Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH MR, W. SPURRILL,…

CONFFIRMASIWN.

AGORIAD EGLWYS NEWYDD CROESFAEN.

DOWLAIS.

ABERDAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ABERDAR. Nos Lun, Mai Gad, cynhalijvyd cyfarfod adloniadol yn neuadd eang y Fyddin Eglwysig, gan aelodau yr adran Gymreig o Guild St. loan Fedyddiwr (nawdd- sant y plwyf), a Gobeithlu Eglwys Fair. Cadeiriwyd gan y Ficer. Iaod y rhoddir cynwysiad y rhaglen:- Unawd ar y berdoneg, Mr. Goronwy Protheroe. Canwyd unawdau gan y Misses Sarah Ann Davies, M. A. Williams, Lizzie Mary Harries, a'r brodyr Lewis Harries (warden newydd St. Mair), a David Bowen. Yna dadganodd Gobeithlu Eglwys Fair y Gantata a elwir Queen of choice," o dan lywydd- iaeth fedrus Mr. Lewis Harries, a chyfeiliad Mr. G. Protheroe. Yr oedd y bobl ieuainc yma wedi eu dilladu yn drwsiadus mewn gwisgoedd gwynion, ac yn dwyn heirdd flodau yn eu. dwylaw. Coronwyd Miss Esther Lewis yn "Frenhines y blodau, am mai hi oedd yn cynrychioli y Rhosyn." Gwnaeth- ant eu gwaith yn ardderchog. Rhoddwyd adroddiad dyddorol dros ben gan Mr. Jenkin Lloyd, sef Rhaiadrau y Niagara." Yna aethpwyd drwy dreial bythgofiadwy ''Die Shon D&fydd." Yr oedd y Did hwn, ar ol ymdaith ychydig fisoedd yn Llundain wedi flugio anghofio yr iaith Gymraeg 1 Am y trosedd ysgeler yma gwysiwyd ef o flaen y llys gwladol. Yr oedd swyddogion y Ilys wedi eu gwisgo mewn characters, sef wigs and gomis. Y barnwr odd Mr. John Davies (clero y plwyf); yr eiriclwyr oeddynt Mr. Jenkin Lloyd a Mr. Spurry cadeirydd y rheithwyr, Mr. H. Griffiths; a'r carch- aror, sef Die Shon Dafydd, oedd Mr. Benjamin Harris. Dygwyd y rheitbfarn o euog yn erbyn Die, druan, ond gan ei fod wedi llwyr edifarhau ac ac yn addaw diwygio yn ol llaw, ar ddymuniad taer y rheithwyt a'i berthynasau, rhyddhawyd el. Gwel- wn yn ymddygiad Die y ffolineb o wadu hen iaith ein mam. Canwyd c&n ddigrif iawn, sef "Killaloe," mewn character, gan Mr. B. Harris, ac encoriwyd ef. Wedi gorpben a pbrawf Die, aethpwyd ymlaen gyda pheth nawydd (am a wn i) mewn cyfarfodydd Cymreigo'r fath, sef y Toy Symphony Band," gan y Misses Jones, Tymawr, y Misses Lewis, Mardy House, Mrs. Evans, ao eraill. Yna traddodwyd darlith ar "Logic (allan o Wil Brydydd y Coed) gan Mr. Spurry yn ddoniol dros ben. Fel yma treuliwyd yn agos i ddwy awr yn ddifyr iawn yr unig achwyniad ydoedd nad oedd yr ystafell eang yn ddigon i gynwys y bobl yn gysurus. Dyma orphen- iad y gyfras o gyfarfodydd buddiol a gynhaliwyd yn ystod y gauaf gan ieuenctyd St. Mair, a da genym ddweyd eu bod wedi troi allan yn llwyddianus bob yr un. ACHWYNIAD.—Y mae pobi dda Aberdar yn achwyn ar Y LLAN am nad yw yn rhoddi yohwaneg o newyddion lleol, tra y maent yn cael digon yn y Tarian a'r Gweithiior, ac wytbnosolion Radicalaida o'u bath Yn awr, teg yw dweyd nad ar Y LLAN na'r golygyddion y mae't bai yn gorphwys, ond at Eglwyswyr eu hunain. Y mae genym ni yn Aber- dar, fel ymhob Aber arall, liaws o ddynion ieuainc myfyrgar a allent, pe yn ewyllysio, gadw i fyny ohebiaeth gyson a'r LLAN. Yn awr, boys, ati ynte. Gadewch i ni glywed rhywbeth yn amlach am weithrediadau yr Eglwys mewn plwyfydd mawrion fel Aberdar, Dowlais, Merthyr, Ystradyfodwg, Mountain Ash, &c., ao nid byth a hefyd o rhyw le- oedd bach a dinod megis yn bresenol. Y FYDDIN EGLWXSI0.—Rhag ei blaen y mae'r fintai hon yn myned yma. Drwg genym fod Cadben Wine yn ymadael a ni, ond Did y N yn myned yn mholl, gan ei fod yn myned i sefydlu oangen newydd o'r Fyddin yn Merthyr Tydfil. Y mae Cadben Clayton yn dyfod yma o Wreosam yr wyth- nos hon. Llwydded y Deyrnas I

WHITLAND.

LLANBEDROG.;

FFEITHIAU GWERTH EU GWYBOD.

CYSTADLEUAETH II Y LLAN."

[No title]

ST. FFAGAN, ABERDAR.

Family Notices

[No title]

NODJADAU SENEDDOL. .