Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
At bawb a ddymunant gael Bicycle y gallant ddibynu arnynt, digon cryf i'r trymaf, a hyny dim ond 32 o bwysau, mynwch y SPARKBROOK" MACHINES, pawb yn cael eu boddloni ynddynt. Anfonwch am Catalogues, prisiau, &c., at J. & R. Edwards, LLANUWCHLLYN, Repairers i'r C.T.C., Dunlop 99, a'r Non- puncturable Tyres, Lampau, a phob peth angenrheidiol gyda Bicycles. Ffitir Tyres newydd ar hen Machines, neu gwneir unrhyw beth fydd eisieu ar Bicycles. Cannock Agricultural Manures and Seeds Co., Ltd. Cyfleusdra o'r diwedd i amaethwyr Uwch- aled gael Gwrteithiau a Hadau gwerth da meddianu. Miloedd o dystiolaethau i ragoroldeb y cnydau Swedes, Gwair, ac Yd a gynyrchir ganddynt. Os dewisir, gellir cael pob order mewn Hadau wedi ei gwneud i fyny yn unol & chyfarwyddyd Mr. C. Bryner Jones, o Goleg Amaetnyddol Bangor. Rhoddwch brawf unwaith, ac ni bydd angen gofyn eilwaith. Ar werth gan ELLIS JONES, Ty'nymynydd, Cerrig-y-druidion, Corwen.
Mynwent Rydd Anenwadol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mynwent Rydd Anenwadol. AT DRETH-DALWYR LLANUWCHLLYN. Foneddigion,—Mae y gair ar led eich bod yn bleidiol i gael mynwent rydd anenwadol. Ond ymddengys oddiwrth eich gweithrediadau, nad ydych ddim yn deall eich gilydd mewn perthynas i ystyr y geiriau rhydd ac anenwadol. Mae hanes yr ymdrafodaeth ar y fynwent newydd yn dwyn i'm cof, hanes adeiladau "Twr Babel," i'r dyben o wneuthur iddynt eu hunain •enw, yr adeiladasant ddinas, a thwr. Nid mewn ad- eiladu dinas a thwr yr oedd y drwg, ond yn yr amcan annuwiol oedd wrth wraidd y symudiad. Nid oes drwg mewn adeiladu dinas a thwr i'r meirwon; ond i'r gvvaith gael ei gario y'mlaen ar linellau o gyfiawnder a thegwch. Am weithwyr Twr Babel y dywedir,—"A'r Arglwydd a ddisgynodd i weled y ddinas a'r twr a ad- eiladasai meibion dynion. A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac uii iaith iddynt oll, a dyna eu -dechrellad hwynt ar weithio; ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oil ar a amcanasant ei wneu- thur." Dyma ydyw hanes Cyngor Plwy Llanuwch- llyn yn y gorphenol. Cymysgwyd iaith gweithwyr Twr Babel, fel na ddeallent iaith eu gilydd. Felly, cymysgwyd iaith Cyngor Dosbarth Penllyn a Chyn- gor Plwy Llanuwchllyn, fel nad oedd y trethdalwyr a hwythau ddim yn gallu deall iaith eu gilydd,—fel y gwasgarodd yr Arglwydd weithwyr Twr Babel, y gwasgerir Cynghorau Plwyfol yr oes bresenol. Mynwent Rydd.-Mae y gair rhydd, yn golygu aw- durdod i weithredu, neu beidio a gweithredu mewn cydymffurfiad a'r trefniadau cysylltiedig,—hyny yw, hawl i beidio talu treth orfodol at y cyfryw os dewisir, ac wedi hyny bod yn rhydd o afaelion y gyfraith wladol. Nis gall mynwent, na dim arall fod yn rhydd, os gorfodir y naill ddyn i dalu dros y llall. Mae gor- fodi dyn i dalu am eiddo at wasanaeth dyn arall, yn ormes ac yn anghyfiawnder o'r fath waethaf; ac o ganlyniad yn groes i gyfraith rhyddid. Dywedir fod trefniadau yr Eglwys Wladol yn ormes ac anghyfiawn- der pan ofynir tal am hawl i osod carreg ar fedd. Os ydyw yn anghyfiawnder gorfodi dyn i dalu am yr hyn a ddewisio gael yn marchnad yr Eglwyswyr, pa faint mwy o anghyfiawnder yw gorfodi dyn i dalu am yr hyn nad oes arno ddim angen am dano yn fyw nac yn farw? Ai tybed fod y gair mynwent rydd, yn ddigon swynol i ddallu trethdalwyr LianuwchHyn ? Mynwent Anenwadol.-Mae y gair anenwadol, yn golygu fod rhyw berson neu eiddo di-enw sef heb gael enw i wahaniaethu y naill oddiwrth y Hall mewn mater o hawliau neu gymeriad moesol a chrefyddol. Gwelir fod mynwent anenwadol, fel tir cyffredin heb neb i'w hawlio er wedi ei bwrcasu ar gost personau adnabyddus ac enwedigol. Gwelir fod yr etifeddiaeth benrhydd hon i gael ei thaflu yn giprys i'r rhai sydd heb hawl foesol, fel y gall y cyfryw draws feddianu yr hyn a ddylai fod yn hawliau teuluaidd ar ol dechreu -cladduperthynasan. Ac os mynwent anenwadol. ni fydd gan neb hawl i godi cof-golofn i wahaniaethu rhwng y naill berson a'r llall; na dim i ddangos fod y -cyfryw yn perthyn i unrhyw blaid grefyddol, am v rheswm y byddai hyny yn gwneud y bedd a'r fynwent yn enwadol. Mae y gair anenwadol yn gysylltiedig a'r fynwent newydd yn gam arweiniol, am yr edrychir ar y lie fel claddfa undebol i ddau enwad cyfoethog a dylanwadol; oblegid mae gan y Bedyddwyr fynwent eu hunain, ac yn ol pob tebyg ddigon o le am gened- laethau. Hefyd, dywedwyd yn y Cyngor Dosbarth, fod digon o le yn mynwent y Llan, "i'r neb ddymunai gael eu claddu mewn tir cysegredig." Mae y geiriau hyn yn arwyddo fod llawer o le yn mynwent y Llan, am y gwyddom fod nifer lied dda o Ymneillduwyr yn dymuno cael eu claddu mewn tir cysegredig. Nis gellir gwybod i sicrwydd, pa un ai ol troed esgob, yn- te llwch y saint ydyw gwir achos yr attyniad i fynwent y Llan. Er mai un cae ydyw y fynwent newydd, eto mae wedi ei dosbarthu yn llanerchau trefnus, a dwy o'r cyfryw yn ymddangos yn He mwy dymunol na'r lleill. Mae yr Annibynwyr wedi dechreu claddu mewn un Danerch ddymunol, a daliaf swllt y'mhen ceiniog mai yn y llanerch gyferbyniol y cleddir yr enwad Calfin- aidd. Nis gallaf weled y posiblrwydd i fynwent yr enwad- au crefyddol fod yn anenwadol, am mai yn eu perth- ynas a u plaid grefyddol eu hunain y cleddir meirw. Na thwyller ni gyda gwag honiadau; canys rhaid i -enwadaeth fodoli hyd oni ddelo pob plaid i rodio wrth yr un Reol, a chael eu llywodraethu gan yr un Yspryd. Nid yw y gair anenwadol ddim yn haner digon o glwt i guddio enwadaeth yn nghladdedigaeth y marw, os -edrychir ar y ffaith y'ngwyneb haul a llygad goleuni. Yn nesaf, mi a sylwaf ar yr egwyddor sydd yn gwneud ei hymddangosiad o dan gochl crefydd, yr hon egwyddor sydd i gael ei bamu wrth y gyfraith; a'r gyf- raith ydyw,—"Car dy gymydog felti dy hun,"—gwna i arall megys yr ewyllysiet i arall wneuthur i tithau. Yn awr, bygythir gosod treth i orfodi Eglwyswyr a phawb yn gyffredinol i dalu at fynwent i Ymneilldu- wyr. Os ydyw yr enwadau crefyddol yn y mwyafrif, —a ydyw yn gyfiawn gweithredu er yr egwyddor trecha treisied? Beth am yr amser pan ddaw y lleiafrif i awdurdod yn y dyfodol, a fyddai yn gyfiawn iddynt weithredu ar linellau y mwyafrif yn yr amser presenol ? Dylem ddysgu gwers oddiwrth hanes y byd yn y forphenol, yr hyn a ddengys fod y naill ddosbarth yn yfod i awdurdod lywodraethol mewn trefn i gael eu profi; ac yn ol mamt eu hanheilyngdod a'u hanghyf- lawnder, y bydd eu hawdurdod yn cael ei chymeryd oodiwrthynt, a'i throsglwyddo i ddwylaw eu gelynion i gael eu cospi yn ol eu haeddiant, canys "a pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau." Dyma ddiwedd pob llywodraethwyr anghyfiawn a diras. Y ni, fel trethdalwyr, sydd yn gyfrifol am bob anghyfiawnder <:ysylltiedig a mabwysiadu deddfau lleol. Nid yw y Cynghorau Plwyfol a Dosbarthol, ond offerynau yn nwylaw y trethdalwyr, i gario allan amcanion a gweith- rediadau y Cyrddau Plwyfol. Y trethdalwyr ydyw meistr y cynghorau, am nas gallant weithredu dim o bwysigrwydd heb ganiatad y Cwrdd Plwy. Gan hyny, mae galw yr ymchwiliad yn ol, heb gan- iatad y Cwrdd Plwy, yn drosedd y dylem brotestio yn ei erbyn, am fod y cyfrifoldeb a osodwyd arnom yn y Cyngor Dosbarth y cyfryw, ag y mae dyledswydd yn galw arnom i ymryddhau oddiwrtho. Cofier mai yr un gaHu sydd gan yr hen Festri Blwyfol ag sydd gan y Cwrdd Plwy a'i Gyntror yn y dyddiau presenol. Nid yw hyn ddim amgen na dau enw ar yr un peth, gyda'r eithriad fod y trethdalwyr wedi cael caniatad i ethol Cyngor Plwy i weithredu yn lIe y parsoniaid a'r yw- einiaid. pa rai a gyhuddid o weithredu yn ormesol ac anghyfiawn. Yn awr, fe ddymunwn i bob trethdalwr diduedd glorianu gormes a beiddgarwch y parsoniaid a'r ysw- einiaid, ac yna rhoi y Cyngor Plwy yn y pen arall i'r glorian, er cael gweled i ochr pwy y try y fantol. Cofier mai nid yn erbyn cael mynwent newydd a thalu am dani yr ydym, ond yn erbyn talu treth or- fodol, heb ganiatad a phenderfyniad Cwrdd Plwy rhe- olaidd. Dymunwn ddweyd fod genyf seiliau da dros gredu, fod yr hen geffyl gwirfoddol yn Llanuwchllyn mor fywiog ag erioed. Nid oes eisieu dangos y chwip iddo, dim o'r fath beth; mae tipyn o swn barddonol, byw- iogrwydd, a sirioldeb wedi profi yn foddion effeithiol iddo roddi pob gewyn ar waith. Gan hyny yr wyf yn cynyg fod pwyllgor i gael ei ffurfio, i ethol dynion profiadol a chymwys i fyned o amgylch i gasglu add- ewidion, er cael gweled beth ellir wneud mew;} ffordd anrhydeddus. Os bydd yr egwyddor wirfoddol yn cael derbyniad, byddaf fi yn gwneud ymdrech i fod yn at- ebol am y swm a ddisgynai arnaf trwy dreth orfodol, ond i mi gael deng mlynedd o amser i dalu. yn lie pump, fel yr awgrvmwyd yn y Cyngor Dosbarth. Os oes rhyw rai yn ddigon cefnog i dalu mewn pum mlyn- edd, gallant gynorthwyo eraill trwy roddi benthyg arian, neu wneud Bazaar i ysgafnhau y baich. E. ROWLANDS. AT DRETHDALWR. Syr,—Yn yr WVTHNOS A'R ERVR am yr 22ain cyfisol y darllenais eich cwestiynau Mewn perthynas i fenthyca arian, gofynwch imi faint fyddai y Hogau yn ol pedair punt y cant ar y swm o dair punt a phym- theg swllt, a'u talu yn ol mewn deg mlynedd ar hug- ain? Ateb-Nid yn ol pedair punt y cant yr ydyrn i gyfrif swm y llogau, ond yn ol dwy bunt a phymtheg swllt v cant. a bydd swm y llogau yn lleihau yn gyf- atebol i'r swm blynyddol a delir yn ol o gorff yr hawl. Mae cael arian am log o ddwy bunt a phymtheg swllt y cant, a'u talu yn ol yn symiau bvchain. yn fanteis- iol i bob trethdalwr. oblegid dywedir fod dynion mewn cylcboedd masnachol, yn gwneud elw clir o tieain punt y cant ac uchcd, yr hyn mewn deg mlynedd-ar hugain sydd dros chwe chant o bunau o elw clir. ac heblaw y swm uchod, bvdd llog yr enillion yn cyraedd swm go dda. Dyma y ffordd i roi prawf ar wir werth arian benthyg. Eto. mae yr arian hyn yn llawn cvm- aint o werth i ffarmwr fydd mewn cyfyngder,er mantais iddo wneud v goreu o'i fasnach. a chadw draw y rhai sydd yn rhodio o amgylch i chwilio am ysglyfneth. Wedi gwneud ymchwiliad i'ch cwestiwn, nis gallaf weled fod genym ddim achos diolch i graffder (?) y Cyngor Plwyf yn eu hymgais i geisio ein rhwystro i gael benthyg arian am log mor fychan. Mewn perthynas i'r gair cysegru.—Fel mater o ffaith y cyfeiriais ato, ac nid wyf yn dymuno datgan fv mam o dan yr amgylchiadau presenol, am fod eisiau pwyll a doethineb i fyned i mewn i'r pwnc heb friwio teimladau Eglwyswyr, a rhai Ymneillduwyr hefyd. Am y gair anenwadol y cyfeiriwch ato.—Ni ddef- nyddiais i ddim o'r gair yn ei gysylltiad a'r gair cyseg- ru, eich camgymeriad chwi ydyw hyny. Yn fv ail ly- thyr y cewch weled fy mod yn llwyrymwrthod a'r gair anenwadol yn ei gysylltiad a'r fynwent newydd. E. ROWLANDS.
. CLYWEDION 0 CARROG.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CLYWEDION 0 CARROG. Mr. Gol.Dymunaf ofod fechan o'ch newyddiadur byd-enwog, yn raf, i ddatgan fy ngofid na fuaswn wedi rhoddi yn gynt gyfrif manwl o "Concert diweddaf gynhaliwyd yn Carrog," yngwyneb y cyhuddiadau Ilechwr- aidd a digywilydd," fel myn Ymwelwr Gonest ei alw. Meiddiaf ddweyd nad oes neb i'w feio ond fy hunan, am na buaswn wedi rhoddi goleu dydd i'r cyfrif manwl dywededig, fel ac yr oeddwn wedi bwriadu, ond am na wnaethum mewn pryd, hyderaf y dywed Y. G." gyda mi mai gwell hwyr na hwyrach. Mewn atebiad i'w benawdau, sef (a) gwnaeth- um y cynherdd ar fy nghyfrifoldeb fy hun, gyda chydsyniad Mr. J. Williams; (b) aethant i datu trael Cor Plant i Gyfarfod Mawrth, ac mae gweddill mewn Haw; (c) hyn sydd gywir, (d) mae hyn etto yn wirionedd; (f) nid efengyl yw hyn, fel llawer clywedion eraill; (g) mae hwn eisoes wedi ei ateb; (h) dywedaf finau Amen (vice versa); (i) a ganlyn yw y cyfrif, ac hyd yr ydwyf yn gwybod, fe ddeil ymchwiliad Mr. Ymwelwr Gonest. Derbyniada gan Werthwyr Tocynan. £ s. c. Miss O. Howell, Sycamore Terrace 110 Master Seth Jones, Park Terrace 0 13 6 Master Edw. 0. Jones, Carchajdy 0 7 0 Mr. J. Williams, Rhagatt 0 1 0 Derbyniwyd wrth y drws gan J. Roberts, Carchariy 0 17 0 Yn Gwneud y Cyfanswm o 2 19 6 Trenliau. Argraffu 0 12 0 Treuliau y Cor 0 8 9 Benthyg y berdoneg 0 7 6 I Mrs. Roberts, Ty Capel 0 3 0 I Mrs. Edwards, Tan Llan .010 Am y Goleu 0 1 0 Cymorth gyda'r llwyfan .020 Treuliau y farse 0 0 71 01 ddyled er 1896 0 12 0 Gweddill mewn llaw 0 11 7! Yn gwneud cyfanswm o 2 19 6 Dymunaf ar iddo ar ei ymweliad nesaf yn ein hardal, alw gyda mi, a chaiff gyda phob triondeb yr hyn sydd weddill mewn Haw i'w rhranu yn onest rhwng Cor Plant Carrog, neu geisio cael allan a allasai ef gael te i 35 am yr arian sydd mewn llaw. Yr oedd "Ymwelwr Gonest" yn ddigon gonest i beidio gwneud un math o ymchwiliad ar drael pwy yr aeth Cor Plant Garrog i Gyfarfod Mawrth yn 1896. Ydwyf, heb un meddwl o wneud anghyf- iawnder a neb, Yr eiddoch yn gywir, < R. JONES, 8, Carchardy, Carrog.