Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CAMGYMERIADAU YR ARLYWYDD…

OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR. Gan H. W. Evans, Plainsville, Pa. A chymeryd yr os yn gadarnhaol, y mae Pwyllwyddeg yn wir. 0 herwydd hyny, y mae lleoliad yr ermigau yn y nen, yn dysgu y dylanwad ddylai y galluoedd meddyliol cysylltiedig a'r ermigau gael yn nghymeriad y dyn. Anhawdd cael prawf eglurach o wir- ionedd y wyddor hon, na darlun y peir- ianydd a'r cynllunydd Frank M. Wil- liams, o Albany, N. Y., ymddangosodd mewn "Cambrian" diweddar. Dyma lie gwneir cyflunedd a chaffaeliad yn orfawr, a lie y mae ermigau yn orfawr, y maent yn deall fel yn reddfol. Byddai gosod y darlun yn y "Drych" yn wers ardderchog i'r darllenwyr, er dangos talentau mawrion iawn yn chwyddo allan fel yr oedd seiniaeth yn y Dr. Joseph Parry. I Ar gais Mr. Evans yr ydym yn rhoddi gyda'r ysgrif y darlun o'r Anrh. Frank M. Williams. Mae sylwadau y Pwyllwyddegwr yn gymeradwyaeth neillduol iddo, ac i'w ymgeisiaeth am ail benodiad fel Peirianydd Talaeth New York. Yr wyf am argraffu yn ddyfnach ar feddwl y darllenydd fod y Crewr wedi gosod yr ermigau crefyddol ar gopa y pen, ac er deall teyrnas Dduw yn y dyfodol, rhaid geni dyn drachefn, oddi uchod, i lywodraeth y beirniadau moes- ol. Pan byddo cariad at Dduw a dyn wedi cael y llywodraeth uwchlaw y nwydau anifeilaidd, a'r serchiadau cymdeithasol, genir o'r newydd allan o lywodraeth hunanoldeb anifeilaidd y natur anianol, i ysbryd y cariad Dwyfol, fel yr eglurwyd yn mywyd a dysgeidiaeth Iesu Grist; gwasanaethu y wladwriaeth yn ysbryd yr efengyl. Nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni yn ei ddysgwyl, lie bydd car- iad a chyflawnder yn llywodraethu. Yn wir, y mae lie cryf i ofni mai un- debau hunanol yw undebau llafur hyd yn hyn, nid llawer o son sydd am les y mwyafrif, eithr ein lies ni. Y nwyd- au anianol yn awyddu am fwy o bleser a difyrwch, yn fwy amlwg na'r ysbryd brawdol Cristionogol i wasanaethu er lies y mwyafrif. Gellid meddwl, wrth edrych i lawr ar wleidyddiaeth y Democratiaid mewn cysylltiad a'r pwnc arianol, nad oes llawer o ysbryd Cristionogol a gwer- inol Abraham Lincoln, set arian y bobl, gan y bobl, er lies y bobl yn bodoli. Ond dyna ysbryd ceidwadol yr hen blaid wrthwynebodd y cefnau gwyrddion y pryd hwnw, er lies arian- wyr, a thrwy gymorth arianwyr Ewropeaidd a laddasant gynllun i dalu dyled y rhyfel cartrefol ag arian dilog y bobl, a gorfodwyd Lincoln a Stephens i dderbyn mesurau i newid arian y bobl am rwymebau sydd wedi caethiwo y werin a dyled caethfeistri y De. Cofier mai achos y rhyfel oedd caethfasnach, a'r bobl gyd-ddyoddefodd y pechod er mwyn elw, ddylasai dalu y ddyled, a thalodd Lincoln y rhan fwyaf o'r ddy- led ag arian papyr. Talwyd y glowyr am dori y glo ag arian papyr, a'r haiarn weithwyr am wneyd arfau rhy- fel ag arian papyr, a'r milwyr am orchfygu y De, talwyd hwythau a'r un fath o arian papyr, dyled ddilog y llyw- odraeth, yn sefyll yn erbyn holl gyf- oeth y wlad. Yr oedd llwyddiant mas- nachol y wlad yn adeg diwedd y rhy- fel, yn ddigyffelyb yn hanes y byd, glo- wyr yn cynilo arian i brynu tyddynod, neu adeiladu tai yn gartrefi, cwmniau yn agor glofeydd newyddion, rheil- ffyrdd yn cael eu gyru yn mlaen yn holl gyrau y gogledd. Yr arian papyr dyled ddilog y llywodraeth yn symud holl fasnach y wlad ag sbryd dadblyg- iad annghydmarol. und llwyddodd arianwyr y byd gyda y blaid Ddemo- crataidd i ddyfetha I' ddiant dyled ddilog, sef arian y bobl, cedd wedi lles- oli y bobl, a chodi cyflogau y bobl fel glowyr yn gallu enill Hog can dolar am flwyddyn mewn un dxwrnod o waith. Nid yw ein llwyadiant presenol trwy ddylanwad y rhyfel fawr Ewrop- eaidd wedi cyraedd nod uchel llwydd- iant yr arian papyr, pan oedd glowyr yn cael dros dolar y dunell am dori glo caled yn Luzerne, Pa. Paham y gor- foledda y Democratiaid yn y llwydd- iant presenol sydd yn syndod i mi. Yr oedd llwyddiant gwerinol amser di- wedd y rhyfel mor fawr. Pe buasai y Democratiaid wedi agor eu llygaid i weled gwerth Lincoln fel haul yn llewyrchu ar lywodraeth werinol? rhoddasent i ni fesur tirol i echwyna yr arian, cynilion y bobl am ddau y cant, i amaethwyr y wlad am dri y cant i wneyd gwelliai ^au amaethydd- ol. Yn lie hyny, rhoddir yr arian i arianwyr am ddau a hsner y cant, yna gall yr amaethwyr tlal-d sydd yn cyn- yrchu o bedwar i saitl cant y flwydd- yn, dalu chwech y ca; t y flwyddyn o log i arianwyr, am yr arian y mae y llywodraeth garedig Deemocrataidd yn talu dau y cant i weithwyr tlawd am eu cynilion. Rhyfedd yw dallineb y werin bobl, y bobl gyffredin. Ymladd yn erbyn hawliau c 'fartal dynion dan rith enw y werin bobl. Pe bu- asai ysbryd Lincoln yn cael y dylanwad haeddai, buasem yn talki pob dyled gen- edlaethol ag arian dilt. ac ni fyddai son am rwymebau cenedlaethol yn rhwymo yr holl bobl i gaethiwed llog i arianwyr. Nid op" 5th cyfiawnder mewn tau dyled uaijaaau amdJi- ffynol eiddo fodola yn y presenol, a rhwymebau i'w talu yn y dyfodol gan ein plant. Pa faint llai o ysbryd car- edigrwydd sydd yn y mesurau arianol sydd yn gwneyd bob gwelliantau trwy rwymebau ar eiddo y dyfodol gyda llog. Oni fyddai mwy o obaith cael arian y bobl, gan y bobl, er lies y bobl, gan blaid Lincoln.

IHUGHES vs. WILSON.I

NODIADAU CERDDOROL.

[No title]

HUGHES vs. WILSON.