Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Re ED WARD Deceased ALL Persons having claims against the estate of EDWARD EVANS late of Camlan Isaf in the Parish of Mallwyd in the County of MERIONETH. deceased ace requested to send in full particulars of the same to me the undersigned on or before the 24th day of August, 1897. Dated this 24th day of July, 1897. JOHN ROWLANDS, MACHYNLLETH, Solicitor for the Executors. ABERHOSAN BRITISH SCHOOL. "YV/'ANTED, after Holidays, Transfer Pupil V\ Teacher, 1st or 2nd year. Apply by August 9th, stating age, salary, &c., to J. PUGH, Secretary, ABERHOSAN, MACHYNLLETH. Y NEGESYDD. TELERAU AM HYSBYSIADAU. Am hysbysiadau o "Yn Eisieu," &c., yn eynwys 16 o eiriau 6d Tair gwaith i s. 20 9d is. 6d 30 is 2s. 40 IS. 6d. 3s. 50 2S. 4s Cyfeiriad, N egesydd" Lffice, CORRIS, R.S.O
MR. H. M. STANLEY.
MR. H. M. STANLEY. Dydd Grwener, ymwelodd y teithiwr enwog Mr. H. M. Stanley, A.S., a'r Diefnewydd, ac anerchodd gyuulleidfa luosog ar 'African Topics.' Er nad mewn enw, yr oedd yn ymarferol yn arddangosiad o blaid yr achos Ceidwadol. Rhoddai yr areithiwr herg'wd achlysurol i'r blaid Ryddf i-ydol. Condemniai ddosbartk a alwai yn Little Englanders,' yr hwn na fynai drofedig-aethau na llynges ao mewn canlyniad y byddai raid i ni dderbyn elusen, a gofyn yn ostyngedig i 0 zn 0 wledydd tramor am oddefiad i fyw. Nid ydvm yn gwybod am fodolaeth y fath blaid, lieblaw yn ei ddycliyniyg ef a'i g-yfeillion. Gwyddom mai gwladweiuiaeth y Toriaid barodd i ni golli yr Unol Daloithiau, ac y dilynasai Canada ac Awstralia yn gyffelyb, oni bae newidiad y cwis. Mae y Rhydd- frydwyr yn pleidio eangiacl yr ymerodraeth, ond y maent yn ffafriol liefyd i ryddid a dyngarwcli i'r cenedloedd anwaraidd, yn lie yr ysbeilio a'r llofruddio gymerodd le, er engraipht, dan nawdd y llywodraeth yn Rhodesia, fel y prawf adroddiad y dirprwy wr Syr R. Martin, a anfouwyd allan g'an Mr. Chamberlain, Y rhai addfwyn a etifeddant y ddaear.' Y pwnc yr ymhelaethodd Mr. Stanley f wyaf arno oedd gwneuthuriad ffyrdd haiarn i'r Cyfandir tywyll, yr hyn oedd yn dra dyddorol. Y 11 ystod y tair blynedd ar ddog diweddaf ychwanegwyd 160,000 o filltiroedd sgvvar yn Affrica at feddianau Prydain, yn gwneyd yn gyfan yn awr un ran o bump o'r cyfandir dan ein liarolygiaeth. Dywedai y dylid gwneyd tua 10,000 o filltiroedd o reilSyrdd ar hyd a lied y tiriogaethau hyn, ac yna dygid y trigolion i raddau pell dan wareiddiad rnasnach a Cliristionogaeth.
0 CHWARELWYR Y VEXRIIYN.
0 CHWARELWYR Y VEXRIIYN. Taenwyd y gair fod Mr. Young wedi cyfarfod a'r ddirprwyaeth o'r gweithwyr yr wytlmos ddiweddaf, ond nid oadd sail iddo. Bernir y gwneir rhyw symudiad yn yr helynt heb fod yn liir. Hona rhai mai gelriol yw llawer o'r anghydwelediad. Yr wythnos lion cyferfydd dirprwy aetli y dynion ag amryw o aelodau Ty'r Cyffredin, i osod y sefyllfa ger eu bron. Mae cynorthwy arianol yn parhau i' w estyn drwy y deyrnas. Gwnaed apeliad at Arglwyddes Aberdeen, gwraig Arglwydd Aberdeen, Prif Lywod- raethwr Canada, tra ar ei hymwoliad a Llundain, yn gofyn iddi gynorthwyo mewn symudiad o blaid i chwarelwyr Bethesda ymfudo i'r rhanbartk yn Canada a addawyd gan y lly wodraeth yno. Mae yr Arglwyddes yn gwrthod cydsynio a'r cais, nid am nad oes ganddi jydymdeimlad a'r amcan, ond am y rheswm fod ei chysylltiad a'r Prif Lywodraethwr yn rhwystr iddi wnoyd.
YMGYRCH AM AUR.
YMGYRCH AM AUR. Er's tro yn ol y lie y cyfeiriai yr aur- gloddwyr oedd Gorllewin Awstralia. Yn alwr mae'r dwymyn wedi gafaelyd yn y miloedd i fyned i Klondyke, Columbia Brydeinig, lie ankygyrok, mewn rkan og- leddol o Canada. Mae y daiganfyddiadau a wnaed, a'r cyfiogau yno bron yn anliygoel. Gan mor wyllt yw y rhuthr o wahanol fanau i'r lie, yn enwedig o'r Unol Daleithiau, mae yn debyg o arwain llawer i brofedigaethau,
ANRHYDEDD ADDYSGOL.
ANRHYDEDD ADDYSGOL. Mae yn ffaith nodedig mai ymgeiswyr o Ysgolion Canolraddol Machynlleth a Towyn, yn unig o holl ysgolion Cyinru, a lwyddodd i basio'r Matriculation heb iddynt fyned am addysg i un o'r coleg-au cenedlaetkol. Sieryd hyn yn uchel dros effeithiolrwydd yr addysg a gyfrenir gan y prifatkrawon a'u cynorthwywyr yn yr ysgolion hyn.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CASNEWYDD. TEEN RHAD. Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae Cwmni y Cambrian Railways yn rkedeg Tren Rhad i Casnewydd dros ddyddiau yr Eisteddfod, o Aberystwyth, Bortli, Mach- ynlleth, &c., &c. Hefyd bydd tren rhad arbenig yn rhedeg ddiwrnod y Brif Gys- tadleuaeth Gorawl, sef dydd Mercher nesaf (Awst 4ydd), yn dychwelyd o Casnewydd am haner awr wedi saith. Diau y bydd llu mawr yn manteisio ar y cyfle rhagorol hwn. Am fanylion gweler yr hysbysleni.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH.
YSGOL SIROL MACHYNLLETH. Ymhiitk y rhai llwyddianus yn arholiad y Matriculation, Llundain, ceir y rhai canlynol o'r Ysgol lion :—Claudia Morgan Z) in a Meiiora Lloyd yn y First Division. Y pyneiau osddynt LttiB, French, English History, English Language, Euclid, Algebra and Arithmetic, Chemistry and Mechanics, (Statics and Dynamics.) Frances A. Reese hefyd wedi pasio y Matriculation yn Allirif- ysgol Cyinru mewn Latin, French, English (English History and English Language), a Chemistry. l'asioùd y rhai canlynol y Science and Art Department's Examination mewn Mathematics:—Advanced Stage (Euclid, Algebra, a Trigonometry), Medora Lloyd, zn IZD Claudia Morgan, Percy Lewis, Richard Hughes. Elementary Stage (Euclid, Algebra ac Arithmetic), William A. Williams, F. A. Reese, Jaunet Davies, Susan J. Humphreys, John E. Reese, Humphrey R. Owen, Alice Morgan, John W. Lloyd, Lewis 0. Jones, Llewelyn Hughes. Eto y Science and Art Department Examination mewn Physiology a Hygiene :—Sarah J. Jones, Sarah Anne Perkins, Frances G. Morgan, Mary E. Jonas, Susan J. Humphreys, Januet Davies, Sarah Owen.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. CLYCHAU YR EGLWSS. — Cynhaliwyd cyf- arfod o'r Wardeniaid, &c., yn y Rheithordy, dydd Iau, pryd yr ystyriwyd y priodoldeb 0 gael chiming apparatus i'r clychau ucliod. Ar ol peth ymdrafodaeth, ar gynygiad Mr. Gribble, a chefnogiad Mr. Parsons, gohir- iwyd y mater. DAHLITHIAU AR FFEKYLLEG.—Yn mhwyll- g'or yr Arddangosfa dydd Mercher, hys- bysodd Mr. R. Gillart ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth Mr. E Davies, Dolcaradog, yn mlia un y dywedai fod y Cyngor Sir yn rlioddi grant o 15p. tuag at gario ymlaen gvvrs 0 ddarlitliiau mewn Fferylleg Amaetli- yddol. Hefyd daeth llythyr o Brifyegol Aberystwyth, yn anog' fod pwyllgor yn cael ei nodi i gario hyn allan, yr hyn a wnaed. YSGIUFBNYDD.—Fel y colir, ymddiswydd- odd ysgTifellydd yr arddangosfa yn y pwyllgoi diweddaf. Dydd Mercher diwedd- af, gofynwyd i Mr. Lloyd dderbyn y swydd drachefn, yr hyn a wnaeth, gan addaw grt'aeyd ei orou o blaid yr arddangosfa.
ABERDYFI.
ABERDYFI. DAMWAIX.—Cyfarfyddodd Mr. H. Griffith, gof, a dam wain drwy syrtliio oddiar ei olwynfarch, yn ymyl Pennal. Derbyniodd gryn niwed i'w fraich. SiBitwi).-Sibrydir yma fod y Parch. J. 0. Thomas, gweinidog y Tabernael, M.C., yn debyg o adael y lie, oherwydd ei fod meddir, yn cael cynyg myned i'r Bala, yn gynorthwywr i'r Prifathraw Edwards. DYIICIIAFIAD. Deallwn fod Mr. J. Williams, clerc yn y Telephone Steamship Office, wedi ei ddyrchafu i fod yn oruckwylivvr rkanol, o dan yr un Cwmni yn Bang'or, a bydd yn gadael Aberdyfi ar fyrder. DIHWEST.—Mae y Gymdeithas Ddirwestol yma wedi penderfynu cynal cyfarfod mawr- eddog yma yn mis Medi, ac wedi gwaliodd y Parchn. Caenog Jones, a John Owen, Wyddgrug, i wasanaethu. Mae Cymdeithas y Merched hefyd wedi penderfynu sierhau dwy foneddigea i wasanaethu. Bydd ar- ddangosiad a g'orymdaith fawreddog ynglyn a'r cyfarfodydd. MR. CoitBETT.—Dydd Llun, ymwelodd dirprwyaeth ar ran yr Literary Institute, a Mr. Corbett, i ddiolch iddo am roddi iddynt y verandah, ac i ddangos iddo yr angen mawr sydd yma am Town Hall. Addawodd Mr. Corbett roddi ystyriaeth i hyn, ac y bydd iddo dalu ymweliad ag- Aberdyfi, i edrych pa beth ellir wneyd gyda hyn.
ABERMAW.
ABERMAW. DARLITII. Nos Fawrth, traddodwyd darlith yn nghapel y Presbyteriaid Seisnig, gan y Parch. Alexander Balloch Grossart, D.D., Ll.D., ar ba lyfrau i'w darllen a pha fodd i'w darllan. Gwnaed casg'liad ar y diwedd tuag at drysorfa y capel. Ya YMWELWY-P- raf iawn ydyw dyfod- iad yr ymwelwyr eleni. Cwyno cyffred- inol sydd i'w glywed hyd yn hyn; eto pan gofir gymaint o dai newyddion sydd wedieu hadeiladu yn ddiweddar ar gyfer y dieithr- iaid, credwn fod y nifer rywbeth yn debyg fel arferol. Y mae natur fel pe ar ei goreu yn mho b man yn y cylch 11aw Duw i'w gwel'd yn amlwg, ond yr hyn sydd ar ol yw llaw dyn i gyfarfod ag anghenion yr oes trwy wneyd g-welliantau yn y fan hon ac yn y fan draw.
ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD.
ARHOLIADAU GORSEDD Y BEIRDD. Mae canlyniad arholiadau Gorsedd yr Eisteddfod wedi eu derbyn oddiwrth y beirniaid. Yr ymgeiswyr llwyddianus ydynt Am Radd Barddol: Mri. Ben Bowen (Euros), Treorci David Bowen (Myfyr Hefin), Treorci; J. Moses Davies (Gwilym Fferws), Aberfan, Merthyr Vale; W. Owen (Gwilym Tanet), Salford W. Terry Gwilym Cynlais), Ystradgynlais B. Phillips (Myfyrfab), Felinfoel; W. J. Jones (Glyn Llyfnwy), Penygroes. Am Radd Cerddorol (Pencerdd): Mr. Owen Price (Pencerdd Menai), Upper Bangor. Ofydd Cerddorol Mri. J. Jones (Alawydd Peris), Llanberis; B.James (Glynydd), Newport.
Y CORAU CYMREIO YN Y PALAS…
Y CORAU CYMREIO YN Y PALAS CRISIAL. Dydd Sadwrn, ymgynullodd tua 3,000 o gerddorion o wahanol barthau o Gymru yn y Palas Grisial, lie y buont am tua dwy awr yn dadganu cerddoriaetlx Gymreig, dan arweiniad Dr. Joseph Parry. Rhoddir cryn ganmoliaeth iddynt gan newyddiaduron y Brifddinas,
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. MAKWOLAETII AIRs. ETHE.—Dydd Gwener, bu farw Mrs. Ethe, auwyl briod y Proff. Ethe, Prifysgol Cymru. Cymerwyd hi yn wael oddeutu tair wythnos yn ol, ond gvvellhaodd gryn dipyn, ond y 11 dra sydyn, bu farw fel y nodasom, dydd Gwener di- weddaf. Genedigol o Pomeraua, ydoedd, ond wedi byw drwy ystod ei by wyd priodasol yn Lloegr a Chymru. Yn mis Ionawr diweddaf, yr oedd y Dr. a Mrs. Ethe yn dathlu eu priodas arianaidd. Y It YSGOL SIROL.—Cynlialiwyd cyfarfod o'r rheolwyr lleol, dydd Gwener, Mr. John Evans yn y gadair. Cymeradwywyd talu biliau i'r SWlll 0 27Gp. 3s. lc., ar anogaeth y Finance Committee. Pasiwyd tori yr ysgol i fyny o Gorphenaf 2Gain hyd Medi 7fed, pryd y cynygir saith o ysgoloriaethau 5p. yr un i ymgeiswyr o'r Ysgolion Elfenol yn y dosbartli. Adnowydd wyd ysgoloriaethau i R. D. Edwards, Gorouwy Owen, AV. Trenwith Davies, D. J. de Lloyd, Gwesyn T. Williams, D. Thomas, a G. D. Ellis a bursanes i J. James, a H. H. Evans.
MR. A. E. OWEN-HUMPHREYS,…
MR. A. E. OWEN-HUMPHREYS, ClANSEVERN. Dydd Iau diweddaf, gwnaed arddangos- iadau ar ddyfodiad Mr. Owen-Humphreys, mab yr aelod poblogaidd dros Faldwyn, yn Glansevern. Oafwyd hin ragorol. Daetli ymwelwyr yno yn gynar o wahanol barthau y sir, a chyn diwedd y dydd rhifent rai miloedd. Yr oedd pwyllg-or wedi ei ITLti-fio, gyda Mr. C. E. Howell, Rhiwport, yn gad- eirydd, tuag at gyflwyno auerchiad ac anrhegion i'r boneddwr ieuanc. Cyfrauwyd at yr anrhegion hyn gan 850 o danysgrif wyr. Ymunodd y tenantiaid yu Llangurig a Glansevern gyda pharodrwydd yn yr anrliegiad. Yr oedd yr anerchiad llong-yf- aruhiadol mewn album hardd wedi ei oreuro. Yr oedd yr anrhegion yn gynvvysedig o Six Massive Silver Candlesticks of Corinthian- Columnar design, and a very handsome Silver Salver. Ar y diweddaf yr oedd cyilwyniad certiedio, addas. Gyda hyn, cyllwynodd tenantiaid Glansevern album prydferth, yn cyn wys eu harluniau o-ydag anerchiad. Yr oedd yno awilais celfydd, yn cael ei roddi gan gyfeillion yn Llanfair, ysgrif-bin aur Z5 oy m gan weithwyr yr etifeddiaeth, a rhestr eto 0 anrhegion arbenig gan bersonau unigol. Yu y Pare yr oedd pabell eang- wedi ei chodi, i ddarparu byrbryd (luncheon) ynddi. Daeth oddeutu 600 ynghyd, perth- ynol i bob plaid ac euwad. Llywydd wyd gan Mr. A. C. Humphreys-Owen, A.S., ac ar ddiwedd y wledd, eynygiodd y cadeirydd y llwnc-destynau teyrngarol. Y nil. Cadben Mytton a gynygiodd ieehyd da i Mr. Owen Humphreys mewn araeth hapus,ac yr oedd y gwyddfoddoliou yn cyd-dystio eu teimladau da h wythau i wron y dydd trwy fynych longyfarcliiadau. Atebodd Mr. Owen Humphreys mewn a-aeth briodol. Yna aed yn mlaen gyda llwnc-destynnu eraill i'r tenantiaid, &c. Wedi hyn cyHwynwyd yr anrhegion. Am dri o'r gloch, darparwyd te yn y babell, a daeth nifer luosog i gyfranogi 0 hono. Yn yr hwyr cafwyd cyatadleuaetkau a ckvvareuon dyddorol, y rhai derfynodd weithrediadau y dydd dedwydd kwn.
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. Mater o ddyddordeb mawr fu dan sylw yma oedd pa fodd i ddathlu y Jiwbili. Cofus gan y darllenwyr i berchenog chwarelau Bryn- eglwys g-ynyg rhoi trip i'w holl weithwyr i'r Brifddinas, ac yr oedd y gweithwyr wedi derbyn y cynygiad yn awchus, ac yn meddwl cryn lawer 0 hono, ac wedi gwneyd parotoadau ar gyfer y daith. Wedi rlioddi y cynygiad o flaen y gweithwyr, a chael atebiad, meddyliodd y boneddwr fod ymhlith ei weithwyr lawer na allasent fentro y daith oherwydd afiechyd, henaint, &c ac felly nas gallai gyfarft)d ond i nifer fechan o honynt, a daeth i'r penderfyniad o roddi i bob un sydd yn y gwaith ddau ddi- wrnod yn ychwanegol at gyflog y mis presenol yn hytrach na'u cludo i Lundain. Derbyniwyd y rhodd gyda chymeradwyaeth pawb. ETHOLIAD Y BWRDD YSGOL.-Nos Wener, yn Ysgoldy y Bwrdd, cyfarfu y trethdalwyr i i drafod y mater o ethol aelodau yr uchod. Yr oedd y teimlad wedi codi yn uchel tuag at yr hen Fwrdd oherwydd ei ymddygiad angharedig 2. 41 yn peidio gwahodd y trethdalwyr i wrando eu hadroddiad fel arferol. Daeth nifer dda ynghyd. Nodwyd Mr. H. Roberts i'r gadair. Cafwyd manylion y gweithrediadau gan y clerc. Mr. J. R. Thomas, y prifathraw a ddywedai ei fod ef yn teimlo mai bai mawr yr hen Fwrdd fel ei fiaenoriaid, oedd bod yn rhy lac ar gwestiwn y presenoldeb, a hyny er an- fantais i'r athrawon ac i'r trethdalwyr. Er hyn oil, saif yr ysgol mewn safle mor anrhydeddus fel na raid iddi sefyll arholiad blynyddol mewn trefn i enill grant y llywodraath. Yna aed ymlaen i ethol pum' aelod y Bwrdd. Pasiwyd fod tri o'r hen aelodau i fyned allan, a thri newydd i'w hetliol. Y rhai daflwyd allan oedd Mri. H. Vaughan, Caerberllan. E. Evans, Rhiwerfa, a J. Evans, Gwastadfryn. Newydd, Mri. G- Griffiths, Llanegryn Street, D. Hiii-nplireys, Water Street, ac O. Edwards, Shop Nis gwn a saif hyn.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. LLYS YNADOL.—Dydd Mawrtli, o flaen yr ynadon, cyliuddai vr- heddgeidwaid, Walter Morrison, 0 dderbyn arian gan' bobl yn y Marian heb roddi eu gwerth yn ol. Yr oedd yr heddgeidwaid Owen a Breeze yn dweyd fod pobl yn rhoddi arian am gael ceisio taflu pethau i lawr, ac os llwyddent caent dair ceiniog, onide ni ekaent ddim. Dirwywyd ef i 5s. a'r costau. Tynwyd yn ol gyliuddiad cyffelyb yn erbyn bach gen. deuddeg oed o'r enw James Williams. Cauiatawyd oedi achos o ymosodiad a ddygid gan H. Hughes, yn erbyn R. Richards, Penlan. Gohiriwyd g'wrandaw cyhuddiad o feddwdod yn erbyn Thomas Evans hyd y llys nesaf. Dirwywyd R. H. Parry i 10s. a'r costau; Giiffltb Williams, English Terrace, i Is.
CORRIS.
CORRIS. SYMTJDIAD.—Y mae y Parch. E. Isaac, 'do,, gweinidog Wesleyaidd, yn ymadael o Dy Ddewi am Oorris, a Mr. Hughes, gweinidog presenol Corris, yn symud i Dy Ddewi. Bu mam Mr. Isaac farw yn ddiweddar, yn dra sydyn yn Talybont, Sir Aberteifi. LLWYBDIANT.—Da genym ddeall fod Mr. Nicholls Roberts, o'r lie yma, yr hwn sydd yn efrydydd yn ngholeg Aberystwyth, wedi pasio yn llwyddianus yr ail arholiad am radd Prifysgol Cymru, mewn adran Gwydd- oniaeth. CYNGERUD. Nos Fawrth diweddaf, rhoddodd y Graig Juvenile Citoir Mach- ynlleth, berfformiad rhagorol o Night of Wonders,' dan arweiniad Mr. H. Lloyd Jones, yn cael eu cynorthwyo gan Misses M. Lumley a Sophia Lewis, Mri. John Lewis, John Lumley, D. Price, ao Edward Lewis, ynghyd a String Band. Cafwyd cyngerdd rhagorol, a hyderwn y gwnaed elw da oddiwrtho. Cynhelid ef dan nawdd yr Annibynwyr.
YN PARHAU.
YN PARHAU. Mae llawer o bethau yn talu ymweliad a'n gwlad ag y gellir dywedyd am danynt megis ag y dywedir am gicaion Jonah, Mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu.' Ond y mae pethau eraill yn ymweled a'n gwlad, ac yn aros ynddi yn hir, a'u dylanwad yn aros yn hwy. Dydd y Jiwbili! Ie, dydd hynotaf y flwyddyn hon ond dydd a ddarfu fel y dyddiau eraill. Ond dydd ag y mae ei ddylanwad yn parhau hyd heddyw, a diau y pery am ddyddiau lawer, os nad am flynyddoedd maith, Hawdd oedd gweled yn Nghorris dydd Iau diweddaf fod dylanwad dydd y Jiwbiii yn parhau yn y lie, canys ar y dydd hwnw er cot am y Jiwbili, y rhoddodd Mr. a Mrs. W. Jones, Mount Pleasant, knife and fork tea o'r fatli ragoraf i wragedd gweddwun Rehoboth (M.C.) Ymgymerwyd a darparu yr arlwy, yr hon oedd yn gynwysedig o wahanol gigoedd, blanc- mange, jellies, pastries, a llawer o bethau eraill nad oes genyf enwau i'w rhoddi arnynt, gan Mrs. Griffiths, Bridge Street, yr hon yn ol ei harfer oedd yn hynod o siriol a chynhesol tuag at y gwahoddedigion. Cyuorthwyid Mrs. Griffiths i wasanaethu wrth y byrddau gan Mrs. Owen, Gwynfryn, a Miss Sophia Lewis. Eisteddodd wrth y byrddau gyniter a dwy ar bymtheg o wragedd gweddwon, ynghyd a'r Parch. J. a Mrs. Roberts, Mrs. W. Jones, Mount Pleasant, a Mr. Thomas, Chemist. Wedi gorphen gwledda, cafwyd anerchiad gorphenedig gan Mrs. Mary Hughes, Idris Street, ar De fel moddion i gynyrchu ysbryd- iaeth.' Wedi hyny, cynygiwyd diolchgarwch i Mr. a Mrs. Jones am eu caredigrwydd, gan y Parch. J. Roberts, yr hwn a roddodd anerch- iad ar Ddylanwad y Jiwbili.' Cefnogwyd gan Mr. Thomas, yr hwn a roddodd anerchiad ar Fanttision cyfeillgarwch.' Cydnabyddwyd y diolchgarwch gan Mrs. Jones. Yna diolch- wyd i Mrs. Griffiths am ei llafur yn parotoi y fath arlwy. Drachefn, cafwyd anerchiadau gan Mrs. Owen, Gwynfryn, ac amryw eraill. Treuliwyd prydnawn hynod ddifyr, ac ymwa- hanai pawb ar y diwedd gan ddywedyd yn eu hysbryd a'u hosgo 0 estyn eto i barhau.'
doljtlnautljau.
doljtlnautljau. SEINDORF BRES CORRIS. Syr,—Caniatewch i mi ofod bychan o'ch papyr clodwiw, i ddatgan fy llawenydd, fod cynrychiolwyr yr ardal yn ymsymud 8f talu am yr offerynau pres a brynasant dros yr ardalwyr. Gwelaf eu bod wedi anfon cylch-lythyr i bob ty i erfyn am gynorthwy, ac fod y Band wedi bod yn Corris Uchaf un noswaith yn chwareu, a chasglwyr yn myned o'r naill dy i'r llall i gasglu. Da, mor belled ag y mae yn myned ond caniataed y pwyllgor i mi awgrymu mewn ysbryd brawdol, nad ydyw y cylch-lythyr, a myned allan unwaith neu ddwy fel hyn i gasglu, ond haner y gwaith. Dyma bedair blynedd wedi pasio er pan brynwyd yr ofiferynau, ac y codwyd arian ar log i dalu am danynt. Ac mor bell ag yr wyf yn gwybod, nid oes dim wedi eu talu o'r rhan oedd yn syrthio arnynt fel pwyllgor i dalu, ond myned i fwy 0 ddyled o hyd, am fod y Ilogau yn cynyddu. Goddefed y pwyllgor i mi awgrymu iddynt y priodoldeb i 11 u o honynt anfon trwy y NEG- ESYDD, i egluro y sefyllfa mae y Band ynddo. Gwn fod yn yr ardal lawer o honom yn credu mai mantais bersonol sydd gan y Band wrth fyned allan i gasglu arian, a rhai yn ddigon dibris i lefaru ^eiriau caledion am danynt, a phriodoli gau amcanion iddynt, pryd mewn gwirionedd nad ydyw yn elw personol i un 0 honynt o gwbl, ond yn hytrach ynaberth mawr. Os nad wyf yn camgymeryd yr oedd teimlad yr ardal yn fyw iawn chwe' blynedd yn ol i gael meddiant o'r offerynau, rhag i'r Band tyned yn chwilfriw a dewiswyd pwyllgor o ddynion teilwng a chymeradwy i gario yr amcan allan. Ac wedi iddynt gael meddiant o'r offerynau, a'u harchwilio, maent hwy ac aelodau y Band yn d'od i'r penderfyniad fed yn rhaid cael offerynau newyddion, os oedd y Band i sefyll cystadleuaeth a Bandiau eraill y wlad ac felly maent yn pwrcasu offerynau newyddion gwerth rhyw 12op. ar ol tynu allan y discount, a'r rhai hyn oll i fod yn feddiant i'r ardal. Ac os felly, yr ardal ddylai dalu am danynt. Ond yr wyf yn deall fod aelodau y Band eu hunain 0 dan yr amgylchiadau yna, wedi ymgymeryd a thalu rhai degau o bunoedd eu hunain, o'r hyn a enillant trwy wasanaethu gwahanol gymdeithasau, a'r hyn a allent gasglu tu allan i gylch yr ardal. Ac eto, dyma bedair blynedd wedi pasio heb i'r pwyllgor wneyd dim bron. Oni ellir trefnu rhyw foddion i glirio hyn ddyled, o hyu dyweder i fis Mai nesaf, rhyw gynllun fyddai yn foddion i gadw y pwyllgor mewn gwaith, a chael golwg barhaus ar y ddyled; ac hefyd i gadw y Band mewn ymarferiad parhaus hyd hyny beth bynag. Pe gwybyddwn na wnai y pwyllgor fy ystyried yn ymhonwr, buaswn yn awgrymu fod gwir angen ar y Band am le i lie na raid iddynt symud i bawb a phobpeth. Disgwyliaf weled rhyw air yn y NEGESYDD gan un o'r pwyllgor er egluro yr holl fater.-Ydwyf, yr aiddoch yn gywir,—DjPYMUS,
Advertising
DARLLENWCH. COFiWCII, YiSTYlUWOH. BITTERS GWILYM EVANS. Meddyginiaeth oreu yr oes. AT DDIFFYG TREULIAD, DOLURIAU YR AFU, GWENDIDAU GIEUOL. A phob math o WEN DID. Defnyddir Quinine Bitters Gwilym Evans gan gleifiou yn mhob gwdad sydd yu dioddef oddiwrth Nychdod, Gwendid, a Llesgedd. Y mae yn rhoddi Nerth i'r gwan, Iechyd i'r claf, Mwynhad bywyd 1 bawb. Tystiolaeth Bwysig. Llysawen, Rhyl, E brill 17eg, 1895. DITfYG TREULIAD. Auwyl Syr,-Blinid ii yn dost gan y Bite a IJifly- Trouliad, ac anogwyd fi i roddi prawf ar eieli cyfieri cliwi-Quinine Bitters a Digestive Pearls, ac y mae yn dda genyf allu tystio i'r lies mawr a gefais o'u defnyddio. Cymerais amryw boteli 4s. 6c. o'r Bitters, ac yr wyf yn penderfynu cadw potelaid e liono wrtk law bob amser, a cliyiueryd dogn dyddiol awr cyn boreu- fwyd. Aeth y cur o fy mhen, a'r neuralgia a'r gymalwst, a gelynioll eraill ar ifo a gobeithio na wnant byth ddycliwelyd. Cefais lwyr yruwared o'r Mile a'r Diffyg Treuliad, acy mae y Quinine Bitters wedi cryfhau fy ystuinog, puro fy ngwaed, a sirioli fy ysbryd. Yr wyf wedi oi argyinoil i liaws sydd yu awr yu rlioddi canmoliaetk uchel iddo fel meddyginiaeth effeitkiol at walianol ankwylderau. Wyf, Syr, yr eiddocli yn ddiolchgar, JAMES DAVIES (lago Tegeingl). BITTERS GWILYM EVANS, Iéir GWYLIWCH Gochelwch Dwyllwyr. Edrychwcn fod enw crwilym Evans ar bob label, stamp, a pliotel. Gwertliir liwyiit lllCWll poteii iB. Uc., Hie, 6C. yr un; Biyeliau yn cynwys tair potel 46. 6c. am 12,3. tic. I'w caci yn mhob man, neu daufollir h wy yn rhad am y pritiiau ucliod yn ddyogel drwy y pust oddiwrth y perelieiiogiuu,- QUININE BITTERS MAHUFAGTUitINQ COMPANY LIMITED, LLANELLY, SOUTH WALES. GORUCIIWYLINYli YN AMERICA— Mr. R. D. WILLIAMS, Plymouth, Penn. ARDDANGOSFA FAWR AT YR HAF. -0:- ■ •JVIae RICHARD REES, Paris House,' MACHYNLLETH, Wedi pryiiu Stock ysblenydd o bob math o Nwyddau Drapery at yr HAF, y rhai a ddangosir yr WYTHNOS HON. CHEAP PRINTING AT "NEGESYDD" OFFICE! CORRIS, R.S.O.