Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant. S hwn neithiwr (nos Fawrth) \^yddiaeth Mr. Robt. Roberts, Cyn y cyfarfod rhoddwyd te yn rhad i holl aelodau, gwrandawyr, a phlant yr eglwys, a chymaint ydoedd y dyddordeb a gymerid yn yr am- gylchiad fel ag yr oedd pawb am y cyntaf i ddwyn eu rhoddion. Cynrychiolid Cyfarfod Misol Lerpwl gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, a Mr. Griffith Davies, eglwys Walton Park. Cyn- rychiolid Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd gan y Parch. J. Roberts, Rhyl, a Mr. Gomer Roberts, Llanelidan, ac yr oedd yn bresennol hefyd Mr. D. S. Davies a'r Parch. Jos. Evans, Dinbych, Mr. P. Ll. Jones, Bootle, Mr. John Jones, Abergele (Bootle gynt), &c. Cafwyd anerchiadau gwir dda gan y brodyr hyn. Rhoddwyd i'r gweinidog newydd a'r eglwys liaws o gynghorion gwerthfawr, a datganwyd hyder y byddai yr uniad yn un hapus i'r naill a'r llall, ac yn fendith i'r cylch. Rhoddwyd i Dr. a Mrs. Roberts dderbyniad hynod o gynnes ar ran y swyddogion gan Mr. J. Morris, ac ar ran yr eglwys a'r ysgol Sul gan yr arolygwr, Mr. Abel Jones. Diolchai Dr. Roberts yn gynnes i'r brodyr dieithr am ddyfod i'w gyfarfod sefydlu. Teimlai gryn lawer o bryder wrth edrych ymlaen at y cyfarfod—y cyntaf yn ei hanes a hyderai, os nad hwn fyddai y diweddaf, y byddent yn ychydig yn ystod ei yrfa fel gweinidog. Ofnai yn fawr wrth feddwl am fawredd a phwysigrwydd gwaith bugail, ond teimlai yn bur galonnog wedi gweled y der- byniad serchog a roddwyd iddo ef a'i briod er eu dyfodiad i Drefnant, ac yn neilltuol yn y cyfarfod heno. Addawodd wneud ei oreu i draethu iddynt holl gyngor Duw," a gallai ddweyd yn onest fod ei ffydd yn nigonolrwydd yr efengyl ynddi ei hun i gyfarfod angen pechadur yn gryfach heddyw nag erioed. Apeliai'n daer am weddiau yr eglwys ar ei ran, ac am iddynt gyd-ddwyn a'i ddiffygion, a'i gefnogi yn galonnog ymhob gwaith da. Mynnai iddynt gofio mai rhan fawr o'i waith ef fyddai eu hennill hwy i weithio. Bu Dr. Roberts yn aelod o eglwys Walton Park am ugain mlynedd, ac yno y codwyd ef i bregethu. Llafuriodd tan anfanteision dirfawr, ond trwy alluoedd cynhenid a.. dy- falwch di-ildio, llwyddodd i esgyn grisiau dysg. Y mae yn B.A. (Cymru), ac yn Ph.D. (Leipzig). Hynododd ei hun yn arbennig yn yr ieithoedd Dwyreiniol, ac y mae ar hyn o bryd yn paratoi cyfrol i'r wasg ar Ysbryd- oliaeth y Beibl.

--b EBION,

Yn Ynys Mon ac Arfon

Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen.

Eisteddfod yn nes adre'.

Advertising

Family Notices

Advertising

-0--LLITH OFFA.