser maith. Ymhlith y rhai hyn yr oedd cor Manchester, un o'r rhai aflwyddianus, yn amlwg. Llwyddiant i Dr. Rogers a'i gor i gadw i fyny an- rhydedd cynhenid y Cymry fel cantorion aruchel. 25, Beirniadaeth ar y cynllun goreu o ystafell gyhoeddus i gynwys 500 o bobl. Gwobr oreu, 10p., ail oreu, 5p.-saith ymgeisydtl-goreu, Caerdaf; Ail oreu, Dal ati.. 26, Can, Cyflafan Morfa Rhuddlan," gan Mr. James Sauvage. Fel encore canodd "I am a Friar of orders grey." DYDD MERCHER. Am naw o'r gloch boreu heddyw cynhaliodd y Cymrydorion gyfarfod yn Neuadd y Dref dan lyw- yddiaeth Syr George Macfarren. Daeth lliaws o gerddorion enwog ynghyd. Cafwyd anerchiad campus gan y llywydd, yn ystod'yr hwn y sylwodd ar y gystadleuaeth ardderchog a gafwyd y dydd blaenorol, a chanmolai yr holl gorau yn fawr, yn enwedig cor Penrhyn. Yna darllenodd Mr. Marchant Williams bapyr a gyfansoddwyd gan Mrs. Watts Hughes ar Feithriniad y llais," yr hwn a fawr ganmolid. Yn ddilynol darllenwyd papyr gan Mr. Curwen ynglyn a chystadleuaethau cerddorol. Wedi cael ymdriniaeth ar y papyrau, terfynwyd y cyfarfod drwy dalu y diolchiadau arferol. CYFARFOD Y BOREU. Y llywydd ydoedd yr Uch-gadben West, rhag- law sir Ddinbych arweinyddion, Pedr Mostyn, a'r Parch. T. Evans, Preston (gynt o Merthyr Tydfil). Pan ddechreuwyd ar y gweithrediadau, nid oedd ond ychydig yn bresenol, ond cynyddodd y cynull- iad yn fawr fel yr oedd y gweithrediadau yn myned ymlaen. Cyfrifir nad oedd dim llai na 9000 yn y cyngherdd y noson flaenorol, a'r der- byniadau rhwng £ 600 a £ 700. Derbyniwyd £800 ddydd Mawrth. OWedi cael araith gan y llywydd, cafwyd anerch- iadau barddonol gan Cadfan, Gwilym Pennant, ac eraill. 1, Can yr Eisteddfod, Iorwerth ap Owain. 2, Rhanwyd y wobr am y cyfansoddiadau ar Y berllan rhwng Gwilym Eryri, Porthmadog, ac un yn dwyn y ffugenw Solomon. 3, Nid oedd neb yn deilwng yn nghystadleuaeth yr oil painting, am yr hwn y cynygiwyd gwobr o 20p. 4, Am yr unawd ar y flute Andante (Molique), lenillwyd yn nghanol cymeradwyaeth uchel gan Mr. Fred Griffiths, Abertawe. 5, Am y llawlyfr goreu yn Saesneg ar Hanes- iaeth Cymru," nis gellid dyfarnu y wodr, gan nad oedd eiddo Ednyfed yn ddigon helaeth. Modd bynag, penderfynwyd anrhegu Ednyfed a X25, rhan i gael ei dalu yn awr, a'r gweddill pan orpheno yr awdwr y llyfr. 6, Enillodd Mrs. Watkins, 141, Dale street, Liverpool, y wobr o X- 5 am wau. 7, Miss Hope, Caernarfon, ddyfarnwyd yn oren am ganu Slumber Song." 8, Am gyfieithu King Lear" (Shakespeare), dyfarnwyd y wobr i'r Parch. John Jones, Pwll- heli. 9, Cystadleuaeth chwareu ar y Berdoneg, Polacco in E," goreu, C. E. Lloyd, Lerpwl. 10, Am y traethawd goreu ar Addysg Uwch- raddol i Perched yn Nghymru," enillodd Miss Hughes, Caerfyrddin, ywobr o 25p. a gynygiwyd gan J. Roberts, Ysw., A.S. 11, Mr. iMilo Griffith, Llundain, enillodd y wobr o 20p am y Stattuetts goreu o Dywysog a Thywysoges Cymru. 12, Can, Daddy," Miss Eleanor Rees. 13, Am y rhamant hanesyddol Gymreig, Gruffydd ab Cynan," rhanwyd y wobr rhwng Anarawd ac Ellis o'r Nant, Dolwyddelen. 14, Deuawd tenor a bass, Mighty Jove in golden shower," goreu, Mri. W. James, Aberafon, a John Lewis, Dowlais. 15, Gwilym Eryri, Porthmadog, ydoedd y budd- ugol ar y cywydd, Yr Ystorm." 16, Nid oedd neb yn deilwng am y cerfiad ar marble. 17, Rhanwyd y wobr am yr unawd ar y cornet, Champion Polka," rhwng Thomas a Robert Owen, Llanwrchwyd. 18, Am y Traethawd Cymraeg neu Saesneg, Dylanwad y Cymry yn ffurfiad y cyfansoddiad Prydeinig," gwobr, 30p., dyfarnwyd Ap Gwilym yn oreu, ond nid atebodd i'w enw. 19, Am y cynllun goreu o dai chwarelwyr, gwobrwywyd Mr. R. J. Thomas, Caernarfon. 20, Rhanwyd y wobr am ganu penillion rhwng dau na chawsom eu henwau. 21, Yn awr deuwyd at brif gystadleuaeth y cy- farfod, sef dadganu Come unto Him," a He is the resurrection," am yr hyn y cynygiwyd gwobr o haner can' gini. Y beirniaid oeddynt: Sir George Macfarren, Dr. Parry, a Pencerdd Gwalia. Dyfarnwyd y wobr i gor Burslem, a chanmolid cor Hanley. Dywedai y beirniad fod corau Birkenhead a Dowlais yn |ddiffygiol mewn ton- yddiaeth, a chanai y diweddaf yn rhy araf. Yna dygwyd y cyfarfod i derfyniad. CYFARFOD CYMDEITHAS YR EISTEDDFOD. Ar ddiwedd y cyfarfod uchod, cynhaliodd aelodau Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol gyfarfod yn yr Adelphi Hotel, dan lywyddiaeth Mr. Lewis Morris am beth amser, a Chlwydfardd yn cymeryd ei le pan ymadawodd. Darllenwyd yr adroddiad am y flwyddyn, yr hwn a basiwyd yn unfrydol, a chaf- wyd areithiau yn ddilynol gan Hwfa Mon, Dr. Parry, Mr. Lewis Morris, Mr. Marchant Williams, Mr. Cadwaladr Davies, Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., Llew Llwyfo, Pencerdd Gwalia, &c. Cymerwyd dan ystyriaeth y ceisiadau am Eistedd- fod 1885, sef Caernarfon, Aberdar, ac Abergavenny. Gosodwyd cais Aberdar gerbron mewn modd teilwng, a phenderfynwyd cefnogi Aberdar yn nghyfarfod y beirdd. CYFARFOD Y BEIRDD. Nos Fercher, cynhaliwyd cyfarfod gan y beirdd yn yr Oddfellow's Hall, pryd y cadarnhawyd cynygiad Cymdeithas yr Eisteddfod i gynal yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn Aberdar, a'r un am 1886 yn Nghaernarfon. Y CYNGHERDD. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd godidog, dan lywyddiaeth Mr. Lewis Morris. Yr oedd y babell yn orlawn, ac ymddangosai pawb wrth eu bodd yn gwrando y perfformiad o Elijah gan gor cryf ac orchestral band, dan arweiniad Signor Randegger. Cymerodd y rhai canlynol ran yn yr unawdau, Miss Mary Davies, Miss Eleanor Rees, Mr. Edward Lloyd, a Mr. Ludwig. DYDD IAU. [GYDA'R PELLEBYR.] Mae y ddinas yn llawn o ddieithriaid heddyw, gan fod miloedd wedi cyrhaedd yma yn hynod foreu gyda'r cerbydresi rhad o bob man. Cymer y cadeirio le heddyw, ac hysbyswyd fi ar awdurdod diamheuol fod 15 o ymgeiswyr, a bod teilyngdod digonol fel y cymer cadeirio le. Syr Watkins Williams Wynn, A.S., Wynnstay, fydd y llywydd, ac y mae disgwyliadau aiddgar am weled y bardd buddugol yn cael ei gadeirio. Heblaw hyn cymer cystadleuaeth gorawl bwysig le rhwng chwech o gorau Gogledd Cymru a dau gor o'r Deheudir. [Gan ein bod yn myned i'r wasg cyn i'r ad- roddiad gyraedd, cyhoeddir y gweddill yn ein rhifyn nesaf.—GOL.]
[No title]
Ychydig ddyddiau yn ol, bu M. Ferry ar ymwellad a'r Canghellydd Germanaidd, y Tywysog Bismarck. yn Friedricksruhe. Ymddengys fod ei arglwyddiaeth, Esgob Llandaff, yn gwella yn rhagorol ar hyn o bryd, ac ei fod wedi ymadael o'r palas am Derby. Y mae y Due o Marlborough yn derbyn symiau mawrion am ei ddarluniau. Y mae y National Gallery yn barod i 'toddi 70,000p iddo am ei Raphael Madona." Y mae y Gymdeitbas Ddyngarol Freiniol wedi anrhegu 79 o bersonau am eu gwasanaeth yn achub 82 arall rhag boddi, yn ystod y flwyddyn. Yn Maryhill, rhuthrodd cerbydres ar draws chwech o fechgyn, a lladdwyd tri o honynt. Yn ystod yr wythnos bresenol yn Lerpwl, ar- ddangoswyd bachgen gwyllt, oddeutu pedair a ddeg oed. Dywedir ei fod wedi ei orchuddio drosto a gwallt, yr hwn sydd yn wyth modfedd o hyd ar ei wyneb.
Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.
Boreu dydd Iau. Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA. Glaniodd dwy fil o filwyr Ffrengig yn Kinpai Pass ddoe, ac ymosodasant ar y Chineaid, y rhai a orfodwyd i ffoi gyda cholledion trymion.
NEWYDDIADURON FFRAINC A'R…
NEWYDDIADURON FFRAINC A'R RHYFEL. Anoga newyddiaduron Ffrainc ar fod i ryfel gael ei chyhoeddi yn ddioed yn erbyn China, ac ag un tarawiad nerthol roddi ter- fyniad bythol arnynt.
Y CHOLERA YN NAPLES.
Y CHOLERA YN NAPLES. Digwyddodd 463 o achosion yn Naples ddoe, o'r rhai y bu 230 farw. Mae yr awdurdodau yn mabwysiadu pob peth i atal ei ledaeniad, ond hyd yma nid oes llawer o lwyddiant yn dilyn eu hymdreehion.
DAM WAIN ALAETHUS YN ABERTAWE.
DAM WAIN ALAETHUS YN ABER- TAWE. Tra yr oedd dau fachgen yn chwareu gyda gwn gerllaw shooting gallery, aeth yr ergyd allan, ac i ben un o honynt, yr hwn a fu farw ymhen ychydig fynudau. Cymerwyd y Hall i'r ddalfa.
YR EISTEDDFOD AM 1885.
YR EISTEDDFOD AM 1885. Teimlir llawenydd diffuant yn Neheudir Cymru fod yr Eisteddfod nesaf i'w chynal yn Aberdar, ac y mae pob lie i ddisgwyl y bydd yn llwyddianus, gan fod y dref yn ganolfan haner miliwn o drigolion. Cyn- helir cyfarfod yno yn ddioed i drefnu y many lion.
YR YMGYRCH I FYNY Y NILE.
YR YMGYRCH I FYNY Y NILE. Barna yr awdurdodan y gellir cyflawni yr hyn a fwriedir gyda cychod ar y Nile, ac na fydd raid cyfnewid ond ychydig ar y bwr- iadau cyntaf.
[No title]
YMGYFARFYDDIAD Y SENEDD.—Mae y Frenhinea wedi cyhoeddi gorchymyn ar fod i aelodau y ddau Dy ymgyfarfod ddydd Iau, Hydref 23ain.