Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhoeddlr Hysbysiadau yn Ye BRYTHON CTMBKIO ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Rhybuddion Cyhoeddus, ) fi lunoii v Cyfreithiol, a Seneddol f6c' ? lline11 y tro' Arwerthiadau 3c. Hysbysiadau fYn ol trefniant yn ymddibynu Mnsnaehnl ar eu safle> nlfer y troion y 1 cyhoeddir hwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn dal\ 20 gair neu lai, cysylltiad a Swyddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Ystafelloedd, Tai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. 0c. Eisiau, ar Osod, neu ar Werth. „ Chwech „ Is. 6c. Masnach, Stoc, Dodrefn, Peirianau, neu fan Ain bob 10 gair ych- bethau, ar Werth, neu wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar H vxJ prisoedd uchod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Rhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareuon, Cyfferi Crach-fsddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, "Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrthwynebol, ar unrhyw delerau. Cyfieithir Hysbysiadau Saesonaeg, os bydd galwad am byny, yn rhad. Danfoner pob uohebiaethau ac Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PBESS OFFICE, LAMPETEB.
Advertising
Uk ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in Ye BRYTHON CYMBEIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and ) 6d. per line per inser- Public Notices j tion. Sales 3d. do. do. Trade (arrangement, according to Advertisements Position, number of insertions, (.space required, &c. SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-s 20 words, ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant Apartments, Houses, or |„ Three, „ 1B. Od. Land, Wanted to Let, I • •for Sale „ a;x in M Businesses, Stock Furni- ture, Mahinery.or Mis- Every additional 10 cellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. J prices. No Advertisements relating to Racing, Gam- .Lottenes, Quack Medicines (except Patent Medicnies of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGER, WELSH PRESS OFFICE, T, A irporfun
. GOHEBIAETHAU +—
GOHEBIAETHAU + — [Nid ydym yn gyf rifol am syniadau ein Gohebwyr. Gol. CAIO A CHRUGYBAR. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Gan y'm cyhuddir o fod yn awdwr y llythyr a ymddangosodd dan y penawd uchod yn ye BRYTHON yr wythnos ddiweddaf, yn dwyn y ffugenw W. E. dymunaf arnoch wneud yn hysbys, mewn geiriau diamwys, nad oes genyf law na chyfran ynddo, ac nas gwyddwn chwaith, ddim am yr erthygl mewn un modd nes ei gweled y Sadwrn diweddaf ar dudalenau ye BRYTHON. Na chyhudder lie nad oes bai. Gan adael arnoch chwi, Mr Gol., i gadarnhau fy haeriad nad myfi ysgrifenodd yr erthygl rag-ddywededig, y gor- phwysaf ar air a chydwybod, A. S. THOMAS (" Anellydd.") Crugybar. [Nid Mr Thomas ysgrifenodd yllythyr.—GoL.]
PENRHIWLLAN.
PENRHIWLLAN. At Olygydd ye BRYTHON. Syr,-Y ddogn gyiitaf oedd gan Ohebydd Pen- rhiwllan tuag at ein gwella o afiechyd y dablen oedd cael Reading Room yn y gymydogaeth. Byddaf barod law a chalon i wneuthur fy rhan tuag at ddwyn hyn oddiamgylch. Ond os yw ein hafiechyd wedi gwreiddio yn ein cyfansoddiad fel ag y darlunir ef gan y gohebydd, ofnaf y bydd yn rhy wan i'n hadferyd in cynefinol iechyd. Yr ail ddogn oedd cael cyfarfodydd anenwadol o duedd ddirwestol ar ol cyfarfod chwech nos Suliau. Gan y byddai yn hwyr ar y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynal, tueddir fi i gredu y byddai ein pobl ieuainc yn cymeryd mantais i ddyfod yno yn unig er mwyn gweled eu gilydd, a thrwy hyny y byddai moesoldeb y cyfryw gyfarfodydd yn cael eu hameu, yn enwedig gyda gelynion dirwest, a thrwy hyny ladd y dogn yma eto. Caniatewch i minau, fel quack, gael cynyg y trydydd dogn. Paham nad ellid cael cymdeithas ddirwestol dan E awdd pob capel ac Eglwys yn y gymydogaeth, fel ag y mae yr Ysgol Sul ? Y mae yn Llanfair-Orllwyn gewri mewn dirwest. Paham, fechgyn Llanfair, na fuasech yn cychwyn cangen o'r Gymdeithas Ddirwestol Eglwysig yn eich plwyf ? Credaf nad eich culni at y gym- deithas (am ei bod yn cymeryd dan ei nawdd yr adran gymedrol, y rhai a eilw y gohebydd yn llymeitwyr) yw yr achos? Ati, ynte, fechgyn Llanfair, gwaith ac nid siarad, ac o bosibl y codwch awydd ar Eglwysi llai dirwestol i ddilyn eich hesiampl.—Yr eiddoch, &c., QUACK.
CAIO A CHRUGYBAR.
CAIO A CHRUGYBAR. At Olygydd YE BRYTHON. Ofer yw curo ar Gapelau meirw-colli amser fel pe fflangellid ceffylau wedi trengu. Ond hyderu yr wyf nad yw bywyd wedi llwyr gilio. Ceir yma olwg wych hefyd ar rai pethau. -Sir James Hill- Johnes yn fwy poblogaidd gyda'r enwadau a'r Radicals nag yw y pregethwyr. Onid gwell i'r pregethwyr adael y Cynghor Sirol i rai cymhwys, ac ymroddi eu hunain i boeni yn y Gair er mwyn codi y capelau sydd wedi suddo yn y pridd tomlyd? Parhau i suddo y mae Crugybar, ac fel Galilea y cenhedloedd yn gorwedd yn mro a chysgod angau, gwaeth hefyd na hyny, oblegid gwrthod goleuni. Y Cor mawr fel rhyw glafdy anfeddyginiaethol,— y diaconiaid wedi eu dal gan, ddoluriau a chan gnofeydd. Pwy ddywed faint o'i draflyncu gafodd Rhys Evans y Cwm ? Acy mae y dannedd yn gweithio ar Ben Williams, un o'r athrawon ffydd- lonaf yn y lie, ac ar y gwron o'r Borthyn-llawer cnoad a ga am ddosbarthu y BRYTHON hefyd. Y mae y rhai goreu yma wedi eu cnoi a'u traflyncu nes gorfod cilio—rhai at y Methodistiaid, a rhai i Eglwys y plwyf, gan ffieiddio Annibyniaeth ac Ymneillduaeth. Gellir cofio Cragybar yn gynnll- eidfa grei, a'r ysgol Sabbothol yn lluosog, dan weinidogaeth y Parch. Evan Jones. Purdeb yn teyrnasu yn yr ardal, ond i'r gwrthwyneb yr wyf yn ofni y mae pob peth yn awr. Chwilio yr achos a'r ffordd i wells yw fy amcan. W. E.
PRISIANT CEREDIGION.
PRISIANT CEREDIGION. At Olygydd ye BRYTHON. Syr,—Yn eich erthygl arweiniol am yr wythnos ddiweddaf dywedwch ddarfod i brisiant Sir Aber- teifi godi o £ 238,274 (yr hyn ydoedd dan y Llys Chwarterol) i X279,716 dan y Cynghor Sirol. Os ydyw hyny yn wir, hwyrach y byddweh mor gar- edig a hysbysu pa bryd y codwyd y Prisiant. Prin y medraf fi ac eraill goelio ddarfod i'r Cynghor wneud y fath beth, onide buasai y Clerc yn sicr o gyfeirio at hyny yn ei Adroddiad; ac hwyrach y goddefwch i mi grybwyll fod amryw yn credu mai rhyw stori fach o'ch gwaith chwi eich hun ydyw hon, er mwyn creu rhagfarn yn erbyn yr hen Gynghor Sirol. Maddeuwch i mi am fod mor blaen; ond dyna yw barn lluaws o Ryddfryd- wyr am danoch. Nis gallwn gredu yr hyn a ddy- wedwch yn nghylch codi y Prisiant. Ydwyf, &c., SAM. [Gall Sam a'i gwmni wneud fel y mynont gyda golwg ar gredu yr hyn ddywedasom ond gall- wn sicrhau Sam a'r lluaws o Ryddfrydwyr" eraill, ddarfod i Brisiant yr holl Sir gael oi godi o X233,274 i 9279,716. Caniatawyd a chadarn- hawyd y penderfyniad i wneud hyny gan y Cyngor Sirol yn Mai 1890 a chydnabyddodd y Clerc hyny ar y pryd. Wele Swm y Safon y cytun- wyd arno, ac a roddwyd ar bob Undeb yn y Sir i'w dalu, wedi ei lawnodi gan y Clerc :— Undeb Aberystwyth £ 96,306 Machynlleth 2,822 Aberaeron 46,068 Aberteifi 27,848 „ Llanbedr 27,077 „ Castellnewydd Emlyn 39,210 „ Tregaron 40,385 £279,716 The above Basis or Standard for the County Rate was allowed and confirmed by the County Council, at a Quarterly Meeting, held at Lampeter, on the 8th day of May, 1890, in con- formity with the provisions of the Act 15 and 16 Vict, c. 81. H. C. FRYER, Clerk of the County Council." A wna Sam a'r "lluaws Rhyddfrydwyr" gredu yn awr ? Yn Saesneg wrth reswm y cy- hoeddir holl gyfrifon y Cynghor, ac ymddengys fod:" Sam a'i gyfeillion yn boddloni ar y drefn, felly nid oes cymaint o achos synu at eu han- wybodaeth. Ar adeg etholiadau yn unig y clyw- ir y Cynghorwyr yn son tipyn am eu cariad at y Gymraeg.-GoL. ]
FFYRDD CEREDIGION.
FFYRDD CEREDIGION. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Yn ye BRYTHON am yr wythnos ddiwedd- af gwelais gyfeiriadau at Aelodau y Cynghor Sirol a gynryehiolent y Ceinewydd. Dywedir fod y my ffordd o'r Ceinewydd i Landyssul yn wael iawn, ac felly y mae, ac nid yn unig y ffordd hono, ond holl ffyrdd y Sir. Y maent yn gywilyddus o wael; a beia ye BRYTHON yr aelodau dros y Ceinewydd am hyny. Yn yr un papur gwelais ganmoliaeth uchel i Mri. Morris Davies, C. M, Williams, ac eraill. Fel hyn y dywedwch:—"Bydd yn ddrwg iawn genym weled y rhai hyn yn gwrthod sefyll eto, neu yn cael eu gwrthod gan ryw bobl anwybodus o drethdalwyr. Mae dynion fel y rhai a enwasom yn werth eu cadw yn y Cynghor, oblegid rhodd- asant eu hamser, eu harian, a'u galluoedd yn rhad i wasanaethu y cyhoedd." Methaf a gweled yn mha bethau y mae Mr. Morris Davies yn rhagori ar aelodau y Ceinewydd ac onid Mr C. M. Wil- liams ddarfu gynyg fod y ddau Road Surveyor i gael £ 160 yr un ? Gwn y gallesid cael eu cystal, obosibl, am lai na £100. Nid oes eisiau cael treth- dalwr anwybodus iawn i wybod fod hyn yn orth- rwm trwm iawn ar y Sir. Carwn gael gwybod gan rywun yn ye BRYTHON beth wnaeth Mr Morris Davies, neu Mr C. M. Williams, yn rhagor nag a wnaethpwyd gan aelodau y Ceinewydd, neu ryw aelodau eraill o'r Cynghor diweddaf; heblaw, hwyrach, bod yn fwy rhydd i wario arian y treth- dalwyr anwybodus ?" Ydwyf, &c., Aberaeron. TRETIIDALWR. [Nid yw ein Gohebydd yn dadleu yn deg. Ein hamcan wrth gyfeirio at aelodau y Ceinewydd yn arbenigol ydoedd ceisio dangos i drethdal- wyr anwybodus," (a H threthdalwyr" gwybodus fel ein Gohebydd) taw nid wrth floeddio a phleidleisio dros hwn ac arall am eu bod yn proffesu perthyn i ryw Blaid w leidycldol neu Enwad crefyddol, mae iddynt gael diwygiadau. Tair blynedd yn ol yr oedd ugeiniau o bobl y Ceinewydd yn credu, os medreiit ddycnwelyd y Rhyddfrydwyr," y cawsent ar unwaith, nid yn unig ffordd dda i Landyssul, ond darn o ffordd newydd i Lanarth. Wel, dychwelwyd y "Rhyddfrydwyr," ond beth am y Ffyrdd? A fedr rhyw drethdalwr "anwybodus" neu wyb- odus ddweyd eu bod, nid yn well, ond cystal a'r hyn oeddynt dair blynedd yn ol ? Mewn per- thynas i Mr Morris Davies, Mr C. M. Williams, ac eraill, yr ydym yn sefyll at bob gair a ddy- wedasom yn eu cylch.—GOL.]
COFGOLOFN GENEDLAETHOL Y DIWEDDAR…
COFGOLOFN GENEDLAETHOL Y DI- WEDDAR HENRY RICHARD, A.S. Mr. Golygydd,—Yn ystod yr wythnos yn diweddu Chwef. 20fed, cyfeiriwyd cylch-lythyrau at swyddogion holl gapelau Ymneillduol Cymru, a chapelau Cymreig trefi Lloegr, mor bell ag y llwyddwyd i gael eu cyfeiriadau, yn gofyn cania- tad i roddi cyfleusdra i'r cynulleidfaoedd i gyfranu ychydig yn ol eu teimladau tuag at Gronfa y Gof- golofn uchod. Y mae y pwyllgor wedi derbyn uwchlaw £700 yn barod at y gwaith ond gan fod y cyfanswm hwn yn cael ei wneud i fyny gan mwyaf, o symiau cymharol fawrion, cyfranedig gan nifer fechan iawn o bersonau, teimlwyd nad oedd cyfleusdra teg wedi ei estyn i'r WERIN yn gyffredinol i ddangos eu cydymdeimlad gweithred- ol a'r symudiad gwir deilwng hwn, a barnwyd yn ddoeth i wneud ymgais i osod yr achos ger bron y wlad yn y wedd hon, gan nas gellid meddwl am un ffordd arall a roddasai fantais eangach i gyrhaedd yr amcan. Sieryd y Cylchlythyr drosto ei hun; a dymuna y pwyllgor yn y modd mwyaf gostynged- ig ar swyddogion y Capelau i roddi cyfleusdra teg i'w cynulleidfaoedd oil i daflu eu hatling i fewn, er chwyddo ychydig ar gronfa'r symudiad dyledus hwn i anrhydeddu eoffadwriaeth ein cydwladwr byd enwog, HENRY RICHARD, Apostol Hedd- wch." Bwriedir cau y cyfrifon i fyny ddechreu Ebrill, felly bydd y pwyllgor yn dra diolchgar am osod yr achos gerbron unrhyw Sabboth cyfleus cyn diwedd Mawrth, a danfon y swm casgledig i'r trys- oryddion a nodir yn y Cylchlythyrau yn ddioed. E. C. Evans, Ysgrifenydd, Cynorthtoyol. AT FLAENORIAID EGLWYSI CYMRU. Anwyl Frodyr,—Mae symudiad ar droed er's tro bellach i wneud Cofgolofn i'r diweddar Henry Richard, A.S., yn Nliregaron, ei dref en- edigol. Mae y dwyllgor wedi derbyn tua 700p. at yr amcan, ond nid yw y swm hwn yn ddigon o lawer i dalu am y gwaith a'r defnyddiau y bwr- iedir eu rhoddi yn y Gofgolofn. Heblaw hyny, mae tft hollol sicr fod miloedd lawer o'n cyd- genedl a garent gyfranu eu ceiniogau tuag at barchu coffadwriaeth y gwr enwog hwn pe rhoddid cyfleusdra iddynt i wneyd hyny. Dymunir ar i'r swyddogion eglwysig, ymhob capel perthynol i'r Cyfundebau Ymneillduol yn Nghymru i roddi cyfleusdra felly, trwy wneyd yn hysbys a gosod brodyr wrth ddrysau y capel- au, neu ryw ffordd arall a farnont yn oreu, ar un o'r Sabbothau cyn diwedd mis Mawrth, 1892, i dderbyn ewyllys da pawb fyddont yn dewis cyf- ranu. Dyna yr oil a ofynir gan y swyddogion, cyhoeddi a rhoddi y cyfleusdra cyn diwedd mis Mawrth, ac anfon yr hyn a dderbynir i un o'r Trysoryddion. Oherwydd os bu dyn erioed yn haeddu cofgolofn gan genedl o bobl, yn ddiau, fel y tystia cydwybod pob Cymro a Chymraes, fe haedda enw Henry Richard un genym ni y Cymry. A chan ein bod ar fedr gwneyd Cof- golofn gadawer iddi fod yn un deilwng o'r gwron Cymreig hwn weithiodd gymaint dros ei wlad a'i bobl, ac yn deilwng hefyd o honom ninau fel cenedl. rmae y cyfeillion caredig sydd a'u henwau isod yn foddlon gweithredu fel trysoryddion lleol, a bydd yn dda ganddynt dderbyn unrhyw swm a ddanfonir iddynt. Rev. Thomas Levi, Aberystwyth; Rev. John Morgan Jones, 6, Wordsworth Street, Roath, Cardiff; J. Parry Jones Esq., National Bank of Wales Limited, Blaenau Festinfog; Robert Rowland, Esq., J. P., F. A. S., North & South Wales Bank, Pwllheli; Rev. Thomas Gee, Denbigh; Rev. D Rowlands, M.A., Normal College Upper Bangro; Rev. E Roberts, D. D., Pontypridd; Aldn. T Williams, Esq., J. P Gwaelodygarth House, Merthyr Tydvil; Rev. T. Rees, Cefn, Merthyr Tydfil; neu y Trysoryddion y London & Provincial Bank, Aberystwyth. Ydwyf, dros y Pwyllgor, Yr eiddoch yn ostynedig, Ashted Roto Birmingham. WILLIAM JONES
. LLUNDAIN.
LLUNDAIN. NOSWYL DEWI SANT. CYMANFA GENEDLAETHOL YN EGLWYS (1ADEIRIOL SANT PAUL. Er's rhai wythnosau yr oedd son mawr yn mhlith Llundeinwvr Cymreig am y gwasanaeth mawreddus a fwriedid ei gynal ar noswyl Nawddsant Cymru yn Eglwys Gadeiriol St. Paul. Arfaethai lluoedd fyned yno, ac yr oedd dwy o'r rheilffyrdd mwyaf wedi trefnu gwibdaith o Gymru gyferbyn a'r oedfa genedlaethol hon.! Dwy flynedd yn ol, drwy garedigrwvdd y Deon a'r Glwysgor, ac ymdrechion Syr John Puleston a'r Parch E. Killin Roberts, curad St. Margaret's, cynhaliwyd gwasanaeth cyffelyb gyda chryn lwyddiant, a sylw cyffredinol. Y tro hwn yr oedd y trefniadau yn nwylaw pwyllgor dylanwadol, dan lywyddiaeth Syr John Puleston, tra y gweithredai y Parch Morris Roberts, curad St. Benet's, fel ysgrifenydd, yr hwn hefyd a weithiodd yn ddiflino i wnevd y gymmanfa yn deilwng o'r genedl a'r achlysur. Yr oedd yr Arglwydd Faer (yr hwn fel y digwydd eleni sydd Gymro) wedi addaw ei wyddfod mewn Llawn Rwys." Yr oeddys hefyd wedi cael cefnogaeth a chynnorthwy amrywiol o bendefigion ac urddasolion Cymru, ac fel na byddai dim yn ol i wneyd yr achlysur yn wir genedlaethol yr oeddys wedi gyru gwahoddiad i Weinidogion Ymneillduol y Brif- Z;) ddinas, ac i'r eglwysi dan eu gofal. Er eangedyw Eglwys St. Paul, pan ddechreu- odd yr oedfa yr oedd yn llawn hyd ei dorau, yn drwch o fobol," fel y dywedir yn Aberteifi, a dangosai amledd y dyrfa fod y Cymri fwyfwy yn gwresogi at hen adgofion cenedlaethol, ac fod y tarit oedd wedi llaco wedi ei dynhau, ac y gellir ei daro eto fel cynt. Yr oedd y gwasanaeth yn odidog, a'r canu dan arweiniad Dyfed Lewis yn felus. Yr oedd pregeth yr Archddiacon Howells (Llawdden) hefyd yn dda, ac weithiau yn rhagorol. Cyf- eiriodd at Dewi Sant-at hyawdledd ei ddawn a duwioldeb ei fuchedd, heb anghofio y seintiau Cymreig eraill fu yn eu dydd yn llafurio dros ein hanwyl. Yr oedd y gymanfa hon, am urddas y lie y cynhaliwyd hi, am deilyngdod y Sant-y gwr duwiol--a goffeid, ac arn luaws y dyrfa a ym- gasglodd yn nodedig iawn, a gobeithio y daw yn ddefod mwyach i gynhal gwasanaeth cyffelyb o flwyddyn i flwyddyn, ond gobeitho na welir mo'r anwyleidd-dra gwrthun a nodweddai lawer o'r capelwyr y tro hwn. 0 barch i Eglwyswyr, o t5 ac er mwyn enw da ein cenedl, cofient or funud yr elont drwy ddrws Eglwys hyd nes yr elont allan eu bod mewn Ty Gweddi, lie gweddai i bawb ymddwyn yn wylaidd, yn barchus, ac yn ddistaw yn mhob ystyr ac agwedd. Arbedir y fflangell ar hJ na er yr haeddai ddisgyn yn drymach. —Teryll Drem. [Diolch i "Teryll Drem am ei adroddiad rhagorol. Hyderwn glywed oddiwrtho yn ami; ac ym- drechwn, hyd y gallwn, gadw at ei orgraff ragorol—hen orgraff y Dyfedeg—sydd wedi rhoddi ffordd i raddau gormodol i orgraff y Wyneddeg. Pe gwybyddai ein darllenwyr pwy ydyw ein gohebydd, ni chawsai lonydd ganddynt ond ar yr amod iddo ysgrifenu llith bob wyth- nos. Digon i ni ydyw hysbysu ei fod yn un o'r ychydig Gymry ydynt wedi dringo i ben gris uchaf eu galwedigaethau, ac er wedi ei eni a'i fagu yn y Brif-ddinas, medr siarad ac ysgrifenu yr hen iaith yn rhwydd. Heblaw hyny, mae yn wladgarwr i'r earn," a'i galon fawr bob amser yn llosgi dros yr Hen Frythoniaid." -GOL. ]