Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNHADLEDD WESLEYAIDD.

TRO I'R AIPHT.

ABERYSTWYTH.

MACHYNLLETH.

ABERMAW.

PENNAL.

DOLGELLAU.

CARNO.

J\bnl1Jgiab !l Wtazg.

GWYL YN GLANSEVERN.

-:0:-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-:0:- YR AMAETHWYR A'R GWEITHWYR. Syr,—Darllenais ysgrif Gwas Ffarm yn eich rhifyn diweddaf. Gallwn feddwl ei fod am i ni gredu mai un o'r gweithwyr ydyw ef. Ysgrifena yn erbyn ybyd amaethyddol. Creda fod y dosbarth hwn yn ddosbarth hynod y dyddiau hyn. Credaf finau nad ydyw yn fwy hynod na'r dosbarth gweithiol. Danoda i'r amaethwr ei fod yn cwyno o foreu dydd Llun hyd nos Sadwrn. Da iawn os ydyw yn gallu peidio cwyno ar y Sabbath. Ond sut y mae y dosbarth gweithiol gyda golwg ar y cwyno yma tybed ? Cwyno yn wir! Y mae y dos- barth gweithiol yn gwneyd gwaeth peth ganwaith na chwyno. Ymunant A'u gilydd i rcbelio mewn strikes. Yr oedd yn ddigon a chodi gwallt dyn yn y gwrthwyneb i glywed eu hanes yn y Deheudir ar amser y strike ddi- weddar, yn myned yn finteioedd ysbeilgar a gwaedlyd. Chwareu teg i'r ffermwyr, druain, am wneyd dim ond cwyno. Sonia'r Gwas am fferm ar osod, a rhyw dri neu bedwar o gymydogion yn cynyg am dani ar draws eu gilydd. Ond pwy feddyliech chwi ydyw y cymydogion hyny ? Wei, y mae dau neu dri o honynt yn ami o'r dosbarth gweithiol. Os gellwch gael hyd i weithiwr wedi cynilo tipyn bach o bres, gallwch ben- derfynu y bydd ei lygad ar gael ffarm. Creda fod newid ar y ffermydd a chynygia fwy o refit na neb arall; tybia ond iddo gael y ffatm y gall yntau ledu tipyn ar ei draed. Ond pa fath ffermwyr ydyw y gweithwyr y rhan amlaf ? Y mae pedwar neu bump o honynt o flaen fy meddwl y funyd yma. Eithr gwell ymatal na rhoddi desgrifiad o honynt yn ffarmio. Danoda y Gwas drachefn i'r amaetlrnT ei fod yn hir iawn yn talu ei ddyledion. Rhaid addef ei fod dipyn yn slow gyda'i daliadau ond y mae mor wir a hyny ei fod yn dra sicr o dalu. Beth pe caem ni edrych dros lyfrau y masnachwyr ? Gwyddom fod mwy o'r bad debts yn perthyn i'r gweithwyr na neb arall. Er eu bod yn derbyn eu cyflogau mawr yn rheolaidd drwy y blynyddoedd, gadawant eu dyledion heb eu talu o gwbl. Credaf fod yr amaethwr yn gyfartal beth bynag i'r gweithiwr mewn gonestrwydd a thegwch. Hyna y tro hwn ar frys. MAB FFARM.

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

Advertising

AROLYFRWYDR.

YR EISTEDDFOD GEiiEDLAETHOL.

DYDD MEROHER.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.