Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
m JDr)2cb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. ProDrietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOGAETH…
GWAREIDDIAD A CHRISTIONOG- AETH YN NGOLEUNI Y RHYFEL PRESENOL. Cyd-fuddugol yn Eisteddfod Utica, Calan, 1916. Gan y Parch. David Jones, Scranton, Pa. Crynodeb. Penod 1-—Rhagair yn cynwys gos- odiad o'r testyn. Y mater yn hawlio ymdriniaeth eang. Deffiniad o'r term- au arferir. Gwareiddiad, beth a olyga? Cristionogaeth beth a gynwysa? Cris- tionogaeth hanesiol, athrawiaethol a bywydol. Penod 2.—A oes cyfathrach o ryw natur rhwng gwareiddiad, Cristionog- aeth a rhyfel? A ellir cysoni delfryd-, au gwareiddiad ac egwyddorion Cristionogaeth, a rhyfel? Mae y gwrthdarawiad sydd rhwng y gallu- oedd hyn yn arwain dynion i awgrymu fod gwareiddiad a Christionogaeth yn fethiant. Anmherffaith y deallir eg- wyddorion Cristionogaeth, ac hanerog yr ymgeisir at eu byw yn y cylchoedd cymdeithasol, gweithfaol ac eglwysig; ac os nad ydys yn gweithredu yn eu hoi yn y cylchoedd hyn, gwiw dysgwyl gwledydd gwahanol i'w parchu. Am- lwg yw fod mwy o ffydd mewn cledd a magnel nag mewn addysg a diwylliant hyd yn nod yn ngwledydd Cristionogol y byd. Penod 3.—A oes a fyno gwareiddiad a rhyfel? Atebir yn nacaol. Nid oes a fyno gwareiddiad dardda o Gristion- ogaeth a rhyfel. Mae dosbarth nad ydynt gefnogol i Grist a'i ddysgeid- iaeth yn honi bod yn uchel ar risiau gwareiddiad o fath neillduol, yn dad- leu fod rhyfel yn angenrhaid. (a) Fel cyfrwng dadblygiad rhinweddau goraf y natur ddynol. (b) Er gwneyd dar- pariaeth ar gyfer cynydd y boblogaeth ac angenion tymorol y teyrnasoedd. Nid yw y rhesymau hyn yn foddhaol, am fod cyfryngau mwy llwyddianus, i sicrhau y naill a'r llall i'w cael, ond eu mabwysiadu. Penod 4.Gwareiddiad seiliedig ar ddiwylliant ac addysg yn annigonol i gadw trefn ar y byd. Awgrymir y gosodiad hwn gan ein hymdriniaeth a, syniadau athronwyr yr Almaen, ac eraill yn y benod flaenorol. Gwneir llawer o sefydliadau addysg yr Al- maen, ond nid digon dysgyblaeth pen ar wahan i galon a chydwybod. Mae addysg a diwylliant wedi dyrysu llawer cenedl, ac wedi dwyn llawer gwlad i warth. Peryglus pob dysgeid- iaeth wrthwyneba Grist a'i egwyddor- ion. Penod 5.—Ymwrthyd gwareiddiad a Christionogaeth a'r rhyfel presenol ari gyfrif amrai resymau. Anwybyddwyd rhai o egwyddorion sylfaenol gwar- eiddiad a Christionogaeth gan y llyw- odraethau, yn eu brys i gyhoeddi rhy- fel. Rhoddir cipdrem ar yr amgylch- aidau arweiniol i brofi mai mater cyd- marol ddibwys fu yr aehlysur o gy- hoeddiad rhyfel, ac i ddangos fod ym- drech daer i gyflafareddu yr achos wedi ei ddiystyru a'i wrthod. Penod 6.—Rhesymau ychwanegol dros i wareiddiad a Christionogaeth ymwrthod a'r rhyfel presenol. Anwy- byddir pob reol a threfn yn ei dygiad yn mlaen. Troseddir ar bob tu, ddeddfau rhyngwladwriaethol ddylas- ent gael eu hanrhydeddu. Mae y draul enfawr i gynal byddin a llynges mewn cyfnod o heddwch, ac yn llawer mwy mewn adeg o ryfel yn peri i wareidd- iad a Christionogaeth wgu ar ryfel. Mae y dinystr ar feddianau a bywydau a'r trueni sydd yn canlyn yn arwain y galluoedd hyn i wrthdystio. Penod 7.—A yw Cristionogaeth o dan ryw fath o amgylchiadau yn can- iatau rhyfel? Gwahanol farnau yn ffynu. Dau ddosbarth o bobl a syniad- au gwahanol yn ategu eu safleoedd o'r Beibl. Crynodeb byr o ddysgeidiaeth Crist a'i apostolion. Mae rhyfeloedd ymosodol yn cael eu condemnio. Yd- ym yn ofni condemnio y rhai ydynt yn ymladd i amddiffyn eu gwlad a'u car- trefi, ac yn neillduol y rhai sydd yn ymladd dros y gwafi pan ymosodir arno gan y cryf. Penod 8.—Beth ydynt wir achosion rhyfel? Mae cymdeithas yn gaeth i hen gyfundrefnau ac arferion boreuaf y byd. Mabwysiadwyd hwynt yn mabandod dynoliaeth, ond ydynt wedi eu cefnogi gan freninoedd ac ymer- awdwyr er eu mantais hwy a'u tras. Mae y teimladau gynyrcha ryfel yn sicrhau, parhad rhyfel, y rhai ydynt hunanoldeb, drwgdybiaeth, a thra- chwant i fanteisio yn dymorol ar ys- bryd rhyfel a'r dinystr achosir. Penod 9.-Beth am y rhagolygon? Addefwn fod gwledydd gwareiddiedig a Christionogol yn ymladd, ond nid yw egwyddorion Cristionogaeth yn feth- iant am nad ydynt wedi eu profi eto. Mae ein ffydd yn gryf am gyfnod o heddwch—pan na ddysgir rhyfel mwy- ach, yn seiliedig ar addewidion y Beibl, ac ar y dylanwad y mae Cristionogaeth wedi gael eisoes ar gymdeithas i leihau nifer y rhyfeloedd ac i dymeru y creu- londerau sydd yn cael eu cyflawni, ond fod y rhyfel presenol yn eithriad gwaradwyddus. (I'w Barhau).
IDYSGYRCHIANT A THRYDAN-I…
I DYSGYRCHIANT A THRYDAN- I IAETH. I Gan Eben P. Davies. I Y mae cymaint wedi ymddangos ar dudalenau y "Drych" ar y pwnc uchod yn ystod y tair blynedd diweddaf, fel y gallaf yn rhwydrt gredu y croesawa y darllenydd fy addewid i ddwyn y cyfan i ben gyda'r ysgrif hon, ond daw allan yn ddwy ran, am y bydd, o angenrheidrwydd, yn faith. Y mae cynifer wedi cymeryd rhan yn yr ymgom-rhai uwch eu henwau priodol, ac eraill uwch amryw ffug- enwau, fel mai o'r braidd y gallaswn eu dylyn a'u hateb, a gelwid arnaf i wneyd hyny mor ami fel y mae yn ameuthyn i mi (faint mwy i'r darllen- ydd) i weled ychydig rifynau heb ddy- fod ar draws fy enw mewn rhyw ffurf neu gilydd. Tra y mae llawer o beth- au da iawn wedi cael eu dweyd gan fy ngwrthwynebwyr, y mae yn flin genyf fod yr ymdriniaeth wedi achlysuro llawer o bethau ffol a disynwyr i ym- ddangos-pethau amddifad o ronyn o resymeg. Wele un engraifft o lawer na theilyngent eiliad o sylw, ddaeth allan uwch yr enw awgrymiadol "Dyrys." "Os yw trydaniaeth, fel y dywed E. P. "yn tynu gyda'r fath rym, yn tynu y mor fel ag i lifo i fyny i'r traethau yn bentyrau, pa fodd na thynid fodau dynol, ac yn enwedig yr adar oddiar y coed, a'r Ilweh oddiar yr ystrydoedd gan yr atsugniad? Nid yw y ddamcaniaeth yn cyfrif amvethau." Dyna i ni engraifft go dda o syniad- aeth ambell un o resymeg. Pe bae gan "Dyrys" ronyn o'r synwyr mwyaf cyff- redin fe welai nad oes angen ond gosod "Dysgyrchiant" yn lie "Trydaniaeth," yn ti ofyniad, cyn y gwnai wawd o'r gwyddonydd enwog Newton, fel y tybia a wna o E. P. a ddystadl; ond gan fod ei ofyniad "bwmarangaidd" uwch ffugenw y mae yn ddigon dyogel rhag y cnoc a deilynga. Hefyd, y mae y gwrthddadleuwyr wedi newid eu cyfeiriadau mor ami, a hyny yn ddieithriad cyn terfynu eu gwrthddadleuon cyntaf, fel y mae pob gobaith am ddyfod i ddeall ein gilydd ar y mater wedi diflanu yn hollol. Pan ystyriom yr ymddengys nad yw rhai o'r gwrthwynebwyr yn deall eu hun- ain, y mae dyfod i ddeall ein gilydd yn fwy anobeithiol fyth. Cawn engraifft o hyn yn y trybini yr aeth Brymbo iddo trwy ei osodiadau a'i wrth-osod- iadau yn ei ymgais i geisio esbonio lleihad dysgyrchiant. Dywedir, os rhoddir digon o raff i'r Ilo, y bydd yn sicr o grogi ei hun. Llwyddais i roddi cymaint o raff i Brymbo fel y tybiodd mai syniadau E. P. D. a amlygid yn y gofyniad—"Pa faint fyddai yr afal yn fwy na phwys pe dygid ef ddwy fil o filldiroedd yn nes i ganol y ddaear nag yw ar ei hwyneb?" Methodd y brawd a gweled mai gofyniad ymresymiadol oedd-yn codi oddiar ei osodiad ef ei hun, ac felly syna'n fawreddog fy mod yn tybio y gwnai yr afal fyned yn drymach pa nesaf yr a i ganol y ddaear. Brymbo bach, "pwy ni wyr y pethau hyn?" (chwedl Job). Pwy ni wyr mai ysgafnhau a wna, er mai trymhau a ddylai i'r man y dechreuir mesur y pellder os yw yn ddarostyng- edig i'r un ddeddf, ac yn ol yr un drefn, ag yw goleuni, fel yr hona Brymbo a A. H. Williams? Meddyliwn y gwnai y dull gwrth- wynebol awgrymol a ddefnyddiwyd ddwyn Brymbo, ac hefyd A. H. Wil- liams, i sylweddoli yr annghysondeb a awgrymais gryn amser yn ol, yr hwn a addewais ei nodi allan os na welent ef yn y cyfamser, a chan nad ydynt wedi ei sylweddoli, ceisiwn ei ddangos iddynt yn awr. Y mae y brodyr da hyn yn dyfynu eu hawdurdod yn hollol gywir, i'r llythyren; ond y mae yn eg- lur nad ydynt wedi aros am foment uwch ben eu dyfyniadau i ofyn a yw y pethau hyn felly, neu a oes synwyr cyffredin ynddynt; eithr eu derbyn a'u llygaid yn nghau, a'u cegau yn agor, fel adar bach yn y nyth! Meddylier am yr afresymoldeb o gyf- ochrogi goleuni a swn, a hyny heb un gyfatebiaeth rhwng eu hanfodion, ond yn unig fod "space" i'r naill fel y llall, yn mwyhau yn ol yr un cyfartaledd pa bellaf y teithiant. Ond cyn manylu ar yr annghysondeb hwn, ac annghyson- derau eraill, gwnawn y gosodiad can- lynol: Nid dargalifyddiad o ddeddf yw y ddamcaniaeth ddysgyrchiol, eithr cymwysiad neu gyfaddefiad amodau dynol er cyfrif am ganlyniadau tybied- ig yw llawer o honi. Cofied y darllen- ydd nad "dysgyrchiant" a olygwn, eithr y "ddamcaniaeth." Mi wn o'r goreu y gwna y ddau frawd uchod fy nghyhuddo o haerllugrwydd eithafol i ddweyd peth fel hyn, ae. o bosibl, dy- wed Mr. W., fel y dywedodd yn "Nrych" Mai 3, nad yw ond "yn am- lygu fy anwybodaeth am yr athraw- iaeth hono." Ond caniataed y brawd parchus i mi ddweyd fy mod yn gwy- bod am holl resymau y dysgyrchwr dros gywirdeb ei ddamcaniaeth. Xid yw Mr. W. wedi dweyd dim ar y ddam- caniaeth a ddiffyna nad wyf yn hen gyfarwydd ag ef, a llawer mwy. Na, na, Mr. Williams, nid "anwybodaeth" o'i rhesymau diffynol yw yr achos, eithr anargyhoeddiad o'u digonol- rwydd; neu yn ol chwedl y dydd, "Yr wyf o Missouri." Dywed Mr. W. fod mesuroniaeth yn profi fod dysgyrchiant, "fel pob gallu canolog arall, megys swn, trydaniaeth, ehedfaenedd, etc., "yn lleihau yn ol ysgwaredd mwyhad y pellder. Pe dy- wedai fod mesuroniaeth yn awgrymu hyny byddai y dywediad yn gywir, ond ei fod yn profi hyny sydd beth hollol wahanol. Mae'n wir fod y lie sydd ganddo i'w lanw yn mwyhau yn ol y cyfartaledd hwnw fel y pellheir oddi- wrth y canolfan, ond ai tybed, mai mwyhad y lie yw yr unig "factor" sydd i'w chyfrif pan yn ceisio penderfynu lleihad galluoedd canolog? Onid yw yn bosibl fod hanfodion gwahaniaethol y galluoedd eu hunain i'w cymeryd i ystyriaeth? Nid oes un gyfatebiaeth rhwng goleuni a swn, neu rhwng swn a dysgyrchiant, na rhwng goleuni a dysgyrchiant, gyda'r eithriad bod y lie i bob un o honynt yn mwyhau yn ol y cyfartaledd a nodwyd. Araf iawn y teithia swn, tra y teith- ia goleuni yn gyflym ryfeddol; ond er ei gyflymder cymer iddo bum cant o eiliadau i ddyfod o'r haul i'r ddaear—> wyth mynyd ac ugain eiliad. Ni theithia dysgyrchiant o gwbl, eithr y mae yn dragwyddol bresenol yn mhob man. Dymunaf ofyn yn sobr i Mr. W. —nid yn enw gwyddoniaeth lyfrol, eithr yn enw synwyr cyffredin-ai ty- bed nad oes dylanwad gan y ffeithiau gwahaniaethol hyn ar gyfartaledd lleihad y gwahanol alluoedd canolog ar yr unrhyw bellder o'r ffynonell? Er engraifft, gan mai tair rhan o bed- air o'i dreiddgarwch gyll goleuni wrth ddyblu y pellder, ai tybed mai yr un faint gyll swn wrth ddyblu y pellder? Mae'n wir fod mesuroniaeth yn profi fod y "space" wedi mwyhau bedair gwaith, ond a yw hyny yn derfynol ar leihad y naill allu fel y Hall? 0 ran dim ag y mae y "space" ynddo ei hun yn brofi i'r gwrthwyneb, gall y lleihad fod yn fwy, neu yn llai, na'r cyfartal- edd uchod. Gellir yn rhwydd rwys- tro symudiad goleuni a swn, ond nis gellir effeithio y mymryn lleiaf ar fodolaeth dysgyrchiant, ac eto myn- tumir eu bod yn ddarostyngedig i'r un cyfartaledd o leihad—yn unig am fod "space" i'r naill fel y Hall, yn mwyhau yn ol yr un cyfartaledd! Yn yr ail ran o'r ysgrif hon, rhodd- wn i Mr. W. brawfion mesuroniaeth i'r gwrthwyneb. Yr wyf yn maddeu iddo am dadogi fy syniadau i anwybodaeth o'r ddamcaniaeth ddysgyrchiol, obleg- id o'i lyfr y dywedodd hyny, ac nid o'i ben, na'i galon. (I'w Barhau). r
DUWLN YDDIAETH AMLDDUWIAETH.
DUWLN YDDIAETH AMLDDUW- IAETH. I Gan Plas Gwyn. Ond pan yn crwyiir .ydrwy feusydd dyeithr duwinyddiaeti,. amldduwiaeth, deuwn cyn y diwedd i ranbarth lie y cyfarfyddwn a chyme: iadau dwyfol a wnant i'r meddwl- ddwys-ystyried, a dyfalu ac ymdeimlo p dirgeledigaeth- au a chyfrinion brawy hus-cyfrinion y saif y meddwl uwch -u penau yn fud ac ofnus. Gellir eu Vgalw yma yn "dyngedfenau," a geih rhai eu mam yn "Xecessitas," yr hor fel y'i darlun- ir a ddarostyngai i'w phenarglwydd- iaeth holl amgylchiada i y byd a'i dri- golion. Ni wna hon s; iw o brydferth- wch, ieuenctyd, cyfeii .garwch, gras, gwirionedd, iawnder na dim, eithr gweithreda ar ei chyfer fel gallu dall ac anystyriol. Hon yraf y Germaniaid dros y cyffiniau i anrheithio a dinys- trio Belgium, yn ol cyfaddefiad y Cangellydd Bethman-Hollweg; ac y "ae yn un o dduwiau .>naf y Kaiser a'i lu. Dengys y bri roidir ar y tyng- edfenau gan y Germaniaid mai anwar- iaid a phaganiaid ydynt. oblegid fel yr eglurwn ar fyr, nid yw y tyngedfenau eraill hyn, fel yr ami Jduwiatt, ond cynyrchion cysgodion y meddwl a'r dy- chymyg dynol. Dwy o'r tyngedfenar. hyn, adna- byddus i ni heddyw, oedd Ffawd a Thynged (Arfaeth yr hen. dduwin- yddiaeth). Yr un yw yr arfaeth hon o ran ei nodweddion amlwg a thynged- fen y Groegiaid a'r Llariniaid. Gwel- ir hyn yn y gair Seisnev "predestina- tion" a ddefnyddir am v gair "arf- aeth" yn y Gymraeg. "id hawdd yw gwahaniaethu rhwng ar aeth y duwin- ydd Cymreig ? "moira"T v Groegwr, "fatum" y Lladinwr a "destiny" neu "fate" y Sais, ac y mae sail gref i gredu mai o baganiaeth y daeth y syn- iad i fewn i dduwinyddiaeth Cristion- ogaeth, fel y cawn sylwi eto yn nes yn mlaen. Awgrymiadol iawn yw fod Ffawd a Thynged yn ddall. Darlunir Ffawd yn ddall ac ar chwyrn gerbyd yn cael ei lusgo gan bedwar march dall fel ei hun, ac yn myned ar eu cyfer dros bob peth heb ystyried dim na neb. Gelwid hi yn dda a drwg, fel y dygwyddai yn cyd-daro a dymuniadau dynion. Yr oedd iddi lawer o enwau yn rhoi allan ei bendithion a'i hanffodion i blant dynion. Er mor anwadal ydoedd, yr oedd iddi lawer o demlau a llu o addol- wyr, o'r rhai y gwnai y beirdd gryn lawer o wawd a difyrwch. Yr oedd y bobl oeddynt yn llwyddo (yn "lwcio" yn dda) yn wir addolwyr o honi, tra yr oedd y lleill anffodus (mwy Iluosog o lawer) yn ameuwyr ac anffyddwyr. Adroddir am hen gono o athronydd ymwelodd ag un o demlau Ffawd (Fortuna), a dyna lie yr oedd enwau a rhoddion y morwyr a ddiangasant o longddrylliadau a pheryglon y mor, ychydig yn debyg mewn cymhariaeth, a gelwid sylw yr athronydd atynt gan yr offeiriades. "Ie," ebe yntau, "ond beth am y miloedd a aethant i'w dyfr- 11yd feddau?" Gallai llawer ddweyd yn dda am y dduwies; eithr edrychai llawer mwy arni gydag eiddigedd ac annghrediniaeth. Sylwid hefyd mai Ffawd ddall a ar- weiniai Dynged ddall. Eisteddai Tynged ("Fatum" Lladin a "Destiny" Seisneg) ar orsedd o haiarn, ac yr oedd o gymeriad annghyfnewidiol, a'i dy- farniadau wedi eu cerfio ar lyfr o bres. Diflanai holl alluoedd y nef o'i blaen hi. Pan y llefarai hi, tawai Olympus (y Cyngor dwyfol). Ai y duwiau a'r duwiesau yn fud a gwelw, ac yr oedd ei barnau neu ei phenderfyniadau fel mellt yn taro y duwiau yn ogystal a dynion. Mae y syniad hwn o allu dirgeledig neu gyfriniol islaw a thu hwnt i'r duw- iau yn llawn o gymelliad i feddwl. Ni allodd paganiaid ddychymygu duwiau na duw i gyfrif am y cyfan o ddirgel- wch y greadigaeth o'u hamgylch. Teimlid nad oedd yn mhlith y duwiau ddigon o unoliaeth i gyfrif am undod y greadigaeth, a dychymygid fod an- gen am ryw Allu Goruchaf, Undodaeth ddwyfol montheistic element i reoli y cyfan, yr hyn ni cheid yn y gyfundrefn dduwinyddol baganaidd. Dyehymygwyd fod adegau pan, y ceid Prif Dduw yn goruwchreoli, a nodid engreifftiau o hyn pan y cafodd Cariad uwchafiaeth ar Dynged. Yr oedd hy. eto yn berffaith gyson a'r rhithgred fod rhyw Allu cyfriniol goruwch yr holl dduwiau a'r tyngedfenau. Newid- iodd yr hen olygiadau yn raddol yn y man y daeth duwinyddiaeth amldduw- iaeth allan o gulni yr offeiriadaeth i ysgolion yr athronwyr. I Aeschylus yr oedd Tynged yn debyg i'r hyn oedd Arfaeth i Calfin a Luther; i Sophocles a'r athronwyr, Plato, etc., yr oedd wedi newid yn fawr i olygu Ewyllys Ddwy- fol Rydd-Reolus. Yn ol yr hen syniad, yr oedd am- gylchiadau yr holl oesau yn gadwyn hir gymlethedig fel pe wedi ei chyd- ddolenu wrth a thrwy ei gilydd heb ymyriad dim na neb oddi allan; yr oedd yn greadigaeth o gwblwaith eudd; ac i Homer, y bardd, yr oedd hon goruwch holl allu Jupiter. Cym- erai pob peth a phob dygwyddiad le yn ei bryd yn anocheladwy; ni allai cyngor o'r duwiau atal dim na gohirio dygwyddiad dim. Yr oedd rhyw or- uwchreolydd yn meddwl y Groegwr na wyddai ei enw, nac yn mha le yr oedd ei benswyddfa; ond teimlai yn siwr ei fod. Ac ni ddylem synu, oblegid cyfar- fyddwn a'r un anhawsder yn nuwin- yddiaeth Cristionogaeth, fel y cawn sylwi arno ar fyrder. Y mae yn an- hawdd i'r meddwl dynol ddirnad un- rhyw athrawiaeth fo yn ddigonol i gyfrif am bob dirgelwch, a'r athraw- iaeth debycaf o wneyd hyny yw hono ryddha y meddwl o gulni, ac felly a adewir yn rhydd lie y bo dirgelwch yn galw am hyny. Xi allai y duwiau achub eu plant eu hunain; ni allent ohirio eu marwol- aeth am un fynyd; rhaid oedd iddynt farw yn y lie ac yn y fath ffordd ag a arfaethwyd; .gwnaeth Jupiter ei oreu i achub Hector; ymgyngorodd a'r tyng- edfenau, a gwelodd fod rheidrwydd i Hector gael ei ladd gan Roegwr; ni allai wrthwynebu, a gorfu i Apollo, gwarcheidwad Hector, roi i fyny bob ymgais. Yr oedd y gadwyn hon yn an- nhoradwy; ni ellid tori dolen o hono; rhaid oedd i bob peth ddygwydd fel y clygwyddodd neu y dygwydda. Y mae yn ameus a allai y Gallu cyfriniol, y cyfeiriwyd ato uchod, effeithio ar gys- ylltiadau anorfod y gadwyn. Y Stoiciaid oedd y blaid athronyddol Roegaidd a ymlynai dynaf wrth y syn- iad hwn o dynged neu arfaeth, a chawn hyn yn ei hathroniaeth i fyny i'r cyf- nod Cristionogol, ac yn ngweithiau Seneca, Rhufeiniwr, a chynrychiolydd mawr a dysgedig yn amser Nero, yr Ymerawdwr. Yr oedd Calfin yn efryd- ydd o Seneca cyn ei fod o'r Ysgryth- yrau, ac ar un o lyfrau Seneca y cyfan- soddodd ei waith cyntaf, ac ni all neb ddarllen ei "Egwyddorion y Grefydd Gristionogol" heb gydnabod ei ddyled i Seneca. Y mae llvfr Seneca "De Providentia" yn llawn o arfaeth Galfin aidd, ac yn yr athrawiaeth hono y dy- wed fod Duw yn rhwym i'w arfaeth ei hun, am iddo ei hordeinio un waith, a'i fod felly er tragwyddoldeb yn gaeth iddi ei hun, yn debyg i fel yr oedd Jupiter Homer yn gaeth i dynged. Ebe Seneca: "Ille ipse omnium con- ditor ac rector scripsit quidem fata, sed sequitur: semper paret, semel jussit;" sef yw "Ysgrifenodd efe, creawdwr a rheolwr pob peth ei ar- faethau a dylyna hwy; ufuddha iddynt yn dragwyddol, gorchymynodd hwy unwaith." Dywedir mai y ffordd y daeth yr athrawiaeth hon o dyngedfeniaeth neu arfaeth i fewn i Iuddewaeth, afi wedi hyny i Gristionogaeth oedd drwy gyd- gyfarfyddiad yr Iuddewon a'r Groeg- iaid yn Alexandria yn yr Aifft. Yno ymgydnajbu yr Iuddew a'r iaith Roeg ac ag athroniaeth Roegaidd, a naturiol yw i ni goelio iddi gael gafael ar y meddwl Iuddewig. Yehydig, os dim tynged, oedd yn meddwl yr Iuddew cyn ei lygriad a'r meddwl paganaidd. Gall dyn ddarllen y Beibl drwyddo heb gael ei wenwyno l gan y goel dyngedfenol, am y rheswm fod syniad y proffwyd Iuddewig yn rhydd o unrhyw athrawiaeth yn aw- grymu fod Duw yn gaeth neu yn rhwym i ryw Allu cyfrin, neu i ryw drefn sydd yn teyrnasu drosto. Y mae yr Hen Destament fel cyfanwaith (ag eithrio ambell i ymadrodd a gam- esboniwyd) yn addysgydd rhyddewyll- ysiaeth dyn, ac y mae holl ymddygiad yr Efengyl yn y Newydd yn cydnabod rhyddrwydd dyn oddiwrth y fath gaethiwed a thynged. Yn y cyfnod Cristionogol drwy y canol oesau cawn Dynged o dan yr enw "Predestinatio" yn dyfod i fri annghyffredin, a dysgawdwyr o'r meddyliau mwyaf diwylliedig (creu- Ion ac addfwyn) yn coleddu y golyg- iadau mwyaf anmrwd am Dduw, mor hwyrfrydig i lid ac mor llawn o dru- garowgrwydd. Cyraeddodd yr athraw- iaeth ei huchafnod dan Calfin a Luth- er. a chawn v dywediadau mwyaf ech- rydus yn Melancthon dyner galon a mwyn. Mae yn ddyddorol sylwi y gwrth- dystia greddf dyn yn erbyn arfaeth a thynged fel caethiwed a ymyra ag ef fel bod moesol. Dywedir fod y reddf hon yn gwrthdystio yn nghalon hyd yn nod Awstin a Calfin, oblegid cyf- addefent eu dau fod "rhywbeth" allan o le ynddi yn '"rhywle." Yn awr, y "rhywbeth" hwn yw y ffaith y dylasai y duwinydd fod wedi ei chydnabod, a chwilio i fewn i beth oedd. Uchod cyfeiriasom at y "monotheistic ele- ment" a godai yn y meddwl paganaidd fel rhyw awgrymiad greddfol fod syn- iadau amldduwiaeth yn anmherffaith; a dyma eto reddf, 'heb ddim ganddi ddweyd drosti ei hun, Qnd gwrthdystiai yn ddystaw nad oedd tynged neu arf- aeth yn cyfrif am yr oil yn foddhaol. (I'w Barhau).
CYMRY CYNTAF WISCONSIN A BARDD…
CYMRY CYNTAF WISCONSIN A BARDD YR HENDREF. Gan Dr. Daniel Willjams. Yr wyf eisoes wedi ysgrifenu ych-, ydig am Mr. Jones fel pregethwr ac fel bardd: gair y tro hwn am dano fel hanesydd Cymry Wisconsin, a'r fantais oedd ganddo i wybod am danynt. Fel y sylwais o'r blaen, carodd oes faith yn y dalaeth, agos ddeng mlynedd a thri- ugain, a chafodd bob cyfleusdra i wy- bod hanes hil Gomer ynddi. Hwyrach na byddai gair am y rhai cyntaf yn annerbyniol gan y darllenydd. Y Cymro cyntaf ddaeth i Wisconsin oedd John Hughes, Nant y Calch, a'i deulu, wyth o bersonau. Cyraeddasant Prairieville (Waukesha) yn 1840. Y fiwyddyn ganlynol daeth Thos. Jones, Maes Mawr, a theulu Jarmon, 17 o bersonau. Yr oedd Mrs. Hughes a Mrs. Jones yn chwiorydd. Y flwyddyn hon hefyd daeth "twysged" o Gymry o ddyffryn Ardudwy, Meirionydd, i Ra- cine. Gadawsent y Dyffryn yn Ebrill, a chyraeddasant Newark, 0., yn Mehefin. Wedi tipyn o ymdroi aethant hyd y gamlas i Cleveland, ac wedi llawer o helbul cymerasant y Hong Bunker Hill hyd y llynau i Racine, yr hwn le gyr- aeddasant yn mis Awst. "Nid oedd na phorthladd na pier i lanio y pryd hwnw, a'r dull a gymerid oedd dad- lwytho ar scows a chyraedd y feisdon goreu ellid." Yn 1842 daeth saith o deuluoedd o sir Aberteifi i Prairieville, a daeth y Parch. Richard Davis o Ohio i Racine. Yn union wedi y gymanfa yn Cincinnati yn Ebrill cychwynodd i lawr yr afon, yna i fyny y Mississippi, a hyd y gamlas i Chicago, mae yn debyg. Ffordd gwmpasog iawn, ac yr oedd yn fis Mehefin arno yn cyraedd Racine, ond cafodd y fraint o draddodi y bregeth Gymraeg gyntaf yn y dal- aeth a sefydlu yr eglwys Gymreig gyn- taf ryw bum milldir o Racine. Daeth amryw i'r dalaeth yn 1843 a 1844, ac yn 1845 daeth llanw cryf iawn. Yr wyf yn tueddu i feddwl fod poblogaeth Gymreig Wisconsin wedi dyblu, os nad wedi treblu, yn 1845. Gwn i am bump o longau groesodd y weilgi yr haf hwnw a Chymry ar eu bwrdd am Wisconsin. Croesodd fy nhad yn mis Mai. Oddeutu canol Mai yr oedd William Evans, Lockport, a John W. Jones, y "Drych," ac eraill, rhwng Castell Caernarfon ac afon Menai yn dysgwyl am gwch i'w cludo i Liverpool, lie cawsant long i'w dwyn i'r byd newydd, ac wedi taith o ddeng wythnos, a chyfrif yr wythnos yn y quarantine ar afon St. Lawrence, cyr- aeddasant rywbryd yn mis Awst, ben- tref Racine. Yn mis Medi croesodd fy nhaid, Hugh Roberts, Proscairon, Wis., wedi hyny, ac yn cyraedd Caerefrog Xewydd dri diwrnod o'i flaen yr oedd y Parch. William Jones a Richard Jones, brodyr John Jones, Talsarn (meibion i Richard oedd y ddau lenor diweddar o Cambria, Evan O. a Daf- ydd R. Jones). Ond y llong fwyaf dy- ddorol yr haf hwnw mewn rhyw ystyr oedd y "Republic," yr hon adawodd Liverpool Gorphenaf 17eg, ac a gyr- aeddodd borthladd New York Awst 30ain, a llwyth pwysig o Gymry ar ei bwrdd. Adnabyddid rhai o honynt wedi hyny fel y Parch. Robert Wil- liams, La. Crosse; y Parch. John Dan- iel, Blaen y Cae; Jabez Lloyd, Hugh Edwards, yr "hen John Daniel;" John Owens y canwr; John Roberts, Pen y Gwrhyd; gwraig gyntaf y Parch. O. R. Morris; gwraig E. E. Jones, Colum- bus. Yn mhlith y teithwyr hefyd yr oedd mam yr ysgrifenydd, a byddai hi yn hoff iawn o son am "deulu y Hong." Llawer tro at ddiwedd ei hoes y cofiwyf hi yn dweyd wrth redeg dros y marwolaethau yn y "Cyfaill" neu y "Drych," "Wel dyma un eto o hen deulu y Hong wedi mynd." Gan fod deuddeng mlynedd a thriugain wedi myned heibio, mae yn debyg mai ych- ydig o "deulu y Hong" sydd ar gael. Hwyrach fod tri neu bedwar, neu haner dwsin o'r "plant." Nid wyf yn sicr ond o ddau, set yr henafgwr parchus Morris J. Rowlands, Cambria, un o brif gyfeillion gwrthrych ein hysgrif, a Mrs. Elizabeth Thomas, Randolph, merch John Owens, y can- wr, Proscairon. Mae cysylltiad agos rhwng mintai y "Republic a sefydliad Welsh Prairie, cartref ein gwrthrych am dros 30 mlynedd. Pan ar lan y llyn, cafodd Dafydd Roberts, dyn o Fon, ond wedi bod ddwy flynedd ger Utica, a dwy yn Prairieville, afael arnynt, ac aeth fel arweinydd i rai o honynt yn mlaen i'r gogledd-orllewin drwy Beaver Dam a Fox Lake. (Yr oedd y wlad yn anial y pryd hwnw, ond rhoddaf enwau yr ardaloedd adnabyddus wedi hyny), a thrwy gwr Lake Emily, Blaen y Cae, Proscairon ac i Rock Hill. Ond yma troisant i'r de trwy Portage Prairie, a thros ffrwd o ddwfr. Yr oeddynt yn hom y wlad hono, dewisasant eu tir- oedd a galwasant y wlad yn Welsh Prairie. Yf oedd yr enw yma yn un I hapus iawn, yn atdyniad cryf i'r Cym- ry uniaith oeddynt yn glanio yn Ra- cine a Milwaukee. Daeth llawer yno yn '46,a theulu yr Hendref yn ngwan- wyn '47. Adeiladwyd y flwyddyn hono hen gapel Seion, ac yn Mehefin cafwyd Cymanfa yn Blaen y Cae, a thua 500 o Gymry ynddi. Dylaswn fod wedi dweyd mai Medi 2 4, IS45, y glaniodd y rhai cyntaf yn Welsh Prairie. Gorphenaf 4, 1848, yr oedd cyfarfod mawreddog ar fryn ger ty log Proscairon, a'r flwyddyn ganlynol un tebyg yn Welsh Prairie. Prif ys- gogydd yn y pethau hyn feddyliem oedd Dafydd Pugh, Rock Hill. Dywed- ai Hendref yn un o'i ysgrifau diw- eddaf i'r "Cyfaill" fod cyfarfodydd "Y Pedwerydd" wedi eu cadw yn gyson hyd y flwyddyn 1859. Yn mha le ty- bed? Yr wyf yn cofio un '59 yn Pros- cairon, a'r rhai wedi hyny. Ond yn mha le y bu rhai '50 i '59? A wna Mr. J. P. Jones, Randolph, holi yr hen bobl, a rhoddi gwybodaeth i ni drwy y "Drych." Dyma dafien Ysgolion Sabbothol Wisconsin a'r ysgolorion am 1851: Lake Emily, 62; Blaen y Cae, 30; Proscairon, 84; Welsh Prairie, (1) Capel, 38; (2) Hendref, 28; (3) Snowdon, 24; (4) Belleville (Cam- bria), 20; Portage Prairie, 24; Rock Hill, 41; Baraboo, 50; Neenah, 36; PrairieviHe, (1) Bryn Tirion, 32; Pen yr Allt, 42; Cilmaenan, 28; School-house, 41; Dodgeville, 45; Picatonica, 56; Mineral Point, 12; I Welsh Hollow, 35; Caergybi, 35; Blue Mounds, 35. Ceir tair ysgol Colum- bus, ac un Union, ond heb ffigyrau. Y pedair blaenaf mewn dysgu adnodau: Cilmaenan, 12,491; Proscairon, 9,257; Baraboo, 8,861; Hendref, 7,735. Pen- odau o'r Hyfforddwr, W. P. Capel, 55; Picatonica, 39; Proscairon, 22; Snow- don, 13. Newidiwyd yr enw Belleville am Cambria. Pa bryd? Pwy awgrym- odd hyn? ? A all Mr. M. J. Rowlands neu Mr. T. E. Williams, Buck Hill, ein hysbysu? Yn 1856 daeth y ffordd haiarn drwy Cambria. Peth newydd dan haul oedd hyn. Cofiwyf fy hun yn cael myned gyda fy nhad i Cambria "i weled y cars." Wedi teithio awr a haner neu ddwy awr a chyraedd pen yr allt dywedodd fy nhad: "Dacw Cam- bria." Codais inau ar fy nhraed a dy- wedais: "Yn tydi y tai acw yn agos iawn at eu gilydd? Mae rhai o'r tai acw mor agos at eu gilydd fedra ych ddim myned rhyngyn nhw." Maddeu- ed y darllenydd i mi am nodi y sylw pwysfawr hwn. Yr oeddwn tua phump oed. Ond mae y sylw yn profi: Yn gyntaf, Fy mod i wedi fy nghodi yn y wlad. Yn ail, Mai oes yr ych oedd yr oes hono; nid oes yr oto. Yn drydydd, Gan fy mod i wedi fy nghodi o dan am- gylchiadau fel hyn nid yw ryfedd fod hen ysgrifenwyr dadleugar y "Drych" yn fy nghyhuddo o fod ar ol yr oes. Daeth Cambria yn ganolbwynt Cym- reig Wisconsin, a'r canolbwynt mwyaf pwysig yn y wlad, hwyrach, ac eithrio Utica. Nid oedd yr Hendref ond rhyw bump neu chwe milldir. Ysgrifenodd ein gwrthrych lawer am hen gymer- iadau Welsh Prairie, ac am hen bre- gethwyr y dalaeth. Efe mae yn ddiau oedd yr awdurdod uwchaf ar hanes y dalaeth yn y chwarter canrif diwedd- af. Piti na buasai wedi ysgrifenu mwy. Terfynwn gyda'r ddau olaf o'r penillion anfonodd i Aduniad Pros- cairon Mehefin 8, 1893. Mae yntau