Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Llyfr Newydd Amserol, yn awr yn barod, PRIS 1/ trwy'r Post, 1/1, Myfyrion a Chaneuon Maes y Tan. [Ysgrifeimwyd ar Faes y Frwydr yn Ffrainc.] Gan DYFNALLT. 7 Copi, 6/ 14 Copi, 12/ r Cyhoeddedig gan W. M. EVANS A'l FAB, Swyddfa Seren Cymru, Caerfyrddin. PWYLLGOR Y GRONFA. CYNHELIR. y Pwyllgor nesaf yng nghapel yr Annibynwyr, Itlandtindod, am 2.30, dydd Mercher, Tachwedd I4eg. Anfoner pob gohebiaeth yn ddioed i'r Ysgrifenyddion. H. M. -HUGHES, 1 JvVsSn- W. G. OWEN, J?Sn. Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Colegau ym Mkrifysgol Cymru.) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHRF,UA'R 47ain Tymor ar Ddydd i/ Mawrth, Hydref iaf, 1918, Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. IICynygir amryw o Y sgo lor iaethau (rhai ohonynt yn gyfyiigedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar yr I7eg o fis Medi, 1018. Am fanylionpellach ymofynner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd.
AT EIN GOHEBWYR. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. T. Harris.Cafodd arall y blaen arnoch. Mewn Llaw.—Y Parch. E. Davies, Abercynffig- Carmei, Bryn, Port Talbot-Trimsaran-Nodion o Swindon-Trysorfs'r Gweddwon-Mr. Morgan John, Aberdar, yn ei Fedd—Pontybodcin—Ymadawiad y Parch. James Charles-Diaconiaid Ddoe a Heddyw— Oyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb Cymreig Penfro a Chyfundeb Gogledd Morgannwg-Marwolaeth Mrs. J. M. Williams, Penygroee, Arfon.
i RHAGLEN Y SENEDD.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHAGLEN Y SENEDD. GAN Y PARCH. R. G. BERRY. DA yw gweld y Senedd, a ni ynghanol rhyfel mwyaf hanes, yn troi weithiau i ystyried niestirau er gwella cyflwr cymdeithas. Y mae rhaglen gwaith y tymor newydd yn orlawn o obeithion i'r werin bobl, a chanfyddir eu bod hwythau'n sylweddoli hynny fwy-fwy bob dydd. Er fod y cenhedloedd yn para i ddifa'u gilydd ar faes y tan, gwelir ym Mhrydain—ac i raddau mwy neu lai, yn holl wledydd y Cyfandir--clnecld amlwg yn y bobl i droi eu golygon oddiwrtli yr yniladd at gwestiynau eymdeithasol gartref. Teimlir bellach fod milwyr Prydain a Ffrainc yn trechu'r gelyn, ac mai ildio fydd raid iddo yn hwyr neu'n hwyrach. Gwelir y diwedd yn agoshau, ae adeg paratoi ar gyfer tymor heddwch wedi dyfod—tymor adfer ac adnewyddu. Dis- gwylir byd newydd wedi'r rhyfel, ond ofer dis- gwyl heb weithio. Wedi'r chwalu rhaid adeiladu. Chwalwyd yn chwilfriw hen syniadau a hen sef- ydliadau. Bu llawer ohonynt fyw yn rhy hir, a da oedd eu gweld yn ffoi o flaen syniadau a delfrydau newyddion. Ond wrth ddiolch am y chwalu fu ar yr hen a'r diwerth, na foed inni anghofio'n dyledswydd ynglyn a'r dyfodol. Yr adeiladu sy'n bwysig wedi'r cyfan.; hynny hefyd sy'n anodd. Gwelir argoelion fod y Senedd yn ymaflyd o ddifrif yn y gorchwyl hwn. Y mae amryw o gwestiynau tra phwysig yn aros eu tro-y tir, addysg, iechyd, tai, masnach, llafur, a Uu eraill. Y cam cyntaf fydd gofalu fod hawliau'r werin- bobl yn cael lie teilwng ac ystyriaeth deg. Dyna amcan un o brif fesurau'r Senedd-dymor newydd —y Mesur Etholfraint, neu Fesur Cynrychiol- aeth y Bobl, o gyfieithu ei deitl yn llythrennol. Os na ddigwydd anhap, daw'r mesur hwn yn ddeddf cyn diwedd y flwyddyn. Prin y cofia neb sydd heddyw'n fyw am fesur mwy chwyl- droadol. Ysguba lu o hen ragfaruatt ymaith fel us o flaen civyiitoedd. Hyd yma cyfyngwyd yr etholfraint i ddosbarthiadau arbennig. Di- freiniwyd miloedd, er enghraifft, am nad oeddynt yn byw'n ddigon hir yn yr un etholaeth i sicr- hau'r bleidlais, ac fel rheol gweithwyr oedd y rhai hyn dan orfod symud o fan i fan inewn ymchwil am waith. Cauwyd allan gannoedd eraill gan fan rwystrau deddfol. Bellach wele fesur sy'n agor y pyrth, nid o led y pen efallai, ond o'r hyn lleiaf yn ddigon llydan i dderbyn bron bawb, yn wryw a menyw, dros un ar hugain oed. Ni ddaeth delfryd y weriii-pleid-- lais i bawb—yn ffaith eto, ond y mae'r mesur newydd y peth agosaf ato a gafwyd hyd yma. Ychwanegir saith miliwn at nifer y pleidleis- wyr. O'r saith miliwn hyn bydd pum miliwn yn ferched, a'r mwyafrif o'r rheiny yn wragedd gweithwyr. Ymhellach, cilia gwyr yr ami bleid- lais bron yn llwyr o'r maes etholiadol, Fe gyn- helir yr holl etholiadau ar yr un dydd, a thelir I y treuliau swyddogol o bwrs y wlad. Dyna rai o brif bethau'r mesur. Cyn y rhyfel o'r braidd y buasai unrhyw weinyddiaeth yn mentro cynnyg y fath ddiwygiadau ysgubol. Buasai son am y fath chwyldroad yn ddigon i gyn- hyrfu'r byd gwleidyddol a chodi gwrthwynebiad cadarn a phenderfynol. Ond heddyw, er syndod y gwledydd, wele'r pleidiau'n un a chytun o blaid y mesur. Dyna sicrwydd gan hynny y ca'r bobl yn yr Etholiad Cyifredinol nesaf gyn- rychiolaeth lawnach a thecach nag erioed o'r blaen. Bydd Cymru hithau ar ei hennill, Mae'n wir y lleiheir nifer yr aelodau dros rai o'r sir- oedd gwledig, ond o'r tu arall fe geir ychwan- egiad lie y mae'r boblogaeth wedi cynhyddu a chan mai'r bobl, ac nid tai a thiroedd, yw sylfaen cynrychiolaeth Seneddol, rhaid addef fod y cyfnewidiadau yn deg a chyfiawn. Pwy all ddirnad beth fydd flrwyth diwygiad mor fawr ? Nid peth bach yw ychwanegu saith miliwn at nifer yr etholwyr. 'Does neb a wyr beth fydd dylanwad y rhai hyn ar bolisi'r Senedd. Mudion fuont hyd yn hyn yn yr ethol- iadau. Bellach dyma ddawn llefaru wedi ei hymddiried iddynt. Credwn y bydd eu dylan- wad er daioni. Gwelwn fod y merched eisoes yn codi eu lief dros ddiwygiadau cymdeithasol sy'n disgwyl am sylw'r Senedd. Hawliant yn gyntaf peth adran arbennig o'r llywodraeth i ofalu am iechyd y bobl. Daw'r mesur hwn hefyd yn ddeddf cyn bo hir, a lliaws o rai eraill yn ei sgil-
PALESTINA. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PALESTINA. GAN Y CAPTEN-GAPLAN EDWARD JONES, M.A., B.D. ER fy nyfodiad i'r wlad yma tua chwe mis yn ol, meddiennir fi yn fynych gan awydd cryf i anfon gair byr at ddarllenwyr y TYST. Un rheswm paham yr wyf wedi oedi cyhyd ydyw poethter llethol yr hinsawdd yn ystod misoedd yr liaf, yn enwedig i un newydd a.dael gwlad o hinsawdd hollol wahanol. Bu adegau yn ystod Gorffennaf ac Awst pryd yr oedd yn anodd anadlu. y chwys yn llifo allan fel afon, a chroen y dwylaw a'r wyneb yn llosgi ymaith. Dysgais yn fuan y wers gyntaf--fod gwres mawr vn. anfanteisiol i waith meddyliol a chorfforol. Amliosibl ymgymeryd ag anturiaeth fel ysgrif- ennu i'r wasg dall y fath amgylchiadau. Cofier etc ein bod yma yn byw dan anfanteision mawr —heb 11a chadair i eistedd ynddi, na bwrdd i ysgrifenuu arno. Y rheol yma yw eistedd yn y tywod ac ysgrifennu ar y lin, a hyn oil ynghanol llawer o fwstwr. Beth bynnag, erbyn hyn mae yr hin yn fwy cymhedrol, a chwe mis wedi ein gwneud yn fwy cynefin a bywyd y Dwyraiii. Hofi'wn yn bennaf y pethau hynny sydd yn cin hadgofio o'r amseroedd gynt, ac yn arbennig oesau'r Beibl. Mynych grwydrwn ar yinyl glan Mor y Canoldir, a'r tywod yn ymestyn am rai milltiroedd o fin y don i mewn 1'1' wlad a thyb- iwn mai yn wyneb golygfa o'r fath yn unig y gwelir ystyr yr ymadrodd, Fel y tywod ar lan y mor.' Gyda'r hwyr, tynnir sylw'r Gorllewinwr gan y ffnrfafen oleu, glaer, ddigwmwl y ser mor ddisglair, y lleuad mor bur, yr wybten mor loywlas. Yn wyneb yr olygfa rneddyliwn yn fynych am eiriau Kant: Two things- fill me with awe- the starry heavens above and the moral law within ac yn arbennig, ceir ystyr ddwysach i eiriau'r Salmydd 1 Pan edrychwvf ar y liefoedai, gwaith Dy fysedd y lloer a'r ser, y rhai a ordeiniaist pa beth yw dyn, i Ti i feddwl am dano ? neu fab dyn. i Ti i vmweled ag ef ? Nodwedd avail bertliyna i'r rhan yma o'r wlad ydyw ei sychder mawr. Yr ydym bellach wedi cyrraedd Hydref, ond heb gawod o wlaw ers misoedd lawer. Mae pob afon a ffynnoll yn sych, ac yn fynych cludir dwfr am filltiroedd lawer ar gamelod. Mae yma lawer o hen ffyn- lionnau, lieu bydewau, ar hyd a lied y wlad, heb orchudd drostynt na chanllaw o'u cylch. Gorchwyl cyntaf teithwyr yn y rhan yma o'r wlad ydyw ffeindio dwfr a medraf ddeall helynt Abraham, Isaac a Jacob ynghylch cloddio pyd- ewau, a'r cwerylon rhwng eu gweision hwy ac eiddo Abimelech brenin Guar. Mae bywyd trigolion yr anialwch yn awr, fel cynt, yn troi o gwmpas ffynhonnau a phydewau i raddau, ac mewn ystyr annirnadwy i drigolion gwledydd lie mae afonydd yn lluosog a ffyn. honnau yn tarddu o bob tu. Ax hyn o bryd mae afonydd y wlad yma yn sych 'does yn aros ond gwelyau yn unig, heb ddiferjn o ddwr ynddynt. Dyma ystyr y gair waay-afon neu wely afon heb ddwr y rhan fwyaf o'r flwyddyn ond yn ystod tymor y gwlawogydd, llenwir hwy gan lifogydd mawrion, cryfion, nas medr dyn liac anifail eu gwrthsefyll. Codant yn sydyn, a rhedant yn chwyrll am dymor byr, ac adgofiant ni o ddameg }" ty ar y tywod. Diameu gennym. mai mewn golygfa o'r fath y cadd y Gwaredwr fater Ei ddysgeidiaeth. Eto na thybier fod y darn yma hyd yn oed o'r wlad yn hollol ddiffrwyth. O'n cwmpas ceir coed a fifrwythau brofant mor gynhyrchiol y wlad pe meithrinid y tir yn briodol. Yn ddiw- eddar cawsom gnwd toreithiog o fflgy, a rhyddid i bawb i'w casglu. Pren gwyrddlas, deiliog yw y ffigys, a chysgod rhagorol rhaa y gwres. Bum yn eistedd oriau odditano mewn un man lie y gwersyllem, gan alw i gof csiampl Nathanael yn yr Efengyl, a'r hen addewid o amseroedd pryd y bydd llonyddwch a heddwch wedi eu hadfer, a phawb yn eistedd yn dawel a diofn dan ei winwydden a'i ffigysbren ei hun.' Fel y mae pethau heddyw, nid oes ond rhyfeloedd a son am ryfeloedd, a hyn ar gyffiniau gwlad enwog x