Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

. "DIOD DDAIL."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"DIOD DDAIL." Yn y dyddiau poethion hyn y mae llawer iawn o yfed ar y ddiod a elwir genym ni yn Nghymru yn Ddiod Ddail (Botanic Beer). Nid oes genym ddim yn erbyn Diod Ddail, oblegid y mae yr holl lysiau sydd yn tyfu drwy'r ddaear yn rhagorol at wasanaeth dyn, ond eu parotoi yn y ffordd iawn. Y mae yn ofynol wrth addysg ac ymarferiad mewn llys- ieuaeth cyn y gellir eu defnyddio yn llwydd- ianus a diogel. Y mae pentyru gwahanol lysiau ar eu gilydd, a'u gwneud yn drwyth a'u hyfed, yn beryglus l'r cylla, ac yn sicr o niweidio y cyfansoddiad, gan anmhuro y, gwaed a dwyn annhreuliad (Indigestion). Ceir yn y dyddiau hyn lawer o hen wragedd yn ein pentrefi a'n trefydd yn darllaw Diod.' Rhoddant ynddi bob math o lysiau chwerw- on, y rhai sydd yn gwrthweithio rhinweddau eu gilydd. Potelant y ddiod hon, a bydd mor llwyted a llymru, yn llawn burym ac al- cohol. Ni ddylid yfed hon, mae'n bery RIUS, 9 Nid oes gan neb wrthwyniad i Ddiod Ddail, ond ei chael wedi ei darparu yn briodol,-Y mae yn rhagorol at wasanaeth dyn. Dyna fan prif feddygon y byd. Ni ddylid defnyddio ond un rhywogaeth o ddail yn unig i wneud diod, a dylai fod wedi ei darllaw yn dda a gofalus, a'i bod yn loyw a chlir fel dwfr glao, neu yn felyn fel brandi, ar ol ei thywallt of hotel; heb hyny nid yw gymhwys i'w hyfed. Yn y dyddiau hyn ceir yn y shopau a'r tafarn- au ddiod a elwir Hop Bitters neu Hop Beer. Y mae hon yn ddiod ragorol, llesol i'r cylla, ac yn codi archwaeth at fwyd, a thrwy hyny yn cryfhau y cyfansoddiad yn wyrthiol. Dywed prif feddygon Paris fod Diod Ddail wedi ei gwneud yn briodol yn rhagori ar holl ddiodydd y byd, ac y mae yr un mor gym- hwys i'w hyfed y gauaf a'r haf. Ond fel Y gwneir hi yn ein pentrefi, y mae yn hollol anghymhwys. Fel y dywedwyd o'r blae°> dylai Diod Ddail (Botanic Beer) fod yn glir, o hw hrandi, ar ol ei thywallt i wydryn,—-heb hyn nid yw wedi ei gwneud yn briodol, ac nid yw yn ddiberygl i'w defnyddio. Gan fod Diod Ddail mor llesol i'r cyfan- soddiad dynol, gresyn na byddai i rywun cyfarwydd a llysiau ei gwneud a'i gwerthu am bris teg yn mhob pentref, fel y gallai yr ieu- enctyd gael diod ddirwestol heb fyned i'r tafarnau. Y mae i'r ieuenctyd fyned i'r tafarnau i yfed hyd yn nod ddiod ddirwestol yn andwyol iddynt, ac yn sicr, yn hwyr neu yn hwyrach, o'u harw.ain i ffordd ddu y meddwon. Y dosbarth hwn y mae y tafarn- wyr ei eisieu,—y mae y meddwon ganddynt yn ddigon diogel. Gan hyny, bydded 1 bleidwyr dirwest astudio lies ein hieuenctyd, a gwneler pobpeth sydd ddichonadwy i'w hattal i'r tafarnau.—WENTWORTH.

Advertising

Cymanfa Ysgolion Wesleyaid…