Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Taith i WIedydd Tramor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Taith i WIedydd Tramor. GA& WRAI# I OFFEIRIAD CYMREIG. [CYF. GAN ELLDEYRN.] Mordwyasom heibo Stromboli, lie mae'r Sypiau grawnwin mawrion aeddfed, Yn arogli dros y tir." Dau gan' milldir o Naples, aethom i mewn i gulfor Messina. Mordwyasom heibio Scylla, a throbwll echryslon Charybdis, a Phenrhyn di Faro, Pelorum yr hynafiaid, yr hwn a alwyd felly, medd rbai, ar ol morwr enwog o'r enw Pelorus, llywiedydd y Hong a gludai Hannibal o'r Eidal, a'r hwn a laddwyd gan Hannibal mewn pang o gynddaredd. Adeiladwyd y goleudy ar y penrhyn hwn gan y Saeson, tra meddienid Sicily ganddynt yn nechreu'r ganrif hon. Wrth forio culfor Messina y gwelais y golygfeydd p^ydferthaf eto. Dlysed oedd pob golygfa a breuddwyd tlysaf unrhyw fardd. Gwelem benttefydd yr Eidal a Sicily yn ymddisgleirio ac yn yml6ni yn nhes a gwres yr haul mawr melyn, caredig. Saif pentref Scylla tua dau gan' troedfedd uwchlaw'r trobwll. Y mae'r creigiau odditanodd wedi eu cafnio, ac y mae'r dyfroedd cynhyrfus yn gwneyd y swn a briodolir gan dra- ddodiad i gwn Scylla. Nid yw dyfuder y dwfr ddim llai na deng nghwrhyd a thriugain. Y mae Messina, yr hon a adeiladwyd gan y Groegiaid tua thair mil o flynyddoedd yn ol, yn borthladd blodeuog, gydag adeiladau prydferth yn codi y naill uwchlaw'r llall. Yr un fatb ag y maent yn "y Berrno, ac o'r tu ol y n:ae coedwig dewfrig, ddu, yr hon wna i'r dref ymddangos yn bryd- ferth anghyffredin o'r mdr. Haner- gylch yw'r porthladd, a pherffaith naturiol, a thybir mai genau mynydd llosg ydoedd filoedd ar filoedd o flynydd- au yn ol. Y mae rhai o greigiau glanau yr Eidal yn werth edrych arnynt. Y maent yn erwinach a serthach na chreigiau'n gwlad ni. Wrth ageru allan o'r culfor, yr ydym yn gadael Malta (Melita St. Paul) ar y dde. Tafodiaith Arabaeg wedi ei llygtu gan yr Eidalaeg yw'r iaith yma. Yn fuan, daethom i olwg clogwyni Candia, neu Crete. Dyddorol iawn oedd yr olygfa hon i ni, oherwydd yr hanesyddiaeth glasurol gyfoethog sydd yn nghyswllt a hi. Yma, a'i goron eira am ei ben, y sait Mynydd Ida, yr hwn a anfarwolwyd gan Homer a Horas. Ymhell cyn d'od o honom i olwg glanau'r Aifft, canfyddem ddwfr y m6r wedi ei ystaenio, a dywedwyd wrthym mai'r Nilus oedd yn tywallt ei chenllif o dywod a llaid i For y Canol- dir. Mordwyem yn ddigon agos i ganfod Alexandria, lie yr ymladdwyd brwydr fythgofiadwy'r Nilus, Awst 1798, dan yr anfarwol Nelson. Bellach, wele ni yn dynesu tuag at Port Said. Codasom bedwar o'r gloch y boreu, gan fyn'd i'r lan yn fuan wedi pump. Yr oedd y dref wedi ei gorlenwi, fel pe buasai yn -baner dydd yn lie pump y boreu. Saif Port Said ar derfyn deheu.ddwyrain Mor y Uanoldir, ac yn agos i fynedfa orllewinol Camlas Suez. Cyn gwneyd y gamlas, nid oedd y lie ond pentref Arab- aidd bychan, diuod. Ond erbyn heddyw, y hi yw'r orsaf lofaol fwyaf yn y byd. Cymerir mwy o lo ar fyrddau llongau yma nag a wneir yn un man arall ar wyneb daear. Y mae'r lle'n wastad yn orlawn o longau o bob gwlad dan haul, a da oedd genyf weled fod saith o bob wyth yn cal'io'r faner Brydeinig. Llawen iawn genyf fy mod wedi myn'd i'r lan, er y dychrynwyd ni'n enbyd pan aethom i un o'r cychod bychain a'n hamgylch- ynent, Dechreuodd y cychwyr ffraeo a thaeru ac ymladd fel dywalgwD, ond daeth rhyw Gristion neu ddau i fyny, gan roi blaeniroed i un o'r Aifftiaid meJingroen nes oedd y lleban tafodog a'i wadnau i fyny yn y dwr. Yr oedd gwynebau yr Aifftesau wedi eu cwbl orchuddio, fel na welem ond eu Uygaid yn unig. Nid oeddynt baner mor gecrus yma ag oeddynt yn Naples, a medrai amryw o bonynt sarad peth Saesneg. Dau enw yn unig oedd ganddynt ar y boueddigesau, sef Mrs LaDgtry, a Mrs I Cornwallis West, a galwent bob bonedd- wr yn Gerguson. Er eu bod yn dra digrif ag ysmala, nid oedd dim yn adgas ac anfoesgar ynddynt. Dioddefa amryw o'r dosbarth tlotaf gan lygaid briw. Glynai gwybed o amgylch eu Ilygaid fel y gwnant o amgylch Ilygaid gwartheg yn ein gwlad ni. Cawsom yr un profiad wrth ddych- welyd i'r llong. Hawlid nl gan fwy na dwsin o gychwyr, a bu amryw o fin ysgarmesoedd cyn y penderfynwyd pa un o honynt a'u rhwyfai i'r llong. Rhai dychrynllyd am bres yw cychwyr gwlad yr Aifft. Mordwyasom i'r Gamlas ar unwaith wedi gadael Port Said. Chwythai'r deifwynt poeth ar draws yr anialwch mawr nes merwino'n gwynebau gan boen. Gorchuddid ni drosodd gan dywod yr anial, yr hwn a yrid gan y gwynt yn wreichion llosgedig, Ond ymhen ysbaid, peidiodd y gwynt, ac yr oeddym ninau'n alluog i weled y gwa- lianol orsafoedd-gares-yr aem drwy- ddynt. Mor falch oeddym o weled yohydig welltglas a choed. Tyf y balm- wydden yn dda yma. Aethom heibio i lu mawr iawn o bererinion ar eu taith faith, flinderus i Mecca, nefoedd pob Mahomedan. Dangoswyd i ni'r ffordd yr elai Joseph a Mair Forwyn, pan ffoent gyda'r Baban Sanctaidd rhag Ilid Herod f renin. (I'w barhau.)

Hen Eglwysi Adfeilledig yn…

CWMAFON. CWMAFOK

YN MHLITH YR^BNWADAU.