Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

LLUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLUNDAIN. EGLWYS ST. BENET, QUEEN VICTORIA ST., E.C. LLONGYFARCHIAD.- DerbyLied Mr. John Pugh a'i briod hawddgar ein dymuniadau goreu ar eu hiiniad mewn glin briodas yn ddiweddar. Pob Uwyddiant iddynt. MILWROL.—Dal i ymuno a'r Fyddin wna ein dynion ieuaine, y diweddaf o ba rai yw ein verger,' Mr. J. 0 Morice. Eiddunwn iddo yntau bob bendith a llwyddiant yn ei waith newydd. RnoDD —Llaaen genym gofnodi ddarfod i'r Ficer anfon y swm anrhydeddus o bedair punt av ddeg ( £ H) o St. Benet's tuag at brynu 'comforts' i'r milwyr Cymreig. Ar- dderchog yn wir. 'SOCIAL'—Dydd Ian, y 24iin o Chwefror, cynhaliwyd cyfarfodydd te adloniadol llwydd- ianus iawn yn y Sunday School Union Hall, 56, Old Baiiey, Ludgate Hill, neuadd ar- dderchog a chyfleus gerllaw St. Benet. Y tro hwn, gwahoddwyd ni i fwynhau gwledd o dO a moethau raelua a da ereill ar draul Mrs. Matt Evans, o Willesden Green. Yr oedd y tywydd yn hynod o auafol, oer, ac anflafriol brou drwy y dydd, ond gwellhaodd erbyn tua 5 30, pryd yr ymgynullodd tyrfa dda ynghyd, fel, erbyn adeg dechreu y cyngerdd, yr oedd v Neuadd eang yn llawn. Galwodd y Ficer ar y warden hynaf, Mr. W. T. Hopkins, i gymeryd y gadair, pryd y rhodd- wyd croesaw calonog iddo fel un o'n haelod- au mwyaf diwyd, dichlyn, ac addfwyn. Gwnaeth ei ran yn gampus a diseremoni, a chyfranodd yn hael. Diolchwn iddo. Dech- reuwyd ar raglen hir drwy i g6r merched Mr. W. Emlyn Edwards, L.R.A.M. (o'r dosbarth- iadau cerddorol, ar ba rai y mae yn athraw llwyddianas), roddi i ni bcrfformiad glân, tlws a chwaethu8 o ddwy 'glee.' Dyma y tro cyntaf i ni eu clywed, a hyderwn eto gael y fraint yn ein nesaf. Gwneir defuydd o'r cyfarfodydd hyn i addysgu ac anog y plant, a Ilawen gweled Misses Gwladys a Gwyneth Wiiliams yn chwareu detiawd ar y berdoneg yn dda iawn am y tro cyntaf yn gyhoeddus. Chwareuodd Miss Alice Kaliere unawd ar y berdoneg yn gampus, fel arfer. Rhoddodd cor y plant, hefyd, ddadganiad gwir dda o ddwy o donau o Delyn y Per],' Am yr Ys- gol Rad Sabbothol,' gwaith ein eyfaill, Mr. T. Tincent Davies (organydd Dewi Sant), a PhIant Bach yr Eglwys.' Rhoddwyd i ni unawdau yn eu dull medrus arferol gan Mrs. Whiterod, y Misses Crowle Ellis, Mabel 'Bowen, Josephine Davies, Sedgley, a bonedd- Iges ieuanc arall na chofiwn ei henw, ac hefyd gan y Private Jenkin Evans a Mr. Arnold Thomas. Cyfeiliwyd gan Miss Ryan a'r Mri. S. Brown, C. Pugh, a'r Organydd. Cawsom lawero ddifyrwch ac addysg wrth wrando ar y 'sketch,' Drysu'r Cynllun,' o drefniad Mr. W. J. Williams (Gwilym Aeron). Gwnaeth y owmr. eu rhan yn ardderchog, drwy fod yr oil o'u gwaith mor hynod o naturiol. Cymer- wyd rhan yn y sketch gan y Misses Davies a Williams, a'r Mri. John Williams a Gwilym Aeron. Diolchwn iddynt am eu gwaith da. Cynygiodd y Parch. J. Crowle Ellis ein diolchgarwch gwresocaf i Mrs. Matt Evans am ei haeliotii yn rhoddi tg mor ardderchog i ni, ac am y dyddordeb a gymer hi a'i gwr rhadlon yn ngwaith yr Eglwys, i'r amryw chwiorydd am drefnu a chynorthwyo gyda'r tê, dec., ac i'r cadeirydd hynaws am ei ffydd- londeb di-dor, a'i garedigrwydd cyffredinol. Derbyniwyd y cynygiad gyda mawr frwd- frydedd, a therfynwyd un o'r cyngherddau goreu ydym wedi ei gael drwy ddadganiad o'r Anthemau Cenedlaethol.

DEONIAETH ARFON.

PENTIR.

Wedi ei brofi tuhwnt i Amheuaeth.

YSTRAD.

Advertising