Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS Llangollen Royal National Eisteddfod, 1908 Price 6d. ø Post 7 d. 2 EVANS, SONS 6 FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road CYNRIC, Y TEILIWR a CYM REIG SMARTNESS :WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASONABLE PRICES. ø E. C. Kenrick, ø62 RENSHAW STREETS im ord:: "r; e atn Crackei zi
TREM ^ J^TRWY Y DRYCH. J
TREM J^TRWY Y DRYCH. J Camgymeriadau. DAW pob math o bethau, da a drwg, digrif a difrif, lion a phrudd, mawr a bach, o dan Drem y Drych yn eu tro. Ac nid dichonadwy cymeryd golwg gweddol gyflawn ar y byd fel y mae heb ganfod ,y inai rhan helaeth o hanes dynion yw- camgymeriadau. A phwy nad yw yn eu gwneud, mewn rhyw fodd neu gilydd, o ddydd i ddydd ? Buasai yn gamgym- eriad difrifol i unrhyw ddyn dybio nad yw yn gwneud camgymeriadau. Buasai hyd yn oed y golofn hon yn lied anolygus yn ami pe gosodid marc du ar bob llithriad ynddi mewn iaith, syniad, a ffaith. Yr ydym wedi dal ein hunain lawer tro yn camgymeryd. Ac os ydym yn cael gwall ynom ein hunain, buasai yn anifyr iawn arnom pe methem ei gael mewn ereill Ond, wrth lwc, ni fyddwn byth yn methu y ffordd honno. G Du y Wasg. DYMA y bod sydd ar ben y rhestr am wneud camgymeriadau. Y mae, mewn gwirionedd, yn athrylith—yn evil genius- yn ei gamgymeriadau. Mae llawer o feio wedi bod arno, a llawer cynllun wedi ei ddyfeisio i'w ddiwygio, ond yn ofer hyd yn hyn. Cof gennym glywed am wr hyddoeth a gynghorai bregethwr ffraeth i ochel rhai dywediadau afhheus mewn chwaeth o'i eiddo ond yr ateb oedd, Tawn i yn peidio dweyd y pethau yna, nid i fi fyddwn i, a wnai neb fwy o sylw ohonof fi nag y maent yn wneud ohonoch chwi a'ch bath Wel, feallai mai dyna ddirgelwch anghyfnewidioldeb Du y Wasg yn ei gymysgfeydd Babel- yddol mynnych. Y drwg yw, nad oes fodd ei geryddtf ond a'i law ef ei hun oblegid drwy ei fysedd pengaled ef y gellir y ffordd i'r Wasg. A wyddoch chwi yn y byd pryd y bydd y gwalch yn gwneud sport ohonoch, gwnaeth nag erioed, am i chwi ymyryd ag ef. Er engraifft, llithrodd un gwall gair i'r paragraff ar Werthu Teitlau yn y BRYTHON diwedd- af. Ein bwriad oedd dweyd nad oeddym yn credu 'yn egwyddor gwerthu teitlau i anrhydedd a gallu deddfwriaethol," ac nid "dejosiynol," fel yr argraffwyd. Yr hynod Barch. J. B. Jones, B.A., Aberhonddu, a ddywedai un tro Cynt yr awn i wallgofdy i ddysgu synnwyr nag yr awn at yr uchfeirniaid i geisio'r gwirionedd." Mwy priodol o lawer fyddai dweyd mai un o'r lleoedd olaf yr aem iddo am wersi mewn defosiwn fyddai i ddad- wrdd croesymdynnol a thrawsarglwyddol llawer o'r gwyr teitlog yn nau Dy y Senedd. Pe mai mewn papur cyffredin y digwyddasai y gwall, ni fuasai'n werth ei wella ond gan fod derbynwyr y BRYTHON yn ei ddarllen yn ofalus, ac yn cadw pob copi i'w rwymo'n ddestlus ar ddiwedd y flwyddyn, y mae o bwys ei wneud mor berffaith ag y gellir-er mwyn y rhai fydd yn troi ei ddalenau yn y ganrif nesaf Ta-ta, y Du Bach G Gwylfa a'r "Plum Tart Y DYDD o'r blaen disgynnodd llygad y Drych ar y geiriau hyn, mewn newyddiad- ur Seisnig :— NOTHING was carried away from either place, except a plum tart from Gwylfa, the empty dish being after- wards found outside the house." "Wei," meddem, dyma dro Gwyddelig a'r Bardd Coronog o Lanelli Dechreu- odd ein meddwl bortreadu yr olygfa flin. Tybiwn fod Mrs. Gwylfa wedi bod wrthi, fel arfer, yn darbod ar gyfer chwaeth ei phriod talentog, a thybiem ei fod mor ffond o plum tart ag yw y gwr bach o Fethesda o siwgr ac eurafalau. Felly, yr oedd y plum tart wedi ei choginio ryw noson, a'r bardd wedi cael golwg arni-dirn ond golwg ac arogliad—cyn mynd i gysgu ac yr oedd y deisen yn un o'r pethau mwyaf swynol ar raglen tranoeth iddo ef. Os na fyddai mewn hwyl i nyddu cerdd na llunio pregeth, dir oedd y cai hwyl efo'r ddysgl o plum tart. Beth bynnag, yn nyfnder y nos, a phan oedd Gwylfa yn cysgu yn rhy drwm i lenwi ei enw gwylfaol am dro, dyma rhyw walch yn gwneud ei ffordd at y ty, ac yn llwyddo i ymnyddu i mewn. Yna, yn lie chwilio am goron y bardd, aeth i'r gegin, ac yn y man gwelodd ddysgl ag ynddi y plupi tart dywededig. Yn ei gweld yn amheuthyn mor hudol, yn flysig am dani, a chan ofni i ryw anlwc ddigwydd cyn iddo ei chael, cipiodd y ddysgl, allan ag ef, a llyncodd y darten The empty dish being afterwards found outside the house At y cyfan, clywsom fod y bardd yn sal, yr hyn barodd i ni ofni fod y digwyddiad wedi peri dychryn- dod er niwed iddo. Modd bynnag, cawsom ollyngdod o'n hofnau pan welsom wrth fanylu, fod rhyw dy o'r enw Gwylfa ger Dinas, Caernarfon, ac mai oddiyno yr aethai rhywun a'r plum tart. Drwg gennym i neb gael eu hysbeilio o'u teisen. Yr un pryd, dyna engraifft arall o— Gamgymeriad. Maddeued y GwyJfa i ni am gydymdeimlo ag ef ar gam G Llyncu Dannedd Gosod. HELP i lyncu yw y dannedd, ond pan geisir eu llyncu hwynt, mae hi'n mynd yn helynt flin, ac angeuol yn ami. Ceir llawer hanesyn dyddorol am anlwciau dannedd gosod. Clywsom un yn ddi- weddar iawn am weinidog enwog-un dda bur yw hi hefyd. Ond gan fod y gwr a'i hadroddodd wrthym yn driniwr stori heb ei ail, rhaid i ni, cyn cyhoeddi yr hanes, wneud ymholiad pellach. Sut bynnag am hynny, clywsom feddyg y ddoe ddiweddaf yn y byd yn adrodd iddo unwaith gael ei alw at wraig, yr hon, fel y dywedid, a lyncasai set o ddannedd. Ffwrdd a'r meddyg at y wraig, yr hon a gafodd mewn braw ac ymdrech, a chyf- eillion yn ei helpu oreu gallent i gadw y dannedd yn y gwddf, rhag mynd o gyrraedd gafael yn gyfangwbl. Dechreu- odd y gwr cyfarwydd a'i waith, a deallodd yn fuan fod rhywbeth yn rhyfedd yn yr achos. Gwaeddai y wraig yn ddiam- ynedd. Gwthiodd y meddyg ei fys belled y gallai i'w gwddf, ac ebai efe, 'Does yma ddim dannedd o gwbl, ond y rhai naturiol." 0 oes," ebai y wraig, yr ydw i wedi'u llyncu nhw. Be na i bobol Cymerwch bwyll," ebe'r meddyg mwyn. Ydach chi'n siwr i chi roi y dannedd yn eich ceg bore heddyw o gwbl ?" O do," ebe hi. Ar hynny, rhedodd rhywun i fyny i'r llofft i edrych, ac wele, yr oedd y dannedd ar y bwrdd yn yr ystafell wely-y tu allan, ac nid tu fewn, i'r wraig ffwdanus Fe welir yma eto ein bod a Threm y Drych ar wreigan a daflodd ei hun ac ereill i ofid a thrafferth yn hollol ddi- achos,—dim ond ei bod hi wedi gwneud camgymeriad. --0-- Ddydd Gwener diweddaf, cynhelid Ffair
Advertising
Fel Conwy-ffair a gynhelir yn ddidor er's canrifoedd. Gwerthid ef am 1/3 a 1 /6 y pwys a chystadleuodd nifer mawr yn y gwahanol ddosbarthiadau.
'Pulpud Cymru Heddyw.'
'Pulpud Cymru Heddyw.' SYR,—Yr wythnos ddiweddaf cafwyd ysgrif yn eich colofnau ar y pwnc uchod. Galwodd fy meddwl innau at y pwnc. Er hynny, nid fy amcan yn y nodiadau yma yw dilyn llwybr yr ysgrif honno, na cheisio gwrthddweyd dim ohoni. Gwir nad yw yn fynegiant o fy meddwl ar y pwnc oll-bwysig a dyddorol, a fy mod yn teimlo yn y pegwn arall oddiwrth rai o'r gosod;adau. Eto, Rhydd i bob un ei farn, ac i bob barn ei llafar." Yn ddiameu, mae Pulpud Cymru Heddyw yn un o'r pynciau mwyaf pwysig y gall unrhyw un draethu ei farn arno, a bydd fy marn i yn eithaf hawdd ei mynegu o dan ddau benawd.
Ei Nerth.
Ei Nerth. Prin y mae angen dweyd wrth y Cymro fod nerth yn ei bulpud. Mae hyn yn gred reddfol yn ei natur. O'i febyd dysgwyd ef i edrych i fyny at y pulpud, a chydag ym- agoriad ei feddwl daeth i deimlo cenhadaeth yr areithfa ysgrythyrol yn cymeryd gafael yn ei enaid yntau. Dysgwyd ef gan ei rieni fod y pulpud yn siarad yn enw'r nef ac er nas deallai y ddysgeidiaeth ar y cyntaf, cafodd fyw i weled ei hystyr ac i deimlo ei nherth. Ac i mi, dyma ddirgelwch nerth y Pulpud Cymreig, fod ganddo orffennol godidog i gyfeirio ato, nes ennill parch ac edmygedd ym meddwl yr ieuanc, ac hefyd fod ganddo genhadaeth gref a dwyfol at fywyd Cymru heddyw. 0 bopeth yn hanes rhamantus ac ardderch- og Cymru, nid oes bennod mor loew a hanes ei phulpud. Mae darllen hanes Owen Glyn- dwr yn brwydro ar fryniau ei wlad dros ryddid ei genedl yn felus odiaeth i feddwl y Cymro, ond canmil mwy melus yw darllen am John Penri o Gefnbrith, a Daniel Rowlands o Langeitho, a Williams o'r Wern yn teithio ei dyffrynoedd er goleuo meddwl ein tadau a gwirioneddau Duw. Mewn Jlawer bwthyn yng Nghymru, darluniau o'r cewri hyn sydd yn addurno y muriau, ac arweinir meddwl y plentyn sydd yn edrych arnynt mewn syndod i feddwl yn uchel o'r pulpud y bu yr udgyrn ysbrydol yma yn mynegu gwirioneddau'r efengyl ohono. Heb ddadl ym meddwl neb, mae Pulpud Cymru yn y gorffennol wedi bod yn arweinydd i'r genedl. Bu llawer ardal, a llawer cyfnod, o ran hynny, yn dibynnu yn llwyr ar y pregeth- wr am arweiniad. Mae bywyd Cymru heddyw yn meddu ffrwyth toreithiog o freintiau fel canlyniad y Deffroad Cenedl- aethol ond da fyddai cofio mai Deffroad Crefyddol ydoedd hwnnw yn ei wraidd. Cerdded i wrando yr efengyl ddydd y Gyman- fa ddysgodd y Cymro i gerdded i ganlyn ei gydwybod ddydd yr etholiad. Dyfod i afael a'r ddoethineb oddi uchod a'i harweiniodd i godi ysgolion a cholegau i oleuo meddwl yr oes newydd. Fel y dywedir mai'r Beibl roddodd dafodiaith newydd i'r .Cymro, gellir yr un mor briodol ddweyd mai y pulpud a roddodd fywyd newydd iddo Dawn ambell efengylwr Yng Nghymru gynt a fu Yn awel esmwyth cyn y wawr I siglo'r caddug du Gwrolwyd enaid cenedl, A safodd ar ei thraed, Pan welodd haul yn codi dros Anfarwol Fryn y Gwaed." Diangen i feddwl Cymro sydd yn ddigon gwladgar i ddarllen hanes gorffennol ei genedl yw ei ddysgu i feddwl yn uchel o Bulpud Cymru. Edmygedd a pharch o Bulpud y Gorffennol dyma ein genedigaeth fraint, a diolch am dani. Ond beth am Bulpud Cymru Heddyw ? A yw yn deilwng o draddodiadau y gorffennol? A yw y Pulpud Heddyw yn gymaint grym ym mywyd y wlad ag y bu ? A yw yn cario allan ei genhadaeth at fywyd ei oes mor gywir ac mor nerthol ag y gwnaed gan y tadau ? Cwestiynau hawdd eu gofyn, ond anhawdd, ac hwyrach peryglus, eu hateb. Eto, anturiaf innau daflu fy marn fechan i'r glorian. Yng nghyntaf oil, nid pessimist wyf ar y pwnc hwn mwy nag ar bynciau ereill. Nid wyf yn credu dim yn y duedd i fawrygu y gorffennol ar draul bychanu y presennol, a thybied fod gogoniant a chryfder bywyd ein cenedl mewn rhyw oes euraidd sydd a'i haul wedi machlud. Brawddeg gam- arweiniol ar lawer cyfrif yw yr un a welir ar fur yr Eisteddfod, ac a glywir yn destyn can oddiar ei llwyfan, I godi'r Hen Wlad yn ei hoi." 0 ba uchter neu gyflwr y mae'r Hen Wlad wedi cwympo pan yr eir i ganu am ei chodi yn ol iddo ? Pa gyfnod ym mywyd Cymru sydd mor oleu a'r ugain mlynedd diweddaf ? Ymha le yn hanes cenhedloedd Ewrop y ceir cymar mewn cynnydd i'r genedl fechan Gymreig yn y ganrif ddiweddaf ? Nis gwelaf fi gymar yn unman heb grwydro draw i wlad y dwyrain lie y ceir cenedl fechan debyg i ninnau yn Japan wedi brasgamu yn ystod y cyfmd diweddaf o'i bywyd. Darfydded, gan hynny. ar ganu I godi'r Hen Wlad yn ei ho] 1 p chyfnewidier y testyn I yrru yr Hen \Ya yn ei blaen." Ar gynnydd mae Cymru wedi myn -rl yn ystod cyfnod diweddaf ei bywyd, yn w.eid- yddol, addysgol, a chrefyddol. Mae meddwl Cymru wedi camu yn gyflym i gyfeiriad goleuni uwch a bywyd lletach. A chrcdaf fod hyn mor wir ynglyn a'r Pulpud ag yw am unrhyw ran o'n bywyd fel cenedl. Pan yn sefyll o flaen hen ge;tyll Cymru teimlir edmygedd ohonynt, eto edmygedd yw o'r hyn sydd a'i ddefnyddioldeb wedi darfod a'i ogoniant wedi ymadael. Ond wrth ystyried Pulpud Cymru Heddyw teimlir edmygedd ohono fel un sydd yn cadw ei ogoniant ac yn cynhyddu yn ei ddefnyddiol- deb. Er mor fawr yw fy edmygedd o hen gewri y Pulpud yn y gorffennol, ni buaswn yn dymuno eu gweled yn cymeryd lie y cewri sydd ynddo heddyw. Gwnaethant eu rhan yn odidog yn eu dydd, a llefarasant y gwirionedd fel yr oeddynt yn ei weled, ac fel yr oedd yn cyfateb i'r oes. Eto nid' y pregethau hynny fuasai yn cael gafael ar feddwl a chalon Cymru heddyw. Mae'r oes wedi newid, a rhaid i'r Pulpud newid gyda hi ac nid oes angen dweyd rhaid, oblegid mae yn rhwym o wneuthur. Mae pob oes yn magu ei Phulpud ei hunan, a naturiol gydag oes newydd yw disgwyl pregethwr newydd. Nid oes gennyf ronyn o gydymdeimlad a'r bobl sy'n caru rhoddi ergyd lawchwith i'r hyn a alwant yn bregethwr newydd," beth bynnag fyddo eu hamcan. Dyna enw a thriniaeth pob oes i'w diwygiwr. Pregeth- wr newydd ydoedd yr enwog Robertson o Brighton yn ei ddydd, a chafodd ddioddef llawer, a hynny gan grefyddwyr a phregeth- wyr, am feiddio bod felly. Eto, pregethodd y gwr godidog hwnnw galon yr efengyl, ac enillodd galon gwerin a gweithwyr Lloegr trwy ei wroldeb a'i ffyddlondeb i ddysgeid- iaeth Crist. Nid yw y dosbarth yma wedi newid ei don pan welir unrhyw un yn beiddio ehangu yr efengyl i gyffwrdd a hawliau a dyledswyddau bywyd, a dweyd mai bod yn Gristion ydyw bod yn debyg i lesu Grist, ac nid bod yr un farn ag esgobion y canol oesoedd fu yn meddwl mwy am roddi Cristionogaeth mewn credo nac mewn bywyd. Credaf mai dyma gyweirnod Pulpud Cymru Heddyw, ac os mynnem ei alw yn bregethwr newydd," popeth yn dda tra bydd ei newydd-deb yn fynegiant o'i gwir- ionedd, fel y credaf ei fod. Nid yr un yw Cymru heddyw ag ydoedd ugain mlynedd yn ol, ac ni ellid disgwyl i'w Phulpud fod yr un ond credaf fod y Pulpud Heddyw, hyd yn oed yn ei newydd-deb, yn cyfarfod ag oes newydd ac angen newydd yn ein gwlad. Clywais yn ddiweddar un o gewri ein Pulpud Heddyw- un sydd wedi sefyll ynddo am dros ddeugain mlynedd-yn dweyd ei fod yn edrych ymlaen i'r dyfodol gyda'r hyder sicraf am Bulpud ei genedl. Credai y byddai Pulpud y Dyfodol mor rymus a'r Gorffennol, ac yn fwy coeth a diwylledig i gyfarfod anghenion y genedl. Dichon nad yw pregethwyr Cymru yn meddu ar gyrff mor gyhyrog a'u tadau, ac hid yn hawdd y gall y rhan fwyaf ohonynt wedi gweithio yn galed yn y Coleg, mewn ffordd na wyddai'r tadau ddim am dano. Ond ai nid da fod y pwysau corfforol yn cael ei gyfnewid am bwysau meddyliol ? Da yw bod yn feddiannol ar gorff lluniaidd, ond mwy pwysig yw cael meddwl cryf i ddarganfod a mynegi y gwirionedd. 0 leiaf, dyna ydoedd man cryf pregethwr pennaf Cristionogaeth-yr Apostol Paul. Hawlfraint a chlod y Pulpud Cymreig Heddyw yw ceisio cyfleu efengyl Iesu Grist i gyfarfod angen yr oes ac os rhaid gwneud hynny mewn dull neu gyda thermau newydd, eto yr un efengyl ydyw, a'r un Duw sydd yn ysbsydoli y proffwydi heddyw ag yn y dydd- iau gynt. Mae heddyw Cymru'n agor Yn llednais o fy mlaen A gwelaf eto angel hardd Yn eistedd ar y maen. Mae'r fraich fu'n hollti'r moroedd Yn dal yn gryf o'i phlaid, A north diwygwyr dyddiau gynt Yn aros yn ddi-baid." Cawn rywbryd eto gyfle i ddod at yr ail benawd-" Peryglon Pulpud Cymru Hedd- yw." DDOE A HEDDYW. --0--
•Ffetan y Gol.
•Ffetan y Gol. Cymuno tan eistedd. SYB,—Dyddorol iawn i mi ydoedd dwy ysgrif J.H." a fu yn y BRYTHON fis neu fwy yn ol ar Y Weddi Gyhoedd ac lawn- ymddwyn yn Nhy Dduw," neu benawdau i'r cyfeiriad yna. A bore heddyw, wrth ail fyned tros Drych y Prif Oesoedd-hen gyfrol anwyl y byddaf yn cael mawr flas arni iddi pan wedi blino ar y Ddifinyddiaeth Newydd a bras-ddyfaliadau yr oes hon—t'rewais ar y cyfeiriad a ganlyn a thybiais nad any- ddorol gan ddarllonwyr y BRYTHON fyddai ei weled AR ol hyn, yng Ngwasanaeth y Cymrnun, y canlynai y Cyfarchiad rhwng y Gweinidog a'r Gynulleidfa. Yr Offeiriad a ddywedai, Yr Arglwydd a fo gyda chwi A'r Bobl a attebai, A chyda'th ysbryd dithcu. Yr Offeiriad a ddywedai drachefn, Derchefwch eich calonnau Y Bobl a attebai, Yr ydym yn eu derchafael i'r Arglwydd. Yr Offeiriad a ddywedai y drydedd waith, Diolchwn i'n Harglwydd Dduw ac attebid ef gan y Gynulleidfa, Mae yn addas ac yn gyfiawn gwneuthur hynny. Ac yno, wedi'r Offeiriad gyssegru y Bara a'r Gwin, y dos- barthid ef i'r Cymmunwyr y rhai a'i derbynnient ef yn yr un Agwedd Corph, ac y byddent yn gweddio, naill neu yn eu Sefyll, neu ynte ar eu dau-lin. Ond ni chlybuwyd erioed fod neb o'r hen Grisnog- ion yn eistedd wrth dderbyn yr oedd ganddynt fwy o Barch at yr Arglwydd nag y deuent i goffau ei Farwolaeth yn y fath Agwedd anfoesol. Ond Pab Rhufain yn wir (ac hefyd yr Arriaid y rhai sy'n gwadu Duwdod Crist sy y naill a'r Hall yn rhyfygus yn eistedd. RHAC i neb wrthddadleu fod ein Hiach- awdwr yn eistedd pan ordeiniodd efe y Sacrament ar y cyntaf. Yr atteb yn fyrr yw, mai Camsynniad mawr yw tybied hynny, Ein Hiachawdwr a ganlynodd Arfer yr Iuddewon yn bwytta'r Pasc, y rhai a orweddent ar wlau byddai tri ar bob gwely yn pwyso ar eu gilydd, megis yr oedd loan yn pwyso ar fynwes yr Jesu. Jo. 13. 23. A thri Gwely gan mwyaf a fyddai o amgylch y Bwrdd. Ond gan na roddes ein Hiachawdwr un Gorchy- ymmyn pennodol ynghylch hynny, y Prif Grisnogion a farnasant yn uniawn, mai'r Agwedd ostyngeiddiaf a fyddai'r Agwedd gymmeradwyaf. Ac y mae Histori yn tystio yn eglur eu bod yn derbyn y Cymmun yn wastadol yn yr un Agwedd Corph ac y byddent yn gweddio." Yr eiddoch yn wladgar, MERVYN VRYCH. --o
LLANGOLLEN.
LLANGOLLEN. 'DOES mo'r gofod i ddweyd pwy enillodd y gwobrau yn arddanghosfa anifeiliaid cwn ac ednod Llangollen a'r cylch, a gynhaliwyd ddydd Iau diweddaf. Clywais ddweyd fod yno ddeuddeg cant ar ddangos ac fod y da byw at eu gilydd o -ragorach ansawdd nag erioed o'r blaen yma. 'Does dim mor iached a phethau fferm, nac mor hardd chwaith a gwell gen i weld y sglein di- gymar ar grwper tarw na'ch motors na'ch muffs na dim o'r cyfryw. 3k Y Parch. William Morris Jones, o ddinas y BRYTHON, a'r Parch. Joseph Jenkins, Dol- gellau, oedd yn cadw cyfarfod pregethu capel M.C. Bethel, Acrefair, nos Sadwrn a dydd Saboth diweddaf.
GLANNAU'R GLWYD. t;
GLANNAU'R GLWYD. t; Y Parch. John Kelly, CANMOLWN Gyngor Eglwysi Rhyddion Pres- tatyn am gyflwyno anorchidd i'r gwr da uchod ar ei ymadawiad o'r Gylchdaith. Anfynnych y gwneir hyn a gweinidogion Wesleaidd oherwydd eu bod yn symud mor fynnych. Pe gwneid, byddai perygl i'r anerchiadau fod fel cadeiriau Bryfdir,—yn rhy liosog i gael lie yn annedd eu perchenog. Ond yr oedd teilyngdod Mr. Kelly yn eithriadol, bu mor ddiwyd a gwasanaethgar yn ystod tymor ei arhosiad yn y Gylchdaith fel y buasai yn resyn gadael iddo ymadael heb ryW gydnabyddiaeth. Y mae mor deyrngarol a neb i'w enwad, ac mor lan a neb oddiwrth ragfarn enwadol. Y mae mor gartrefol yn y pulpud ag ar y llwyfan, ac ymddengys fel un wrth ei fodd mewn brwydr boliticaidd. Y mae mor gyfoethog o wybodaeth a Gwydd- ionadur, ac mor ffraeth a'r Gwyddel, a l natur dda yn mynnu dangos ei hun yn ei wyneb rhadlon. Bydd arnom hiraeth am dano ar lannau y Glwyd, ac eiddigeddwn, wrth Beaumaris, ei faes newydd. Olynydd Mr. Kelly yw Y Parch. E. Mostyn Jones, a dywedir ei fod wedi dechreu ar ei waith o ddifrif. Drwg gennym hysbysu y darllenwyr fod y Parch. W. O. Evans yn wael er's wythnos, ond deallwn ei fod yn graddol wella. Dy- munwn am adferiad llwyr a buan iddo. Nid oes iddo yntau ond blwyddyn arall i lafurio gyda ni. Methwn yn lan a gweled doethineb John Wesley yn pennu tymor mor fyr ilr gweinidogion. Prin y mae'r bugaii a r eglwys yn dod i adnabod eu gilydd nad ydylit yn gorfod ffarwelio. Oherwydd fod Annie Gibson yn feddw aC afreolus yn ei llety, ac yn gwrthod myned i'w gwely, galwyd yr heddgeidwaid i mown, yr hwn a sicrhaodd wely iddi yn llety fforddolion yr Inspector Pearson. Ac oherwydd i Peter Edwards wneud ei wely ar yr heol gerllaw y Llyfrgell Rydd, rhoddwyd iddo yntau le i roi ei ben i lawr yn yr un hotel- Drannoeth dygwyd y ddau o flaen Mrl. J. H. Ellis a Jacob Jones i setlo am eu board and lodging. Esgus Annie oedd fod y neuralgia arIll, ac iddi gymeryd yehydig o frandy, yr hwn a gododd yn ei phen. Esgus Peter y tro hwn —(ei bedwaredd ar ddeg)—oedd ei fod y^ arfer cael ffitiau, ac oherwydd hynny fo" ychydig o ddiodydd meddwol yn ei ddvrysu- Pan gymer ormod mae'n cael ffit. Costiodd llety Annie 2 /6 a'r costau iddi a'r eiddo Peter 5 a'r costau. Gwesty drud yw un Inspector Pearson, ond pa ryfedd, gan fod men in buttons yn gweini yno. Rhoes Mr. Ellis—(er ei fod yn y fasnach)-. gyngor rhagorol i Peter, sef peidio cymeryd dafn o ddiodydd meddwol gan ei fod yn arfer cael ffitiau." Ein cyngor ninnau yw peidio cymeryd-ffitiau neu beidio. Ewch i'r Lyfrgell Rydd pan y mynnwch, cewch yno nifer dda o ddarllenwyr astud, ac y mae y Llyfrgellydd yn cael ei gadw yn brysur wrth ei gownter yn rhoddi a derbyn y llyfrau benthyg. Ar y nofelau, wrth gwr- y mae mwyaf o fynd, a chwi synnech itior rwydd y gall Mr. Williams daro ei law ar y llyfr y gofynnir am dano. Gwyr am en^ pob nofelydd a theitl pob nofel, ond os nad wyf yn camgymeryd, rhaid iddo gydnabou ei anwybodaeth am gynhwysiad y math hwnnw o lenyddiaeth. Nid oes ganddo archwaeth at fwyd main felly. Y ehwanegU' at nifer y llyfrau yn barhaus, ac y mae y pwyllgor ar fedr cyhoeddi ail argraffiad 0 r catalogue. Golyga hyn lawer o draffertn i'r Llyfrgellydd, ond nid oes arno ofn gwaith- Prawf o hyn yw iddo gael y Lending Depart- ment i working order mor fuan. Gwyddoio am Lyfrgell yn Lloegr a agorwyd yr un adeg ag eiddo y Rhyl, ond nid ydyw wedi c^e pethau i drefn i allu rhoddi y Ilyfrau allan eto. tra yr ydym yma yn cael benthyg Y llyfrau er's pum mis. I ddiwydrwydd a roed y Llyfrgellydd yr ydym i ddiolch am hyn. Pa sail oedd gan Cyrnol Howard, tybed, tros ddweyd yng Nghwrdd Chwarter Y Cyngor Sir mai pwys a hanner o fara gel pan ofynnir am dorth ddeubwys yn siopau y Rhyl ? Feallai mai meddwl ar y pryd Inal yng nghyfarfod y Church Defence, neu r Primrose League yr oedd ddarfu y cyrriol- j ni ofelir rhyw lawer am sail i'r hyn a draetW mewn cyfarfodydd felly. Bydd siopwyr Y Rhyl yn cofio'r sylw os dowch chwi i gardo pleidleisiau eto, Mr. Howard Ond ddo^° ehi ddim eto, o ran hynny, yr ydych yn ddy rhy gall. S Pan oedd dyn yn gyrru handcart a llwy^ o botelau cwrw ar un o heolydd y Rhy wythnos ddiweddaf, blinodd un o'r olwyni0 ar waith mor wael, ymryddhaodd oddiwrth y cerbyd, ac olwynodd ar hyd yr heol o'i flaorl. Mewn canlyniad, torrwyd dau ddwsm botelau, a llanwyd y gymdogaeth ag y cwrw. Yn wyneb y golled a gafodd rhy un, mawr gysur meddwl na wna y cW hwnnw niwed i neb.
Advertising
To AdvertiserS PREPAID ADVERTISEMENTS FOR BIRTHS AND DEATHS, Is. per Insertion- MARRIAGES, T Is. 6d. per Insertion. SITU ATIONS-Wanted & Vacant. APARTMENTS-Furnished^andisbe(j, Is. for One Insertion. 9d. for Three Insertions. 0 Rate for Trade Advertisements, Public Afeetilago etc., may be had on application. Advertisements must be to hand Tuesday to ensure publication in the following lSB All communications re Printing and Advertise to be directed to the Firm EVANS, SONS & FOULKES, Don Chambers, 8 Paradise Street, L'pool, or 356-358a Stanley Road, L'pool.