Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
( « TEl; MESSENGER" EXCELLENT MEDIUM FOR ADVERTISING. I
Advertising
t I V lltorzbt ( Cyfrwng- rhagoi ol at | Hysbysebau MASNACHDL ARWERTHIADAU, t EISTEDDFODAU, BYRDDAU CYHOEDDUS ] &c.
einion t?t IVwcri.
einion t?t IVwcri. Llansanan. "Llawn o swyn yw Llansanan-hen fro Ei foreuol drigfan ■ wytfanafydd Yn wir gu yn dragywydd. Er mai yn llwm gwm y'th gaf, Dy hen Aled aiiwylaf, A sua megys awen Odlau yn ail i Awdl nen. Meithrinaist, rhoddaist heb rith Gynyrch mil gwell na gwenith Mae brasder yn dy weryd,—E godaist Gnwd o gedym dewrfryd," RIRIAHT DDU 0 WYNEDD yn Awdl "Henry Rees."
TYDECHO SANT.
TYDECHO SANT. Tua dwy filltir a haner i fyny tuhwnt i Lan y Mawddwy y mae lie o'r enw Rhiw'r March Saif ar ben y golwg rhwng y Pennant a Llaeth- nant, lie y dywedir f'r hyn a ganlyn gael ei gyflawni gan y sant :-Tydecbo a arferai yn ami ymneillduo i'w wely, neu unigfan, i fyfyrio witho ei hun a phan yno ryw bryd, digwydd- odd fod ei laethwraig yn godro i fyny yn y fuches (o herwydd y mae Buches Tydecho yn cael ei dangos hyd y dydd hwn). Yntau a edrychai yn graffus ar yr olygfa wy11t. arddunol, a ledai o'i flaenyr Aran fel colofn fawreddus o arch-adeiladaeth y Duwdod. troies ei olwg at ei fuches, a gwelai ei forwyn yn dyfod i lawr, a'r llaeth ganddi ar ei phen mewn cerwyn, neu ysten goed. A phan yr oedd hi wedi disgyn i lawr i'r gwaelod, ac yn croesi yr afon, llithrodd ei throed, a chwymp- odd y "gerwyn," a cbollwyd y llaeth. Galwyd y lie hwnw Rhyd y [Gerwyn o'r herwydd fytfy ebe llais unfryd traddodiad. Tydecho, pan ganfu hyn, a berodd i'r holl afon droi yn llaeth; a galwyd y lie, o herwydd hyn, yn Llaethnant a rhedodd yn hylif chwaethus yn He dwfr i lawr i ymyl y Llan ac er coffid o hyn canodd rhyw fardd y ddwy linell hyn "Tydecho, dad di duchan, A'i gwnaeth yn llaeth hyd y Llan." Y mae gwely Sant Tydecho eto heb ei falurio gan ddwylaw creaduriaid cethin, "ar gwr glyn, ar graig lAs." Yn y graig y mae amryw groesau wedi eu cerfio gan ddwylaw rhyw ber- erinion hunanymwadol a fuont yno yn talu ym- weliad A gorphwysfa un o hen seintiau ffyddlon Ynys Prydain ac fel cof-arwydd o',u gofwyad dodasant y n6d Cristionogol yn y "graig tas" yn dyst i'r oesoedd a ddelai eu bod yn dilyn y Grdg fel cyfeirlun nodedig o'r dioddefaiot a waredodd y byd o afaetion crafangawg anob- aith. Y mae trigolion y lie yn awr yn bur dueddol i wneyd cawr o bawb a phobpeth. Ami y byddant yn gosod y sant allan fel ang- henfil ofnadwy, A neith anherfynol iddo ond bu yma gawr hefyd ond nid Sant Tydecho oedd hwnw, cofier.-O'r "Genioen."
TOWYN
TOWYN Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Yn y cyfarfod nos Fawrth, caed papur dyddorol gan Mr W. Pryce Williams ar "Tennyson, ei farddoniaeth, a'i gysylltiad a cherddoriaeth." Adroddodd ranau o'i waith. Cafwyd datganiadau gan amryw gantorion. Yr oedd yr ystafell yn llawn. JUMBLE SALE.—Cynhaliwyd hwn yn y Neuadd Drefol y dydd Sadwrn o'r blaen, yr elw tuag at gostau Nurse y dosbarth. Cafwyd arwerthiant llwyddianus. Yr oedd y trefniadau yn nwylaw Mrs Howell Jones, yr ysgrifenyddes mygedol. Y DIWEDDAR MR. RICHARD MORGAN.— Dydd Sul, bu farw Mr Richard Morgan, adeiladydd, Bryncrug, yn 68 mlwydd oed, gan adael gweddw, mab, a merch, yo alarus ar ei ol. I'w ran ef y disgynodd y gwaith o wneu- thur llawer o'r ptit weUiantau ar adeiladau yn y cylch. Bu yn warcheidwad y tlodion am amryw flynyddoedd, ac yr oedd yn dra thyner bob amser wrth y tlodion. Efe oedj diacon hynaf yr Annibynwyr yn Bryncrug. Yr oedd yn frodor o Llanbrynmair. Cymerodd yr ang- ladd le yn y Cemetery ddydd Iau.
ABERDYFI
ABERDYFI CYM:DEITHASAu.-Gyda'r M.C., nos Lun, darllenwyd dau bapur-Mr B. J Evans ar "Y gwelliaotau augenrheidiol mewn adeiladu add- oldai, a Mr W. V. Vaughan ar "V gwell- iantau angeniheidiol yn yr eglwys.Gyda'r Wesleyaid, daillenwyd papurau gan Miss L. Thomas ar y "Tabernacl," ac ar "Stephan" gan Mr J. W. Morris. Yr oeddynt oil yn ddyddorol. MARW COFFA.-Dydd Sul, bu farw Mrs jaiie Edwards, Morfa Bach, yn yr oedran mawr o 91 mlwydd. Treuliodd ei holl oes yn Aber- dyfi a'r cylch. Adgofiai lawer o ddigwyddiad- au ei hamser, sef gwneyd y brif-ffordd o Mach ynlleth i Aberdyfi, mewn rhan ar hyd yr hen ffordd Rufeinig, &c. Gadawodd ddau fab a merch mewn galar ar ei hoi. Yr oedd yr yma- dawedig yr hynaf yn y dref, a'r aelod hynaf perthynol i eglwys y Wesleyaid.
--.._--_,,-JVnttr^wion.
JVnttr^wion. Mae y Parch Owen Owens, gweinidog y M.C., yn Lerpwl wedi rhoddi rhybudd o'i ymddiswyddiad. Gwasanaefchodd yao er y flwyddyn 1871. Oherwydd iselder y fasnach lechi, y mae amryw o berchenogion chwareli y siroedd Caernarfon a Meirion wedi penderfynu gos- twng prisiau llechi rhwng pump a deg y cant. Bydd y Parchn 1. Cynfal Jones, Bontddu, a Robert Thomas, Abermaw, yn dychwelyd o'r America y wythnos hon. Cafodd y cyn- tif alwad i fugeilio eglwys (A.) yn Wilkes- barre Pa., a'r olaf alwad o eglwys yn New York. Cynhelir Cynhadledd yn Awst nesaf yn Copenhagen, Denmarc, o astudwyr ac ath- rawon mewn dysgeidiaeth Ddwyreiniol. Cynrychiolir Cymru gan y tri awdurdod colegawl yn y ganghen hon, sef Dr. Witton Davies, Bangor; yr Athro Tyssul Evans, Caordydd; a Dr. Ethe, Aberystwyth. Achos cryn lawer o aylw yn Llundain a'r byd yw y cyngaws dyddorol ynglyn a hun- aniaeth y Due Portland a Druce. Amcan yr ymholiad yw profi ai yr ua oedd y ddau ai nad e. Ymddibyna yr etifeddiaeth ar ddarganfod hyny. Y ddadl yw i'r Due ohwareu dau gymeriad, set eiddo y Due ac eiddo y masnachwr Druce. Y mae y newyddion o Biarritz yn nghylch Syr Henry Campbell-Bannerman yn dra chalonogol. Gwella yn dda y mae efe; a gobeithio y bydd pump neu ohwech wythnos yn y fath awyr adfywiol yn foddion i adfer ei iechyd yn hollol. Ond, hyd yn oed, pe y sylweddolid y rhagddisgwyliad hwn yn llawn bydd yn rhaid iddo ef, yn y dyfodol, fod yn dra gofalus i beidio gwastraffu ei nerth. Gwelwn fod y cledrffyrdd yn bygwth codi pris teithio. Nid oes un mudiad o eiddo y cwmnioedd y dyddiau hyn nad ydyw yn prysuro y dydd pan ddaw y ffyrdd yn eiddo y wladwriaeth. Amser yn unig sydd an- genrheidiol, Tynach yn feunyddiol yr a ar y owmniau i dalu llog i'r rhanddalwyr; ac y mae y oytundeb diweddaf wedi creu oymaint o anfoddlontwydd yn mhlith y gweithwyr fel y dyg lawer o honynt i ofalu y bydd eu gwaith yn y tugel yn prysuro eu dymuniadau. Dywed gohebydd Llundain y "Manchest- er Guardian" "Ciybwyllwyd yn ddiwedd- ar fod adferiad Dinizulu yn ddyledus i radd- au nid bychain i waith Miss Colenso. Pell oddi wrthyf fi fyddo dibrisio ei gwasanaeth, ond ar yr un pryd teg ydyw dywedyd fod gan y diweddar Mr T. E. Ellis law yn y peth. Ymwelodd ef a Deheudir Affrica yn 1890, a daeth i gydnabyddiaeth a Cecil Rhodes. Qnd ni wnaeth dim yn y wlad fwy o argraff arno na chyflwr anffortunus Zulu- land, a phan ddychwelodd i Loegr, dadleu- odd yn wych dros gydnabod hawliau teulu Cetewayo. Mae cyfaill i mi yn cofio ym- ddiddan a Mr Ellis ar y pryd, ei eiriau olaf oedd "Yr wyf yn sicr mai'r gobaith goreu am y wlad ydyw ei rheoli gan feibion Cete- wayo fel gweinidogion gwladol i'r goron." Ni welodd drllawyr y deyrnas erioad ddiwygiwr dirwestol hafal i 'Sant Balfour.' Y mae Act 1904 yn proffesu lleihau cyfryn- gau diota, eithr ei gorchwyl mwyaf llwydd- ianus yw dodwy wyau aur i'r cwmniau dar- llaw. Y mae swyddogion pwyllgor gwylio Birkenhead newydd gyhoeddi eu hadrodd- iad o'r modd y gwna yr Act ei gwaith yn y dref hono. Penderfynwyd diffodd trwydd- edau 18 o dai yn 1906. Cyfartaledd gwertli trwyddedau 16 o dai cwrw oedd 1,603p a thrwyddedau y ddau dafarn yn 2,727p. Cy- fanswm "iawn" i'r personau oedd yn meddu budd yn y 18 drwydded oedd 31,107p. Yn awr, sylwer fel y rhanwyd yr iawn. Rhoddwyd 2,743p cydrhwng y 18 tenant, neu ychydig dros gant a haner yr un, tra y rhanwyd 28,364p rhwng y cwmniau darllaw. Mewn geiriau eraili, cafodd y tenantiaid un geiniog o iawn allan o bob swllt aeth i logellau y bragwyr. Addefir fod chwynu y man dai cwrw ac ambell dafarn sydd i bob pwrpas ymarferol yn ddifudd i'r cwmniau o herwydd eu hamldra, yn atal cydymgais ar un Haw, ac yn ychwanegu yn ddirfawr at worth marcbnadol y tafarndai a arbedir.
, Y SEFYI LFA YN ZULULAND.
Y SEFYI LFA YN ZULULAND. Addefir yn rhwydd nad ydym ni yn y wlad yma yn meddu y wybodaeth angen- rheidiol i ffurfio barn am y sefyllfa yn Zululand, nac am ymddygiad Llywodraeth Natal. Wele ychydig o oleuni ar yr ym- ddygiad. Yn gynar yn mis Hydref di- weddaf, anfonodd Llywodraethwr NAtal, yn unol a dymuniadau ei Weinidogion, i ofyn i Lywodraeth Prydain anfon help milwrol yn wyneb y posibilrwyd 1 i derfysg dori allan yn Zululand. Atebwyd y cais yma gan larll Elgin, Ysgrifenydd y Trefedigaethau, ar y 14eg o Hydref, pryd y dywedodd y rheddai Prydain help ar y dealltwriaeth eglur fod y Llywodraeth Brydeinig i gael llais gyda golwg ar y sefyllfa. Y mae'r hyn a ddilynodd o'r arwyddocad mwyaf. Tra yr oedd Llywodraeth Natal eisieu y milwyr Ymherodrol, ni fynai y polisi Ym- herodrol gyda golwg ar reoleiddio'r brodor- ion a throes ei chefn ar y Llywodraeth Brydeinig ac aeth at y Transvaal a Capp Colony am help. Mynegir yn awr, ac ar awdurdod, i Arglwydd Elgin anfon at Lywodraeth Natal yn dweyd fod y Lywodraeth Brydeinig yn dal at y polisi a fynegwyd yn y llythyr a anfonwyd ar Hydref 14eg; a chan na ddarfu i Lywodraeth Natal yn awr wneyd cais' am gefnogaeth y milwyr Ymherodrol, ar Lywodraeth Natal y syrth y cyfrifoldeb, ac nas gall y Lywodraeth Brydeinig ymyryd. Oddi wrth hyn gwelir mai nid ar y Lyw- odraeth Brydeinig y mae'r bai am unrhyw oediad a gymerodd le ar yr un pryd, rhoddwyd ar ddeall yn glir na roddid help milwyr Ymherodrol i fyned i frwydr ymos- odol yn erbyn y Zuluiaid, heb gael ymchwiliad manwl. Gwelir drwy hyn mai Llywodraeth Natal yn unig sydd yn gjrfrifol am y sefyllfa, ac am y trefniadau milwrol a wneir ganddynt. Nis gellir dyfod ond i un casgliad, a dyna ydyw ceisia Natal nodi allan ychydig en- greiphtiau er mwyn cael esgus i ymosod ar Zululand, difa dylanwad a nerth y brodor- ion, a thrawsfeddianu eu gwlad. Dyma gyhuddiad difrifol yn erbyn Llyw- odraeth Drefedigaethol; ond y mae ei chwrs yn gorfodi un i dd'od i'r casgliad yma. Hyd yn nod pe na byddai dystiolaeth uniongyrch- ol ar hyn, y mae ei ymddygiad at Dinizulu yn ddigon o dystiolaeth. Y mae ateb Dinieulu i Lywodraeth Natal yn ystod y dyddiau diweddaf yn profi nad oedd wedi gwithod cyfarfod y cyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn gan y Llywodraeth, "Ond," ebai'r "Daily News," "yr ydym mewn sefyllfa i ddweyd mai yr hyn a wnaeth Dinizulu i ddatgan ei syndod oedd, nid gweled y darpariadau ar gyfer rhyfel yn myned yn mlaen, ond y ffaith iddo glywed mai hwriad y Llywodraeth oepd ei gymeryd, yn ddiarwybod iddo, ychydig ar ol y Nadolig; ac iddo ofyn paham na fQasai y Llywodraeth, os barnent fod sail i'w cyhudd- iad, yn ei roddi ar brawf, ac os yn euog, ei gospi? Dyma wahoddiad eglur i Lywodr- aeth Natal i roddi Dinizulu ar brawf, a hyny mewn dull cyfansoddiadol." Yr ateb- iad a anfonodd Llywodraeth Natal oedd, na fwriedid cymeryd Dinizulu heb yn wybod iddo, eithr yr anfonid penaeth yr heddgeid- waid ato i ddymuno arno ymostwng o hono ei hun, er mwyn ei brofi am y cyhuddiadau yn ei erbyn. Y mae'r "Daily News" yn dweyd yn ddi- amwys mai ar Lywodraeth Natal y mae y rhan fwyaf o'r bai am y sefyllfa bresenol.
PENNAL
PENNAL CYNGHERDD.—Nos Wener, cynhaliwyd cyngherdd llwyddianus o dan lywyddiaeth Mrs F. A. Steel, yr awdures, Talgaith Hall. Yr oedd yr elw tuag at gostau goleuo y pentref. Gwasanaethwyd gan nifer o gantorion y lIe ac o Machyolleth.
LLANFACHRETH
LLANFACHRETH Dydd Iau, y 12fed cynfisol, rhoddwyd te i aelodau a chynulleidfa y M.C., gan Mrs D. O. Evans, ar achlysur ymadawiad y Parch G. G. Owen a'r lie am Pontcysyllte. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol. Mr Owen yn llywyddu. Gwobrwywyd amiyw mewn cystadleuaethiu. Cymerwyd rhan yn y cyfar- fod gan y Parchn D. O. Ellis, O. Davies, Gan- llwyd, a Glan Wnion.
WILLIAMS O'R WERN.
WILLIAMS O'R WERN. Rhai blynyddoedd yn ol pan mewn ymddi ddan gyda'r Parch Richard Roberts, Lluo. dain, gweinidog enwog gyda'r Wesleyaid, p II oedd ar ymweliad a'i gattref genedigol, clyw- ais ef yn adrodd am un o ymweliadau WilliamF o'r Wern a Machynlleth, gydag ymweliadau o eiddo eraill o enwogion y pulpud Cymreig, megis Christmas Evans, John Elias, Jones Bathafatn, a John Owen, Cyffin ac eraill dy- wedai y byddai cyrchu mawr o'r wlad a'r dret i'w gwrando. Meddianwyd fi gan awydd ychydig fisoedd yn ol i wybod yn hclaethach ac yn fanylach am y cyfryw ysgrifenais ato i ofyn am ei adgofion am yr ymweliadau hyny a gymerodd le yn nyddiau boreu ei oes ef, a chefais yr hyn a ganlyn yn mysg crybwyllion eraill oddi wrtho. Pregethodd Williams o'r Wern yn nghapel y Graig, Machynlleth, tua'r fl 1833 neu 1834 Cof genyf fod y capel yn orlawn a chanoedd o bobl o'r tu allan yn methu myned i mewn, vr- gorfod sefyll yn mysg y beddau yn front y capel, ac ar y ffordd. I gyfarfod a'r sefyllfa, tynwyd y ffenestr hir, yr hon oedd yn ymyl y putpud allan o'i lie. Safodd Williams yn yr agorfa yn eyfieus i'r rhai oddi mewn. ac i'r rhai oddi allan ei glywed. 'Digwyddais,' medd Mr Roberts, 'fod yn mhlith y dyrfa oddi allan, wedi methu yn lin myned i mewn i'r capel, ond cefais safle gvfleus i weled a chlywed y pregethwr-yn union gyferbyn ag ef Ei destyn ar y pryd ydoedd Hebreaid ix 14 Cof genyf y modd byw y desgrifiai yr Arch Offeiriad yn myned i'r cysegr gyda'r cawg aur yn gysgod o waith Crist yr Arch Offeiriad mawr gyda'r gwaed yn myned i mewn i ystaf- ell yr enaid i sancteiddio yn gwbl oll-yr ewyllys, y serch, y gydwybod, y rheswm, &c. Yr oedd ei ddesgrifiad yn dramatic neillduol, ac yn orlethol ei ddylanwad. Galwodd Mr Williams bore dranoeth cyn ymadael o'r dref i edrych am dad Mr Roberts. Yr oedd yntau yn Ilencyn yn bresenol. Gos- ododd Mr Williams ei law ar ei ben, a dywed- odd, '\Vel Richard bach, beth wyt ti yn bwriadu bod ar ol tyfu yn ddyn ?' Atebodd yntau yn ddifloesgni, 'Pregethwr Mr Williams.' Gydag edrychiad treiddgar, a'i law ar ben y llanc, dywedoid gyda'r difrifwch mwyaf, "Machgen aawyl i, os wyt am bregetliUj 'Bydd Bregethwr'. Byth er hyny yr oedd Mr Robetts yn edmyg- wr mawr o Williams o'r Wern, fel y dengys yr hyn a ganlyn dodaf hwynt yma yn y Saeson- aeg fel ag yr ysgrifenwyd gan Mr Roberts ei hunan 'These two words, "Bydd Bregethwr" he uttered with solemn emphasis, and his hand pressed somewhat heavily on my head. The words of Williams of Wern, "Bydd Bregethwr' have been an inspiration to me all my life. I remember to this day the tone of his voice and the piercing look. Hundreds of times in my Study when preparing for the pulpit during my 64 years of preaching life, that voice and that look have haunted me, and Williams of Wern though dead yet speaketh.' Etallai y dylwn grybwyll i Mr Roberts pan yn wr ieuanc fod yn byw yn Shop Newydd, Corris, hyny cyn iddo fyned allan i'r weinidog- aeth, yn cario yn mlaen fasnach mewn undeb ag un arall.-H. R.
ADGOFION AM Y DIWEDDAR DAFYDD…
ADGOFION AM Y DIWEDDAR DAFYDD RICHARD, BRYNTEG, CORRIS. fparhad). Y cof cyntaf sydd genyf yn awr am dano yn nglyn a rhai o'i weithredoedd nerthol a brwd- frydig ydyw yn y 'Graig goch,' gyferbyn a Maesypandy, Talyllyn. Yn y dyddiau hynj', yr oedd 'hela llwynog* mewn bri mawr yn y plwyf. Byddai gweithwyr yr holl chwarelau-Ty'nyberth, Gaewern, air 'Tyno hir yn talu' yn ogystal a Chwarel Aber. Ilefenni, yn myned yn lluoedd ar ol y 'cwn' i ymlid y cadnaw heb ofyn i'r Stewart na neb arall 'er mwyn cydwybod.' Diwrnod 'hela llwynog' oedd holiday y gweithwyr yr adeg hono. Rhyw ddydd wrth webd y tyrfaoedd yn ym- wneyd am y mynydd gerllaw bwth fy nhad ar ol y llwynog, credais y dylaswn inau woeyd rhywbeth er dwyn y llwynog i farn marwolaeth am ei weithredoedd nosawl yn mhlith wyn a dofednod y cwmwd. Credais, am hyny thedais goreu y gallwn i fyny y Itylau serth' ar ol y dyrfa. Er byred fy Ham, cyrhaeddais y 'Graig goch' cyn y Illaddfa' a bod yo y lladdia yd* oedd gwobr a gogoniant yr ymdrechfa Iw^aog aidd. Aethai y cadnaw hwnw i'r 'ddaesr' yo y 'Graig goch.' Yr oedd idda yno amadiffynfa gadarn yn nghilfachau y graig. Nis gallasai neb ei gyrhaedd-pe buasa yn ddiogel gwneyd-ac ni allesid ei weled ychwaith. Yr oedd yn mhlith y traed filwyr rai Reserves bychain at wynebu castellydd tanddaearol y llwynogod. Anfonwyd un o'r rhai hyn i mewn, ond nis gallai y 'ddaeargast ddu dorgoch' .ddim 'rhwygo y cadnaw coch' y diwrnod hwnw. Yr otnid y cadnaw yn curo yn ol o faes y rhyfel bob 'daeargi' a anfonid i mewn ato. Deuai pob un yn ol gan ddwyn yn ei gorph nodau ewinedd a danedd y cadnaw yr hyn a brofai i fodcnonrwydd-lgwyr mawr a phen capteiniaid" y rhyfelgyrch hwnw fod y milwyr cyffredin hyny yn 'ymladd fel daear- gwn.' Am hyny ni chawsaat eu diraddio o'u safle yn y fyddin ond cawsant eu cyfiawn wobr ar ddiwedd y frwydr allan o gwpwrdd Maesypandy. Gan nas gallai y Welsh Fusiliers hyny orf. odi y gelyn i dd'od allan, na'i ddieneidio oddi mewn, anfonwyd i'r Pencadlys am offerynau i ystormio yr amddiffynfa ond nid oeddynt i'w cael, ac yr oedd y lie yn wlyb iawn ar y pryd fel nas gallesid defnyddio y du bylor, pe wrth law. Cofier fod hyn ddegau o flynyddoedd cyn bod son am y dynamite Hr gelatine 0 fewn y fro. Syniad rhai o'r amaethwyr oeddynt ar faes, neu yn hytrach, ar graig y frwydr oedd cael 'bach gwair' fel yr offeryn mwyaf effeithiol trwy gael Igafael yn ngwar' y gwr cyndyn. Ceis- iwyd, a chafwyd y bach, a choes hir wrtho yn ol portread y cynllunwyr ond cael 'gafael yn ngwar' y cadnaw oedd gamp na wnaed eto. Syniad arall gan rai o'r chwarelwyr oedd cael trosol hylaw,-pawb at ei beth. Caed hwnw hefyd, ond nid oedd yn feddianol ar yr an- sawdd bylaw o gwbl. Ond i gyrchu at y no I, Dafydd Richard yd- oedd y prif beirianydd ymarferol felly gyda yr 'hwrdd-beiriant' hwnw. Nid oeddwn-gan y dyrfa-yn gallu myned hyd at 'enau y ffá'.u,' eithr o bell yn gweled rhyw ddyn gwyllt brwd- frydig yn ystormio yn enbyd a'r trosol. Gof- ynais i rhyw un a safai gerllaw, pwy ydoedd yr hwn a ergydiai mor ddiarbed a'r trosol. Yr atebiad a gefais mai Dafydd Richard, gan synu at fy anwybodaeth, er nad oeddwn ond 'crwt Deallais i D. R. yn ei frys a'i frwdaniaeth gael y castell i lawr Ifetha ei slap,' fel y bydd- wn ni y chwarelwyr yn arfer dweyd am y cyfryw amryfusedd. Ac wrth fyned heibio, anaf- wyd ychydig ar un o fysedd D. R., ac ychydig ar grumog gwr cyfagos. Wedi yr ymosodiad ar gastell y llwynog yn y 'Graig goch,' gwelais, a chlywais Datydd Richard yn ymosod ar lawer castell yn Nghor- ris. Mae darnodiad o hono yn y 'Graig 80Ch,' yn arddanghosiad lied gywir o hono yn ymosod ar gastellydd anfoesoldeb ac anwybodaeth. Cofier y byddai bob amser yn llawn tan, yn dwyn mawr sel yn wastadol tros yr hyn a gred- ai. Ond o herwydd nad oedd yn medJu ar ochslgarwch neu ddoethineb cyfatebol, byddai weithiau ya 'methu ei slap,' gan anafu ychydig amo ei hun a chrumogau cyleillioa iddo hefyd. R. 0. fPiv btirltau).
MACHYNLLETH
MACHYNLLETH Y BRIF-FFORDD.—Yn mhwyllgor Prif-ffyrdd y Sir, Uwyddodd Mr Richard Rees iawdurdodi gwneyd ffordd newydd i Bantcerrig y clochdy. Hefyd i gael ei gydsyniad i wneyd llwybr newydd uwchlaw gwyneb y ffordd o orsaf yr heddlu at orsaf Reilffordd Corris, yr hyn a fydd yn gryn gyfleusdra ar aJeg llifogydd y Ddyfi. YR EGLWYSI RHYDD.-Cynhaliwyd cyfar- fod nos Fawith, Mr Iorwerth Jones yn llyw- yddu. Traddodwyd araeth gan Mr Richard Rees ar "Ymneiliduaeth, ei egwyddorion, ei amcanion, a'i hanes." Traddododd Mr Edward Rees araeth ar "AgweJdau eraill Ym- neillduaeth." Cafwyd datganiadau gan amryw a diolchiadau ar y diwedd. BWRDD Y GWARCHEIDWAID —Cadeirydd Mr R. Gillatt —Anfonodd amryw undebau yn cymhell yr undeb hwn i ganiatau is yn chwaneg i rai mewn oeJ, a 6c i blant tu allan i'r tloty, yn wythnos y Nadolig, ond pasiwyd gwrthod. Dywedodd un ei bod y tlojion yn well arnynt nag eraill. Penderfynwyd rhoddi y ciniaw arferol yn y ty ar ddydd Nadolig.- Gwnaed coffa parchus am y diweddar Mr R. Morgan, Bryn-cru<, yr hwn fu yn warcheidwad ffyddlon.