Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

BYD AC EGLWYS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYD AC EGLWYS. (GAN HUGAX HIR). ARAITH MR BALFOUR. Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf cafodd aelodau yr Undeb Cyfansoddiadol a'u cyfeillion y fantais o glywed araith Mr Arthur Balfour mewn atebiad i arawdiau Mr Gladstone ar ei bererindodau diweddar yn Nyfnaint a Chernyw. Nid oes fodd dychymygu am ddim mwy annhebyg i'r datganiadau noethion, a'r gwyro ffeithiau hanesyddol a wnaeth y Gyn- brifweinidog, nag araith gysson, ofalus a rhesymegol y Prif-ysgrifenydd. Ychydig o 0 0 Z5 drafferth a brofodd Mr Balfour i ddangos pa r5 Ie y rhaid i'r llwybr newydd a dorwyd allan gan Mr Gladstone ac a wnaed yn fwy eglar gan Arglwydd Rosebery a Mr Asquith, i ar- 5 y wain yn y pen draw. Nid oes ond un o ddau beth am dani. Un yw cadw yr aelodau Gwyddelig yn St. Stephan, a rhoddi iddynt ar yr un pryd senedd o'r eiddynt eu hunain yn Dublin. Mae yn amhvg y byddai hyny yn annhegwch a Lloegr ac Ysgotland, o herwydd nid yn unig fe lywiai, neu fe gamlywiai, y Gwyddelod eu hamgylchiadau,ond fe ddilynent, mae'n debyg, eu dull presennol o daflu rhwys- trau ar ffordd Parliament yr Amherodraeth. Y cwrs ai-all a awgrymwyd gan Mr Gladstone, Z3 C5 ac a wnaethpwyd yn fwy eglur gan ei ddau ganlynwyr enwog, yw rhoddi Llywodraeth Gartrefol i Ysgotland yn ogystal ag i'r ZD Z5 Werddon. Yn awr y mae yn eithaf amhvg- fel y dangosodd Mr Balfour—os rhoddid Llywodraeth Gartrefol i'r rhanau hyn o diriogaethau y Frenines, y byddai i Loegr, yr hon sydd yn meddu pedair rhan o bump o boblogaeth, a phump rhan o chwech o gyfoeth a dyag y tair teyrnas, hawlio yn naturiol ddigon ei Pharliament ei hun. Gan hyny, fe gaem Barliament Amherodrol, yn yr hwn y byddai aelodau Seisnig, Ysgotaidd, a Gwyddelig, a thri Parliament israddol arall. Yn awr, fe allai fod yn y Parliament Amherodrol ryw fwyafrif bychan a fynent ffurfio cyfreithiau i Loegr yn gydweddol ag yspryd y Gwyddel nen yr Ysgotyn, tra ar yr un pryd, y byddai yn y Parliament Seisnig fwyafrif mawr yn awyddus i ffurfio cyfreithiau i Loegr yn gydweddol a tlieimlad y Sais. C) Cynnrychiolid y mwyafrif hwnw, yn ddiau, gan blaid gref yn y Parliament Amherodrol, a'r rhai, gan hyny, ni chaniattaent i fesurau croes i lwyddiant Lloegr gael eu pasio, heb wneyd a allent i'w rhwystro. Byddai Ty yr Arglwyddi, befyd, fel y dangosodd Mr Balfour, yn ochri gyda Pharliament Lloegr; ac yn Z5 waeth na'r cyfan fe dynid y Goron i gyuimeryd rhan yn yr ymdrech, canys byddai yn rhaid iddi benderfynu pa un ai gweithredu a wnai yn ol cyfarwyddyd y Parliament Amherodrol neu eiddo Lloegr. Mewn gair, y mae yr holl t-I gynllun mor wrthun, niweidiol, a dychymygol y a fel y mae yn rhaid bod y Gladstoniaid ar golli arnynt eu hunain with astndio pa fodd i ddenu sylw y cyhoedd, neu braidd y rhoddasent eu cymmeradwyaeth ffurfiol i ddamcaniaeth mor ddisynwyr. Y mae y rhesymeg ddidrugaredd n C5 gyda pha un y dadansoddodd Mr Balfour yr athrawiaeth newydd hon yn debyg o roddi iddi ergyd marwol, o herwydd, fel y sylwodd, ni chyffyrddodd yn unig ond a'r prif anhawsderau sydd ar y ffordd i'w chyflawni. Pe buasai yn dewis gallasai ddwyn mil o resymau yn ychwaneg yn ei lierbyn. UNDEB Y BEDYDDWYR A MR GLADSTONE Yn y cyfarfod blynyddol a gynnaliodd Undeb Bedyddwyr Mon yn ddiweddar yn Mangor, fe basiwyd penderfyniad yn condemnio Mr Gladstone am absennoli ei hunan o'r Ty pan ddaeth Mr Dillwyn yn rtlaen a'i gynnyg- iad i ddadsefydlu yr Eglwys yng Nghymru, gan ychwanegu y dylai fod y cwestiwn nesaf ei bwys at Lywodraeth Gartrefol i ddeddfu arno pan ddaw yn amser i'r blaid Ryddfrydig fyned i swydd eto. Fe wyddai Mr Gladstone cystal a neb ei fod wedi troseddu ei gyfeillion wrth absennoli ei hun o'r Ty ar yr achlysur a nodir uchod, ac nid oedd ei deithio a'i siarad diweddar yn swydd Dyfnaint a Chernyw, ond cynnyg nodweddiadol o hono i geisio enhuddo eu digllonedd. COFADAIL I'R TAD DAMIEN. Yn ddiweddar cynnaliwyd cyfarfod yn Nhy Marlborough, yn Llundain, yn yr hwn y llywyddid gan Dywysog Cymrti, i'r dyben o gychwyn cronfa i wneyd cofadail i'r Tad Damien. Ni ddangoswyd erioed fwy o wrol- deb gwirioneddol a hunan-aberth na chan anvr Molokai—yr hwn a drigodd am flynyddau ac a gyssegrodd ei iechyd a'i gysur, ym mlilith gwahangleifion y parth anghysbell hwnw o'r 1 1 Z5 .1 I bycl. i mae yr hyn a wnaetn uamien, a r achlysur o'i farw, wedi dwyn cwestiwn y gwahanglwyf yn amlwg iawn ger bron y n Z5 t5 cyhoedd yn ddiweddar. Ymddengys ei fod yn bodoli i raddau helaeth yn yr India ac amryw o'r trefedigaethau. Y mae yn yr India, mae yn debyg, ryw 250,000 odrueiniaid yn dyoddef oddi with yr afiechyd ffiaidd hwn. Y mae yn bodoli yn y wlad hon hefyd, ond i raddau cyfyngedig. Y perygl yw iddo ledaenu yn ein plith. Yng nglyn a'r mudiad i ffurfio cofadail i'r Tad Damien, fe gynnygiwyd ar i ystafell bwrpasol gael ei darpar mewn un o'n liysbyttai, yn yr hon y gellir trin achosion o wahanglwyf. Yn yr un cyfarfod fe gyfeiriodd Tywysog Cymrn at un engraifft nodedig o'r Z5 n Z5 clefyd. Dywedodd fod yn Litindiiii, y foment hono, "un gwahanglwyfus, gyda'i ddwylaw yn 0 Z5 dyoddef yn amlwg oddi wrth yr afiechyd, ac yn gwneyd ei waith bob dydd mewn marchnad gig fawr yn y ddinas." Nid yw yn amlwg, pa fodd by nag, a ydyw yn ddichonad wy i'r clefyd ledaenu yn y ffordd hono. Ond y mae yn beth doeth i gymmeryd mesurau i rwystro pob possiblrwydd i hyny gymmeryd lie. Y mae un peth yn amlwg iawn mewn cyssylltiad a'r cyfarfod y cyfeirir atto-fod y Tad Damien yn ei farwolaeth fel yn ei fywyd, yn achlysur i'll blaenoriaid yn y wlad hon i geisio llunio mesurau i leddfu dyoddefiadau teulu dyn. Y DDEDDF CAU AR Y SUL, A'R COMMIS- SIWN BREINIOL. Byddai allan o le i ddweyd dim ym mlaen Haw am gasgliadau a dyfarniadau y Com- missiwn sydd yn edrych i mewn i weithred- iadau y Ddeddf uchod. Gellir dweyd un peth yn ddiogel, beth bynag, nad yw yn debyg y buasai y Llywodraeth wedi appwyntio y pwyllgor o gwbl pe na buasai yn meddwl fod gwir achos am hyny. Fe ddywedir am y Ddeddf mai ei phasio a wnaed mewn atebiad i gynhwrf wedi ei weithio gan siaradwyr pleidiol. Fe ddangoswyd i'r ddeiseb a law- nodwyd yn ei ffafr yng NghaerJydd gael ei harwyddo gan fabanod, gan bobl oeddentwedi marw er ys hir amser, a chan eraiU na fodolent o gwbl ond yn nychymyg y rhai a'i cychwynodd. Fe basiwyd yr Act, pa fodd bynag, tra yr oedd ei gwrthwynebwyr yn cysgn, a gwthiwyd hi ar y wlad cyn iddynt ddeall pa fodd y safai pethnu. Am yspaid chwe blynedd o'i gweith- rediad y m'le ei drwg a'i da wedi bod yn destyn dadleuon ftymig, Y mae toraeth o ystadegau | wedi eu dwyn ym mlaen o bob ochr, ond i ddim pwrpas na lies, i ddim yn amgen na gwneyd y dyryswch yn waeth. Nid yw aelodau y Commissiwn hyd eto wedi ymweled ond a thair o'r trefydd mwyaf—Caerdydd, Mertliyr, ac Abertawe—He y cafwyd tysciol- aethau o'r natur fwyaf croes i'w gilyddar bron bob pwynt oddi gerth un, sef fod y gyfraith wedi esgor ar greadur plagus o'r enw y teithiwr bob pwynt oddi gerth un, sef fod y gyfraith wedi esgor ar greadur plagus o'r enw y teithiwr bona fide, hyny yw y dyn sydd yn methu cael digon o gwnv i dori ei syched ar y Sul ac yn myned dair milltir allan i'r wlad-a channoedd o'i fath—ac yno yn cael llonaid ei fol yn ddi- drafferth. I gyfarfod a'i olygiadau a'i angben- -n ion, y mae gwaith newydd wedi ei gychwyn n y ym Mhontypridd, yr hwn le sydd fel drws i boblogaeth luosog Cwm Rhondda. Yno, lIe yr arferai heddwch a tbrefn fod ar eu sedd, fe welir yn awr gannoedd o gerbydau wedi eu gorlwytho a safnau sycbion yn rhwym i ryw fan cyfleus tu hwnt i gyrhaedd y tair milltir. Allan o'r trefydd ydynt ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru fe heidia pobl Sul ar ol Sul, ac a wnant y dydd a'r nos yn boenus a'u swn. Y mae y Milwriad Morgan, o Gastell Ruperra, palas ychydig o'r tu fewn i ffin Lloegr, yn dweyd fod yr ymweliadau wythnosol hyn wedi gwneyd "uffern ar y ddaear" o leoedd oeddynt o'r blaen yn dawel. Y mae amryw o offeiriaid, y rhai wrth gyflawni eu swydd a ymwelant yn I,y ami a manau tywyll ac isel y trefydd, a'r rhai ydynt bron mor wybodus am y "siebinod a'r llestri-bol" ag yw y teithiwr bona fide ei hunan a grewyd gan yr Act, wedi dwyn tyst- iolaeth bron mor gryf yng nghylch Caerdydd a Merthyr. Y mae llawer, wrth reswm, wedi ei ddweyd dros yr ochr arall; ond y mae yn amlwg oddi wrth amgylchiadau diweddar mewn llawer o fanau yn Lloegr, nad yw y Saeson ar y cyfan yn edrych yn ffafriol ar y syniad o ffurfio cyfraith o'r fath ar gyfer Lloegr. YMWELIAD Y SHAH A LLOEGR. Yn o fuan fe ddaw Amherawdwr Persia ar ymweliad a'r wlad hon. Fe wneir parotoadau helaeth ar gyfer ei ddyfodiad. Bydd i'r Frenines roddi Palas Buckingham at ei wasan- aeth tra yn ein plith. Pan y daw i mewn i Llundain, fe gaiff groesaw teilwng o fawredd ac urddas yr Amlifrodi-aeth hon, ac o'r syn- iadau uchel a goledda ef am dano ei hun a'i bwysigrwydd. LLA1S Y MWYAFRIF. Yr hpn egwyddor-y mwyafrif i lywod- raethu—ydyw arwyddair yr Undebwyr o hyd. Syniad newydd Mr Gladstone yw mai y mwy- afrif mewn gwahanol ranau o'r Deyrnas Gyfunol a ddylai fod a'r llais uchaf mewn Byd ac Eglwys. Oddi wrth Mr Butt--Ilos- fynydd wedi ei chwythu allan-y cafodd Mr Glad- stone y drychfeddwl newydd hwn. Mae un peth yn sicr, y daw y deyrnas hon, o'r naill gwr i'r Hall, yn hwyr neu hwyrach, i gredu yr athrawiaeth mewn undeb mae nerth." Pa reswm i wlad fel Lloegr gael ei gorchmygu gan ryw b(dw rydd ran o'r boblogaeth. Mae'r syniad yn wrthun ynddo ei hun. YR HEN A'R NEWYDD. Yng nghyflwr isel amaethyddiaeth yn awr y mae allan o'r cwestiwn i feddwl am ennill arxan drwy godi llafur. Mae'r draul o godi chwarter o wenith yn fwy o swllt na'i werth yu y farchnad ar hyn o bryd, a daw maesydd newyddion mewn gwledydd tramor i'r golwg yn barhaus. Barn rhai amaethwyr llygadog n 13 yw fod yn rhaid i ffermwyr Cymru a Lloegr gyfyngu eu holl sylw ym mron at fagu anifeil- iaid a phethau llai pwysig y fferm. Y mae codi anifeiliaid da yn talu, ac y mae y prisiau a geir am geffylal1 yn dwyn arian da i mewn. Yn y ddau beth hyn nid oes genym neb i gystadlu a ni, ac nid ydym yn debyg o gael n c t3 neb am gryn amser. PA UN O'R DDWY. Nid oes neb wedi ceisio tynu mwy d-in sail Cristionogaeth yn y wlad hon na Mr Bradlaugh, ac y mae ei eiriau mewn cyfarfod cylioeddus yn ddiweddar yn teilyngu sylw, nid eiddo pob E^lwyswr yn unig, ond pob Protestant hefyd, yn ein plith. Dyma fel y dywedni Mr Bi-adlau-Ii Yr ydym wedi clywed llawer 0 bethau heno. Dywedir wrthym fod Crist- ionogaeth ar drancedigaeth. Dywedir hefyd fod Rhyddfe klylwyr yn llesgau, a dywedir fod Rhyddfeddyliaeth yn myned argynnydd. Ydyw y mae. Ond nid wyf yn sicr nas gall Eglwys Rhufain ddal ei thir. Mi a ddymunwn iddi fod yn wahanol. Nid wyf yn sicr nad yw Eglwys Rhufain yn gryfach yn awr nag oedd bed war can mlynedd yn ol. Y maey frwydr fawr rhwng Credo iacli a Rhyddfeddyliaeth i'w hymladd eto, ac yn y frwydr hono fe fydd i Eglwys Rhufain ochri gyda'r Gredo iacli. Y mae Eglwys Loegr yn nes at Eglwys Rhufain 0 0 C) nag oedd ddau can mlynedd yn ol. Ni bydd i Ddadsefydliad ond cryfhau breichiau Eglwys C5 Rhufain. Ac er fy mod yn ffafr Dadsefydliad, ac er y pobeithiaf gymmeryd rhan mewn I zY Dadsefydliad, eto uis gallaf gelu oddi wrth n a fy hun y bydd i Ddadsefydliad wneyd Eglwys Rhufain yn gryfach, ac y bydd iddo ddwyn Rhyddfeddyliaeth wyneb yn wyneb a gelyn gwaethaf rhyddid." Y mae Mr Bradlaugh yn ddyn craff i ddeall arwyddion yr amserau. Un o symmudiadau gwrthweithiad yw Dad- sefydliad, yr hwn, os byth y try yn Ilwydd- 1 iannus, a wna fwy Da dim at-all i adfer y drcfn hono ar Fyd ac Eglwys a fodolai yn y wlad hon y 0 cyn y Diwygiad Protestanaidd. Yn y Werddon fe roes Dadsefydliad y grefydd Babaidd ar dir uwch nag oedd o'r blaen. Mewn parthau eraill o'r Deyrnas Gyfunol bydd i'r un achos gynnyrchu yr un effaith. Y mae yn anhawdd credu mai y rhai hyny ydynt flaenaf ym mhlith y cyfryw ag a ymdrechant gyflawni gwaith a 0 Z5 n dry yn ddinystr i Brotestaniaeth ac i Gristion- ogaeth ei hunan, yw y rhai y tybir bod eu Protestaniaeth o'r math cryfaf a mwyaf gwrol. Drwy ymladd o dan faner y Parneliaid ar y naill law, a'r Dadsefydlwyr ar y llall, y mae Ymneillduwyr Cymru niewn dwy ffordd yn ceisio arwain y bobl i ddannedd eu hen elyn- y bwystfil Rhufeinig." BIL TIROL I GYMRU. Y mae Mr T. Ellis, yr aclod dros bir Feir- ionydd, wedi darparu Bil ar gyfer Cymru, amcan yr hwn yw (1) galluogi y deiliad, pan y gwrthyd y meistr gario allan rhyw welliant o'i^" dosparth cyntaf," o'r fath ag a ddesgrifir yng Nghyfraith y Daliadau Tirol, i daflu y 0 Z5 cwestiwn i jjyflafareddwyr, a chael iawn am yr hyn o waith a wneir ar y fferm; (2) Gallu- ogi cyflafareddwyr i bennodi ardreth deg a Z5 thelerau rhesymol i'r deiliad o barthed i wr- teithio y tir (3) I gyfyngu rhyddid a bawl y y 0 meistr i droi y deiliad o'i fferm. 0 barthed i'r darpariadau uchod ni chynnwysant ryw lawer yn rhagor nag a wneir yn awr mewn effaith gan ugeiniau o dirfeddiannwyr Cymru. Y mae cyflafareddiad we.1i gweithio yn dda lawer gwaith, ac wedi arbed llawer o arian drwy rwystro dynion i fyned i gyfraith, ond nid yw hanes cyflafareddiad bob amser yn ber- ffaith wyn. Natur ddynol a fydd y natur dynol o dan bob amgylchiad, er pob cyfraith a lunir i'w chyfnewid a'i gwella. Un o'relfenau anffodus a ddwg cyflafareddiad i'r golwg yw y drwgdybiaeth a'r eiddigedd a gynnyrchir rhwng y partion yr ymdrechir eu cymmodi. Dyna fel y mae wedi bod yng ngweithfeydd glo a haiarn Mynwy a Morganwg. Dyna ei hanes yn chwareli llechau Arfon. A dyna fel y darllenwn am dani yn y Werddon. Yn yr amser sydd wedi myned heibio, fel y gwy r rhai o'r amaethwyr hynaf yn siroedd Caerfvrddin a Cheredigion, nid oedd eisieu cyflafareddu rhwng yr hen dirfeddiannwr Cymreig a'r deiliad. Yr oedd digon o yspryd tegweh a chyfiawnder yn y blaenaf, a digon o onest- rwydd a pharch yn yr olaf, fel nad oedd eisieu i neb fyned rhyngddynt. Ond y mae yr hen drefn wedi newid. Y mae Sion Gymro wedi gwrando ar Lais y Swynwr, ac yn awr y mae yn credu fod yn rhaid cael bil o sir Feirionydd i ddwyn ei fyd i'w le.

-----------...-----DEATH OF…

[No title]

THE INFANT KING OF SPAIN.

RAILWAY TIME T ABLES.-JUNE,…

ORDEKS k ADVERTISEMENTS RECEIVED…