Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR YR HEN LANC.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR YR HEN LANC. MR. GOL.,—Mae yn amlwg erbyn hyn fy mod wedi dechreu "cicio nyth cacwn." Gwelaf fod dwy o'r creaduriaid hyn wedi cyn- hyrfu, a'u bod yn gwneud ymdrech i roddi eu colyn yn nghnawd yr Hen Lane. Gwryw a benyw, fel y deallaf, sydd wedi cynhyrfu, y rhai a adnabyddir gan ddarllenwyr yr WYTH- nos A'R ERYR wrth yr enwau mabwysiedig Ysglyfaethwr a Jannett Pugh. Mae yn am- lwg oddiwrth eu hysgrifau fod gan y naill a'r llall ohonynt ei hobi. Hobi y fenyw ydyw dyn a hobi y gwryw ydyw benyw. I wasan- aethu benyw y cafodd ei greu, ei gynal, a bod. Am fenyw y mae yn meddwl y dydd ac yn breuddwydio y nos. Pe defnyddid yr X rays i edrych tu fewn iddo, gwelid ar unwaith fod yno filoedd o fenywod yn cartrefu yn ei galon. Er ei fod yn mhell o fod gan ddoethed a Sol- omon, eto yn ei gariad at fenywod y mae yn mhell tu hwynt iddo. Nid yw tair mil o wragedd i hwn ond nifer cydmarol fechan. Ond er ei fawr hoffder o fenywod, y mae yn cashau ei gyd-ryw, yn enwedig hen lanciau â -chas cyflawn. Dywed yn ei lythyr fod y rhai hyn yn bla ar gymdeithas. Nid yw hyn wedi'r cyfan i ryfeddu cymaint ato y mae cryn lawer o'r un peth i'w gael yn y deyrnas ani- feilaidd a bwystfilaidd. Feder dim dau gi gytuno, ci a gast all wneud hyny. Os yw damcaniaeth Darwin yn gywir, fod dyn wedi dadblygu o'r creaduriaid islaw iddo, dichon fod hwn wedi cael cyfran helaethach o natur anianol a bwystfilaidd y ci na neb arall. Mae yr enw mae wedi fabwysiadu arno ei hun,— Ysglyfaethwr yn awgrymu hyn. Y ci ydyw un o'r creaduriaid mwyaf ysglyfaethus ar wyneb y ddaear. Yr hyn sydd yn ddifrifol yn ei hanes yw ei fod yn byw ar lan Llyn Tegid, fel y mae yr ysglyfaeth mae yn lyncu yn myned trwy ei gyfansoddiad, ac yn cael ei gario gyda'r dyfroedd i lygru yr hen iyn enwog Dichon mai hyn oedd yr achos i Lyn. Tegid er's ychydig wythnosau yn ol fyned o'i go, a rhuthro o'i wely, a bwgwth boddi trigolion y Bala bob copa, am na baent yn edrych ar ol y creadur hwn. Pa le y mae y Cyngor Dos- barth ? Pa le y mae awdurdodau Caer a'u hon dwrw ? Paham na symudant ymaith yr achos, ynaf darfyddai yr effaith ? Dywedir fod y Llyn ar hyn o bryd fel 'y Mor Marw, wedi myned yn rhy lygredig i'r un pysgodyn fyw yn ei ddyfroedd; y maent oil wedi ffoi am eu bywyd,—rhai ar hyd afon Twrch tua'r Aran, eraill ar hyd afon Lliw tua Lyfnant, a'r lleill ar hyd afon Lafar tua'r Arenig. Yr oedd- ynt yn myned yn finteioedd tan ganu yn iaith y pysgod, "Tua'r bryniau boed i'n ffoi." Gan fy mod yn adnabod yr Ysglyfaethwr yn dda, ac yn gwybod ei holl hanes, y mae hyny yn fantais tawr i mi wrth ysgrifenu. Gwr gweddw ydyw wedi gwirioni am wraig. Yr oedd ei dad yn ffarmwr cyfoethog, yn byw heb fod yn mhell o dref y Bala, a phan fu ei dad farw, disgynodd yr holl eiddo iddo ef. Yn fuan ar ol hyn dechreuodd yfed, aeth yn gaethwas i'w flys ac i'r botel. Syrthiodd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at Mrs Ffox, yr Hotel, yr hon sydd yn weddw, er fod ei wraig gyfreithlon ef yn fyw ar y pryd. Ond oherwydd ei gamymddygiad a'i greulondeb, torodd ei wraig ei chalon, a bu farw o'r dar- fodedigaeth. Y mae heddyw yn tawel huno yn mynwent henafol Llanycil, ac ar ol cael ei gwaredu o grafangau llew mor greulawn, diam- .au fod priddellau y dyffryn yn felus iddi. Y mae ei gynefindra hefyd a'r botel wedi gwneud fFurf hynod ryfedd ar ei gorff --ffurf sydd yn .anfanteisiol iawn iddo fel carwr i allu enill serch yr un fenyw. Clod dyn yw cadw ei gorff o fewn mesurau cynllun dwyfol ei gread, a'r unig ffordd i gadw y corff i gyfateb i'r plan a specifications yr Architect mawr, yw gwneud pobpeth,—bwyta ac yfed er gogoniant i Dduw. Ond y mae hwn wedi newid y cynllun- coesau meinion, bol mawr, trwyn ffiamllyd- nid ydynt yn y plan. Pan yn teimlo ei goesau meinion yn gwegian wrth dreio cynal y bol anferth, gall ddweyd "Rhyfedd, ac ofnadwy ac afluniaidd y'm gwnaed." Ond nis gall feio yr Architect trwy ddweyd yn dy lyfr di yr ysgrifenwyd hwynt oil." Mae yn amlwg mai nid wrth un fel hwn y dywedwyd Pwy o honoch all chwanegu un cufydd at ei faintioli." Byddai hen dirfeddianwyr Cymru er's llawer dydd yn cadw ffwl at eu gwasanaeth er mwyn sport. Mae Mrs Ffox yn cadw hwn at ei gwasanaeth, er mwyn ei aiian. Cymer ami ei bod am ei briodi, ac y mae yn caniatau iddo yn awr ac eiwaith roddi cusan i'w Itaw y mae ganddi ormod ofn i'w drwyn fflamgoch serio ei gwyneb i ganiatau iddo gael rhoddi un yn y fan hono. Mae yn yr Hotel bob nos hefyd chwareu hynod boblogaidd yn cael ei gario yn mlaen a elwir yn high kick play, ac y mae y merchaid a'r morwynion oil yn cymer- yd rhan ynddo. Y p'an ydyw clymu pel wrth linyn, a chlymu hwnw yn y bach o dan y llofft, ac am y goreu roddi cic iddi. Wrth edrych ar y merchaid yn cicio, bydd yr hen law yn gwirioni yn Ian ar yr olygfa, a bydd raid iddo gael talu am round ddwywaith neu dair yn ystod y chwareu. A chan fod y llanc iau wrth yr ugeiniau yn tyru i'r Hotel bob nos er mwyn y chwareu a'r ddiod, bydd ganddo i dalu i dros haner cant neu driugain bob tro. Fel hyn y mae Mrs Ffox yn gweled fod cadw ffwl yn un o'r pethau mwyaf enillfawr. Ond fel y mae chwareu yn ami yn troi yn chwerw, feFy y bu hi yma. Mae Miss Ffox y ferch hynaf yn lodas agos i ddwy lath o daldra, wedi ei hollti yn uchel. Hi ydyw champion y chware, ond yn hynod anffortunus, aeth y bach sydd dan y llofft drwy gefn ei throed, nes ei hanafu yn dost. Fel hyn y dibenodd y chwareu. a'r tebygrwydd yw na bydd ar Miss Fox frys i fyned drwy yr un act eto. Terfynaf ar hyn, gan addo ysgrifenu gair at Jannet Pugh yr wythnos nesa. Cofion goreu at bob her. lane a hen ferch yn mhob man. Yr eiddoch yn ei ddillad a'i iawn bwyll, HEN LANC.

AMRYWION.

GWREICHION.

EIN LLESTRI CYMUN.

Advertising