Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

22 erthygl ar y dudalen hon

Y PREGETHAU *YN MYNACHLOG…

. GWASANAETH CYMREIG YN EGLWYS…

. Y TRYCHINEB GLOFAOL YN WILKESBARRE.

EMIN PASHA.

GWRTHDARAWIAD ARSWYDUS AR…

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

[No title]

CYFRINGELL Y GOLYGYDD

[No title]

.CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYD-DDEALLTWRIAETH A CHYD-WEITHREDIAD. Nl iu cyfnod yn ei hanes pan y bu'r Eglwys yn Nghymru yn wrthddrych cymaint o sylw ag a delir iddi yn y dydd- iau presenolv Prif genadwri pob Aelod Seneddol Radicalaidd a anfonir i'r Senedd o Gymru yw ei fod i ddadleu a phleid- leisio dros Ddadgysylltiad ac ysbeilio yr Eglwys o'i ineddianuu. Dyma gareg syl- faen pob cymdeithas a chyngrair politic- aidd Radicalaidd yn y Dywysogaeth. Tra y inae'r amrywiol sectau yn eiddig- eddus wrth eu gilydd, ac yn esgymuno y naill y llall pan fo eu gwahanol nodwedd- ion crefyddol mewn dadl, ymwelant a chapelau y naill y llall, ac anerchant eu gilydd gyda zel deilwng o'r Phariseaid manylaf pan fo dinystr yr Eglwys yn destyn eu liymdrafodaeth. Pe byddai y pwnG sydd yn ffurfio conglfaen eu cyd- undeb yn deilyngach o ddynion yn pro- ffesu y grefydd Gristionogol, gallem o gal on ddywedyd, Wele mor ddaionus ac inor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd Drachefn a thrachefn dywedant wrthym eu bod yn unfryd unfarn ar y mater hwi, er maint eu gelyniaeth at eu gilydd ar faterion crefyddol. Pa beth y mae yr Eglwys yn wneyd mewn hunan-amddiffyniad yn ngwyneb ymosodiadau undebol yr Ymneillduwyr arni ? Y mae yn wir fod yr Eglwys yn talu llawer mwy o sylw i athrawiaethu a hyfforddi mewn cyfiawnder nag y gwna y sectau. Tra y mae yr offeiriaid yn gweithio ymysg eu pobi yn eu gwahanol blwyfydd, y mae y gweinidogiomYmneill- duol yn gwibio o un cyfarfod politicaidd i un arall, gan wneyd a allant i greu anghydfod ac anghariadoldeb ymhlith cymydogion. Ond credwn y gallai yr Eglwys wneyd llawer mwy i wrthweithio yr ymosodiadau arni nag a wna heb es- geuluso dim o'i gwaith ysbrydol fel y cyfryw. Rhaid iddi ofalu am hwn, oblegid gan- ddi hi y mae'r comisiwn dwyfol, a hi yw sylfaen a cholofn y gwirionedd ac er ei bod yn y lleiafrif o ran rhifedi, hi ydyw halen y ddaear. Nid yw llwyddiant bob amser yn ymddibynu ar liosogrwydd. Yr ydym ni yn cydnabod ein bod yn y lleiaf- rif, ond nid mewn rhifedi y mae gwendid yr Eglwys yn Nghymru yn y dyddiau presenol, ond yn hytrach o lawer mewn absenoldeb cyd-ddealltwriaeth a chyd- Nveitl-irediacl. Pan yr oedd y Midianiaid yn gorthrymu yr Israeliaid, ac y cyfodwyd GEDEON i fod yn arweinydd iddynt, yr oedd y gelynion fel locustiaid o amldra, ac nid oedd rhifedi arnynt, eto, gorchfyg- odd' GEDEON lrwyut gyda dim ond tri chant o wyr. Yr oedd GEDEON yn ar- weinydd medrus. Rhanodd ei fyddin fechan yn dair rhan, ond yr oedd perffaith gyd-ddealltwriaeth rhyngddynt, yr hyn a sicrhaodd gyd-weithrediad a buddugol- iaeth, canys y tair byddin a udganasant mewn udgyrn.ac a lefasant, I Cleddyf yr ARGLWYDD a GEDEON,' a lioll wersyll y gelynion a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd." Drwy iawn gyfraniad o'r gallu- oedd wrth law, a cliyd-ddealltwriaeth a chyd-weithrediad, gallai yr Eglwys yn Nghymru ddyblu ei heffeithiolrwydd. Pa le y mae ein harweinwyr ? Y mae ein peirianwaith yn berffaith, ac nid oes angen am un cyfluniant newydd. Rhenir y Dywysogaeth i bedair Esgobaeth rhenir pob Esgobaeth i ddwy neu dair Arch- ddiaconiaeth, a phob Archddiaconiaeth i amryw Ddeoniaethau Gwladol. Dyma y peirianwaith, ond y mae y gwahanol ranau o hono yn ymsymud yn rhy anni- bynol a'u gilydd. Y mae y pedwar Esgob yn cyfarfod weithiau er mwyn cyd- ymgynghori, ond nid ydym wedi clywed fod yr Archddiaconiaid erioed wedi gwneyd hyny, na'r Deoniaid Gwladol, er mwyn trafod materion er lies holl gorff yr Eglwys yn y Dywysogaeth. Er dy- wedyd o honom ein bod yn aelodau o'r Eglwys Gatholig, y mae eingweithredoedd yn tystiolaethu mai cynulleidfaol neu blwyfol yw ein hysbryd. Y mae ein Hesgobion yn cyflawni eu gwaith gyda zel a diwydrwydd teilwng o'u swyddau aruchel, ond gyda phob parch anturiwn ddweyd fod ein Harchddiaconiald- a'n Deoniaid Gwladol yn rhy glaiar ac es- mwyth ynghanol gelynion sy'n barhaus yn ymgynghori ynghyd yn erbyn yr Eglwys. Paham na chyferfydd yr holl Arch- ddiaconiaid Cymreig i drafod amddiffyn- iad yr Eglwys, a sicrhau mor bell ag y mae yn bosibl cyd-ddealltwriaeth a chyd- weithrediad drwy y pedair Esgobaeth. Nid ydym yn anghofio fod gan yr Esgob- aethau bwyllgorau amddiffyniad yr Eg- lwys wedi eu hethol gan y gwahanol Gynadleddau, ond beth maent yn wneu- thur i gyflawni diben eu bodolaeth ? Y mae yn wir y traddodir darlith yn awr ac yn y man, ond nid o dan nawdd a chyfar- wyddyd yr awdurdodau y cyfeiriwn atynt. Y mae yr adeg yn gyfieus i'n har- weinwyr i iawn-drefnu eu galluoedd am- ddiffynol, oblegid tra bo'r gelynion yn rhwymedig wrth gerbyd gwleidyddol Mr. GLADSTONE i gludo Ymreolaeth i'r Iwerddon, yr ydym mewn diogelwch. Os yn anmliarod y'n ceir pan y rhyddheir y dadgysylltwyr o'u caethwasiaeth i'r cyn- Brif Weinidog, nid arnynt hwy y bydd y bai, oblegid er mor anonest ydyw eu ham- canion, y maent yn ddigon gonest i'n hys- bysu o'u bwriadau. Si vis pacem, para helium.

. CHWARELWYR A THIRFEDDIANWYR.

TEULU CYFAN WEDI LLOSGI I…

0.-FICER WEDI El DDISWYDDO…

. MARWOLAETH ABRAHAM LINCOLN.

ANRHEGU FICER BRITON FERRY.

. DAMWAIN ECHRYDUS YN -NGOGLEDD…

Y LLOFRUDDIAETH YN CREWE.

ETHOLIAD GOGLEDD ST.' PANCRAS.

[No title]

. DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

MARCHNADOEDD. -------._-___-_-----

[No title]