Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
-----@emion 12r Al-Ocil.
@emion 12r Al-Ocil. NADOLIG DU 1899. GAS ANNA GLAN BANON. Mae enwog gan Nadolig gynt Eleui heb ei nwyn, Tauguefedd ac ewyllys da Oedd can yr engyl mwyn Ond heddyw swn magnelau dur Sy'n gwneyd ein bron yn drist, Gruddfana'r milwyr yn eu gwaed Ar ddydd Nadolig Crist. Na chadwn wyl Nadolig fad Yn Nghymru'r flwyddyn hon, Pwy sydd mewn hw 1 i gadw gwyl 'Rol Iladd ein becligyn lion Na, gwisgwn alarwisgoedd du Cwynfanwn alarnad Ar ol y bechgyn na dd'ont mwy Ily Byth, byth yn ol i'w gwlad Mae cri y gweddwon am eu gwyr A'r rnamau am eu plant, A chri y ph-iit am dadau hoff Yn adsain bryn a pbant. Mae gvv edd yn d'od o Affric draw, Clywch sain wylofain trist, Mae Hahel yn wylo yn ddi-daw Ar ddydd Nadolig Crist. Na chadwn wledd Nadolig gu, Eleni yn ein tai, Na gwahodd eiu cyfeillion lu, U'n cylch i lawenliau; Rhown heibio wledd, a dawns, a chan, A phob chwareuon gwag; Cyhoeddwn ddydd o ympryd dwys, Trwy Gymru yn ddinag. Dydd du fydd y Nadolig hwn I filoedd yn ein gwlad, Dydd dolef dwys, dydd liiraeth trwm Ar ol perth'nasau mad; Trueni fod y rhyfel erch Yn gwneyd calonau'n drist, Pan ddylai pawb ymlawenhau Ar ddydd Nadolig Crist.
TRYSORFA Y JINGOAID.
TRYSORFA Y JINGOAID. Bu dadl frwd yn Ninbych am ddwy noswaith yn ddiweddar ar gwestiwn y rhyfel, a gwnaed casgliad ar ddiwedd y cyfarfod olaf, pryd y derbyniwyd tuag at drysorfa teuluoedd y milwyr, y swm o un swllt ar ddeg. Y rheswm a roddid dros fod y casgliad braidd yn fychan ydoedd y dylai Swyddfa Rhyfel, neu yn hytrach y Llyw- odraeth, ddodi ei hun tan gyfraith yr lawn i Weithwyr" fel pob meistri eraill. Pan ddi- gwyddo i weithiwr golli aelod, neu ei fywyd, gorfodir y meistr i roddi iawn am y golled Ydyw Llywodraeth uwchlaw ei chyfreithiau ? Mae llawer i'w ddweyd tros ac yn erbyn y don o haelioni sydd wedi ymdaenu tros y wlad yma tuag at drysorfa y rhyfel, oblegid dyna mewn gwirionedd ydyw. Ardderchog ydyw elusen, ond ni ddylai y rhai sydd yn cael eu hanfon i ymladd brwydrau gwlad fod yn ddeiliaid elusen ac ewyllys da. Haeddant eu talu yn anrhydeddus fel y telir i weision eraill y wlad- wriaeth. Y sawl alwodd y ddawns ddylai dalu i'r ffidler. Os gwyr rhywun sawl cant neu fil mae aelodau'r Llywodraeth a'n bwngleriodd i ryfel wedi gyfranu ac yn enwedig beth ydyw cyfraniad Mr. Chamberlain.
SEFYLLFA IECHYDOL MEIRION.
SEFYLLFA IECHYDOL MEIRION. Cyflwynwyd i'r Cyngor Sirol adroddiad y pwyllgor iechydol gan Dr. C. Williams, o ba un y mae yr hyn a ganlyn :—Sylwai yr adrodd- iad ar yr hyn a ddywedai Dr. Richard ]ones, Ffestiniog, ynghylch tai gwlybion, ac ynddynt ddiffyg awyriad, a dywedent fod hyn yn sicr yn cynyddu afiechydon y galon. Dylid ar unwaith yrngymeryd a gwella tai y dosbarth gweithiol. Yr oedd yn dda ganddynt ddeallfod gwelliantau yn barod wedi eu cario allan yn Nolgellau ac yn Ffestiniog, a lleodd eraill Cafodd y pwyllgor ar ddeall fod dilynwyr Syr William Roberts wedi penderfynu cario allan ei addewid ef i adeiladu gwell tai i denantiaid Llany- mawddwy, a chymeradwyent fod y gofal mwyaf yn cael ei gymeryd fod tai newyddion yn cael eu hadeiladu yn y fath fodd fel na dderbynid cvvynion eu bod yn w!yb, nac yn dioddef oherwydd diffyg awyr. Cymeradwyid, hefyd, well darpariaeth ar gyfer gofalu am laethdai er bicihau na ledaenid darfodedigaeth, a llawen- ychai y pwyllgor fod Cyngor Gwledig Dolgellau wedi cymeryd y mater yma dan sylw. Byddai yn dda pe gwnai pob cyngor yn y sir yr un petli. Y oedd gwelliant amlwg i'w weled yn nghyflenwad dwfr yr holl ardaloedd oddigerth Minffordd. Wedi rhoddi yr ystyriaeth fanylaf i awgrymiadau Dr Hugh Jones a Dr. Morris, Mallwyd, cymeradwyai y pwyllgor fod mater iechyd i gael ei ddysgu yn yr ysgolion nos, er goleuo y to oedd yn codi, a galw svlw rhieni at yr angenrheidrwydd o ddysgu egwyddorion iechyd i'r plant.-Ar gynygiad Dr. Edward, Jones, yn cael ei eilio gan Mr. Kirkby, pender- fynwyd argraphu yr adroddiad yn Nghymraeg g Saesneg, a'i ddosbarthu yn y sir.
AMRYWION.
AMRYWION. Hysbysir ddarfod i unig fab y Prif Gad- lywydd newydd, Arglwydd Roberts, gael ei ladd yn mrwydr Golenso. Mae ar gyfandir Ewrob reilffyrdd hirion er engraifft y rheilffordd o Paris i Gaer- cystenyn yn Twrci. Teithir yr holl ffordd, 1,921 mewn 64t o oriau. Cynygiwyd bywoliaeth Llanfihangel-yn- Ngwynfa i'r Parch. J. R. Roberts, rheithor Garthbeibio, a mab ieuangaf y diweddar Elis Wyu o Wyrfai. Hysbysir am farwolaeth un o wyr cy- hoeddus mwyaf adnabyddus Morganwg, sef Mr. J. C. Fowler, ynad cyllogedig Abeitawe am 28 mlynedd, ac ynad Merthyr ac Abordai, am 20 mlynedd cyn hyny. Mae y Parch. R. W. Jones, Towyn, a Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., newydd gyfansoddi can. Ei phenawd ydyw Llais y Nef at Gymru Fydd.' Mr. Jones ysgrifenodd y geiriau a'r alaw; Mr. Rees a'i trefnodd. Mewn rhaglen Oyngerdd Americaniadd yn ddiweddar, yr oedd y rhybudd a ganlyn —' Ladies will please remove their hats.' Onid doeth fuasai mabwysiadu rhywbeth tebyg yn ein cyngheiddau ni ? Mae y Postfeistr Cyff redinol wedi addaw ystyried a ydyw yn bosibl, ar derfyniad cyt- undeb Prydain a Ffrainc yn Mawrth nesaf, i ostwng y telerau pellebrol rhwng y wlad hon a Frainc i geiniog y gair. Deallir fod Frainc yn ffafr y gostyngiad. Codir gwrthwynebiad cryf i waith pwyll- gor Llyfrfa y M.C. yn Nghaernarfon, yn soddi 2,000p. yr enillion o'u Llyfrfa mewn consols. Mae rhybudd gerbron y pwyllgor i werthu y consols, a rhanu yr arian rhwng y ddwy Gymdeithasfa. Yn ddiweddar, bu farw Mr. John Gretton, un o'r partneriaid yn ngwmni Bass y dar- llawyr o Burton, yn werth tua thair miliwn o bunau. Ni adawodd geiniog yn ei ewyllys tuag at unrhyw sefydliad dyngarol na ehrefyddol! Dydd Llun, rhoed gradd fygedol i Mr. Chamberlain, yn Mhrifysgol Dublin. Yr oedd pwyllgor o Wyddelod sy'n cydymdeimlo a'r Transvaal wedi galw cyfarfod dydd Sul, ond gwaharddwyd ef gan awdurdodau Castell Dublin. Dyma y Nadolig a'r Calan yn ein hymyl, a dylai yr elusengar a'r hael eleni gyfranu hyd eithaf eu gallu tuag at yr achosion sydd yn galw arnynt yr amser hwn o'r flwyddyn. Y mae lie i ofni y teimla tlodion yn ddirfawr y flwyddyn hon oddiwrth elusenau newydd- ion a fu yn apelio at y cyhoedd yn ystod y wythnosau diweddaf ynglyn a'r rhyfel. Adrodda gohebydd Bwrdd Masnach, am waith yn Ngogledd Oymru fel hyn :—Yn y mwnau, da; yn y fasnach adeiladu, gweddol; yn y fasnach beirianol yn Rhiwabon, tawel; yn Cefn, ac mewn manau eraill, da; yn y fasnach dillad mae'r ffactris brethyn a gwlaneni mewn gwaith cyson, a'r teilwriaid mewn gwaith pur dda. Mae y Llysgenad Chineaidd ar ymweliad a'r wlad hon, er gwneyd taith trwy ganol- fanau masnachol a gweithfaol y wlad hon, gyda'r amcan o hyrwyddo masnach yn China, a chyrhaeddodd i Lerpwl dydd Iau. Croesawyd ef gan yr Arglwydd Faer, a thalodd ei Uchelder ymweliad a'r gyfnewidfa, lie y derbyniwyd ef gan 3,000 o fasnachwyr. Yn yr hwyr, cynhaliwyd gwledd gyhoeddus i'w roesawu. Dywed gohebydd :—Yn rhai o'r newydd- iaduron yn ddiweddar, gadewid argraph ar y darllenwyr, fod y prif fardd Dyfed yn anti-Boer, ac yn lladd ar y gwan ar hyd y wlad. Teg ydyw hysbysu mai camgymeriad dybryd ydyw. Fuasai neb yn tybied hyny pe clywai ef yn dadleu a rhai o'r Jingoaid yma. Buasai yn werth i chwi ddyfod yr holl ffordd i Gaerdydd i weled Dyfed ambell ddiwrnod yn ffraeo benben a rhai o hil John Bull. Y mae ei gydymdeimlad a heddwch, a chreda ei fod yn cael cam arswydus. Nis gwn am un bardd Cymreig a'i gydymdeimlad yn walianol. Hyd y gallaf ganfod y maent yn unfain ar y pwnc. Os am rigymau rhy- felgar, gwaedlyd, rhaid croesi clawdd Offa. ond beirdd hedd yw ein beirdd ni. Diau fod cariad greddfol y Cymry at ryddid yn cyfrif i raddau am hyny, heblaw yr ymdeimlad dwfn i'n tadau mnau golli lawer o waed o herwydd eu oaiiad a'u hymlyniad at eu gwlad,
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. COR Y GP.IIG.-Mae y cor uchod ar hyn o bryd yn llawn prysurdeb yn parotoi ei liuu gogyfer ag Eisteddfod Gadeiriol Meirion, a gynhehr yn Dolgellau, dydd Calan nesaf. Bwriada y cor gystadlu ar y prif ar ail ddarn. Hyderwn y llwyddant yn eu hymgais. YCIIWANKG o OLEUNI.—Yn y Cyngor Trefol diweddaf. pasiwyd gosod lamp yohwanegol i p C, fyny ar y ffordd i gyfeiriad Drefnewydd. ZIY Yr oedd ceisiadau am lampau chwanegol mewn manau eraill, a chyflwynwyd hyn i ystyriaeth pwyllgor yr heolydd. MARWOLAETH.—Nos Lun, bu farw Mrs. Williams, gweddw y diweddar Mr. T. Williams, gyriedydd. Yr oedd yr ymadaw- edig yn fawr ei pharch yn y dref. Yr oedd yn 62 mlwydd oed. Gadawa ar ei hoi dri o blant i alaru eu colled. ANKHEGIAD.—Prydnawn Sabbath cyflwyn- wyd anrlieg o Feibl hardd i'r hynafgwr parchus, Mr. David Jones, Aberllefenny Offices, gan ddeiliaid Ysgol Sul Maengwyu. Gwnaed yr anrhegiad ar ran yr Ysgol gan Mr. Harry Lewis, yr arolygydd. Mae Mr. Jones wedi bod yn athraw yn yr Ysgol am 62 o flynyddau, ac yn ddiacon yr eglwys am 50 mlynedd. Siaradwyd yn barchus a chanmoliiiethus am lafur diflLin Mr. Jones yn 'y cysylltiadau uchod, gan Mri. R. Owen, William M. Jones, Hugh Davies, a John Jones. Diolchodd yntau yn wresog am y rhodd a'r sylwadau caredig. CoiFio'R TLODION.-YN unol a'i haelfryd- edd arferol, rhanodd yr Ardalyddes Lon- donderry, yr wythnos ddiweddaf, wlaneni i dlodion Machynlleth, Derwenlas, Uwchy- gareg, &c. Hefyd cafodd tlodion y tlotdy wedd o de, a lluaws o anrhegion ganddi.
BWRDD YSGOL TALYLLYN.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Nos Fawrth, Rhagfyr l2fed. Presenol, Mri. Rhys Owen, Richard Owen, J. Lewis, H. Jones, D. Roberts, a D. Ifor Jones, cleic. Hysbyswyd fod Ysgol Corris wedi ei hagor, ond mai teneu oedd y cynulliadau hyd yn hyn.—Ymwelodd Arholydd ei Mawrhydi a dwy o'r ysgolion nos yn ystod y mis, ac aw- grymodd rai gwelliantau angenxheidiol, a threfnwyd i'w cario allan.—Pasiwyd i beidio rhoddi ond y Nadolig a'r Calan yn holidays i Ysgol Corris.—Caniatawyd wythnos y Calan yn He wythnos y Nadolig i Ysgol Ty'ny- bertli, os bydd hyny yn foddhaol ,i'r oil o'r staff.—Caniatawyd benthyg yr ysgoldy i Seindorf Aberllefenni i gynal cyngerdd.— Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr. Dafydd Rhys Jones, Bronygan, yn wyneb ei brofedigaeth o golli ei anwyl dad.Trefnwyd i dalu y cyflogau nos Wener, Rhagfyr 22ain, am 7 o'r gloch.
TALYBONT.
TALYBONT. DIRWEST. Cynhaliwyd cyfarfod gan Gymdeithas Ddirwestol y Marched, nos Fercher, dan lywyddiaeth Mrs. Evans. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf o eiddo y merched; a mawr hyderwn ei fod yn arddangosiad o'r hyn a fwriadant wneyd yn y dyfodol. Yr oedd y cynulliad yn lluosog a'r gweithred- iadau yn frwdfrydig. Darllenodd Mrs. Evans, y llywyddes, bapyr llafurfawr ar ddirwest; a chaed papyr cyffelyb ar lwyr- ymwrthodiad gan Mrs. M. J. Jenkins, a'r pwysigrwydd o gadw yr ymrwymiad. Cym- erwyd rhan hefyd gan Mrs. Jones, Elgar House; Misses A. James, M. J. Jones, a J. Hughes.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. APWYNTIAD. Mae Miss, Emile Evans, Great Darkgate Street, wedi cael ei hap- wyntio yn Sister' i'r Army Service Nursing Reserve gan y Dywysoges Christian. Chwaer yw Miss Evans, i Mr. J. L. Evans, Architect. ADDYSGOL.-Mewn arholiad yn Rhydych- ain, yn ddiweddar, enillwyd ysgoloriaeth glasurol o 80p. gan Mr. G. A. T. Evans, Aberystwyth.
CEMMES.
CEMMES. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.^—Cynlialiwyd cyfarfod yr uchod nos Fercher, pryd y cafwyd papyr galluog ar Buddioldeb Darllen' gan Mr. J. Edwards, Rhydygwiail. Cafwyd sylwadau ar gynwysiad y papyr gan y Mri. W. Evans, Cemmes H. Humphreys, Fachuchaf; S. Breese, Rhydygwiail; a'r Parch. J. 0. Jones. Cafwyd caneuon gan Miss Foulkes, Cwmllune, Miss Burton, Cemmes Road, a Mr. Thomas Jones, Caecyno; cyfeiliwyd gan Mr. D. B. Evans. Teimlad pawb oedd ein bod wedi cael cyfarfod rhag- orol. Ymwahanwyd trwy i Mr. S. Breese, I ganu Hen wlad fy nhadau,' a'r gynulleidfa yn uno yn y gydgan. Gan mai cyfarfod cystadleuol ydyw yr un a gynhelir nos Wener, Rhagfyr 29ain, fe ddymunir dweyd with y rhai sydd yn dysgu y don' 'Llanbrynmair,' mai y geiriau cysylltiedig a'r don yn Caniedydd sydd i'w canu, ac nid! fel yr hysbyswyd yn y tafleni. Nid oes dim cyfnewidiad arall; ac ni fwriedir codi dim ond pedair a dwy geiniog am fyned i mewn. i-R/WJ., Ysg.
NEWYDDION DA AR DDYOn NADOLIG.
NEWYDDION DA AR DDYOn NADOLIG. Ar lethr y mynydd mewn cilfach gysgodol yn cael ei dywyllu gan graig fawr oedd yn ymwthio illan fel pen glin y mynydd oddiarno—dyma He y safai Ty'nllechwedd, cartref John ac Eliza Hughes. Yn y lie anghyfleus hwn y I-azied tad John, a dyma He y ganed yntau, ac y magwyd tyaid o blant; yma y bu yn mwynhau ei freuddwydion nosawl am dri ugain a phump o flynyddau, ac yn ol pob arwyddion, yma, rhwng muriau trwchus isel, cadarn, y byddai iddo dynu ei anadl ddiweddaf. Treuliodd John ei fywyd o fewn blwyddyn mewn oferedd. Y syndod yw na bae y llwybr cul, diganliaw, ar y rhiw serth arweiniai i'w gartref, wedi bod yn rhy gyfyng i'w ymdaith anwastad pan y deuai ar hyd-ddo ar nos- weithiau tywyll y gauaf, ac yr oedd y ffawd ffafriol gafodd John gymaint o weithiau tra yn ei gyflwr anffodus, wedi cryfhau ffydd ei wraig yn y rhagluniaeth neillduol hono sydd yn gofalu am blant bach a meddwon pan mewn peryglon. Er ei bod yn bryderus iawn am ei ddiogelwch ar adegau o'r fath, yn mlynyddau cyntaf ei bywyd priodasol, ac yn gofalu am y ganwyll yn y ffenestr wynebai i gyfeiriad y llwybr, ac yn rhedeg i'w gyfarfod i'w gyn- orthwyo Fodd bynag, bu ei ysbryd anniolchgar a'i sarugrwydd am yr arwyddion lleiaf o'i phryder, ynghyd a'r ffaith ei fod yn cyraedd y ty bob tro yn ddianaf, yn foddion i wasgaru ei hofnau er's blynyddau. Modd bynag, meddwodd John un waith yn ormod i barhad ei diogelwch ar nos Sadwrn cyn y Nadolig. Bu yn y pentref gyda'i ffrindiau yn yfed Ilechyd Da a Nadolig Llawen er yn gynar y prydnawn hyd amser cau. Cyn iddo fyned i awyr oer y nos, cafodd lasiad o chwisgi wedi ei gynhesu fel anrheg Nadolig gan y tafarnwr. Arhosodd Eliza yn hwyr y noion hono yn disgwyl am y meddwyn i dori ar ei hunigrwydd. Tarawodd yr hen gloc un-ar- ddeg, yna rhoddai hithau ganwyll arall yn y ffenestr, tarawodd y cloc ddeuddeg. Yna cododd y wraig druan, ac wedi taflu ei shawl drosti, aeth i lawr y llwybr—clywodd ruddfan, rhedodd i'r fan, ac er ei dychryn cafodd John yn gorwedd yn anymwybodol, ac yn llawn archollion. Nid oedd na chymydog na gelyn daearol o fewn cyraedd galw. Chwyddodd calon Eliza yn ei mynwes Ymaflodd gyda nerth annaturiol yn ei pliriod, a chyda camrau byr, araf, ond penderfynol, cariodd y goflaid drom, swrth, i'r ty. Rhoddcdd ef i orwedd o flaen y tan, golchodd ei wyneb, ymgeleddodd ef, diosgodd ei ddillad, a threfnodd wely iddo mor esmwyth ag y gallai ger y tan. Bu yn effro yn ei wylio trwy'r nos. Canodd cloch y Llan yn y tywyllwch boreuol, aeth y llanciau a'u cariadau i'r blygain, ac hefyd ami i henafgwr ar bwys ei ffon. Pan dorodd y wawr, yr oedd canoedd yn y plwyf fel pe yn ehedeg ar edyn llawenydd. Yr oedd meibion wedi d'od adref o'r Deheudir, a merched o Lundain, ac ambell lencyn nad oedd ond ychydig fisoedd er pan aeth i'r South, eto, mor ddwfn yn ei dafodiaeth a phe wedi bod yn ei siarad erioed, gyda'i 'nawr,' a'i disgwl/ a'i gwpla.' Yr oedd y plant yn eu dillad newyddion, y mamau a'u galluoedd cogyddol ar ei heithaf, y tadau a'r llanciau yn myned i'r cyfatfod mawr, y llythyr-gludydd yntau yn cario llythyrau a pharseli; ond yr un llythyr caredig, carden dlos, nag anrheg i Ty'nllechwedd. Nid oedd yno wydd na phwdin wedi eu darparu, ac at yr oil, John yn ei boenau arteithiol. Y fath Nadolig prudd oedd hwn i'r teulu yn y fangre Pa le yr oedd yr wyth plentyn fagwyd yn dyner gan fam ofalus ? Gorweddai pedwar yn mynwent y Llan, un ferch yn briod, ac yn byw yn America merch arall yn gwas- anaethu yn Llundain er's pum' mlynedd, ac heb dd'od adref unwaith, ei thad wedi ei rhegi a'i dychryn i ffwrdd John, y plentyn ieuangaf, bachgen ei fam, a'r bachgen drwg, er's dwy flynedd wedi ffoi i Ddeheudir Cymru, rhag herwhela William, yr hynaf o'r plant, yn Neheudir Affrica yn y gweithfeydd aur er's deng mlynedd. Galwyd y meddyg at John, a darganfyddwyd fod asgwrn y meingefn wedi ei dori, ac er y gallai fyw am flwyddyn neu ychwaneg, eto, nid oedd obaith iddo godi o'i wely byth mwy, chwaethach d'od i wneyd diwrnod o waith. Diwrnod tywyll oedd hwn yn Ty'nllechwedd, a chymylau y dyfodol yn ymddangos yn fwy caddugol fyth. Aeth mis ar ol mis heibio heb air oddiwrth un o'r plant, ac er y ceid peth help gan y plwyf, ac o'r clwb, yr oedd y gofyn- ion yn fwy na'r derbyniadau, ac elent yn ddyfnach, ddyfnach, i ddyled. Er fod y siopwr yn ddyn pur garedig, yr oedd ganddo ei amgylchiadau a'i deulu i ofalu am danynt, ac fel y cerddai amser elai yn fwy anesmwyth o hyd. O'r diwedd, dywedodd wrth Eliza pan ar ym- weliad a'i phriod, y byddai raid iddo ef gael rhywun yn gyfrifol cyn y gallai roddi chwaneg ar drust. Ac oni bai am haelioni ei gymyd- ogion, a'r hyn sydd yn well na phobpeth arall, gofal caredig y gweinidog am danynt, a'r newyddion da a ddygai am Waredwr byd, buasent mewn cyflwr hollol anobeithiol. Daeth Nadolig arall, ac yr oedd John yn wanach nag arfer, awgrymodd y meddyg fod yna gyfnewidiad er gwaeth er's rhai dyddiau. Pan glywodd Eliza hyn, ymollyngodd i wylo, ac nis gallai ddweyd gair. Ar yr adeg yma eymerodd digwyddiadau le a arweiniodd i daflu pelydriad ar sefyllfa gyfyng y teulu. Yr oedd y gweinidog heblaw fsi ymweliadau siriolj a gollwng ambell i swllt yn liaw Eliza, wedi llwyddo i gael cvfeiriad. y ddwy fetch, a'r mab yn y South, ac wedi egiuro yr amgylchiadau yn llawn. Anfonodd iythyraranturatWiHIam i Ddeheudir Aftrica, ac er mai trwy ddirgel ffyrdd mae'r Arglwydd Tor yn dwyn ei waith i ben,' eto y mae yn ei ddwyn i ben er hyny, fel y ceir gweled eto. Yr oedd crefydd a synwyr da Eliza, wedi ei chadw, er pan gyfarfvddorM John a'r ddamwain, rhag colli llywodraeth ar ei theim- ladau, ond o'r diwedd, un noson ymollyngodd i siarad I John' meddai, a'i llais yn crynu, yr wyf fi bron a thori nghalon, ac arnoch chi mae'r bai i gyd.' Lleithiodd dwy arlais y claf, edrychodd trwy leni dagrau ar yr hon oedd wedi gofalu mor dyner am dano, ac wedi derbyn cymaint o gam oddiar ei law yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, gollyngodd ochenaid drom, a dy. wedodd yn araf a gofidus. Eithaf gwir, Eliza, gwir bob gair,' ond-a gydag ymdrech neillduol llwyddodd i godi fel ag i bwyso ar ei benelin, y mae Duw wedi maddeu i mi, wnewch chi ddim Eliza? 1 0 ngwas diniwed i, gwnaf, gwnaf,' meddai, a helpodd ef i orphwys yn esmwythach. Ond y mae wedi d'od i'r pen arnom ni,' ebe Eliza, 'rhaid iddo 'neyd ar unwaith neu byddwn ar ol,' a chan ocheneidio cerddodd yn anesmwyth ar hyd y ty. 'Vel' meddai ynte, mae'r Gair yn deyd ei fod Ef yn barotach i roi nag ydan ni i ofyn.' ac ydi'r penill hwnw ddim yn deyd, Rhydd waredigaeth lawn o'r nef, Cyn braidd y Ilefant arno ef.' Fe ofynwn ni yn awr Eliza, gan iddo roddi i ni fwy fil o weithiau ar y dydd Nadolig cyntaf nag ydan ni eisiau ganddo heddyw,' a dechreuodd weddio, '0 Arglwydd, hen bechadur mawr ydw i mi wyddost, ond diolch y mae dy drugar- edd di yn fwy, y mae gen i eisiau gofyn'—ac ar hyny dyna ergyd sydyn ar y drws, cododd Eliza, a thawodd John mewn dipyn o gyffro, agorwyd y drws, ac yno yr oedd y Postman gyda pharsel trwm o'r America. Gwaeddodd John hyd ei allu, a dywedodd ond t'oeddwn i'n deyd Eliza,' 'cyn braidd y llefont arno ef,' a chas i ddim gorphen gofyn wel di.' Ganol dydd daeth cerbyd golygus yn rhuthro trwy'r pentref, ac i fyny i gyfeiriad Ty'nllechwedd, ac allan o hono daeth Mary, William, a John, ac Yna y dechreuasant fod yn llawen.' Ebbw Vale. CORRISFAB. [Gorfu i ni dalfyru y Nofelig er mwyn ei chael i mewn.- t,
"nodion HUW SAER MAEN
"nodion HUW SAER MAEN (Parhad). Huw —' Pan wrthi yn brysur yn ceisio ysgrif- enu ychydig o nodioll fel hyn, ac yn ceisio rhoddi ychydig o sweet oil ar gymalau englyn go anystwyth, pwy ddaeth i mewn i'r drawiug- room ond Sian Gruffydd, a golwg hynod gyffrous ami. Beth sydd yn bod meddwn inau, y mae golwg hynod o gyffrous arnoch Sian Gruffydd ?' Sian Griiffydd,—' Rliyfedd iawn yr wyf wedi clywed fod yr Hen Hocar wedi prynu Air-balloon, ac o hyn allan y mae yn debyg y bydd yn myned ol a blaen a'i tasged i'w ganlyn yn hono Clywais mai yr adeg y prynwyd y balloon ydoedd pan fu yr Hen Hocar ar ei holidays ar lan mor Ffrainc.' -Hittv.Ni raici i neb gyfFroi Sian, ond y bobl hyny sydd yn cam-ymddwyn y mae lluaws o bobl yn ein gwlad yn siarad ac yn cyfiawni pethau lied anheilwng, ac nid oes arnynt eisiau i neb son am danynt o gwbl. Felly yn gymwys y mae gyda gweitbredoedd drwg unwaith y bydd iddynt gael eu cyfiawni, y mae rhyw ddiflasdod ynglyn a hwy ac o'r tu arall pan gyflawnir gweithred dda, y mae hono yn cynwys ei gwobr ynddi ei hun. Felly Sian Gruffydd, os oes ar bobl eisiau i'r Hen Hocar neu i rywun arall beidio son am eu gweithredoedd drwg, bydded iddynt beidio eu cyflawui. Y mae yn wir dda genyf ddeall fod ami i Gyfarfod Llenyddol i gael eu cynal yn Nyffryn Dyfi yn ystod y misoedd nesaf; yr wyf yn hyderu y caiff ein pobl ieuainc eu meddianu ag yni o'r newydd i ddiwyllio eu meddwl; cotier, nid oes dim all-atal athrylith rhag dyfod i'r golwg, os bydd ei pherchenog yn meddu penderfyniad ac yn ymroddi i ddyfal-barhau, y mae y llawryf yn sicr i'r cyfryw un. Gofaler am gymeriad dilychwin, os yn amddifad o hwn, fe deimlir colled nas gall dim arall laiinv ei le. Ymwrol- wch feibion a merched Cymru i fod yn addurn i'ch oes ac yn oleuni i'ch cenhedlaeth medd- yJiwch lawer y dyddiau hyn am gymeriadau fel y diweddar anfarwol Mr. T. E. Ellis, a rhai o gyffelyb ysbryd, adsain bywyd pa rai sydd yn dweyd wrth holl ieuentyd ein gwiad, I fyny bo'r nod.'
LLANFAIRCAEREINION.
LLANFAIRCAEREINION. Y REILFJFOBDD.—Mewn cyfarfod arbehig o Gwmni Reilffordd y Cambrian, a gynhal- iwyd dydd Iau, yn Llundain, pasiwyd i gymeradwyo y cytundeb rhwng y ddau Gwmni tuag at weithiad y ffordd haiarn newydd o'r Trallwm i Laufair gan Gwmni'r Cambrian. DARLITH.—Nos Wener, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, dan nawdd Cymdeithas y Bobl lenainc, traddodwyd darlith ar 'Gar- treii Dr. ])al'nado,' gan Mrs. Andrew, Rhiw- abon. Yr oedd cynulliad lluosog yn bres- enQJ, Elai yr elw er budd y Cartj-efi nohod.
Y GAUAF A DDAETH.
Y GAUAF A DDAETH. Mor ddiwyro yw deddf y tymhorau, mor ddiogel yw ei ordinhadau Ef. Haf bach Mihangel' wedi persawdio ambell un i gredu fod y gauaf wedi colli amser ei hymweliad am eleni o leiaf; ond yn ei hiawn bryd wele'r gauaf wedi d'od, ei mantell mor ganaid ag erioed. Mae yr holl aidaloedd dan gawod o eira, a'r awel lem o fi vn i lwyn yn symud yn hoew, gan roi sandal o rew dan sawdl y clogwyn, a thlysau hirion yn nghlustiau bargodau. Ydyw, mae gauaf hen ffasiwn wedi d'od eleni, ac awgrymiadau i ddynion am y priodoldeb o gynull at y tau.