Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidydol.

-0 BWLCHGWYN A'R CYLCH.

Mr.Ellis J.Griffith, A.S.…

Yn Ynys Mon ac Arfon

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA]. Nos Sadwm. SASIWN LLANERCHYMEDD. GAIR a llawer o swyn ynddo ydyw hwn i'n cenedl ni. Pryderai llawer yr wythnos hon oherwydd fod y tywydd mor wlyb, ond pan ddaeth dydd mawr yr wyl, yr oedd yr haul yn gwenu. Cynhaliwyd y Sasiwn eleni yn Llanerchymedd, ac yr oedd yn llwyddiant mawr. Nid wyf yn myned i roddi enwau y cynrychiolwyr oil, ac nis gallaf ond cyfeirio yn fyr at rai o'r materion fu dan sylw. Cafodd y llywydd, y Parch. John Williams, waith mawr, ond profodd fod ynddo allu mawr ar gyfer hynny. 4 Cyflogau Athrawon y Bala. Bu cryn siarad ar y mater hwn, oherwydd nas gellid cael gweledigaeth eglur i drefnu i ychwanegu at y cyflogau. Wrth ymdrin a'r mater hwn, cafodd y Parch. Wm. Thomas, Llanrwst, gyfle i alw sylw at y ffaith fod gormod yn cael eu codi o bregethwyr. Gwelais ysgrif gan y Parch. Wynn Davies, Bangor, yn ddiweddar, yn cyfeirio ar yr un peth ac oni ddywedodd yr Athro Prys, Trefecca, hefyd eiriau i'r un cyfeiriad ? Pa fodd y llwyddir i roddi atalfa tybed ? Mae yn sicr o ddod yn ddifrifol ar amryw, ac yn wir y mae felly eisoes. Mae yn gam a'r bechgyn eu hunain, ac yn gam a'r eglwysi, fod y llwybr yn rhy agored. Nid y M.C. yn unig sydd yn euog o ganiatau rhai anghymwys -rhai ag y dywed gweinidogion, swyddogion, ae aelodau yn eu cefnau nad oes y gobaith lleiaf iddynt ragori na bod yn gymeradwy fel pregethwyr. Yr wyf yn adnabod rhai sydd wedi cael blynyddau o goleg ar draul ereill, ond beth ydyw eu hanes heddyw ? Anfynnych iawn y gofynnir iddynt am eu gwasanaeth a phan y gwneir, gwneir hynny pan fydd ereill wedi torri eu cyhoeddiad. Da iawn y gwnaeth Mr. Thomas alw sylw at y mater ond clywais sibrwd fod tri o ymgeiswyr am y weinidogaeth ar hyn o bryd yn yr eglwys lie y gweinidogaetha efe. Cyhoeddiadau Pell. Bu hyn hefyd dan sylw, ac nid yn rhy fuan. Mae y ffaith fod eglwysi wedi llenwi eu Sabothau am saith neu ddeng mlynedd ymlaen yn cau y drysau yn erbyn y rhai sydd yn codi. Ac nid ydyw y rhai sydd yn rhoddi y cyhoeddiadau pell oil yn rhyw ofalus iawn am eu cadw oblegid dywedodd Mr; John Matthews, Amlwch, fed yr eglwys yno wedi cael ei siomi yn y flwyddyn 1903 23 o Saboth- au allan o 52, a'u bod wedi cael eu siomi gan bump mewn dau fis or flwyddyn hon. Yn awr, os y gwneir hyn mewn eglwys fawr fel Amlwch, beth am yr eglwysi by chain ? Yr Ordeinio. Dyma enwau y rhai a ordeiniwyd :—Mri. John Elias Hughes, B.A., B.D., Bryn Menai, Arfon (bore tranoeth ar ol yr ordeiniad y cafodd Mr. Hughes ddeall ei fod wedi ennill y B.D.) John Smith, Nantglyn, Dyffryn Clwyd J. O. Jones, Dinbych, eto; Owen Gwilym Griffith, Peniel, eto R. R. Parry, Llandynan, sir Fflint J. E. Hughes, B.A., B.D., Engedi, Ffestiniog Wm. Dewi Morgan Llangurig, Trefaklwyn Robert Davies, B.A., Trefeglwys, eto John Williams, B.A. Carno Moses R. Moses, Machynlleth T. Williams, Groeslwyd Simon G. Evans, B.A., Birkenhead; Griffith Hughes, B.A., West Kirby Isaac Glyn Jones, Nantglyn a Daniel Davies, Bodedern. Traddodwyd araith ar natur-eglwys gan y Parch. Jonathan Jones, Llanelwy a rhoed y cyngor gan

Advertising

Advertising

Yn Ynys Mon ac Arfon