Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Eeddwch y Byd. I .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eeddwch y Byd. I PAHAM NAS CAFWYD YN 1917. Yn raddol y mae gwir ffeifchiau y rhyfel yn cael eu datguddio i'r byd. Yr wythnos ddiweddaf mewn dadl a gymerodd le yni Senedd Germani, y cafodd y byd wybod gyntaf y gallasal y rhyfel fod wedi terfynu o leiaf flwyddyn ynghynt nag y gwnaeth, oni bae am warr-ga'edweh ac uchelgais milwrol Germani. Fe gofia darllenwyr Y LLAN idar-1 fod i ysgrif ymddangos yma. y pryd hwnw yn hyspysu'r ffaith fod y Pab yn ceisio eyfryngu rhwug y ddwy blaid er gwneuthur heddwcb, ond i'r ymgais fethu. Ni chafwyd gwybod y prid hwnnw paham y methwyd gwneud heddwch. Eglurir y dirgelwch yn y ddadl a gymerodd le yn Senedd Germani. Dyma'r stori yn fyrr :— Danfonodd y Pab genadwri gyfrinacnol at Lywodraeth Prydain yn awgrymu y dylesid ae y gallesid ceisio gwneuthur heddwch, ac atal felly y tywallt gwaed gwirion yn ofer Atebodd Cabinet Mr. Lloyd George nad oedd, yn marn Prydain, unrhyw obaith y gallesid dod i gytundeb hyd nes y byddai i Germani nodi yn swyddogol:— 1. Pa amcanion ddlsgwylial Germani eu cyrraedd drwy barhau y rhyfel. 2. Pa iawn yr oedd Germani yn barod I dalu am anrheithio Belgium. 3. Pa sicrwydd a allesid ei roi gan Germani na chaed rhyfel arall cyffelyb yn ol llaw. Ymhellach gwnal Prydain adferiad annibyn- iaeth Prydain yn anhebgor cyntaf heddwch. Heh byny ofer fuasai ceisio cyrraedd cytuo- deb. Ofer hefyd fuasai cyfarfod mewn cyn- hadiedd gyda'r amcan o gyrraedd cytundeb heb gael gwybod ynghyntaf oil beth oedd y gwahaniaeth rhwng syniadau'r ddwy blald am gynselliau heddwch. Danfonodd y Pab ateb Prydain i Germani, modd y gallaPr Calsar a'i gynghorwyr wybod pa beth oedd raid iddynt wneuthur cyn cael heddwch. Bu y mater o dan ystyriaeth y Caisar a'i gynghorwyr. Danfonodd Michaelis, Cangbellor Germani ar y pryd, genadwri at Hindenburg yn nodi beth, ym mam y Caisar a'i Gyngor, y rhaid i Germani ei gael fel amodau heddwch. Wele eu cynwys :— At yr uchod ychwanegodd Hindenburg :— 1. Rhaid i Germani, er mwyn diogelu el masnach, cael cadw meddiant o ddinas Liege, a'r wlad oddiamgylch. 2..Rhaid cysylltu Belgium yn fasnach'ol gyda Germani. 3. Rhaid i Germani ddileu dylanwad Pry- dain dros y Fflemingiaid yn Germani, a mynu a chadw yr oruchafiaeth yno fddo ei hun. 4. Rhaid i Germani gael pob rhyddid a hwylusdod masnachol drwy :Belgium i lan y mor. 5. Rhaid adfer i Germani ei boll drefedig- aethau tram or. 6. Ni wlw son am ddlsgwyl 1 Germani dalu iawn o fath yn y byd. 7. Ni w»a Germani byth hyabysu gwled- ydd ereill beth yw ei bwriadau hi. Cytunai Ludendorff a Hinderburg, a mynai'r ddau gadw Belgium o dan fawd Ger- mani. "Felly," ebe Prif Weinidog Germani yn y Senedd yr wythnos ddiweddaf, pan allasai Germani fod wedi cael telerau heddwch ffafrlol, ni fynnai'r Caisar a'i awdurdodau milwrol wneuthur hyny gan faint eu trach- want am benarglwyddiaeth, ac am helaethu tiriogaeth Germani. Ffurfiwyd Plaid gref yn Germani y pryd bwnnw i gynnal breich- ia.u y Caisar a'r Fyddin. Hwynthwy yrasant Germani i ddistryw." Derbyniwyd y mynegiad croew hyn gyda bloeddiadau uchel Llofruddion Bradwyr Dyhirod I) Dyna farn Germani heddyw am y Caisar a'i gynhyrfwyr Milwrol a fynnent barhau y rhyfel. Cyffelyb yw y teimlad yn Awstria. Yno dywed y Prif Weinidog fod yr holl wlad honno heddyw yn gorfod dioddef, a thalu iawn am bechodau y rhai gynt a lywodr- aethent yn Awstria. Aralleiriad ydyw bynny o Alarnad Jeremiah :— HEin tadau a bechasant, ac nid ydynt; ninnau sydd yn dwyn eu cosp hwynt." Dyna y rheol erioed Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod." Gwylied Prydain heddyw rhag iddi hitbau yn awr efelychu dallineb pech- adurus Germani, a gosod cosp a baich ar y genhedlaeth nesaf drwy wneuthur ffollneb ac anghyfiawnder yn awr.

Llangystenyn, Conwy.

Llynlleifiad.

w Morfa." r-