Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhoeddir Hysbysiadau yn yo BRYTHON CYMHEIG ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Rhybuddion Gyhoeddus, )R„ „ v Cyfreithiol, a Seneddol |6c- ? Ume11 y tr0> Arwerthiadau 3c. Hvsbvsiadau fTn ol trefniant, yn ymddibynu Masnachof 1ar eu safle' nifer y troion y (cyhoeddir hwynt, maintioli, &o. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn dais 20 gair neu lai, cysylltiad a Swyddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Ystafelloedd, Tai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. 0c. Eisiau, ar Osod. neu ar Werth. f Chwech „ Is. 6c. Masnach, Stoc, Dodrefn, Peirianau, neu fan Am bob 10 gair ych- bethau, ar Werth, neu wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar Hur/ prisoedd uchod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Rhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareuon, Cyfferi Crach-faddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrthwynebol, ar unrhyw delerau. Cyfieithir Hysbysiadau Saesonaeg, os bydd galwad am hyny, yn rhad. Danfoner pob Gohebiaethau ac Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PRESS OFFICE, LAMPETEB.
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in Te BRYTHON CYMREIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and) 6d. per line per inser- Public Notices ) tion. Sales 3d. do. do. Trade (By arrangement, according to Advertisements 1 P°sition' number of insertions, (.space required, &c. SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-\ 20 'words, ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant Apartments, Houses, or Three, „ Is. Od. Land, Wanted to Let, 1 '•-for Sale f Six ls.6d. Businesses, Stock Furni- ture, Mahinery, or Mis- Every additional 10 cellaneous Articles for words, half tlie above Sale or Hire. J prices. No Advertisements relating to Racing, Gam- bling, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, "Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGER, WELSH PRESS OFFICE, LAMPF,TF,R.
GOHEBIAETHAU .
GOHEBIAETHAU [Nid ydym yn gyfi-ifol am syniadau ein Gohebwyr. Gol. I GWYL DE BWLCHYGROES. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Ymddangosodd erthygl fechan dan y pen- nawd nchod yn ye BRYTHON tua phymthefnos yn ol, gan Un oedd yno medd efe, ond nid wyf yn credu ei fod yno yn gyflawn gorph a meddwl, gan ei fod wedi gwneud camsyniad yn ei ysgrif. Wrth roddi diolch i'r gwragedd, ni wna enwi ond dwy o honynt (ac nid yw hyny yn deg) y ddwy fwyaf urddasol yn ol tyb Un oedd yno" wrth gwrs; ond beth bynag am hyny, darfu i'r ddwy arall, sef Mrs. Jones, Pensarn Farm, Ffostrasol, a Miss Griffiths, Blaencerdinfach, dalu rhan o'r treuliau a gwneud y gwaith wrth y byrddau, yn osgytal a'r ddwy arall, a theg yw i ddarllenwyr ye BRYTHON gael gwybod hyny, ac yr wyf am i Un oedd yno fod a'i lygaid yn agored y tro nesaf. Ydwyf, &c., UNDEBWR.
ETHOLAETH ABERAERON AC ABERARTH
ETHOLAETH ABERAERON AC ABERARTH At Olygydd Y, BR-YTIION. Syr,—Yr oedd yr hyn a elwir gan rai yn Glicydd- iaeth wedi myned yn uchel iawn yn y gymydog- aeth yma er's cryn amser. Yn wir y mae yma amryw o gliques. Blaenor un clique yn nosbarth Aberaeron ydyw Mr J. M. Howell, ac un arall yn nosbarth Aberarth yw Mr E. Lima Jones. Dau ddyn gweithgar a rhagorol mewn llawer ystyr, ond y maent rywsut, heb yn wybod iddynt eu hunain, mae yn debyg, wedi myned yn benaethiaid clym- bleidiau. Erbyn heddyw y mae y trethdalwyr wedi deall fod mwy o swn o lawer yn areithiau hir-wyntog a phoethlyd y ddau frawd gwybodus hyn nag sydd o sylwedd ynddynt. Tair blynedd yn ol cynhaliwyd cyfarfod yn Aberarth i ethol ymgeisydd dros y dosbarth, a llwyddwyd i gael gan Mr J. Hugh Jones i ddyfod allan (a gwnaeth Mr Jones ei waith yn rhagorol, fel y mae yn arfer gwneud bob amser), a'r pryd hwnw gwnaeth Mr E. Lima Jones un o'i areithiau pen-y-gamp, ac yn ol ei arfer bu yn o galed ar ben y Toriaid druain, er nad oedd nemawr o honynt yno. Dywedai fod y Sir wedi bod yn rhy hir o lawer yn cael ei gorthrymu gan yr Ynadon Heddwch, a bod yr oil o'r trethdalwyr erbyn hyn yn gwybod am anghenion y Sir yn well na'r Ynadon, ac yn deall digon i farnu drostynt eu hunain. Dywedodd hefyd y buasai yn fwy o anrhydedd o hyny allan i fod yu aelod o'r Cynghor Sirol na bod ynYnad Heddwch. Gwaeddai y dyrfa Hwre Gwir- ionedd bob gair Erbyn hyn, pa fodd bynag, y mae pethau wedi newicl yn rhyfedd. Nid yw y Cynghor Sirol wedi troi allan fel y dysgwylid, a gwaeth na'r cwbl y mae trethdalwyr Aberarth yn gwrthod dilyn Mr Jones a Mr Howell. Poeth iawn y bu hi yma yn amser yr etholiad, fel ag y mae holl ddarllenwyr ye BRYTHON yn gwybod, a llwyddwyd i dori asgwrn cefn y clique yn y poethder. Gorfu ar Mr Jones i fyned 1 gyn. orthwyo Mr Howell i'r Neuaddlwyd, a nos Fawrth wythnos i'r diweddaf, er syndod l bawb, yn lie dywedyd fel arfer fod y trethdalwyr yn rhai gwybodus, &c., dywedai Mr Jones, gan estyn allan ei'fys, fod yn rhyfedd ganddo weled rnyw hen deiliwr bach," a rhyw hen of bach," a rhyw Ken chemist bach," a rhyw hen datarnwr bach," wedi dyfod i wybod digon fel ag i fyned allan i ddysgu y wlad pwy oedd yn dellwng i eistedd yn y Cynghor Sirol! Yr anwyl iawr Siarad am yr Ynadon, a ddarfu i un o'r rhai hyny ddanod peth fel hyn i ryw drethdalwyr ar unrhyw amgylchiad erioed ? Yr wyf yn beiddio dywedyd, Naddo Yr oedd y boneddigion hyny a gormod o barch ganddynt iddynt eu hunain, a gormod o barch i'r trethdalwyr i wneuthur peth fel hyn. Am bobl y Neuaddlwyd, darfu iddynt hwy, gan mwyaf, fyned yn erbyn eu brawd o'r chwaer eg- lwys, a glynu wrth y Methodist, ond y mae yn gysur genyf weled nad yw pawb mor ddall a. phobl Neuaddlwyd. Darfu i ranbarth Cilcenm gymeryd cam yn yr iawn gyfeiriad. Carwn yn ostyngedig roddi awgrym i bobl y Neuaddlwyd. Wrth gwrs, gallant ddychwelyd Methodist ar y Cynghor Sirol, gan eu bod yn credu mai hyny sydd oreu ganddynt ac iddynt, ond ai nid yw yn bryd i bobl gall y Neuaddlwyd i gau drws euhen addoldy cysegredig yn erbyn Clymblaid Mr J. M. Howell, sydd a digon o eofndra ynddynt i fyned i dy Dduw i siarad eu ffwlbri ? —Ydwyf, G.
MR. GLADSTONE A DADGYSYLLTIAD.
MR. GLADSTONE A DADGYSYLLTIAD. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Yn eich rhifyn am Mawrth 4ydd, dan y penawd "Y Senedd," dywedwch—"Wedi yr holl dwrw gadwyd gan ei addolwyr yn Nghymru, nid yw y G.O.M. (Mr Gladstone) wedi rhoddi ei bleid- lais o gwbl hyd yn hyn dros Ddadgysylltiad, a chredwn na wna hyny byth." Yn y South Wales Daily News am heddyw, gwelaf yr atebiad can- lynol gan y Golygydd i ohebydd a eilw ei hun yn J. R. S., Yes, last Session, Mr Gladstone both spoke and voted in favour of Disestablishment in Wales." ("Do, yn y Senedd-dymor diweddaf, darfu i Mr Gladstone siarad a phleidleisio dros Ddadgysylltiad yn Nghymru.") Yn awr, dy- muuwn wybod genych sut yr oeddech yn medru eyboeddi yn eieh papur y fath enllib anwireddus am Mr Gladstone, sef dywedyd nad oedd wedi rhoddi ei bleidlais o gwbl hyd yn hyn dros Ddad- gysylltiad," pan y mae awdurdod mor uchel a Golygydd y Souih Wales Daily News yn tystiol- aethu yn wahanol i chwi ? Mae genyf bob parch personol i chwi, ac nid wyf yn dymuno drwg i'ch papur, ond gwell genyf gredu Golygydd y South Wales Daily News ar y pwnc hwn.—Ydwyf, &c., GLADSTONIAD. Caerfyrddin, Mawrth 8fed, 1892. [Wrth reswm, hawdd genym gredu fod yn well gan bob Gladstoniad gredu Golygydd, y South Wales Daily News na chredu Golygydd ye BRYTHON ar bob pwnc ond nid yw hyny yn profi dim nad Golygydd ye BRYTHON sydd yn dywedyd y gwir. Nid yw yn syn genym fod gwerin Cymru wedi llwyr lyncu y syniad fod Mr Gladstone yn bleidiol i Ddadgysylltiad, ac iddo bleidleisio dros Ddadgysylltiad y llynedd oblegid cyhoeddwyd hyny laweroedd o weithiau o benau tai ac esgynloriau cyfarfodydd y blaid Gladstonaidd. Clywsom A.S. yn dywedyd peth cyffelyb mewn cyfarfod cyhoeddus yn Sir Fon Ychydig fisoedd yn ol darfu i'r Parch. Aaron Davies, Pontlottyn, a Mr. F. Llewelyn Jones, cyfreithiwr, arwyddnodi cylchlythyr cy- hoeddus, yn apelio am danysgrifiadan at Ryfel- gyrch y Dadgysylltiad, yn mha un y dywedent yr un peth, sef ddarfod i Mr. Gladstone, siarad a phleidleisio dros Ddadgysylltiad." Ysgrifen- asom ar y pryd i'r South Wales Daily News i amheu hyny, ond wele y Parch. Aaron Davies allan ar fErwst, ac yn gofyn pa le yr oeddem wedi bod, a ninau heb wybod y pethau hyn. Wel, i wneud stori hir yn stori fer, y diwedd fu i hen Olygydd y South TVales Daily News (y diweddar Mr. Sonley Johnstone) gyfaddef, er mor groes i'r graen oedd ganddo orfod gwneud hyny, taw ni oedd yn iawn, a bod y Parch. Aaron Davies a'r cyfreithiwr yn cyfeiliorni. Yn awr y mae yr un chwedlyn cael ei thaenu eto Mr. Gladstone wedi pleidleisio dros Ddadgys- ylltiad," ac y mae dallineb rhai o'r Gladstoniaid Cymreig (fel y brawd hwn o Gaerfyrddin) mor ddiobaith fel y medrant gredu celwydd am yr hen wr. Y mae yn syn genym na fuasai Mr. Gladstone yn cymeryd rhai o honynt i fyny am athrod. Na, nid yw efe, hyd yn hyn, wedi pleidleisio o gwbl dros Ddadgysylltiad. Y llyn- edd rhedodd allan o'r Ty heb wneud hyny, ac eleni arhosodd ar y Cyfandir nes yr oedd y ddadl drosodd. Gall ein Gohebydd barhau i gredu Gol. y South Wales Daily News os dewisa eto; ond os medr efe, neu hwnw, neu ryw Gladston- iad arall brofi ddarfod i Mr. Gladstone bleidleis- io dros Ddadgysylltiad rhoddwn £100 o wobr iddynt. Bydd yn bleser genym ddanfon traeth- len yn cynwys crynodeb o hanes Mr. Gladstone mewn cysylltiad a Dadgysylltiad i unrhyw un o'n darllenwyr ar dderbyniad amlen wedi ei stampio.—GOL.]
BWRDD YSGOL LLANGYBI.
BWRDD YSGOL LLANGYBI. I At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Caniatewch i mi ofyn drwy gyfrwng eic: papyr poblogaidd, beth mae y Bwrdd uchod yn wneud y dyddiau hyn ? Pa bryd y bu yr holl aelodau yn bresenol gyda'u gilydd mewn cyfarfod rheolaidd o'r Bwrdd ? A fedr pob un o honynt ddywedyd iddo bresenoli ei hun mewn cymaint ag un cyfarfod yn ystod y chwe' mis diweddaf ? Beth ydyw swm treth y Bwrdd Ysgol yn y plwyf yn awr ? Garw byth na fedrem gael rhywun i roddi gwybod i ni y rai ydym yn gorfod talu yr arian, i ba le y maent yn myned. Yr eiddoch, TRETHDALWR.
ETHOLIAD CYNGHOR SIROL CEREDIGION.
ETHOLIAD CYNGHOR SIROL CEREDIGION. Oymerodd le dydd Iau, Mawrth. 3ydd, 1892. Llwyddasom i gyhoeddi canlyniad yr ymdrechfeydd yn mhob Rhandir drwy y Sir, gyda'r eithriad o un, sef Cwmrheidol, am chwarter wedi deg o'r gloch boreu dydd Gwener diweddaf, yr hyn na wnaethpwyd gan un newyddiadur arall, Saesneg na Chymraeg, dyddiol nac wythnosol. Yr oeddem wedi cyfarwyddo ein holl Ohebwyr yn mhob ardal i ddanfon i ni y ffigyrau boreu dydd Gwener, ac yn mhen dwy funyd yn union, ar ol derbyn y pellebyr (telegram) olaf, yr oedd y copi cyntaf o'r BRYTHON am yr wythnos ddiweddaf allan o'r wasg Ni wnawd dim yn fwy cyflym gan unrhyw bapur dyddiol erioed, felly maddeued ein darllenwyr i ni am ymffrost- io ychydig yr wythnos hon. Oherwydd i'n Gohebwyr orfod gyru ymaith y ffigyrau gyda'r fath frys, ninau yn y Swyddfa eisiau eu cael allan ar unwaith, a thyrfaoedd yn dysgwyl am danyntyn mhob man; darfu i ychydig wallau ddianc i fewn. Yr ydym yn cyhoeddi rhestr gyflawn yr wythnos hon, ac y mae y ffigyrau mor gywir ag y medras- om eu cael. Dengys y golofn flaenaf enwau y Rhandiroedd, yr ail enwau yr Ymgeiswyr, y drydedd nifer y pleidleisiau dderbyniodd yr ymgeiswyr buddugol, a'r olaf nifer dder- byniodd y rhai aflwyddianus. Dynoda y llythyren R, Rhyddfrydwr, C, Ceidwadwr, U, Undebwr, R. A, Rhyddfrydwr An- nibynol. Aberarth J T Evans, R A 126 David Lewis, R 75 Aberaeron J M Howell, R 145 D Evans, R A 115 Aberbanc E Davies, R 270 E Jones, R A 104 Aberystwyth J James R 141 W Wemyss, C 129 Aberteifi Parch J Williams, R 192 H R Daniel, U 144 Bow Street W Morgan, R 85 H Bonsall, C 75 Ceinewydd C E Longcroft C 142 J 0 Davies, R 95 Cilcenin Dr J Lewis U 148 J Davies, R 93 Cwmrheidol Isaac Jones, R 79 N Bray, C 64 Llanbedr D Lloyd C 147 T Owen, R 128 Llanddewi-Brefi D W E Rowland, C 113 D Davies, R 102 Llandyssul (Gog) Parch T Thomas, R 151 B Davies, R A 83 eto (De) Dr Enoch Davies, R 174 C Lloyd, C 152 Llanfihangel-Ysd J Jenkins, R 143 W Davies, R A 138 Llanfarian Yaughan Davies, R 117 Morris Davies, C 89 Llanrhystyd J James, R 134 E Jones, R A 123 Llansantffraid D Jones, R 112 W Hughes, A 83 Llanbadarnfawr H Hughes, C 129 Parch LI Edwards, R 97 Nantcwnlle Jenkin Howells, C 123 W J Lloyd, R 101 Penbryn Peter Beynon, R A 112 D Griffiths, R 109 Talybont Edward Jones, R 161 Evan James, R 89 Ystradmeurig. Parch J Jones, C 129 Parch J Bowen, R 108 D Jenkins, R 6 CYNGHORWYR (etholwyd yn ddiwrthwynebiad Chwefror 24ain). Aberporth Mr T Thomas, Plas. R Aberteifi Mr J Stephens, cyfreithiwr R Aberystwyth Mr G Green, Mr D C Roberts, a'r Parch T Levi oil yn R Borth Parch E W James R Devil's Bridge D Jones R Goginan J E James C Llanllwchaiarn Mr Watkin Jones, Penfoel R Llanarth Mr Morgan Evans, Oakford R Llanfair-clydogau Mr J W Davies, Llangybi R Llandygwydd Col. J R Howell, Pantgwyn C Llanwenog Col. H D Evans, Highmead C Llangoedmore Mr W 0 Brigstocke R Llandyssilio-go-go Mr E Evans, Neuadd R Llanwnen Mr Hughes, Neuadd-fawr R Llangeitho Mr R. J Davies, Cwrtmawr U Llanfihangel Mr Evan Richards R Llangranog Parch J H Evans R Llanilar Mr B Jones, Brynda R Lledrod Parch J Owen, Blaenpennal R Taliesin Mr John Jones R Tregaron Mr Rees Jones R Trefeirig Mr Peter Jones, Aberystwytb R Troedyraur Mr J Powell, Blaenwern R Ysbytty Ystwyth Parch T M Jones R HENADURIAID (i ymddiswyddo Mawrth, 1895) (Dewisir wyth eraill eto yn nghyfarfod cyntaf y Cynghor, pa rai fyddant i ymddiswyddo yn Mawrth, 1898. Dewiswyd y rhai canlynol yn Parch J Davies, Tanycoed, Llanybyther, R Mr W Davies, Rbydowen-fach, Llandyssul, R Levi James, Aberteifi, R D Jenkins, Maesteg, Glandyfi, R Dr D Lloyd, Adpar, Castellnewydd, R Mr J T Morgan, Maesnewydd. Borth, R C M Williams, Aberystwyth, R Deallwn y cynhelir cyfarfod cyntaf y Cynghor dydd Mawrth nesaf, yn mha un yr etholir Cadeirydd ac wyth o Henaduriaid.
.. ETHOLIADAU SENEDDOL.
ETHOLIADAU SENEDDOL. Cymerodd dau etholiad Seneddol le yr wythnos ddiweddaf yn Lloegr. Dydd Iau, yn Chertsey, Surrey, eth- olwyd olynydd WI' diweddar Mr. F. A. Hankey (Ceidwadwr). Yr oedd dau yn ymgeisio. Fel y canlyn y pleidleisiwyd C. H. Combe (C) 4,589 L. J. Baker (R.G.). 2,751 Mwyafrif i'r Ceidwadwr 1,838 Dydd Gwener, yn South Derbyshire, eth- olwyd olynydd i'r diweddar Mr. Wardle (Rhyddfrydwr Gladstonaidd). Yr oedd dau ymgeisydd yma eto, a phleidleisiodd dros H. Evans Broad (R.G.). 5,803 B. V. Melville (C.) 4,553 Mwyafrif i'r Gladstoniad 1,250 Ni newidiodd y naill o'r ddwy sedd ddwylaw, felly bydd y pleidiau yr un fath yn Nhy y Cyffredin.
. ETHOLIAD CYNGHOR .LLUNDAIN.
ETHOLIAD CYNGHOR LLUNDAIN. Enillodd y Rhyddfrydwyr, neu fel y gelwir hwynt y Progressives, amryw seddau ar y Moderates. Gwneir y Cynghor i fyny yn awr o 84 Progressives, a 34 Moderates. Cynwysai y Cynghor diweddaf 69 Progres- sives a 49 Moderates.