Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

AT Y BEIRDD.

DOSBABTH I.

AFONYDD CYMRU.

CYMDEITHAS Y PRIMROSE LEAGUE.

DOSBABTH II.

DISGRIFIAD O'R DIAFOL.

Eglwys a Gwladwriaeth.

FFEIRIAU Y BALA AM 1890. \

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETHAU CYMRY YN AMERICA. JAMES—Mawrth y 4ydd, yn Kirkville, Ohio, yn 58 mlwydd oed, Mary, priod William S. James, Ganwyd hi yn Ystradfelle, ac ymfudodd yn 1851. Gadawocld i alaru ar ei hoi briod a deg o blant, JAMES—Chweiror y 13eg, yn 62 mlwydd oed, Mrs. James, gwraig John James, Lockport, Newark, Ohio. Merch yd- oedd yr ymadawedig i James a Mary Watkins, Henllys, Borth, ger Aber- ystwyth. Symudodd hi a'i gwr o Fryn Almaen, Borth, i America tuag un flynedd ar hugain yn ol. Gadawodd wr a thri o blant ac wyr bach i alaru eu colled ar ei hoi. MORGAN—Chwefror y 18fed, yn Bigelow- street, Twenty-third VI ard; Pittsburgh, Mr. J. Morgan, mab i'r diweddar Shon Morgan,, refiner, Tredegar. Gadawodd wraig a thri o fechgyn i alaru ar ei ol, MORRIS--Mawtth yr 2il, yn Kirkland, ger Clinton, New York, Margaret Morris, yn 83 mlwydd oed, Ymfud- odd o Lanbrynmair 43 o flynyddau yn ol, yn wraig weddw gyda dau o blant, y rhai sydd yn fyw. Priododd a un Richard Williams, yn Waterville, ac y mae un mab o'r briodas hon. Priododd drachefn a Mr. Rowland Morris, tad y diwedar David Morris, Waterville. Yr oedd yntau, fel y lleill, wedi ei blaenu er's llawer blwyddyn bellach. REES.—Mawrth yr 8fed, yn Chartiers Township, Steubenville Pike, Pennsyl- vania, Mr. John S. Rees, yn 82 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Mhenrhyn Coch, Sir Aberteifi. Claddodcl ei briod yn Nghymru ddeunaw mlynedd yn ol, a'r flwyddyn ganlynol ymfadodd at ei ferch a'i fab-yn-nghyfraith yn Chartiers Township. Y mae un mab a dwy ferch iddo yn America, a dau fab yn byw yn Mhontlottyn.

HANES CAPEL SEION.

[No title]

[No title]