Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithas Rvddfrvdol Meirion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymdeithas Rvddfrvdol Meirion. MR. OSMOND WILLIAMS A'R ETHOLWYR. Gynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gym- deithas uchod yn Nhowyn ddydd Mercher, Medi 3oain. Llywyddwyd gan yr Athro O. M. Edwards, M.A. Dewiswyd Dr Hughes, Bala, yn llywydd am y flwyddyn nesaf. Wedi pasi,o penderfyniad o gondemniad ar y Mesur Addysg a pholisi Chamberlain yn ngtyn a Masnach Rydd, cyflwynodd Mr W. Williams, Congiywal, Ffestiniog, y penderfyniad a gan. lyn ar ran cymdeithas leol Conglywal-II Ein bod ni, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar y 2gain o Fedi, yn dymuno datgan ein han- foddlonrwydd o wasanaeth ein Haelod Sen- eddol yn Nhy y Cyftredin, a'n bod yn galw ar Gymdeithas Ryddfrydol Meirion i tabwys- iadu mesurau i sicrhau cynrychiolydd mwy mewn cydymdeimlad ag uchelgais a buddian- au y dosbarth gweithiol a'r etholwyr yn y sir." Gan na chefncgwyd y penderfyniad galwyd ar Mr Osmond Williams, AS., i anerch y cyfarfod Gofynodd Mr Williams, yr hwn a dderbyniwyd gyda cbymeradwvaetb, yn gyn- taf i'r anfoddlonwyr, os oedd rhai yn bresen- oj, i fynegi eu cwynion. Gofynodd Mr Rich- ard Griffith, BI Ffestiniog, paham nad oedd yr aelod anrhydeddus wedi cynhal cyfarfod yn Mlaenau Ffestiniog yn ystod y tair blyn- tdd diweddaf, er wedi gofyn iddo lawer gwaith i wneyd hyny. Darfu i Mr Williams adgoiTa Mr Griffith am y cyfarfod gynhaliwyd yno yn 1901 mewn undeb a Mr O. M. Ed- wards a'r Parch Evan Jones, Caernarfon. Ni wrthoJodd erioed fed yn bresenol pan ofyn- wyd iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ffes- tiniog nag unman arall. Gofynodd Mr Rich ard Griffith yn mhcllach paham nad oedd yr aelod anrhydeddus yn bresenol yn y Ty i bieidleisio ar gynygiad Mr William Jones mewn perthynas i chwarelwyr Bethesda. Nid ymddangosa'i tel pt mewn cydymdeimlad a'r gweithwyr. Aiebodd Mr Williams ei fod "wedi gwneud ei oreu i gael allan deimlad chwateiwyr Ffestiniog ar y mater. Cefnog odd gymgiad Mr Asquith, ond pan ddaeth Mr W. Jones a'i gyny-iad yn mlaen yr oedd efe yn wael yn ei weiy. Gallai sicthau eth- ohvyr Ffestiniog iod rhai o'i gyfei.lion goreu. yn mysg yr aelodau L'afur. Yr oeddganddo bob amser y cydymdeimlad llwyiaf gyda materjon JJafur, a b) ddai iddo bJrbau i gef- nogi y cyfryw hyd eilhaf ei allu os na byddent yn wrthwynebol i egwyddorion Rhyddfiydol. --( Cymeradwyaetb), Dymunai adgnffa cyf- eillion Ffestiniog nad oeddent i ddisgwyl gweld blodau el y diweddar Mr Tom Ellis a Mr Lloyd George ar bob Jlwyn, Ar gynygiad Mr 0. M. Edwards, yn cael ei eiho gan Dr Hughes, diolchwyd yn gynes i Mr Williams am ei was,maeth yn y gorph- enol, a phasiwyd pleidlaiso ymddiried ynddo fel cynrychiolydd y sir yn y Senedd, heb yr un gwrthdystiad.

CAEEOG.

MASNACHWYR CORWEN.

Y DARLUNYDD.

Advertising