Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
NODI AD AU WYTHNOSOL GAN IDRIS.
NODI AD AU WYTHNOSOL GAN IDRIS. ANUDONIAETH YN NGHYMRU. Unwaith eto dygir y cwyn yn øiu herbyn fel cenedl mai dynion anwireddas ydym. Yn llys y man-ddyledion yn Rbyl, tra yn gwrando acbos neillduol yr wyth- nos ddiweddaf, dywedodd y Barnwr Horatio Lloyd na chlywodd y fath anudoniaeth erioed ag a wrandawodd y dydd hwnw. Cyhuddid ef ei fod wedi dweyd fod y Cymry yn anudonwyr. Nid oedd efe erioed wedi dweyd y fath beth, ond yr hyn a ddywedodd, a'r hyn a ddywedai eto, ydoedd na chyfarfyddodd erioed A'r fath anudoniaeth ag a glywid yn Nghymra. Pa un a yw y cyhuddiadau hyn yn wir ai peidio, gorphwysa y ddyledswydd ar ddysgawdwyr y genedl o godi eu lief fel un gwr yn erbyn y pechod cyffredin o ddweyd anwir- odd. Fel y dywedodd Esgob Llanelwy y dydd o'r blaen, pechod parod i amgylcha pobl yn y dyddiau hyn ydyw dweyd yr hyn sydd foddhaol yn hytrach na'r hyn sydd wir. Pe siaredid yn amlach ac yn gryfach ar y drwg hwn gan arwein. wyr y genedl, diau y clywid llai o achwyn arnom fel pobl yn y oyfeiriad hwn.
[No title]
ESGOB LLANELWY. Da genyf ddeail fod Esgob Llanelwy yn gwneyd ei ffardd i galonau pobl ei ofal o bob dos- barth. Hysbysai un o newydd- iaduron yr Ymneillduwyr yr wytlinos ddiweddaf fod yr Esgob newydd yn teithio yn y third class ar y rheilffyrdd, ac y mae pob arwyddion fod Esgob Edwards am ymgydnabyddu & phob gradd aisefyllfa. Adnabyddiaeth Iwyrach o'r bobl a chydymdeimlad dyfnach & hwynt ydynt elfenau ewysig yn llwyddiant yr Eglwys. ♦-
[No title]
Bu Mr. Gladstone yn Cornwall MR. GLAD- yr Wythnos o'r blaen yn traddodi ol STONE A'R YM- cyfres o areitlaiau gwleidyddol. NEILLDTJWYR. Baich ei 'stori, fel arfer, oedd y » cwestiwn Gwyddelig. Mae bron 0 pawb arall wedi anghofio fod y fath gwestiwn ttleWn bod. Y mae yr Iwerddon, o dan lywydd- laeth ddoeth Mr. Balfour, wedi tawelu, ac y mae y wlad yn mwynhau heddwch a llwyddiant y tu nwnt i ddim a fwynhaodd am flynyddau lawer. Dywedir fod y tywydd ardderchsg yr ydym wedi i fwynhau yr wythnosau diweddaf yn ffafriol iawn i'r cnydau, a bod yr amaethwyr tlodion yn awr yn derbyn punt am bob swlit yr arferent gael. Ond beth bynag am safle a rhagolygon yr Iwerddon, nid yw Mr. Gladstone yn bwriadu gadael llonydd i'r cwestiwn tragywyddol y mae, yn ei ffolineb, wedi ei gysylltu a'i cilw. Ond nid at y pwnc o Ymreolaeth i'r Iwerddon yr wyf am dynu sylw yn awr. Yn un o'i areithiau bu yr Ar- weinyfld Rbyddfrydol yn siarad ynghylch Dad- gysylltiad yr Eglwys, ac y mae ei fynegiad ar y pwnc wedi rhoddi llawenytfd digymar i'r Ym- neillduwyr. Ymddengys fod Mr. Gladstone yn barod, unwaith y caiff y cyfleusdra, i ddadgysylltu yr Eglwys yn Ysgotland, ac y mae hefyd yn creda yn gydwybodol fod Cymru wedi gwneyd ei meddwl i fyny ar y mater, ond ofn sydd ar Mr. Gladstone y bydd rhai rhwystrau ar ffordd Dad. gysylltu yr Eglwys yn Nghymru. Nid ydym i ddeall, fodd bynag, fod yr Hen Wr yn ystyried y rhwystrau hyn yn rhai anorfod. «
[No title]
t DYLEDSWYDD EGLWYSWYR. IDYLEDSWYDD Amlwg yw fod Mr. Gladstone bellach wedi taflu ei hunan yn llwyr i ddwylaw y Dadgysylltwyr a bellach nis gall fod unrhyw gwestiwn ynghylch cysylltiad y blaid Eyddfrydol -y rhan Ysgarol o honi—&'r dadgysylltwyr. Bellach y mae dadgysylltiad yn plank yn y platform Gladstonaidd. Dylai y ffaith hon beri i 'Eglwyswyr hefyd ymfyddino yn fwy unol nag erioed. Cawsom faddugoliaeth ardderchog y tro diweddaf y dadleuwyd y pwnc hwn gerbron Ty y Cyffredin. Gellir dywedyd hefyd fod y dadgys- ylltwyr wedi enill buddagoliaoth. Y maent wedi enill Mr. Gladstone yn llwyr. Gweithgarwch, undeb, llwyr ymroddiad i'r gwaith o amddiffyn ac adeiladu yr Eglwys yw yr hyn a ofyna yr Hen Fam oddiar ddwylaw ei phlant yn y cyfwng pres- enol. CYFLAFAN JOHNSTOWN. Newyddion torcalonus sydd yn dylifo i Gymru y dyddiau presenol mewn cysylltiad &'r difrod a wnaed yn Johnstown, America. Daw hanesion fod canoedd o Gymru wedi colli eu bywydau yn y llifeiriant ac yn y tan, ac o'r tu arall ceir fod llawer wedi dianc yr ofaid o'u plegid. Y rhai a achubwyd ni ddiangasant ond &'u bywydau, ond mewn amgylchiadau fel y gyflafan ofnadwy hon da yw tod y bywyd yn ddiogel. Da genyf weled nad oedd y newydd gyhoeddwyd yn Y LLAN, ar awdurdod y Drych, parthed tynged Cadwgan Fardd yn wir. Y mae yr hen lenor eto yn fyw, a'r wytlinos hon ymddengys llythyr yn y Drych oddiwrtho. Gan fod y llythyr yn hynod ddyddorol rhoddaf ef yma tel y caffo Eglwyswyr Cymru ei weled. Dywed yr hen fardd BRADDOCK, PA., Mehefin 8.—Yr hen Ddrych anwyl! Yr wyf eto ar dir y byw. Collaia bob peth a feddwn, ond fy hun a'r dillad oedd am danaf. Collais bedwar o dai, fy nghartref, fy llyfrau, gwerth o 500 i 600 o ddoleri, a phum' cyfrol o lawysgrifau, llafur dros baner can' mlyn- edd. Y dydd olaf o Fai yr oeddwn yn annibynol, ond heddyw mor dlawd & Job ar y domen. Yr wyf yn teimlo yn arw ar ol fy llyfrílu. Yr oedd rhai o honynt yn hen iawn a gwerthfawr ae an. hawdd eu cael. Diolch i chwi am yr Hir a Thoddaid am fy moddiad. Ni welais erioed ei well-er ei fod yn gyfeiliorrus.-D. CADWGAN.
[No title]
Y DYWYSOGES BEATRICE YN ABERMAW. Dywedir y bydd y Dywysoges Beatrice, merch ieuengaf ein Grasusaf Frenhines, yn debyg o ddyfod i Abermaw, adeg ymwel- iad y Frenbines a Gogledd Cymru, cl iad y Frenhines a Gogledd Cymru, er gosod careg sylfaen yr Eglwys newydd. Nis gallaf lai na gobeithio mai felly y bydd, er y gwelaffod Nodwr yn y Goleuad wedi ffromi yn aruthr wrth feddwl am y fath beth.
[No title]
MARWOLAETH MR. W. H. R. POWELL, A.S. Clywaf fod yr aelod Sen. I eddol dros rhan Orllewinol Sir Gaerfyrdain *-Mr. W. H. B. Powell, A.S.—wedi marw y boreu hwn. Y mae Mr. Powell wedi bod yn bur wael ei iechyd er's rhai blynyddau bellach, ac nid oedd y diwedd mewn un modd yn annisgwyliadwy. Yr oedd yr ymadawedig yn 70 mlwydd oed, ac wedi eistedd yn y Senedd oddiar 1880. Yr oedd "dyn bach Maesgwynne" yn boblogaidd iawn yn sir Gaerfyrddin, nid gan y Rhyddfrydwyr yn unig, ond gan wyr o bob plaid yn gyffredinol. Naturiol gofyn pwy fydd ei olynydd ? Na ddyweded y darllenydd hynaws mai gweddus fyddai i ni adael i gorph yr ymadawedig oeri cyn gofyn am olynydd iddo, oblegid, er cywilydd iddynt yr wyf yn dweyd hyn, y mae Radicaliaid sir Gaerfyrdd- in er's misoedd wadi bod yn edrych allan am ddyn cymwys—i eistedd yn sedd Mr. Powell. Cader Idris, Boreu dydd Mercher.
{!l:l1ffrtlJiuoI. -""""",,"",-",-"-...r-...."",-/"",-,,",-,"..../"'-,,-."",,,-"'-"'"-""..r-..'
{!l:l1ffrtlJiuoI. -r-r- RHAGOR o NEWYDDION AM STANLEY.—Codwyd cri yn ddiweddar fod yr anturiaethwr enwog uchod wedi cael ei ladd gan rai o anwariaid Affrica, ond credai eraill nad oedd sail i hyny, a daeth gair yn ddiweddar i gadarnhau y gredin- iaeth hono. Erbyn byn y mae sicrwydd fod Mr. Stanley yn fyw, canys daeth brysneges o Zanzi- bar i'r wlad hon yn hysbysu fod llythyrau wedi cyraedd o Ujiji, dyddiedig Mawrth lOfed, yn rhoddi hvsbysrwydd ei fod wedi cyfarfod Tipoo Tib, a'i fod wedi danfon yn ol rai o'i ganlynwyr drwy y Congo. Dywedai y llythyrau yn mhell- ach fod Mr. Stanley ac Emin Pasha yn bwriadu dyfod adref drwy Zanzibar. DAEARGRYN YN NGHWM RHONDDA.—Nos Sadwrn teimlwyd daeargryn yn Nghwm Rhondda. Yr oedd yr ysgogiad a'r twrw yn gyfryw tel y diang- odd nifer mawr o'r bobl i'r bryniau mewn braw, tra y rhedai eraill at y glofeydd gerllaw, gan feddwl fod ffrwydriad wedi digwydd, Nid oes hanes am ddim niwed wedi ei gael. Teimlwyd y ddaeargryn fwyaf yn Rhondda fach, lie y parodd yr ysgytiad i dori llawer o ffenstri; ac mewn un ty taflwyd y plant o'u gwelyau. Yn Pontygwaith hefyd, achosodd gryn gyffro. Yr oedd y hin wedi bod yn hynod drymaidd yn ystod y dydd blaenorol. Yr oedd y trigolion wedi cael braw, a bu bir amser cyn y gellid eu perswadio i fyned yn 01 i'w tai. SAETHU DYN YN FARW WRTH DDRWS YR EG- LWYS.—Yn Sardis, Mississippi, ddydd Sul, fel yr oedd dyn o'r enw John Williams yn dyfod o'r Eglwys, aeth un Mrs. Campbell i'w gyfarfod tynodd lawddryll a saethodd ef yn y fan yn ngwydd y gynulleidfa. Haerai y llofrudd fod Williams wedi ei henllibio yn warthus. Y GLOWYR A'U MEISTRIAID.-Y mae dealltwr- iaeth boddhaol wedi ei sicrhau rhwng glowyr Gogledd Cymru &'u meistriaid ynghylch codiad yn y cyflog. Mewn cyfarfod o'r perchenogion a gynhaliwyd yn Rhiwabon ddydd Sadwrn pender- fynwyd fod codiad o bump y cant i gael ei roddi iddynt ar y laf o Orphenaf, a phump y cant yn ychwanegol ar neu cyn y 30ain o Fedi nesaf. YSBEILIAD YN NGWRECSAM.—Y mae ysbeiliad beiddgar newydd dd'od i'r amlwg yn Ngwrecsam. Dydd Sadwrn catwyd fod ffenestr rhyw oriedydd mewn heol gul gerllaw y farchnad wedi cael ei hysbeilio drwy i dwll crwn gael ei dori yn y ffenestr o'r tuallan a nifer mawr o oriaduron wedi cael eu lladrata. Y mae yr achos yn llaw yr heddgeidwaid, ond eisoes nid oes y syniad lleiai ynghylch y troseddwr. TAN DYCHRYNLLYD YN CHINA.—Derbyniwyd bysbystvvydd yn Shanghai am dan dychrynllyd, yr hwn a barhaodd am bedwar diwrnod ac a ddis- trywiodd fwy na haner tref fawr a phwysig Lachan. Cafodd canoedd eu llothu i farwolaeth wrth geisio dianc drwy heolydd culion y ddinas losgedig a bernir fod beth bynag 1,200 o fywyd- au wedi eu colli. Gwnaed 10,000 o deuluoedd yn ddigartref. DYN WEDI EI LADD GAN DRYDANIAETH.—Cyn- haliwyd trengholiad yn Woohuch nos Iau yn ngliylch mafwolaeth John Connolly, a fuasai ar un adeg yn bellebrwr yn y Royal Engineers, ac yn ystod y mis diweddaf yn gweitbio pellebyr gwaith y Siemen yn Charlton. Rhoed ef i edrych ar ol peiriant yn ystafell y gcleuni trydanol, ao o ran eywreinrwydd aeth i ymhel ag offeryn i fesar nerth trydaniaeth. Lladdwyd ef yn y fan. CYMDEITIIAS AMAETHYDDOL MON.—Cynhaliwyd oyfarfod cyhoeddus yn Llanerchymedd, yr wyth. nos o'r blaen, i ystyjied y priodoldeb o gasglu tuag at roddi gwobr neillduol yn yr arddangosfa sydd i'w chynal ar y 7fed o Awst am neidio a thithio." Mewn canlyniac; y mae £ 18 wedi eu casglu yn barod tuag ato. Sylwyd hefyd yn y cytarfod fod y llywydd, Mr. T. Pritchard, Llwyd. iarth Esgob, wedi tanysgrifio J13 tuag at ddwyn y draul o arddangosiad o beirianau trin llaeth ac ymenyn yn yr arddangosfa. Y CYNHAUAFWYB, GWYDDELIG.-Y mae yn ar- feriad blynyddoI or's llawer o amser bellach i nifer o'r Gwyddelod ymweled a. rhanau amaeth- yddol Lloegr ar adeg y cynhauaf. Bydd cynifer o honynt yn cychwyn oddi cartref yr adeg yma, fel y bydd yn ofynol i wahanol linellau y rheil- ffyrdd ddarparu cerbydau arbemg ar eu cyfer. Cychwynodd y fintai gyntaf eleni, yr hon a rifai oddeutumil o bersonau, dydd Gwener diweddaf o Ballyhanis. Cymaint ydoedd y gwasgu yn yr orsaf fel y lladdwyd un dyn, ac yr oedd hwn yr ail a laddwyd felly yn ystod y tymor presenol. 0 ddiffyg darpariaeth briodol gan awdurdodau y rheilffyrdd, rhaid oedd gadael naw cant o'r Gwyddelod i aros hyd dranoeth, a dengys hyn fod tua dwy fil o honynt yn awr yn y wlad hon yn barod i'r cynhauaf. YMWELIAD Y FRENHINES A CHYMRU.—Y mae y manylion wedi eu cyhoeddi ynghylch y trefniadau ar ymweliad y Frenhines a Chymru. Bydd i'w Mawrhydi adael Osborne nos Iau, Awst 6ed, a thrafaelio drwy nos, gan gyraedd Llandderfel yn gynar ddydd Gwener. Yn ystod yr un dydd bydd iddi fyned ar daith o amgylch Hyn y Bala, a gwrando ar blant yr ysgolion yn canu yn y dref, lie hefyd y derbynia anerchiad. Dydd Sadwrn bwriada fyned ar ymweliad a, Wynnstay, ac oddi. yno i yru i Gwrecsam, lie y cyflwynir anerchiad gan y Maer a'r Gorphoraeth. Wedi talu ymwel- iad â'r dref, bydd i'w Mawrhydi yru i'r orsaf a gadael Gwrecsam gyda'r gerbydres am Llan- dderfel. Ddydd Llun bydd i'w Mawrhydi dalu ymweliad a Ffestiniog, lie y caiff ymweled a rhai o'r chwareli, ar yr un dydd y bydd y Dywysoges Beatrice yn gosod careg sylfaen yr eglwys newydd yn yr Abermaw, ac yn teithio oddiyno i Ffes- tinlog i ymun o a'r parti brenhinol. Dydd Mawrth bydd i'w Mawihydi yru drwy Ddyffryn Llangollen i Langollen, ac oddiyno i Bryntysilio, palas Syr Theodore Martin. Y dydd dilynol bydd iddi adael Pale yn gynar am Balmorcil. _■ I DIOGELWCH GWAITH DWFR LLANWDDYN—Y mae Mr. T. Hawekeley, diweddar brif beirianydd Gwaith Dwfr Llanwddyn, mewn llythyr a gy- hoeddodd, yn ymwrthod & phob cyfrifoldeb mewn perthynaa i gyfansoddiad dyfrglawdd y Vyrnwy ond dywed mai efe wnaeth y cynllun ac os yw y gwaith wedi cael ei ddwyn ymlaen yn ol ei gyfar- wyddiadau ef, nis rhaid i'r bobl sydd yn byw yn nyffrynoedd y Vyrnwy a'r Hafren ofni am en diogelwch. CYFLAEAN ERCHYLL YN LLUNDAIN.-Nos Wener diweddaf bu cyflafan erchyll yn Llundain, gerllaw y chwareudy a elwir y Canterbury Theatre of Varieties. Yr oedd dyn o'r enw Letine, yngtyd d'i wraig a'i blant, wedi ei Ilogi i berfformio yno y noson hono yn lied hwyr. Yr oedd wedi bod yn teithio drwy y wlad fel mabol-gampwr, a thra felly efe a gyflogodd ddwy eneth, merched i un Nathaniel Cnrragh, i fyned gydag ef yn ei alwed. igaeth. Wedi bod ychydig amser, naill ai o lafur gormodol neu rhywbeth arall, aeth yr eneth ieu. engaf, 14 oed, yn wael, a bu farw o ^darfodedig- aeth cyflym. Parodd hyn i'r tad fyned i iselder ys- bryd, ac am ysbaid bu mor ddigalon nes amheuai ei deulu ei fod yn dechreu dyrysu. Soniai am hunanladdiad, a bygythiai ladd Letine; ond nid ystyriai y perthynasau yr achos mor ddifrifol, gan briodoli yr oil i rhyw wendid. Fodd bynag, gwelwyd ei golli nos Wener, pryd yr oedd efe wedi myned i Lundain, a bu yn hir yn gwylio wrth ddrws y chwareudy uchod hyd nes daeth Letine yno gyda'i wraig a'i blant mewn cerbyd. Letine oedd y diwecldaf i ddyfod allan o'r cerbyd, ac mor fuan ag y darfa, rhuthrodd Curragh ato gan ei drywanu yn ei ystumog yn dra ffyrnig. Yna efe n groesodd yr heol gen gyfeirio dryll at ei ben ei hun, a saethodd. Daeth cynorthwy i'r fan yn fuan, a chludwyd y ddau ddyn i'r ysbytty, lie mewn ychydig amser y bu Letino farw ond y mae pob disgwyliad y bydd i Curragh gael ad feriad. Y DDIRPRWYAETH BARNELLAIDD.—Yn y Ddir- prwyaeth arbenig uchod, a gynhaliwyd ddydd Iau, Mr. T. P. O'Connor, A.S. dros ran o Llyn- lleifiad, oedd y prif dyst. Dywedodd iddo uno Cyngrair y Tir yn 1882, anerchodd bump neu cbwech o gyfarfodydd yn wythnosol am saith mis, ac ar bob achlysur siaradodd am ddwy awr. Ni chlywodd unrhyw syniadau eithafol yn cael eu traethu yn ystod ei ymweliad oddigerth gan Finnerty a chondemniai ei syniadau. Mor bell ag y gwyddai ef, nid oedd gan y cyngrair unrhyw gysylltiad & throseddau. Hysbyswyd y gwir yn yr United Ireland iddo wabodd pob Gwyddol gwladgarol i uno yn y mudiad, ac ni wrthodai aelod o'r Clan-na-gael. Tra yn America ni chlywodd gwbl fod Ffeniaid o blaid gorthrech a throseddau. Dydd Gwener croesholwyd ymhellach y Tad O'Connor, ond ni chafwyd dim neillduol ganddo ef.—Yna holwyd Mr. T. P. Foley, A.S., yr hwn a alwyd ymlaen i ddatgan o dan ba amgylchiadau y newidiodd ef cheque am ZCIOO â, Frank Byrne ond gan na ddangoswyd y counterfoilohiriwyd y croesholiad.—Henry O'Connor, ysgrifenydd 3angen Causeway o Gyngrair y Tir, a dyngodd fod y Cyngrair yn wrthwynebol i orthreeb.-Dr. Kenny, A.S., a ddywedodd na thalwyd unrbyw arian gan y cyngrair am droseddu cyhyd ag y bu ef yn gysylltiol ag ef.—Farragher, un o dystion y Times, a ddywedodd iddo ef gario arian-archeb. ion oddiwrth Egan i Mullett yn 1881, ondyr oedd ef yn sicr nad oedd Egan yn Dublin yn ystod yr amser y dywedid ei foJ. Hefyd, tyetiai yn n,a 11 gadarn yn erbyn y datganiadau a wnaeth Le Caron ynglyn ag ef. Gohiriwyd y llys hyd ddydd Mawrth.
CRONFA ESGOB LLANDAF. 1
CRONFA ESGOB LLANDAF. Bu pwyllgor y gynhadledd uchod yn eistedd yn Nghaerdydd dydd Gwener diweddaf, yr Arglwydd i Esgob yn y gadair. Dywedodd y trysorydd (Mr. Jonas Watson) fod yr holl danysgrifiadau, caegl- iadau, &c., tuag at y gronfa yn cyraedd y swm o J26.299. Yr oedd grants wedi eu rhoddi tuag at gyflogau curadiaid yn cyraodd X2,516, a thuag at adeiladu eglwysi ac ystafelloedd cenhadol ^5,890. Caniatawyd cydsynio &'r ceisiadau caulynol:- £100 tuag at gronfa ail-adeiladu St. John's, Caer- dydd; C20 tuag at ystafell genhadol Abergwynfi .Qlo tuag at ystafell genhadol yn Gordon Street, Oaenewydd; X120 tuag at belaeth u Eglwys Drindod Sanctaidd, Pontnewydd £ 100 tuag at ystafell genhadol yn Eirw, Llantrieant; C25 tuag at ystafell genhadol St. Vincent, Caerdydd ^50 iuag atystafellgenliadolmiskin; i:100 tuag at ideiladu eglwys newydd yr Holl Saint, Penarth E200 tuag at adeiladu eglwys newydd yn Tre- 7orest; X20 tuag at eglwys haiarn Trinant, Pen- naen, Casnewydd X150 tuag at hehethu Eglwys 3t. Joseph, Cwmaman.