Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Wyfrau Cyhoeddedig ac ar Werth gan Mri. FARRANT a FROST, Swyddfa "Y Llan a'r Dywysogaeth." SECOND SERIES, EIGHT SERMONS AND ADRESSES DELIVERED BY THE REV. FATHER BENSON, Superior of the Society of St. John Evangelist, AT A PAROCHIAL RETREAT lield in S. David's Churoh, in the Parish of Merthyr Tydfil, On Sunday, Monday, and Tuesday, December 11th, 12th, and 13th, 1887. PRICE ONE SHILLING, PØST FREE. Merthyr Tydfil: FARRANT AND FROST, Llan "r :¡)ywY80gaeth Office. Z.LAWI.VFR WASANAETH ATHRAWON YR YSGOL SUL, Bel Gofyniadau ar Lyfrau Haneayddol yr Hen Destament. Gan Y Parch. EVAN JONES, B.D., Rheithor Trefdraeth, Penfro. Pais 6D. GYDA'R POST, 7D. .Merthyr Tydfil: FARRANT a. FROST, Swydfa Iilan a'r Dywysogaeth." THE ADVANTAGES OF A NATIONAL CHURCH: OR WIly SHOULD THE CHURCH OF ENGLAND BE DISESTABLISHED AND DISENDOWED? AN ADDRESS DELIVERED BY THE REV. C. J. THOMPSON, M.A., Vicar of St. John's, Cardiff. PRICE ONE PENNY. ',lferthyr Tydfil: Messrs. FARRANT ANDFEOST, an a'r Dywysogaeth Office. THE BEST CLASS REGISTER PUBLISHED. ii, SUNDAY SCHOOL CLASS REGISTER foj1? Advent to Advent, with additional space celln^ addresses, &c., as well as other mis- ua^ons information. PRICE 2D. EACH. Sample sent free for Two Stamps. S8F8, WARRANT AND FROST, Publishers, Llan a'r Dywysogaeth" Office. JUST PUBLISHED, PRIMER BACH: l SECOND EDITION] A WELSH BOOK OF INSTRUOTION AND DEVOTION, l' CONTAINING 8tl'Q t' 01113 on the Creed, the Ten Command- ments. Sacraments and Ordinances of Religion, 111 baptism, Confirmation, &c. 6 J2ucharistic Sacrifice, and Communion Ceremonies of the Church, &c. lOlls before Holy Communion, in Church ^oly Communion, and Thanksgiving after Holy Communion. Sac Passion, a Litany of the Blessed • ^ent, and a Litany of a Happy Death. A.Ild other Occasional Prayers. IC11 EIGHTPENCE POSTAGE liD. },{e88 SOLD BY AltRANT AND FROST, 44 Llan a'r Dywys- ogaeth Office. JUST PUBLISHED. J LJR ^ILIPS' NEWLY ENGRAVED ^PofStanley'sExplorations in Africa, to 1889, with short account of the same. t ^6s8*s.- *s* Sent post free by V ^RANT AND FROST, Merthyr Tydfil. HANESYDDIAETH BOBLOGAIDD o EGLWYS LOEGR. Yn dangos ei Thardd,iad-Bi Chynydd—A'i Gwaith dros y Bobl. BRASDDARLUN MEWN TAIR PENOD. Oddiar y dyddiau- boreuaf hyd amseroedd y Diwygiad. II.-Hanes y Diwygiad. III.—Oddiar y Diwygiad hyd ein dyddiau ni. Gan G. H. T. NYE, Ysgrifenydd Trysorfa Sefydliad Amddifynol yr Eglwys (Financial Secretary to the Church Defence Institution). The Palace, Llandaff. March 13th, 1890. My DEAR SIR,-I am much obliged to you for a copy of your 44 Popular Story of the Church in Wales." I have just read it, and think it a valuable and very seasonable addi- tion to Church Defence Literature, and that it would help to strengthen our hands very much if the clergy (especially in Wales) would make an effort to get it widely circulated in their parishes.—Believe me, very faithfully yours, R LLANDAFF. G. H. F. Nye, Esq., Palace Chambers, Westminster. Ymddyddanion AR Egwyddorion Eglwysig," Cyfieithedig gan PARCH. E. P. HOWELL, M.A., "Prif-athraw Ysgol Ramadegol Bottwnog, ger Pwllheli. Chwaethus a dyddorol. Wedi eu Cym- reigio yn drwyadl. Bydd pwy bynag a'u dar- lleno yn gwybod llawermwy am yr Eglwys fel un cor:ff ysprydol nag ydoedd cyn hyiiy .-Haul. Dyma lyfr rhagorol. Y mae y Parch. E. P. Howell wedi gwneyd gwasanaetli gwerthfawr i'r Eglwys a'r genedl trwy gyfieitliu mewn dull mor ardderchog lyiryn cynwysfawr Mr. West. Dylasai pob Eglwyswr Cymreig brynu, darllen, a chwilio y gyfrol fechan hon.—Llan. We do not know their equals for force of reasoning and perspicuity.—Church Times. Ychydig gopiau ar law. Yn rhad drwy y Post am Is. 2c. oddiwrth y Cyfleithydd.
YR HYBARCH ARCHDDIACON WATKINS…
YR HYBARCH ARCHDDIACON WATKINS AR YR EGLWYS YN NGHYMRU. Yn y cyfarfod lliosog a brwdfrydig gynhaliwydyn Neuadd Coleg St. loan, Rhydychain, y nos Sul o'r blaen, o dan lywyddiaeth Is-ganghellydd y BrifysgQl, dywedodd yr Hybarch Archddiacon Watkins ;— Ni ddadgysylltir byth yr Eglwys yn Nghymru heb ei dadgysylltu yn Lloegr hefyd." Teimlai yn berffaith argyboedd- iadol, pe cawsai fyw hyd nes cyraedd oedran mawr, na cha'i weled yr Eglwys yn Nghymru nac yn Lloegr yn cael ei dadgysylltu. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd pobpeth oedd efe yn ei weled ac yn ei wybod am yr Eglwys yn Nghymru yn ei gadarnhau yn y farn, ei bod bob dydd aphob awr, yn adenill gallu ysbrydol neillduol dros y bobl mwyaf Cristionogol adnabu erioed. Beiddiai ddweyd, wrth gymeryd esgobaeth am esgobaeth, a threfniant am drefniant, y tra rhagorai yr esgobaeth Gymreig. Yn ddios, yr oedd yr Eglwys Gymreig, trwy gael ei llyw- odraethu a'i dwyn ymlaen fel ag yr ydoedd-trwy gael ei hadnewyddu a'i bywhau fel ag yr ydoedd gan fywyd newydd yr oes bresenol, wedi ei thyng- hedu i gyraedd dyfodol llawer disgleir- iach na welodd erioed o'r blaen. (Mawr gymeradwyaeth.) Os buasai iddynt sylweddoli fod yr Eglwys Gymreig yn rhan o Eglwys Gatholig Crist, mai ei gorff Ef ar y ddaear ydoedd yr Eglwys, a moddion datguddiad Duw ymgnawdol- edig i'r enaid mai gwaith mawr yr Eglwys oedd dyfod a phrynedigaeth, iachawdwriaeth, a sancteiddhad o fewn cyraedd pob dyn, yna buasent mewn cyflwr meddwl priodol i ystyried pwys- igrwydd y gwaith oedd i'w gyflawni yn Nghymru. Un o'r pethau cyntaf y buasai yn llawenydd ganddynt benderfynu arno oedd, y rhaid llywodraethu yr Eglwys Gymreig gan ddynion oedd yn gallu siarad iaith y Cymry. (Cymeradwyaeth.) Y dylent gael yn eu plwyfydd, ac yn swyddau uwchaf yr Eglwys, ddynion yn myned at y Cymry i lefaru wrthynt dragywyddol wirioneddau Duw mewn iaith ddealladwy i'r bobl. (Cymeradwy- aeth.) Os oedd yna unrhyw brawf o ddwyfoldeb yr Eglwys yn Lloegr ac yn Nghymru, dyna ydoedd, y ffaith ei bod wedi gorfyw camymddygiadau y ganrif ddiweddaf. Dylai pawb ddiolch i Esgob Llandaf am sefyll mor wrol i amddiffyn ei hawl i wrthod sefydlu periglor nad oedd yn gallu siarad Cymraeg mewn plwyf lie preswyliai lliaws o Gymry. (Cymeradwyaeth.) Bydded iddynt gofio fod yr Eglwys Gymreig wedi bod am fil o flynyddoedd yn rhan hanfodol o Eglwys Loegr, a bod y pedair Esgobaeth Gymreig yn Nhalaeth Caergaint. Ar y llaw arall, credai, os oedd yna unrhyw berygl yn hofran uwchben y dyfodol, dyna ydoedd —i'r Cymry fyned yn rhy Gymreig, ac iddynt anghofio eu safle anhebgorol fel rhan fawr o leiaf o Eglwys Loegr. Credai, tra ar un llaw yr oedd yn angenrheidiol gwneuthur gwybodaeth o'r Gymraeg yn anhebgorol, yr oedd arnynt eisiau ar y llaw arall mo-uldio yr Eglwys Gymreig yn Eglwys Loegr, fel y byddai i'r ddwy sefyll neu syrthio ynghyd. (Cymerad- wyaeth.) Yr hyn oedd gan yr Eglwys Gymreig eisiau y foment bresenol yn fwy na dim arall, perffaith ymuoddiad, gwaith egniol, a bywydau hunan-aberthol ei phlant. (Mawr gymeradwyaeth.)—Cyf. gan
[No title]
I Ddywedasoch chwi wrth y siopwr fod y pyagod a anfonodd i mi ddoe yn ddrwg ?' 'Do, Mum.' Beth ddywedodd e' ?' Dywedoddeu bod o'r un lot ag y dewisasoch o honYDt yr wythnos ddiweddaf, uc na ddarfu i chwi achwyn o gwbl y pryd hwnw, mum,'
RHWYSTR FFODUS.
RHWYSTR FFODUS. Dyn ieuanc crefyddol a pkarchus yn Ffrainc, amryw flynyddau yn ol, a wnaeth i fyny ei feddwl i fynedi America. Wedi iddo fyned i'r llongborth, cafodd fod gan- ddo dair awr o amser cyn y byddai i'r llong gychwyn. Ymroddodd i ddefnyddio yr oriau hyny i fwynhau y golygfeydd., olaf a gaffai ar wlad ei enedigaeth. Ar ei rodfa trodd i bare boneddwr, He yr oedd llawer o goed prydferth yn deilio, a blodau hyfryd yn perarogli. Ar ei waith yn ymadael, tybiodd na byddai drwg iddo dori deilen oddiar un o'r coed i'w chy- meryd gydag ef yn ddernyn bychan sylweddol o'i hen wlad anwyl, na cliaffai, efallai, ei gweled byth drachefn. Nid cynt y gwnaeth hyny nag y dododd hedd- geidwad ei ddwylaw arno, gan ei hysbysu mai ei garcharor ydoedd. Ceisiodd yntau egluro yr amgylchiadau, a chan nad oedd ei drosedd ond y nesaf i ddim, ac yn neillduol gan nad oedd ganddo amser i'w golli, erfyniodd yn daer am gael ei ollwng yn rhydd. Y swyddog, fodd bynag, nis gwrandawai, ond cymerodd ef o flaenyr ynadon, y rhai a gydymdeimlent yn fawr ag ef. Rhoddasant gerydd geiriol i'r swyddog am ei or-fanylwch yn achosi rhwystr mor bwysig i'r dyn ieuanc, am beth nad oedd, dan yr amgylchiadau, yn werth i'w ystyried yn drosedd o gwbl. Teimlodd y dyn ieuanc yn siomedig dros ben am ei fod, trwy yr oediad, wedi colli y deithlong ardderchog y bwriadasai fyned ar ei bwrdd. Nid oedd ganddo ond aros i long arall waelach ac arafach, yn cludo nwyddau ac anifeiliaid, i fyned arni. Nis gallai, drds yr holl fordaith anghysurus, lai na gofidio oblegid y rhwystr a barodd iddo golli y llong arall. Cyrhaeddodd America yn ddiogel o'r diwedd, a synwyd ef a'r hysbysiad fod y llong a chwenychasai gymaint fod arni, a phawb oedd ar ei bwrdd, wedi eu claddu mewn dyfrllyd fedd. Parodd hyn iddo syrthio ar ei liniau i ddiolch i Dduw am yr anffawd a roddodd y fath waredigaeth iddo, ac i of yn iddo faddeu ei waith yn grwgnach yn erbyn yr oruchwyliaeth oreu er ei leshad. Yr Arglwydd a galed- odd galon y swyddog i'r dyben o gadw ei blentyn, Bu y tro yn fendith iddo mewn dwy ffordd, set trwy ei waredu oddiwrth angau cynamserol, a thrwy beri iddo lynu yn dynach a mwy boddlonus a ffyddiog wrth ewyllys ei Dad nefol weddill ei ddyddiau.
PAGAN YN ARGYHOEDDI CRISTION.
PAGAN YN ARGYHOEDDI CRISTION. Arglwydd Craven oedd yn byw yn Llundain yn amser y pla. Ei dy oedd yn y lie a elwid Adeiladau Craven. Pan aeth y trychineb blin hwnw yn heintus, ei arglwyddiaeth, er gochelyd y perygl, a benderfynai gilio i'w balas yn y wlad. Ei gerbyd, a dynid gan chwech o geffylau, a ddygwyd at y drws, eu cyfreidijiu a roddid i fewn, ac yr oedd pobpeth yn barod i'r daith. Fel yr ydoedd yn rhodio yn y neuadd, wedi gwisgo ei het, a'i ffon dan ei gesail, ac yn gwisgo ei fenyg, i fod yn barod i ddringo i'w gerbyd, digwydd. ai iddo glywed ei was du, yr hwn a weiniai fel ei rag-farchogydd, yn dweyd wrth was arall, Tebygwn, wrth fod fy arglwydd yn gadael Llundain er gochelyd y pla, bod ei dduw ef yn byw yn y wlad, ac nid yn y dref." Yr oedd y dyn du, druan, yn dweyd hyn yn uniondeb ei galon, fel yn credu yn ddiffuant fod Iliosogrwydd o dduwiau. Ond cafodd ei eiriau effaith dwys ar ei arglwyddiaeth, nes gwneuthur iddo ystyried. Mae fy Nuw i," ebai efe yn ei feddwl, yn byw ymhob man, a dicbon fy nghadw yn y dref yn gystal ag yn y wlad. Mi a arosaf C3 lie yr ydwyf. Darfu i anwybodaeth y dyn du bregethu pregeth i mi. 0 Ar- glwydd, maddeu yr anghrediniaeth a'r anymddiried yn dy. Ragluniaeth, am i mi feddwl dianc o'th law." Yn ddiatreg rhoddodd orchynymyn i'r ceffylau gael eu dwyn i fewn oddiwrth y cerbyd. Efe a arosodd yn Llundain, a bu yn ddefn- yddiol nodedig ymysg ei gymydogion cleifion, ac ni chafodd byth mo'r haint.
METHDALIADAU
METHDALIADAU Yn unol a Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Mai 24ain, fel y canlyn:- 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 17 18 21 Chemists and Drysalters. 3 5 6 China, Glass, & Earthenware 2 2 1 Confectionery, Toys, &c. 2 7 5 Corn, Coals, Minerals 2 6 8 Drapery, Clothing Trades 34 36 30 Farmers. 5 4 8 Furniture, Upholstery. 8 3 5 Horses, Vehicles 2 3 3 Jewellery, Watches — 3 2 Leather 13 10 14 Metals 5 5 1 Paper, Printing, &c. 3 3 6 Provisions. 31 38 44 Wines, Spirits, beer, &c. 11 15 10 Miscellaneous 32 20 25 165 178 189
IFFEIRIAU Y BALA AM 1890.
I FFEIRIAU Y BALA AM 1890. MAWRTH.Mehefin 3 LAU Gorphenaf 10 LLUN Awst 11 LAU Medi 11 SADWRN.Medi 27 GWENER Hydref 24 SADWRN.Tachwedd 8 GWENER Rhagfvr 19
[No title]
4 Na, syr, meddai y dyn ieuanc wrth oruch- wyliwr bywyd yswiriol,' nid wyf yn teimlo fy hun yn barod i yswirio fy mywyd. Nid wyf yn leicio teimlo y byddwu yn werth mwy yn farw nag yn fyw.' 4 Yr idea o osod John ar y jury,' meddai Mrs. Tomkins pan glywodd fod ei gwr wedi cael ei ddethol. 4 Byddai lawn cystal iddynt orchymyn treial newydd. Ni chant John i gytuno a'r rteithfarn. Efe yw'r creadur ystyfnicaf a welais erioed. Wybu mi, erioed iddo gytuno wraig ei hun mewn dim, ac nid yw o gwbl yn debygol oi fod yn myned i gytuno a. phobl wyr e' ddim yn eu cylcb. Juryman braf yn wir!'
Amddiffyniad yr Fglwys-
Amddiffyniad yr Fglwys- MR. HELM YN ABERHONDDU. r ri:¡J ;f< i- ——— '■ f"¡r¡ Ychydig amser yn ol, bu y Parch. J. Matthews, Abertawe, cynrychiolvdd y Gymdeithas Rhyddhad Crefydd, yn traethu ei len, yn Neuadd y Dref, ar Eglwys. Cawsom engraifft deg o'r duli y mae y Dadgysylltwyr yn camddarlunio yr Eglwys ac yn twyllo y werin an- wybodus. Ond, ysywaeth iddo ef, daeth i blith dynionag oeddynt yn gwybod mwy am eu Heglwys nag a feddyliodd efe, o ganlyniad, nid rhyw lawer o groesaw a dderbyniodd y darlithydd enwog (?) gan y mwyafrif ag oedd yn bresenol yn y cyfarfod bythgofiadwy hwnw. Nos Wener diweddaf, daeth Mr. Helm, darlithydd y Gymdeithas er Am- ddiffyniad yr Eglwys, i ymweled a ni, ac i roi ychydig oleuni i'r r^iai hyny o'r Ymneillduwyr na wyddent wir sefyllfa ac hanes Hen Eglwys y Cymry. Llanwyd y gadair yn wir ddeheuig a boneddigaidd gan Mr. D. W. J. Thomas, Ely Cottage, ac un o wardeniaid Eglwys y Priordy. Ar y 11 wyf an yr oedd y Parchn. H. Wil- liams, ficer y dref R. Price, ficer St. Dewi a W. Howell, ficer Garthbrengy. Hefyd, yr oedd y clerigwyr canlynol ymhlith y gwrandawyr, sef y Parchn. J. Davies, ficer St. Illtyd D. Price, cyn- Gaplan y carchardy; M. Jones-Powell, curad y dref Rosendale Lloyd, rheithor Selattyn ac M. Price, curad St. Dewi. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu yr emyn The Church's one foundation," a dywedodd y Parch. H. Williams golectau addas i'r achlysur. Yna galwodd y cad- eirydd, ar ol gwneyd ychydig sylwadau, ar Mr. Helm i anerch y gynulleidfa. Dy- wedodd fod y pwnc ag a fyddai yn ei ddwyn i'w sylw y noson hono yn bwnc pwysig ymhob ystyr. Dadsefydliad a Dadwaddoliad yr Eglwys oedd prif destyn siarad gelynion yr Eglwys yir y dyddiau presenol. Dangosodd mai Eg- lwys enedigol ac nid estronol oedd Eglwys y Cymry. Yr oedd yn bodoli ac yn flodeuog yn Nghymru pan nad oedd y fath genedl a'r Saeson yn bod. Sefydl- wyd y pedair esgobaeth Gymreig tua 1300 o flynyddoedd yn ol, ac mewn amser, ar ol i'r Saeson ddyfod yn genedl unedig, a derbyn yr Efengyl, unwyd yr Eglwys t,Y yn Nghymru a'r Eglwys yn Lloegr, a daethant i gydnabod Archesgob Caer- gaint yn ben arnynt. Nid oedd y Parlia- ment yr amser yma mewn bodolaeth. Yr Eglwys, drwy ei Chymanfa, oedd yn gwneyd deddfau i'r wlad. Yr Eglwys a wnaeth y Parliament, a'r Archesgob oedd yr un ag oedd yn gosod y brenin yn ei swydd, fel penaeth y Wladwriaeth mewn pethau gwladol. Esboniodd, mewn modd eglur iawn, ystyr y gair sefydlu, a dangosodd nad oedd Act Seneddol i'w chael i brofi fod yr Eglwys wedi ei sefydlu gan y Parliament, ond yn hytrach y ffordd arall yr oedd pethau, 8ef yr Eglwys yn sefydlu y Parliament. Aeth ymlaen i brofi fod Anghydffurfiaeth wedi ei sefydlu llawncymaint a'r Eglwys, os ystyriwn beth ydyw egwyddorion sefydl- iad, sef, goddefiad, cydnabyddiad, deddf- wriad,arheoliad. "Yn awr," meddai, "mae pob enwad yn dyfod o dan y penau a enwais." "Na," meddai un o'r gwranda- wyr," "Arhoswch," dywedodd Mr. Helm, gadewch i mi eich hadgofio o'r cythrwfl a gymerodd le mewn perthynas a chapel yn Huddersfield ychydig amser yn ol. Yr oedd rhai o'r aelodau am droi y gweinidog allan, a heriodd eu gallu i wneyd hyn, a gorfu i'r diaconiaid a'r gwrthryfelwyr apelio at Lys y Queen's Bench, a chariodd y gweinidog y dydd." Yn y lie nesaf, dangosodd Mr. Helm ymha ystyr y mae y Frenhines yn ben ar yr Eglwys. Ei bod yn ben ar bob cym- deithas a sefydliad yn y wlad, ac y mae yn ymrwymo i'w hamddiffyn. Nid yw gefod yn caniatau i roi y ddar- lith benigamp hon yn llawn yn Y LLAN. Digon yw dweyd i ni gael gwledd wir dda i'r meddwl. Ar ol i Mr. Helm der- fynu, gwahoddwyd unrhyw berson i ofyn cwestiwn i'r darlithydd. Yna daeth Mr. D. Davies, clerc cyfreithiwr yn y dref, ymlaen, a gofynodd gwestiynau mewn perthynas a phenodiad Esgobion, a chaf- odd atebion boddhaol i'w gwestiynau. Ar ei ol ef daeth Mr. Cobden Rowlands ymlaen, sef yr un a gwestiynodd Mr. Mason pan yr oedd yma. Atebwyd ei gwestiynau yntau yn foddhaol ac mewn ysbryd boneddigaidd gan Mr. Helm, yn wahanol i'r hyn a wnaeth Mr. Matthews pan oedd yma. Diolchodd y ddau i Mr. Helm ym ei atebion i'w gofyniadau. Cynygiodd y Parch. R. Price ddiolch- garwch i'r cadeirydd a'r darlithydd am eu gwasanaeth gwerthfawr y noson hono, yr hyn a eiliwyd gan y Parch. H. Williams, a therfynwyd y cyfarfod drwy ganu y Doxology. Bydd genym rywbeth i'w ddweyd, mewn rhifyn dyfodol o'r LLAN, ar hanes yr Eglwys yn Aberhonddu, a sefydliad Eglwys (Capel Anwes) a alwyd Capel Elud, ar ochr mynydd gerllaw y dref, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw Llwch Twmp. Yr oedd Elud yn byw tua'r burned ganrif. Chwaer ydoedd i Cynog a Tydfil. Felly sefydlwyd yr Eglwys yn foreu iawn yn Mrycheiniog. Cewch hanes cyflawn eto.-Hyii-el Idlocs.
[No title]
Dywedir wrthym mewn barddoniaetli mai Y llaw sy'n siglo'r cryd Yw'r Haw sy'n llywio'r byd.' Nid oes un amheuaeth nad yw y dryclifeddwl yn un prydferth, ond dylasai yr awdwr fod yn gwybod fod o leiaf wyth menyw o bob deg yn siglo y cryd a'u traed. Bobby, inae'eh mam yn dweyd wrthyf eich bod yn lachgen disglaer, a'i bod yn disgwyl i chwi fod yn ddyn mawr,' ebai Mr. Gobeithiol, fel yr eisteddai yn y parlwr yn diagWyl am chwaer Bobby. 'Nid yw mam yn disgwyl dim yn iawn, ebai'r hogyn ni wyr am beth y mae yn siarad. Dywedodd wrth fy nhad ei bod yn disgwyl y buasech chwi a'm chwaer wedi priodi cyn y gwanwyn, ac y mae hyny yn fwy na blwyddyn yn ol."
Y CONFOCASIWN A'R LLYFR GWEDDI…
Y CONFOCASIWN A'R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN. At Olygydd Y Llari a'r Dywysogaeth." ^vr,—Yr oedd yn foddhaol iawn gcnyf v. t e 1 rhyw bytliefnoa yn ol, drwy eich newy.Miadur clodwiw, fod nifer o offeiriaid galluog a medrus wedi cael eu penodi gan y Confocasiwn i ddiwygio y Llyfr Gweddi Gyff- redin Cymraeg, ond, nid i gyfnewid dim, fel y myn rhai gredu. ar y meddylddrychau ar- dderchog a gogoneddus sydd ynddo. Fel y mae yn bresenol, y mae llawer o frawddegau anystwyth a chlogyxuaidd iawn ynddo, a geiriau anarieredig a dyrus, acyn ol gramadegau, wallau argraffyddol hefyd. Credaf y gellir gwneyd diwygiad mawr ar ei iaith, a llithrigrwydd ei frawddegau, yn enwedig yn ei Golectau. Cymerwch y Colect am yr au Sul yn Adfent fel engraifft, ac edrychwch ar ramadeg y cyfryw o'r geiriau, '4 Caniata i ni," hyd yt arosfa gwahanod sydd ynddo. Hynod anystwyth eto ydyw darlleniad y Colect am y pedwerydd Sul yn Adfent. Ac yn y Colect am Ddydd Gwyl y Gwirioniaid, oni fyddai y gair "babanod" yn well ac yn fwy darllenadwy o lawer am iitfante- na phlant aflafar," fel y mae yn ysgrifenedig. Ni charwn weled cyf- newidiadau yn cael eu gwneuthur ynddo, ond yn y maaau hyny ag a fyddai er ei welhant a'i boblogrwydd. Hyderaf y bydd i'r mudiad ag sydd ar droed gael pi ddwyn i weithrediad buan a boddhaol.-Yr eiddoch, &c., Peuybont. ( 0 -1 rw At Olygydd44 Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Pa oedd genyf weled llythyrau "Brutus" a Cledach yn Y LLAN diweddaf, yn gosod allan eu barn gyda golwg ar bender- fyniad y Confocasiwn mewn perthynas i ddi- wygio y Llyfr Gweddi Gyffredin. Dymunaf finau ddweyd fy mod wedi bod yn siarad ag amryw leygwyr Eglwysig o fri ar y penderfyliiad uehod, a'u barn unfrydol hwy ydoedd-mai gwaith hollol ddi-eisiau ydyw a'm barn ostyngedig inau ydyw, mai gwell ei adael fel y mae. Y wyf yn credu na byddai ond gwastraff ar amser y boneddigion dysgedig a galluog sydd wgdi eu henwi i wneyd y gwaith, i ymgymeryd ag ef Y mae iaith y Llyfr Gweddi yn ddigon eglur a dealladwy fel y mae gan hyny, na chyffyrdder ag ef rhag mai ei waethygu fyddai y canlyniad.—Yr eiddoch, &c., Dinbych. ERYR FFRAW.
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR.
BWRDD ADDYSG ESGOBAETH BANGOR. At Olygydd 44 Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Gofynwyd i mi a oes bawl i'r ym- geiswyr ddefnyddio Beibl neu Lyfr Gweddi wrth ysgrifenu yr atebion ynglyn ag arholiad Ysgol Sul" y Gymdeithas uchod ? Rhag digwydd syrthio o neb i'r cyfryw amryfusedd, dymunwn hysbysu nad oes Ilyfr o gwbl i'w ddefnyddio ar yr achlysuryr eiddoch, &c. Llandrygarn, Mai 24. D. LLOYD.
GWEINYDDIAD O'R CYMUN BENDIGAID…
GWEINYDDIAD O'R CYMUN BENDIGAID FWY NAG UN WAITH YR UN DYDD GAN YR UN OFFEIRIAD. At Olygydd 44 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,-Gwelaf yn Y LLAN, am yr wythnos ddiwcddaf, fod eich gobebydd Clwydian yn deisyfn arnaf i draethu fy sail dros yr hyn a ysgrifenais yn fy llythyr, bymthefnos yn ol, ar y mater uchod. Oni bai fy mod yn hynod o brysur tua dechreu yr wythnos, buaswn wedi ysgrifenu mewn pryd i ymddangos yn Y LLAN am ddoe, felly erfyniaf gvdymdeimlad 44 Clwydian am fy hwyrfrydigrwydd. Ymddengys y canlynol o blaid fy ngosodiad na ddylai yr un offeiriad weinyddu y Cymun Bendigaid fwy nag un waith yr un dydd, oddi- eithr ar ddydd N adolig. Crist a dydd Pasg, yn y Canonau Seisnig (English Caiions):- (1) A.D. 740. Excerptions of Ecgbright, Archbishop York :—" Y mae yn ddigonol i offeiriad weinyddu y Cymun Bendigaid un waith y dydd, am mai un waith y dioddefodd Crist, gan achub y byd un waitii." (2) A.D. 1222. Langton's Constitutions:- Yr ydym yn gwahardd i unrhyw offeiriad weinyddu y Cymun ddwywaith yr un dydd. oddieitlir ar ddydd Nadolig Crist a, dydd Pasg." (3) A.D. 1367. Langham's Constitutions:— 44 Na fydded i neb ryfygu gweinyddu y Cymun 0 ddwywaith y dydd, ond yn unig ar ddyddiau 11 Genedigaeth ac Adgyfodiad ein Harglwydd." Y 11 Y mae yr uchod yn profi beth oedd yr arfer- iad yn Eglwys henafol ein gwlad. Ac y mae Canon 21, o Ganonau 1603, yn sicr yn cyfran- ogi o ysbryd yr hen Ganonau uchod. Gallaf sicrhau "Clwydian" unwaith yn rhagor mai nid ysbryd dadleugar a barodd i mi ysgrifenu y llythyrau hyn. Byddai yn dda iawn genyf weled rhai o ddysgedigion ein Heglwys yn cymeryd y mater hwn i fyny, canys fy nghred onest i ydyw fod cryn lawer o anmharch (anfwriedig, mi gredaf), yn ngwein- yddiad y Cymun Bendigaid mewn llawer iawn o Eglwysi Cyrnru.—Yr eiddoch, &c., Mai 24. OFFEIHUD CYMPEIG.
44 CROESGADOG."
44 CROESGADOG." At Olygydd 44 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Wrth edrych yn ddiweddar dros sypyn lied fawr o lythyrau hen gyfeiliion, daetlium o hyd i'r gair 44 croesgadog,' sef yw hyny, crusader, a meddyliais ar nnwaith mai gair lied briodol ydoedd am Filwr y Groes, y croesawd, croessawd, neu Ryfel y Groes, pan oedd teyrnas- oedd Cred yn anfon blodau eu dynion tua Phalestina i amddiffyn y Bedd Sanctaidd. Deallaf mai y ffurf liosog o'r gair ydyw croe8- gadogion. Diau y byddai yn werth i ysgrifen- wyr yr oes gymeryd i fyny y gair cymwys a phriodcl hwn.—Ydwyf, yr eiddoch, &c., BRYCHAN. fArferwyd y gair 4< croesgadogion yn y LLAN A'R DYWYSOGAETH am Mai 23ain. Nis gwyddom a yw 4 Brychan' yn daarlleuydd cyson o'n newyddiadur ai peidio. Fel ein gohebydd 4 Cledach,' credwn mai 4 croesgad' yw y gair goreu am crusade.—GOL.J
CYSYLLTIAD EGLWYS A GWLADWR-IAETH…
CYSYLLTIAD EGLWYS A GWLADWR- IAETH YN OL HEN DDEDDFAU'R WLAD. GWELLIANT GWALL. At Olygydd 44 Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Nid wyf yn hofri eich blino a chywir- iadau o'r min frychau argraffyddol sydd yn digwydd weithiau yn fy Hytbyrau, gan yr hyderaf y gwel y darllenwyr beth ddvlai'r dar- lleniad fod. Ond yn Y LLAN am Mai 23ain, ceir gwall pur wabanol. Y mae amryw o eiriau wedi eu gadael allan yn hollol, ond pa un ai arnaf fi ynte ar y cysodwyr mae'r bai nis gwn. Am hyny, dymunaf i'w cywiriad can- lynol gael ymddangos. Darllener y rhan olaf o'r ddeddf o berthynas i GWYMF (JOE0 YN Y FYNWENT fel y canlyn:—"Yr ydym yn gwahardd i'r offeiriaid eu tori i lawr heb reswm, eitbr pan f'o cangell yr eglwys mewn angen adgyweiriad. Ac ni ddylid eu defnyddio i ddim dybenion eraill, oddigerth lie b'o corph yr eglwys mewn an-gen adgyweiriad cyffelyb, a da y gwnelai'r rheithoriald, o elusen, wneyd rhodd o'r cyfryw goed i'w plwyfolion anghenus." Y mae'r rhan a adawyd allan wedi ei Italeiddio, a gwelir ar nnwaith fod y geiriau yn peri cyfnewidiad lIed bwysig yn ystyr y ddeddf. Golypid mai y Rheitoriaid oeddynt i adgyweirio'r gangell, ac v by mae'r un trefniant yn parhau hyd heddyw. Nid yw chwe' chant o flynyddoedd wedi peri dim cyfnewidiad yn y trefniant hwn. Ynihellacli, golygid mai'r plwyfolion oeddynt i edrycli ar ol ac adgyweirio corph yr eglwys, ac erys hyn eto ynegwyddor ein trefniadau hyd lieddyw, a dyma fel y byddai. yn ymarferol mewn llaw(r man hyd nes y diddymwyd y dreth Eglwys. Ond lie y byddai% plwyfi yn rhai tlodion, cym- eradwyir yma i'r offeiriaid anrhegu'r plwyfolion anghenus a chymaint o goed ag oedd eisiau at y gwaith, o'r coed a ddigwyddent fod yn tyfu yn y fynwent. Eto, ni wnai'r Senedd orchymyn hyn o hawl, ond ei ddwyn i sylw mewn tlordd o gyngor.—Yr eiddoch, &c., GWYNEDD. a
LLANRUG.
LLANRUG. Aeth tri o gorau o'r plwyf hwn i gystadleuaeth undebol plwyfi Llanddeiniolen, Liauf tir-is-gaer, a Llanrug. C6r undebol eglwysi Llanrng a Chwmyglo. o dan arweiniad Mr. Robert Thomas, Hermon Terrace, i gystadlu ar bnf ddarn cerddorol y gystadleuaeth, a daetliant adref yn fuddugoliaethns. Teimlai y c6r, a'u cyfeillion, yn llawen yn eu llwyddiant, a chanmolent eu harweinydd am ei ymdrechion a'i ffyddlondeb, nid yn unig felarweillydJ. cør galluog Llanrag am ddeugain mlynedd, ond hefyd am weithgar- wch ymhob cangen o waith yr Eglwys. Cyfeil- iwyd gan Mr. R. T. Jones, organydd yr Egiwys, yr hwn a gafodd ddiolchgarwcll cyncs y cor a'i arweinyddam ei ffyddlondeb yn a dog y practices, a'r cynorthwv a wnaeth iddynt. G .vertlif'awr ydyw cael gwasanaeth dyn ieuanc o ymarwedd- iad pur, o ymddygiad boneddigaidd, ac o allu- oedd cerddorol arucliel i fod yn organydd i gor galluog a chynulleidfa liosog. Y mae canu yr eglwys hon yn wledd hyfryd. Ceir antiiem yn y gwasanaeth hwjTol bob Sul. Cystadieuodd ccir y plant, o dan arweiuiad Mr E. J. Owen, Llainygro, a llwyddasant i gael haner y wobr am gorganiad. Da iawn. Y mae Mr. Owen wedi bod yn ffyddlawn iawn er's biynyddau gydn'r dosbartli ieuainc, ac y. mae ei lafur i'w ganfod yn llwyddiant y plant. Cauodd cor plant Cwmyglo yn rhagorol, o dan arweiniad Mr. W. Pritchard. Cyfeiliwyd gan Mr. D. C. Williams, Cwmyglo. Daeth y cyfansoddwyr a'r celfydd- ydwyr allan yn rhagorol. Da iawn. MARWOLAEI-IIAU.-DLlyd(I diweddaf, claddwyd Mr. Pritchard, Bryugwynbach, mam Mr. R. J. Pritchard, arweiuydd SuiniUirt' Fren- hinol Llanrug. Gweinyddwyd yn yr Eglwys ac wrthy bedd gan y Parchn. T. Jolin-t, rheithor, a D. C. Morgan, curad. Perchi-I hi yn fawr oherwydd ei hynawsedd a'i clirefyddolder. Dar- llenai lawer-meddai ar wybodaeth eang, yn enwedig yn y Beibl. Caffed y plaut nerth i ganlyn esiamplau da eu lianwyl fam.—Ddydd Sadwrn diweddaf, ciaddwyd Mrs. Margaret Price, yn mynwent Llanrug, yn 83 mhvydd oed, Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. C. Morgan, curad. Hi ydoedd yr aclod hynaf o Eglwys Cwmyglo. Mylyriodd 3 n rly ei bywyd yn Ngair yr Arglwydd. Medrai y rhan fwyaf o'r Salmau ar ei chof, ynghyd a Ilawer o benilhon. Aeth adref at eigwobr.— Bronygan.
PENCARREG.
PENCARREG. DYDD IAU Y DYRCHAFAEL.—Hir ddisgwylid am y dydd uchod yn mhlwyf Pencarrog a'r plwyfi cylchynol. Yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio, cynhelid cyfarfod ysgoiion yr undeb hwn yn Llanwenog, ond gan lod yr ysgohon wedi cynyddu i'r fath raddau, fel ag yr oedd eglwys Llanwenog yn rhy fach i'w cyn- wys, tybiwyd mai doeth fyddai eu rhanu, yr hyn a gafodd ei sylweddoli ddydd lau Dyrchafael diweddaf yn eglwys henafol l'encarreg. Yr oedd pedair Ysgol Sul yn bresenol ar yr achlysur, sef y ddwy ysgol sydd yn y plwyf, ysgol Maestir, ac ysgol Pentrebach. Holwyd yr ysgoiion gan y Parchn. D. Jones, ficer Llan- bedr; J. S. Evans, curad Rliosddu, a H.Evans, curad-y lie. Canwyd anthem gan gCr Pen- carreg, o dan arweiniad Mr. Evans Cjlug Dewi Sant, a chor yrEfail Fach, o dan arweiu.a i Mr. Davies, Coleg Dewi Sant. Canwyd autliemau hefyd gan gor Maestir a Phentre Bach, o dan arweiniad y Paroh. J. H. Jones, curad Llan- bedr. Yr oedd yr eglwys yn orlawn drwy y dydd, y gwasanaethau yn hynod o iywiog a gwresog, a'r canu a'i adrodd yn rhagorol dda. Pregetliwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Jones, curad Llanddewi Aberarlh, yn lJYDod o rymus a dylanwadol.
CASNEWYDD, MYNWY.
CASNEWYDD, MYNWY. Cynhaliwyi Diwrnod Tawcl i offciriaic1 Arcli- ddiaconiaeth Mjmwy yn Eghvys St. Woolos, Casnewydd, ddydd Mawrtli, Mai yr 2Ufed. Daeth tua 60 o offeiriaid ynghyd o wahanol fanau yn yr Archddiaconiaeth. Traddorlwyd tri anerchiad gan Canon Bowers, Gloucester. Cofia amryw o ddarllenwyr y LLAN yn ddiau am y papyr dyddorol ar yr Eglwys yn Nghymru a ddarllenwyd gan y Canon Bowers yn y GYllg- res Eglwysig yn Nghaerdydd ddiwedd y llwvdd- yn ddiweddaf. Yr oedd ei anercliiadau yn y Cas- newydd yn ymarferol a syml, a diau eu bod o gynorthwy nid bychan i'r rhai uedd yn bre- senol. Yn ystod y prrdnawnfwyd, darUeawyd penod o lyfr crefyddol gan yr Archddiacon Bruce. Bydd cynulliadau cyiieiyl) o offeiriaid Arohddiaconiaeth Llandaf Yl mis A! eaefin ar y 25ain yn yr Eglwys Gadeiriol, ac ar y 26ain yn Eglwys S. Catherine, Puntypridd. Cynlielir y dyddiau hyn ar ddymuniad yr Esgob, a gellir cael gwybodaeth helnethacli ya eu cylch drwy ymof'yn a'r Canon Roberts, B.A., Penarth. CoNFFiRMAsnvx.—Ar y 23ain cyfisol, bu Ar- glwydd Esgob Llandaf yn gweinyddu y con- flftrmasiwn yn Eglwys St. Woolos, Casnewydd- ar-Wssg, pryd yda,eth 210 o Ylllgciswyr yinlacn, sef 83 o wrywod a 127 o fenywod.
RHYL.
RHYL. CYNnOR PLWYFOL.—Ddydd LInn, wythnos i'r diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod lliosog o dan lywyddiaeth y Parch. Ganon Howell Evans, i'r diben o ddewis aelodau o'r Cyugor uchod. Wedi cael gair gan y llywydd o barth ei ddyfodiad i'n plitli, a'i amcan ar ol dytod, ynghyd a gwneyd rhai sylwadau ganddo ar y gladdfa newydd, aetlipwyd ymlaen i ddewis y Gyngor, ac etli(il,- wyd y boneddigion canlynol:—Mri. Murray y 11 Browne, John Foulkes, 11. Simcox, F. J. Gam- blin, Hugh Jones. S. Perks, W, J. Kent, W. J. P. Storey, G. A. Taverner, Dr. Girdlestone, Mr. Hayward Browne, a'r Dr. Lloyd. Y mae yn sicr genym y bydd i gydgyfarfyddiad Cyng. r o'r natur hwn brofi yn fauteisiol i'r Egiwys, oblegid rhoddir mantais iddynt i gydymgynghori ac i dynu allan gynlluniau er cyfarfod ag anghenion a hawliau y plwyfolion Byùd genym ragor i'w ddweyd ar hyn eto. Nos Sul diweddaf, yn Eglwys y Drindod, cawsom fel Cymry ein haurhydeddn ;1 gw^aan- aeth Pen Bugail yr Esgoba»th. Mawr ydoedd y disgwyiiadau am yr ymweiiad hwn genym fel Cymnt Eglwysig yu Rhyl. O'r diwedd, wele ni yn cael y fraint o weled a chlywed yr Esarob Edwards yn pregethu am y tro cyutaf erioed. W 6di darllen y gwasanaeth gan y Parch. R.