Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

« JROAP Y RHOP."I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

« JROAP Y RHOP." [GAN GWYNETH VAUGHAN]. PENNOD XXII.—YMGOM DAN A'I DAD AETH Dan tuag adref gan fyfyrio yn ddwys ynghylch y pynciau fu dan sylw ganddo ef a Nora. Gwolai y dyn ieuanc wlad yn gruddfan dm bwysau trymion, pechodau rhyfygus yn dyrchafu eu pennau tua'r awyr, rhagrith a Phariseaeth yn llenwi'r wlad drwy- ddi. Tybiai Dan mai prin y daliai Phar- iseaeth gwlad Judea i'w chymharu a Phar- iseaeth a rhagrith Cymru yn ei oes ef. Daeth i gyfarfod a'i dad yn un elr meusydd wedi iddo groesi'r gamdda a r ffordd fawr, a dywedodd ryw gyfran o'i feddyliau wrtho. Oes, oes, mae gormod o wirionedd yn y cwbl, machgen i, gormod o lawer, ond pe bawn i'n gorfod deyd fy marn i, rydw i'n credu mai difaterwch fuaswn i'n restru yn bennaf o'n holl beryglon ni. Dan bach, mae pawb yn rhy ddifater i feddwi llawer am ddim. Mae yma symudiad mawr, 'does dim dwy- waith, i ennill y wlad yn ol o dan iau Pab- yddiaeth. Ond 'does undyn yn hidio dim, er hwyrach iddynt ddarllen ryw dro yn rhai o lyfrau'r hen bobl hanes gormes crefydd Bab- yddol. Yr oeddet ti yn son am bulpud y wlad yma: wel, cofia, machgen i, fod pre- gethwyr y wlad yma yn ddanghoseg eglur iawn pa fath rai ydym ni, pobl y wlad. Maent yn union yr hyn a fynnwn ni iddynt fod." Wel, nhad, mae'n rhaid ein bod ni i gyd yn bur bell o'n lie ynte. Mae Nora yn sicr o fod yn iawn-yr ydym ar y goriwaered. Pam tybad ? Ambell waith, nhad, mi fydd- a'i yn y Iliwl dros fy mhen. Mae digon o ddioddefaint a thrueni o'n cwmpas ymhob man, 'does fawr o angen penydiau, mao bywyd cyfangorff mawr y bobl yn ddiodd- efaint mewn rhyw ffurf neu gilydd, a dyma ni, mae'r elerigwr yn gorfod ufuddhau i'r meistr tir o flaen hyd yn oed ei gydwybod, ac mae cydwybod y pregethwr yr hyn y myn ei ddiacon iddi fod. Meddyliwch am ryw bregethwr yn meiddio rhoddi barn wahanol i'r eiddo Sgweiar Plas Llan Elen." A dyna fu dy sgwrs di a Nora heddyw, Dan ? Mae'n debyg nad oes yna ddim llawer o gyd-ddealltwriaeth cydrhyngoch chi'ch dau eto," a chwarddodd y ffarmwr yn galonnog. Dy garwriaeth di yw'r un ryfeddaf y clywais i erioed son am dani, Dan, ond na hidia ddim, machgen i. Ni fu un eneth gwerth ei chael erioed yn hawdd i'w hennill. Y genethod yma na rydd un dyn call byth rot y dwsin am danyn' nhw sydd yn rhedeg ar godiad bys, ac yn dal yn dynn fel gelen bendwll wedi iddyn' nhw gael rhyw lun o afael. Mae'n lied debyg y dowch chi'ch dau i ddeall ych gilydd ryw dro, gan bwyll." Hwyrach yn wir, nhad, ond ceisio deall meddwl yr hen athronwyr, ac ail adrodd darnau o feddyliau Thomas Carlyle yr ydym hyd yma, beth bynnag. Sut y bu i ni yn y wlad yma, 'nhad,fynd yn addolwyr Mamon ?" Yn wir, 'machgen i, 'dwn i ddim, os nad dyna'r unig beth a adawyd i ni gan yr hen Buritaniaid. Pwy ddeydodd hynny, dywed ? Mae gen i ryw led adgo i mi ddarllen yn rhywle fod y Puritaniaid wedi gwarafun popeth i'w dilynwyr ond hel a charu arian." » 'Rwy'n meddwl mai rhai o eiriau Canon Kingsley sydd yn troi yn ych meddwl chi, 'nhad. Dyna un o'r dynion goreu a roddwyd i Brydain. Nis ofnai ef ddweyd y gwir ar bob adeg, ac mae'r geiriau yna yn debyg iawn i'r hyn a arferai brintio weithiau hefyd. Beth bynnag, dyna bechod mawr y wlad yma hedd- yw, a phwy bynnag fu'n gyfrifol am roddi'r cychwyn iddo, dylai ei enw fynd i lawr i'r oesau a ddel yn union fel enw Jeroboam riab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.' Am wn i nad wyt ti ddim ymhell o honi hi ar y pwnc yna, Dan. Mae addoli aur ac arian yn addoliad anheilwng o ddyn, dybygaf fi, ac mae'n dda gen i bod fy machgen i yn cadw'i galon yn iach yn Babilon fawr. Mae'r bobol yma sy'n gwybod y cwbwl yn deyd na fuo'r hen Fabilon ddim tebyg i Lundain, ac i ni ystyried 'i manteision hi." 'Rydw irn troio ngoreu, 'nhad, beidio gollwng dros got yr addysg a gefais i ar yr aelwyd. Fum i ddim heb y manteision a ddylent wneud dyn o honof os ydyw hynny yn bosibl. Mi wnaethoch chi a mam eich goreu i mi." "Mi ddaru'n dreio, machgen i, a mae'n dda iawn, ydi'n dda iawn gen i, fod fy mach- gon i yn para yr un un a phan oedd o'n fachgen bach. Mae'r hen fyd yma yn ddigon chwim chwam, Dan bach, ond mae'n gysur i ni gofio am y gair, Fy iachawdwriaeth I a fydd byth, a'm eyfiawnder ni dderfydd.' Mi fydd yn help i ni, Dan bach, ynghanol treialon bywyd, pan mae'r cwbwl o chwith, os medrwn ni gofio hynny, Mi fvdd yn gysur mawr i mi yn amal iawn pan yn gorfod edrych ar droion digon chwith, ie, a phan fu raid eu goddef hefyd, gofio ein bod ni i gyd yn rhywle vny Plan. 'Does dim posibl esbonio'r Plan mewn undydd un-nos, ac mae gwylio Ilwydd- iant y rhai anuwiol ac edrych ar ofidiau y cyfiawn yn hen hen gwestiwn, Dan. Wn i am yr un dyn erioed os meddai deimlad, ac hefyd rhyw ben symol, na fu yn pendronni uwehben y cwestiwn yna. Eto, dyma ni yn y tywyllwch." Fedra'i ddim peidio meddwl fod gwawr i dorri er hynny, 'nhad. Mae'r byd yn dechreu ymysgwyd fan yma ac fan draw, a rhyw arwyddion fod rhai yn blino ar ddioddef, yn blino ar draha cyfoeth, a snobyddiaeth ei berchenogion. 'Does dim posibl y gedy yr ArglWydd ei anwyliaid ei Hun o dan draed mamon yn dragywydd." "Weli di dy fam yn galw, Dan ? Mae hi'n siarad yn ddigon tebyg i ti'n amal, Dan bach. Ond galw arnom i chwilio am fwyd mae hi 'rwan. Diolch fod pryd i'w gael i ni hyd yma, mae cryn lawer o dlodi yn y wlad." Oes, 'nhad, a thlodi fydd yma tra bydd holl eiddo'r wlad yn hel i boced Morris, Llan Elen, a'i debyg. Dyna sydd yn tlodi'r wlad, yr arian yn mynd i bocedi yr ychydig, a'r fformwyr a'r gweithwyr yn byw i lafurio iddynt. Yr eiddo ddylasai fod ym meddiant y lliaws ym meddiant yr ychydig." Mi fyn rhai ein bod ni yn well allan o dipyn na'n hynafiaid, Dan. Fod yma well bwyd, a gwell dillad, a llu o gysuron tebyg." Oes, mae amryw yn edliw ei fara gwyn i'r gweithiwr, ac yn meddwl y dylai dyn roddi bwyd i hanner dwsin ar ryw ddeugain punt y flwyddyn, "passing rich on forty pounds a year," chwedl Goldsmith, Wel, mae'n llawn gwell gen i fara gwenith cartref fy hun, a 'rydw i'n ddigon rhesymol fy anghenion end mi leiciwn i weld incwm y creaduriaid sy'n mesur angen y gweithiwr wrth y standard yna, 'nhad, yr un faint am flwyddyn. Dyna'r tuchan fyddai i'w glywed. 0 b'le y deuai gwisgoedd symudliw eu merched, tybed, a sut drefn fyddai ar eu plant ? Fel own, ie, ac yn waeth na chwn, y trinir y tlawd sy'n gweithio'n galed heddyw, nhad. Beth sydd, mam ? Glywsoch chi'ch dau mo'r grogen ? Mae'r bwyd yn mynd yn oer." (I barhau). -0-

YSTAFELL Y BEIRDD

DY SIOMI GEI.

AR DY FEDD ER DY FWYN.

CYFEIRIADAU.

GOBAITH.

Y MIL BLYNYDDOEDD.

DYN Y LLU.

AWEL Y MOR.

THE GOOD SHEPHERD.

[No title]

0 BIG Y G'LOMEN.

Advertising