Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

Bhamant Genadol.

HELWYE ANFFODUS.

DYFODIAD Y GAUAF.

Advertising

AT AMAETHWYR MON AC ARFON.

GWERS DDA. -

[No title]

Advertising

Cyfoeth Jay Gould.

Dlangla Gyfyng i LUwyr.

- -GYW80CH CHWI

EHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…

[No title]

_.-----.>93.1 -.1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

>93. 1 1 [CYFADDASIAD 0 QUATRE VINGT; TREIZE," UN 0 NOFELAU ¡ VICTOR HUGO]. PENNOD X. Oni buasai i'r teithiwr daflu ei hun rhwng y ddau, buasai Gauvain yn ddyn marw. Saethwyd y ceffyl, a tharawyd y dyn a'r cleddy,f syrthiodd y ddau. Cymerodd yr holl bethau hyn le gyda'r sydynrwydd mwyaf, ac yna syrthiodd yr ymosodydd yn wysg ei gefn. Yn ei wyneb y tarawyd y teithiwr gan y cleddyf. a syrthiodd yn anymwybodol. Yr oedd y ceffyl wedi ei ladd Aeth Gauvain i ymyl y dyn archolledig, a gofynodd i'r rhai oedd o'i ddeutu, Pwy yw y dyn hwn ?" Gwnaethant archwiliad arno; yr oedd y gwaed wedi llifo dros ei wyneb, fel ag yr oedd yn amhosibi ei adnabod. Yn unig gwelent fod ei wallt wedi britho. "Y mae'r dyn hwn wedi arbed fy mywyd," ebe Gauvain. Onid oes yma II neb yn ei adnabod ?" Gadfridog," ebai un o'r milwyr, gwelais y dyn yn dod i'r dref. Newydd gyrhaedd y mae." I Daeth meddyg heibio, a gorchymynwyd iddo drin yr archoll. Wedi gweinyddu arno, dywedodd y meddyg, "Máe yr archoll yn un glir, ac y mae yn sicr o wella yn fuan. Bydd y dyn yn myned oddiamgylch cyn pen y naw diwrnod." Onid oes yna bapyrau yn ei logellau yn hysbysu pwy ydyw-" gofynai Gauvain. Chwiliwyd ei logellau, a chafwyd llyfryn un ohonynt, ac ynddo bapyr, ac arno'n ys- grifenedig, Pwyllgor Dyogelwch y Cy- hoedd. Y mae y Dinesydd Cimwrda Ehoddodd Gauvain waedd mewn syndod, "Cimwrda!" Parodd y cri hwn i'r dyn archolledig agor ei lygaid. "Beth, Cimwrda, ai chwi sydd yma Dyma yr ail waith i chwi achub fy mywyd." Edrychodd Cimwrda yn graff arno, a gwelid gwen yn ymdaenu dros ei wyneb- pryd rhuddgoch. Syrthiodd Gauvain ar ei ddeulin wrth ei ochr, gan lefain, "Fy meistr." Dywedwch yn hytrach, Fy nbad, cbai'r Hall yn wanaidd. Nid oeddynt wedi cyfarfod a'u '-ilydd er's llawer blwyddyn; eto yr oedd eu calonau wedi bod yn ymglymeclig yn barhaus, ac adnabyddasant eu gilydd ar unwaith fel pe buasent wedi bod yn nghwmni eu gilydd y noson gynt. Erbyn hyn yr oedd neuadd drefol Dol wedi cael ei throi yn ysbytty ar gyfer y clwyfedigion, ac yma y cludwyd Cimwrda. Dodwyd ef mewn ystafell fechan, ar wahan i'r brif ystafell yn mha un y gorweddai y dioddefwyr ereill. Gadawyd ef yna mewn tawehvch, gan fod y meddyg yn gwahardd i Gauvain ymddiddan ag ei y pryd hyny. Er hyny, nis gallai Cimwrda gysgu, oblegid poenid ef gan ddwy ddwymyn, un yn codi oddiar ei archoll, a'r llall oddiar ei fawr lawenydd o gyfarfod a Gauvain. A oedd ei freuddwyd a ffurfiwyd ganddo flynyddau yn ol, wedi cael ei sylweddoli ? Yr oedd wedi cael hyd i'w hen ddysgybl. Plentyn ydoedd pan welodd ef ddiweddaf ynawr yr oedd yn ddyn yn anterth ei nerth. Pan gafodd hyd iddo yr oedd yn goncwerwr ar ochr y bobl. Gauvain oedd asgwrn cefn y Werin- iaeth yn Llydaw, a Cimwrda oedd mn o'r prif golofnau yn Paris. Trown ein sylw yn awr at y fam a gafodd ei gwaredu gan Tellenarch y cardotyn. Yr oedd yr archollion a dderbyniodd yn llawer mwy difrifol nag yr oedd ei hamddiffynydd J wedi dychmygu. Ond bu yn ofalus iawn am dani, a chan ei fod wedi arfer byw yn y j goedwig yr oedd yn deall rhywbeth am rinweddau gwahauol lysiau. Un boreu cafodd y "meddyg" y pleser o'i gweled wedi codi ar ei thraed, ac yn gallu siarad rhyw ychydig. Nid oedd y cardotyn wedi dod i ddeall dim o hanes y wraig, gan eibod yn rhy wan i siarad llawer. Heddyw mentrodd ddweyd wrthi,— Wel, yr ydym wedi bod yn alluog i godi o'r diwedd; ac y mae'r briw wedi gwella." I "Nid yr un sydd yn fy nghalon," ebai hithau; wyddoch chi p'le mae nhw ?" "Pwy ydyw y 'nhw' ?" gofynai'r car- dotyn. Fy mhlant." Ni wyddai Tellmarch ar y dechreu beth i'w ddweyd, a'r gwir am dani yw nad oedd ganddo y dychymyg lleiaf yn mha le yr oeddynt. Yr unig beth wyddai oedd fod y fam wedi cael ei saethu, a'i fod yntau wedi cael hyd iddi yn haner marw, a bod Ardal- ydd Llandenac, ar ol gorchymyn ei saethu j hi, wedi myned a'i phlant gydag ef. Dyma derfynau ei wybodaeth ef. Beth oedd wedi dod o'r plant ? A oeddynt eto yn fyw ? Yr oedd cefnllif y rhyfel wedi myned i gyfeiriad arall, a'r ymladd yn myned yn mlaen gryn bellder oddiwrthynt. Tra y myfyriai y cardotyn fel hyn, yr oedd y wraig wedi syrthio i ddistawrwydd, yr hwn a dorid yn awr ac yn y man gan y d'.lolef, Fy mhlant!" Brethid calon Tellmarch gan y geiriau hyn, a gwyrai ei ben fel pe buasai ef yn gyfrifol am eu cymeryd ymaith. Aeth i feddwl am Ardalydd Llandenac, a theimlai yn sicr n a oedd hwnw yn meddwl dim am dano ef. Bydd pendefig pan fyddo mewn perygl yn eich adnabod; ond pan fyddo allan ohono nid yw yn meddwl dim am danoch wedyn," oedd ei gasgliad, ac yna gofynai iddo ei hun, Paham yr aethum mor ffol ag achub ei fywyd ?" Yn mhen ychydig ddyddiau gwnaeth y wraig ei meddwl i fyny i adael lloohes y cardotyn—i fyned i chwilio am ei thri phlentyn. Uanwodd y god oedd ganddi a'r fath luniaeth ag oedd gan ei lletywrihebgor iddi. "'Rwy'n myn'd," ebe un boreu. I ba le ? gofynai Tellemarch. I chwilio am fy mhlant," atebai hithau. "Buaswnyn d'od gyda chwi oni bai fy mod mor hen, a'm cam mor fyr," ebai'r hen wr mewn ton llawn cydymdeimlad. Bydd- wn yn fwy o rwystr nag o les i chwi." Ffarweliodd y ddau a'u gilydd. Cerddodd y fam yn syth yn ei blaen. Ychydig iawn fyddai hi yn ei orphwys na nos na dydd,— yr oedd ei hawydd gymaint am weled yr hyn oedd agosaf at ei chalon fel nas gallai roddi hun i'w hamrantau. Mam yn chwilio am ei phlant Pwy all ddesgrifio ei theiml- adau ? Byddai weithiau yn cardota, bryd arall yn byw ar y llysiau allasai gasglu; gor- weddai yn yr awyr agored, weithiau dan gysgod llwyn o goed, dro arall heb ddim rhyngddi a ser y ffurfafen; yn ami curid hi gan y gwynt a'r gwlaw. Ond nid oedd a'i j lluddiai ar ei thaith. Crwydrai o bentref i bentref, gan holi pawb a ddeuai yn ei ffordd, "A .welsoch chwi 'mhlant i ? Ac os safai rhywun i siarad a hi, elai yn mlaeu i'w henwi, gan ychwanegu, "1: mae yr hynaf yn bedair mlwydd a haner oed, a'r ieuangaf yn ugain mis. A wyddoch chwi p'le maent P Y maent wedi eu cymeryd oddiarnaf." Wrth gwrs, md oedd gan y rhan fwyaf o'r rhai y siaradai a hwynt y dychymyg lleiaf yn mha le y gallasent fod, a byddent yn arfer myned yn eu blaenau heb gyfranu unrhyw gysur iddi. Ond un diwrnod tarawodd ar ddyn a roddodd wrandawiad mwy astud iddi nag ereill. Dechreuodd fyfyrio ar yr hyn actroddid wrtho. "Doweh weled," ebai, tri o blant "Ie." Dau faehgèn P Ie, a geneth hefyd." Mi glywais am ryw bendeng sydd wedi cyineryd tri phlentvn ymaith gydag ef." "Pa le mae'r ::1;1. gvraeddai'r fam; pa le y mae nhw ? t; Yn La Tourge," atebai'r dyn. Beth yw La Tourge ? "Lie." Pentref, castell, ynte fferm? Fum i erioed yno." A ydyw yn mheli?" Nid yw yn agos." Yn mha gyfeiriad y mae? Y ffordd acw," gan daflu ei law i bwynt neillduol. "Eweh yn eich blaen tua chyf- eiriad machlud haul." Cyn iddo dynu ei law i lawr yr oedd y wraig wedi cychwyn ar ei thaith. Gwaedd- odd y dyn ar ei hoi, Cymerwch ofal o honoch eich hun: y maent yn ymladd yno." Ni wnaeth gymaint a throi ei gwyneb yn ol i ddiolch iddo, ond cerddodd yn union yn ei blaen, pa berygl bynag allasai fod yn ei I chyfarfod. | fPVJ barhauJ.

[No title]

----__..,.---SEDD SYR PRYCE-JONES,I

Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer-…

Baal y Bel Droed. ---.-

Advertising