Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH."

- CWMAFON.

Advertising

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN BRESENOL.

NODION 0 DDYFFRYN TOWY.

RHUTHYN.

--DOLGELLAU A'R AMGYLCHOEDD.

--I TROEDYRHIW.

. MAESYGROES, LLANLLECHID.…

MERTHYR TYDFIL.

LLANELWY.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

NODIADAU 0 FEIRION.

RHYL.

DEONIAETH LLEYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DEONIAETH LLEYN. CYFARFOD DEOXIAETHOL.—Dydd Gwener, yr 21ain cynfisol, cynhaliwyd cyiarfod chwar- terol clerigwyr y ddeoniaeth uchod yn rheithor- dy Llaniestyn, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn. James Rowlands, Llanbedrog. y Deon Gwladol; Canon Johnson, M.A., Rheithor Llaniestyn; J. Jones, B.A., Ficer Llannor E. P. Howell, M.A., Prifathraw Ysgol Bottwnog P. Williams, Rheithor Llanengan; R. T. Jones, B.A., Ficer Nefyn G. H. Parry, Ficer Ceidio T. Jones, B.A., Ficer Llangwnadl; B. Thomas, Curad Aberdaron H. J. Manley, Curad Llan- gian; J. Morgan, Rheithor Edeyrn. Testynau yr ymdrafodaeth oeddynt:—1. Darllen yn y gwreiddiol yr Etengyl am y Sul cyntaf yn y Gar- awys. 2. Arwyddo deiseb yn gwrtlidystio yn erbyn ymgais y Charity Commissioners i gym- hwyso Elusen Betton at amcanion cyffredinol. 3. Y dull mwyaf effeitliiol i barotoi ymgeiswyr gogyfer a'r ddefod o gonffirmasiwn. Y CONFFIRMASIWN AGOSHAOL.-Bydd Esgob Bangor yn ymweled a'r ddeoniaeth hon y mis presenol i weinyddu y ddefod o gonffirmasiwn. Y mae clerigwyr y ddeoniaeth yn brysur wrth y gwaith pwysig o barotoi y bobl ieuainc ar gyfer y dydd hwnw. Da chwi, gyfeiliiun a -chyd- Eglwyswyr, amcanwch at eu dysgu i fod yn Eg- Iwyswyr ffylldlona gwirioneddol, fel y bydd iddynt barhau yn y gorlan Eglwysig ar ol eu conffirmasiwn, yn lie myned ar ddisperod, fel y mae yn digwydd mewn cynifer o engreifftiau ymhlith y rhai a gyflwynir i'r esgob. YMADAWIAD Y PARCH. B. THOMAS, CURAD ÅBERDARON.- Y mae y gwr parchedig uchod wedi derbyn curadiaeth Llanberis. Dechreua ar ei ddyledswyddau yn ei faes newydd yr wyth- nos hon. Y mae Mr. Thomas yn weithiwr di- wyd a llwyddianus, yn bregethwr hyawdl ac effeitbiol, ac yn gymydog siriol a cliyinwynas- gar. Tra yn gurad yn Aberdaron, cyflawnodd waith da, ac enillodd serch a pharch pawb a'i hadwaenai. Eiddunwn iddo bob llwyddiaut yn ei faes newydd. Boed gwen y nefoedd arno ef a'i ymdrechion. HELAETHIAD "Y LLAN A'R DYWYSOGAETH." —Y mae Eglwyswyr Lleyn jcynifer o honynt ag ydynt yn ddarllenwyr-nid yw eu nifer yr hyn a ddylasai fod, ysywaetli) yn edrych ymlaen gydag awydd at y rhifyn cyntaf o liono wedi ei helaethu. Gobeithiwn y bydd yr ymgais at wneyd y newyddiadur hwn yn dcierbyniol gan hyd yn nod y grwgnachwyr nas gallant fforddio talu ceiniog am bapyr, oni bydd o ryw famtioli neillduol, mor llwyddianus ag y teilynga fod. Y mae yn ddrwg genym ddeall fod amryw o glerigwyr y ddeoniaeth wedi esgeuluso eu dyled- swydd fcl Eglwyswyr yn y cyfeiriad hwn. Gobeithiwn y bydd i'r rhai wrth y llyw gael y gefnogaeth a haeddant, nid yn unig gan glerig- 11 1 wyr, ond hefyd gan leygwyr yr Eglwys. Wrth ddrws y dosbarth blaenaf y gorwedd y bai, os bydd i'r anturiaeth droi allan yn fetliiant. Y mae o fewn gallu y clerigwyr, drwy ymdrech a phenderfyniad, drwy ddosbarthu Y LLAN A'R DYWYSOGAETH ymhlith eu plwyfolion, a thrwy ddefuyddio yr ysgrifbin yn fynycli eu hunain, i'w wneyd yr wythnosolyn mwyaf effeitliiol er daioni yn y Dywysogaeth. Deffroed y cysgad- wyr a'r difater, fel y gwasgarer gelynion Sion, ac y lledaener egwyddorion gwir Eglwysig ymhlith ein cydwladwyr. YMDnISWYDDIAD ESGOB BANGOK.—Y mae'n wir alarus genyf ddeall fod y Gwir Barc-hedig Esgob Campbell ar fedr ymddiswyddo oherwydd"' gwaeledd iechyd. Y mae ei arglwyddiaeth wedi llywodraethu yr esgobaeth am ysbaid o 31ain o flynyddau ac wrth edrych yn ol ar hyd y blynyddoedd liyn, nis gallwn lai na chanlcd y cynydd dirfawr sydd wedi nodwcddu ymdrech- ion yr Eglwys yn yr Esgobaeth o dan arelyguieth ei arglwyddiaeth.— Veritas vincet.

--CWMAFON.

- CWMAFON.