Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Bacbboniaetb.
Bacbboniaetb. Y Garddwr. Noddi myg flodeuwydd mad—ac ir-ddail, Wna'r garddwr yn wastad A thrwy enwog feithriniad, Fe rydd wledd ar fwrdd y wlad. MENAIFAB. Yn Amaethwr Dyngarol. Da was a edy'r d'wysen—ar ei ol, I'r hwn sydd a'i hangen; Efe byth yn wyrdd ei ben, Ni wel eisieu elusen. DEWI WYN 0 ESSYLLT. Deuddeg Ywen Eglwys Blaenau, Gwent. Cwrlidiau cywir ledent-ar wely Marwolion y fonwent; Ac arwyddion cur oeddent 0 fawr gwyn am feirw Gwent. lOAN EMLYN. Unoedd. Un ffydd, un bedydd sy'n bod—Daw ydyw Ein didor gyfamod; Un Crist, lawn yn uniawn n6d, Un Meichiau am fy nihechod. CUHELYN. Agerdd-Gerbyd. Peirianau yn gwau mewn gwynt-anadlant Dan odlau poeth wyllt-wynt; A'i gwibdaith ganwaith yn gynt, Nac eryr ar ddydd corwynt. ALLTUD GLYN MAELOR. Gelloedd Mwnawl. Yn y tir yn bentyrau,—is yno At wasanaeth oesau, Cuddio'r mwyn a'r clogwyn clau, Mewn neuaddoedd mynyddau. R. PARRY.
Meddyginiaeth yr 20fed Ganrif.
Meddyginiaeth yr 20fed Ganrif. Bydd yr 20fed ganrif yn oes y gwrthwen wynau, yr antitoxins, ysdywed ein cymydog, y Sais. Bydd gan bob clefyd ei wrthglefyd— hyny yw, byddys yn defnyddio y nail] gyth- raul i fwnv y cythraul arall allan o'r giau a'r gwaed. Fel y defnyddid y ffured i chwiliach allan lygod Ffrengig, neu yn bresenol y rough on raU, felly, cyn bo lUT, y (l-efnyddj twymyn i yru allan dwymyn; gwenwyn i \'mlid gwenwyn arall; a drwg i"fwrw allan :ldrwg arall. Daw hyn yn gelf," yn wydd- miaetli," ar fyr. Mae gwyddoniaeth yn debyg 3 "amgylchu aswy y gelyn" cyn bo hir, jhwedl y teulu rnilwrol.
Y Sais, Druan.
Y Sais, Druan. Hen arfer frol gyda ni, y Cymry, ydyw cyfeirio at ein brodyr, y Saeson, fel rhede^wyr o-effylau yn unig. Mae gwaith gwareiddi'ol Prydam ar hyd a lied y byd, ei llenyddiaeth Seisneg odidog, ei Shakespeare, ei Milton, ei Bacon, a'i Darwin, a'i Hafur o blaid y Beibl a llenyddiaeth Qristionogol yn proh fod y Saeson yn gwneyd llawer heblaw rhedeg jerFylau. A fyddai yn iawn i ddweyd am y j Dymry mae cenedl o uotwyr ydynt? Mae j uwy o honynt yn gwneyd hyny nag sydd 0 Saeson yn rhedeg celiylau 1
Tarddiad ac arwyddocad enwau…
Tarddiad ac arwyddocad enwau lleoedd Plwyf Ystradyfodwg. (GAN NATHAN WYN.) (Buddugol yn Eisteddfod Tonypandy.) FFYNON FAIR. Ar ael mynydd Penrhys, nid nepeU o'r hen fynachlog mae Ffynon Fair. Cysegrwyd hi mewn niodd arbenig gan y Mynachod i Mair y Forwyn." Tua deugain a haner can mlynedd yn ol, yr oedd y fiynon hon mewn bri mawr ar gyfrif y rhinweddau iachaol a dybid fod yn pert'hyn iddi. Ystyrid ei dyfroedd yr adeg bono yn feddyginiaeth an- ffaeledig at y gymalwst, ynghyd ag amryw ddoluriau ereill, a chyrchid iddi o bell ac agos. Byddai amaethdai Penrhys Uchaf, Pontrhondda a'r Star Gellidawel, yn llawn ymwelwyr bob haf yn y blynyddoedd hyny. Ceid dau fadd-dy (bath) cyfieus yn perthyn i'r ffynon, yn yr amser gynt, y naill i wrywod a'r llall i fenywod, i ymdrochi ar wahan i'w gilydd. Byddai pob claf ar ol dyfod allan o'r dwfr yn tatiu "pin bach" i'r ffynon, a chedwir yr arferiad i fyny i raddau gan ymwelwyr a'r lie hyd y dydd heddyw. Gwelsom ganoedd lawer o binan ar ei gwaelod cyn hyn. Prin y credwn fod neb yn dal fod rhyw lawer o elfenau meddyginiaethol yn perthyn iddi yn awr. FFYNON Y MAENDY. Buwyd yn honi gynt fod rhyw lawer 0 rin- weddau iachaol a meddyginiaethol yn perthyn i'r ffynon hon hefyd. FFYNON ST. TYFODWG. Mae hon wedi ei gorchuddio yn ddiweddar gan domen rwbel" Lefel Ty Fry. Wele restr o brif ffynonau y plwyf Ffynon Ton Rhys, Ffynon y Gro, Ffynon Las, Ffynon Ton Llwyd, Ffynon Ty'r Cwar, Ffynon Pen- twyn, Ffynon Cwm Orchwy. Ffynon Derwen Shams, Ffynon Coedeae Rhondda, Ffynon Dwym, Ffynon Cynllwyn Du, Ffynon Mynyddbach, Ffynon Saith Erw, Ffynon Ely, Ffynon Ty Isaf, Ffynon Bodringallt. PISTYLLOEDD. Pistyll y Graig, Pistyll Bach, a Phistyll Cwm y Lamb. Ardaloedd. Nis gall ardaloedd y plwyf ymffiostio rhyw lawer yn rhifedu blynyddoedd eu heinioes ac amlder eu ddyddiau ar y ddaear. Nid yw y nifer luosocaf o honynt eto ond megis yn ngwanwyn bywyd prin y maejit wedi colli gwrid ieuenctyd, Hawdd y gallent gydganu yn llawen 0 un meddwl ac un galon, Plant ydym eto dan ein hoed, Yn disgwyl am ein stad." Cychwynwn eto yn yr un drefn o'r Porth tuag i fyny trwy y Rhondda Fawr. Ychydig iawn o'r ardal fawr a chyflym-gynyddol hon sydd o fewn terfynau Plwyf yr Ystrad, gan fod Llanwyuo a Llantrisant cydrhyngddynt, wedi cymeryd eu cyfran yn helaeth o'r lie. TREALAW. Perchenog y tir yn y gymydogaeth hon yd- oedd D. Williams, Ysw. (Alaw Goch) ac enwyd y lie ar enw y llenor a'r gwladgarwr trylen liwnw. FFRWDAMOS sydd bentref bychan ar y terfyn, rhwng plwyfi lYstrad-dyfodwg a Lantrisant, ac yn cyfuno Penygraig a Threwilliam. Derbyniodd ei enw oddiwrth y nant sydd yn gwahanu y ddau blwyf. PENYGRAIG. Pentref prydferth a chyflym-gynyddol arall. Etifeddodd ei enw, fel y rhan luosocaf o ben- trefi y plwyf, oddiwrth enw'r amaethdy ar yr hwn yr adeiladwyd ef arno rai blynyddoedd yn ol; ac a ymeanga yn barhaus. TONYPANDY sydd gymjdogaeth dra phwysig a chynydd- fawr, yn estyn ei changenau allan i bob eyf- eiriad. Cymerodd ei henw oddiwrth yr hen Bandy. LLWYNPIA. Y pentref hwn a wisga yr enin, a roed i'r fferm ar yr hon y saif ei wadnau. CWM CLYDACH. Mae yr ardal hon wedi mabwysiadu enw y cwm lie y gorwedd ynddo, ac y mae bron a llanw y cwm i'r ymylon, ar hyd ac ar groes, o ben i ben. YSTRAD-RHONDDA. Mae hon yn hen gymydogaeth, ond fod ei chynydd yn y blynyddoedd diweddaf hyn yn anhygoel. Gelwid y lie gynt, a gel wir ef eto gan rai, yn Heolfacn ond ei enw cofrestredig gan y Llywodraeth yw Ystrad-Rhondda. GELLI sydd rgymydogaeth newydd hollol, wedi ei hadeiladu ar dir y Gelli gan mwyaf, ac yn ym- estyn-dros yr eiddo Ty Isaf ac Ynysgau. TON. Cymerodd y Ile hwn ei enw oddiwrth fferm y Ton, ar diroedd yr hon y gorwedd y gyfran helaethaf o'r ardal. Mae y rhanau ereill o honi ar diriogaethau Nant-yr-Ystrad a'r Maendy. PENTRE a fabwysiadodd enw yr amaethdy a elwid fferm y Pentre ac erbyn hyn mae bron gorchuddio ei boll wastadeddau, a'i lechwedd- au cnydiol yn llwyr. TREORCI. Gwnaethom ymgais at egluro dirgelwcli enw y lie hwn yn barod. Mae yn un o'r rhai mwyaf ansathredig ac anghynefin yn y plwyf, yn gystal ag un o'r pentrefi mwyaf a phrydferthaf 11 y yn y plwyf. Derbyniodd ei enw oddiwrth amaethdy Abergorci, neu yn fwy priodol, Abergorchwy. Treorchy yw'r ardal ar lyfrau Llywodraeth ei Mawrhydi y Frenines Victoria. CWMPARC. Gwisga'r ardal hon enw'p amaethdy a'r dyffryn lie saif ynddo ac y mae bellach bron llanw y dyffryn hwnw o'r naill ben i'r llall. TREHERBERT. Derbyniodd ei enw oddiwrth enw, neu yn hytrach, gyfenw teuluaidd, un o brif berchen- ogion y tir yn y gymydogaeth, Ardalydd Bute. Nid yw Tynewydd a Blaenycwm ond maes- gangenau o'r ardal fawr a thra adnabyddus hon. BLAENRHONDDA. Oddiwrth ei safle yn mlaen Cwm Rhondda, yn gystal ag oddiwrth enw'r amaethdy lie yr adeiladwyd ef. Bydd yr amaethdai a'r pentrefi nesaf i flaen y cymoedd yn gwisgo eu henwau fel rlieol Blaencorwg, Blaenogwr, Blaen- gwynfi, Blaenafan, Blaengwrach, Blaenclyd- ach, a llu mawr o rai ereill ellid eu henwi. MARDY. Dyna enw y lie hwn pan nad oedd un tý yn y golwg am bellderoedd daear. Erbyn hyn mae'r ty hwnw fel pe wedi ymgolli yn nghanol pentref mawr a glanwedd o'r un enw. FERNDALE. Gelwid yr holl gymydogaeth hon, yn nydd- iau ei mebyd, yn Blaenlleclian. Cyfyngir yr enw Blaenllechau er ys blynyddoedd lawer bellach i'r rhan hyny o honi a berthyn i blwyf Llanwyno. Cofus genym glywed "Mr. D. R. Detla Davies, F.S.A., yn dweyd mai efe rodd- odd yr enw Ferndale ar y lie. Ond clywsom wedi hyny, ar awdurdod ddidroi yn ol, mai y cliweddar D. Davis, Ysw., Blaengwawr, a fathodd yr enw, ac a'i harferodd ar lyfrau y gwaith, heb yingyngliori dim a neb pwy bynltg. Mae Ferndale, o'i gyfieithu Glynrhedynog, yn ardal fawr, poblog, a thra phwysig erbyn hyn. TYLORSTOWN sydd bentref lluosog ei boblogaeth, ac yn cynyddu bob dydd mewn nerth a dylanwad. Derbyniodd ei enw oddiwrth Louis Tylor, Ysw., un o brif berchenogion y gwaith, ar gychwyniad y lie. PONTYGWAITH. Er fod Pontygwaith yn hen, hen le, nid yw yr ardal bresenol ond ychydig flwyddi oed. Derbyniodd ei enw oddiwrth bont a arweiniai dros y Rhondda Fach i'r gwaith haiarn bychan fu yn y gymydogaeth tua dan cant a haner o flynyddau yn ol, yn ol rhai; tua chan' mlyn- edd yn ol, medd ereill. Pa un bynag am hyny, mae digon o sicrwydd fod y gwaith wedi bod yma yr oedd y ffwrnes yn aros yn y lie lai na haner can' mlynedd yn ol. Nid oes ond prin ddeugain mlynedd er pan ddech- reuodd y Mri T. a W. Wayne, Gadlys, Aber- dar, agor gwaith glo yn y gymydogaeth hon. Wedi suddo y pwll i lawr i ddyfnder mawr, rhoddasant yr anturiaeth i fyny, gan lwyr dybied nad oedd yma 16 0 gwbl i'w gael. Gweithir y glo hwnw yn bresenol gan ereill. Ychydig yn is i lawr y dyffryn y mae WATTSTOWN, yr hwn a enwyd ar enw un 0 berchenogion y lofa ond gan fod y rhan fwyaf o lawer o'r pentref wedi ei adeiladu y tu arall i'r afon yn Mhlwyf Llanwyno, nid oes a fynom ni ag ef Mhlwyf Llanwyno, nid oes a fynom ni ag ef yn awr. YNYSHIR. Mae hwn eto yn bentref mawr a phoblog, ar derfyn deheuol y plwyf. Deilliodd ei enw oddiwrth yr hen amaethdy, ar diriogaeth yr hwn y mae ei wadnau yn sefyll yn gadara a digryn. Wele ni wedi cychwyn o uniad y ddwy afon yn y Porth, ac wedi myned i fyny trwy y Rhondda Fawr ar ei hyd, ac wedi esgyn y mynydd i ben Carn Moesen, neu Carn y Mwswg, yn ngolwg terfyneithaf y plwyf, gan ddychwelyd eilwaith dros grib y mynydd, heibio i Fwlch y Lladron, a Phont Llys Wen, yn ol trwy'r Rhondda Fach. Gwnaethom ein goreu, hyd ag y medrem, i egluro tarddiad ac arwyddocad amrywiol enwau lleolyn yplwyf. Pa mor bell y llwyddasom, gadawn i ereill farnu.
Manion,
Manion, n Yn Luton cafodd dynes o'r enw Tempest ei dirwyo i ddeg pnnt am ddweyd ffortun." Bu farw y Parch. Richard Evans, gweinidog gyda'r Bedyddwyr y dydd o'r blaen. t, Y dydd o'r blaen cyrhaeddai y Pab y ddegfed-flwydd-a-phedwar-ugain o'i oedran. 11 t, Yn Ghent mae geneth sydd heb fwyta yr un tamaid 0 fwyd er mis Tachwedd diweddaf. Nid oes gymaint ag un ffordd haiarn yn Persia. Defnyddir dros chwe chan' mil o bwysi o De yn ddyddiol yn Lloegr. Gwerth eiddo personol y diweddar Dduc Teck, oedd deng-mil-ar-hugain o bunau, Nid pawb sydd wedi sylwi fod y Transvaal gymaint ddwywaith a Lloegr. Nid yw cig carw yn ddim ond ceiniog y pwys yn St. John's Newfoundland. Mae y swm o dair mil 0 bunau wedi ei 11 gasglu at yr Yspytty Gymreig ar faes y rhyfel. Y dydd o'r blaen cychwynodd palas y Frenhines yn Llundain fyned ar dan. Cynyddu mae y grediniaeth drwy y wlad y cymer dadgorfforiad y Senedd le yn fuan. Mae Arglwydd Penrhyn wedi cyfranu dau gant 0 bunau at yr Yspytty Gymreig a godir ar faes y rhyfel. Hysbysir fod larll Rosebery wedi tori pob cyssylltiad swyddogol a chymdeitliasau Rhyddfrydol Ysgotland. Y gwaith difyraf gan Dywysog Cymru pan yn blentyn oedd hwylio llongau papyr ar y awr. Cyfranodd Syr William Harcourt y swm 0 bum-punt-ar-liugain at yr Yspytty Gymreig i'r milwyr yn Neheubarth Affrica. Nid l!awer sydd yn gwybod fod yr awdwr enwogSamuel Smiles eto yn fyw. Mae yn awr yn 88ain mhvydd oed. Dywedir mae y Sul mwyaf anifyr i ddynes iCHanc ydyw un gwlawiog, a hithau y noson gynt wedi prynu het newydd. Hysbysir nad yw Tywysog Cymru yn bwriadu fod yn bresenol ar yr achlysur o agoriad yr Arddangosfa yn Paris. Am gerdded yr heol mewn dillad dynes cafodd barbyr Germanaidd ei anfon i un o garcharai Llundain am dri mis. Mae Cairo wedi anfon pedair mil o bunau i Arglwydd Faer Llundain at gronfa y Transvaal. Mae penadur Afghanistan newydd gyhoeddi ei fod ef yn berffaith barod unrhyw adeg i ddod allan i ymladd o blaid Prydain ° Hysbysir fod y bardd a'r pregethwr poblog- aidd, y Parch. J. G. Hughes, (Moelwyn), yn wael ei iechyd yn Germani. I Y dydd o'r blaen claddwyd y Parch. J. J. Williams, Penygroes, Afro'n, gweinidog adnabyddus a defnyddiol gyda'r Bedyddwyr. Bwriada Brenin a Prenhines Sweden dalu ymweliad a Phrydain yn ystod yr wythnosau nesaf. Yr oedd y perchenog llongau adnabyddus, Mr T. H. Ismay, Lerpwl, a fu farw yn ddiweddar, yn werth dros filiwn o bunau. Pan fydd y Boeriaid yn ymfudo o'r naill dy i'r llall, byddant bob amser yn gwerthu eu dodrefn. Y Milwriad Inigo Jones vdyw un o swyddogion y Fyddin Brydemig. Inigo Jones oedd enw cynllunydd pont fawr Llanrwst a Chapel Gwydir yn yr un dref. Bwriedir cau cronfa goffadwriaethol y diweddar Mr. T. E. Ellis, ar y Slain o'r mis hwn. Disgwylir i'r ardaloedd sydd heb gasglu ymroi i wneyd hyny ar frys, Yr uchder mwyaf yr esgynwyd iddo gan awyren ydyw 26,160 o droedfeddi. Bu i ddau ddyn a esgynasant i'r uchder yna farw drwy fygu. Ddydd Sadwrn, yn Aldershot, saethodd milwr Gwyddelig o'r enw Evans ei hunan yn farw. Yr oedd y trancedig dan orchymym i fyned allan ar faes y rhyfel. Yn mysg ereill enwir y Parch. Ivan T. Davies, Llandrillo, fel y dyn cymhwysaf i gynrychioli Meirionydd os ymneilldu'a Mr 0. M. Edwards. Er's pan mae y rhyfel wedi cychwyn dywredir fod tua 20,000 i 36,000 o fulod wedi cyrhaedd South Affrica, at wasanaeth y milwyr. Dywedir fod yr olynwyr sydd yn cario brysnegesau yn South Affrica, yn trafaelio yn ol 12 milltir yr awr, trwy nyrdd caled a tywodlyd. Dywedir nad yw Mr Chamberlain braidd un amser yn defnyddio nodiadau pan yn siarad yn y Senedd, eto, credir ei fod yn parotoi ei holl areithiau gyda'r manyldra mwyaf. Bu Mr. Lloyd George, A.S., yn Glasgow yn areithio yn erbyn y rhyfel. Ruwyd am amser hir yn gwrthod gwrando arno, a phan ddaeth allan lluchiwyd ceryg a budreddi at ei gerbyd. Mewn trengholiad yn Llundain gwrthododd lln o rheithwyr fyned i weled corph y dyn y tiynhelid ymchwiliad i achos ei farwolaeth. Dirwywyd y rheitliiwr i dair punt am ei anufudd-dod.
Advertising
Public Notices. G.P.O. Telephone No. 22. all EVANS & SHORT (The Printers of this Paper), Beg to announce that their NEW Stationery Shop AT 15, DE WINTON ST., TONYPANDY, IS NOW OPEN GENERAL PRINTING, BOOKBINDING, and COMMERCIAL STATIONERY Therefore customers will be saved the incon- venience of calling at the works at the rear. Telephonic communication between Front Shop and Works. The Printing Works have also been recently enlarged A LINOTYPE MACHINE RECENTLY ERECTED! (The First One in the Valley.) Quality of Work admitted HARD TO BEAT. <BooKworK of Eirery Description. t t Old Notation and Sol-fa Printing. Posters of every size and colour. Cards for Concerts. Lectures, &c., &c. Pay and Draw Tickets. Dance Cards and Invitations. Soiree, Banquet, Supper, &c. Cards. Contribution Cards, Books, and Circulars. In fact, they do everything on the Premises that comes within the category of General Printing and Bookbinding. ESTIMATES FREE. 63a THOS. FORREST & SONS, (Established 1861), The Old Established Photographers, CAMBRIAN STUDIO, 14, MARKET STREET, PO N TY PR I D D. PONTYPRI DD. 7 If you want a Good Game of Billiards, Pyramids or Pool The best place is at M. R. HEYCOCK'S 36, Ounraven Street, TONYPANDY. BILLIARDS 8d. per 100. 51 KNIGHT & SONS FAMILY BUTCHERS, Opposite the Theatre Royal, TONYPANDY English, Welsh & Colonial M EAT. CHEAPEST IN TOWN. W ORDERS CALLED FOR. 92 W. H. EVANS & SONS, TOWN CRIERS & BILL DISTRIBUTORS. Bills and Circulars' thoroughly distributed throughout the Rhondda Valleys at a Moderate Price. WtF" Sales, &c., cried in English and Welsh. References upon application from the leading Tradesmen of the Valleys and Districts. 7, DANIEL'S ROW, TREALAW. 154 Ask for TJEJOIWJILSSOM'S AB C INDEX RAILWAY GUIDE Enlarged and Improved. 1 d. monthly. Sold at all Booking Offices and Railway Bookstalls and by Newsagents. A First-Class Advertising Medium For Terms apply at- Publishing Offices: 28, St. MARY STREET, CARDIFF. 59 ESTABLISHED OVER 35 YEARS. P. HALEWOOD THE NOTED WELSH BOOT MANUFACTURER ABERDARE. RETAIL BRANCHES — YSTRAD-Station Row. MARDY—Mardy Road. PONTYPRIDD-59, Taff Street. MOUNTAIN ASH-Market Square. ABERDARE—31, Cannon Street. and at CARDIFF and MERTHYR. Try Halewood's own make Working Boots at 0/XX per pair. Cannot be beaten in the Principality. CLOGGING & REPAIRING done on the Premises 72 Tfe1.ih. A REVOLUTION i Hitherto the wage-earning public have debarred by the high prices asked fc>r 3 ficial Teeth, but the WELSH NATIONAL ARTIFICIAL TEETH 00, 32, TAFF ST, PONTRPRIDO, Have revolutionized this, and FIRST.Ce WORK can be obtained from them a 1ST LOWEST POSSIBLE Partial Sets of Teeth from per Tooth. Complete Sets of Teeth frot" 5 years' writoen Guarantee with each set' These Teeth have gained over 30 Prize and are unsurpassed for masticating, SP ing, and natural appearance. Write for Pamphlet and Scale of Fee3, CONSULTATIONS FREE, and no char^i Extractions when Artificial Teeth are ord& Only Establishment of this kind in Wales using Steam and Electric 1>0V We do not bargain with you; tell us want and we will do it. NOTE THE ADDRESS— > The Welsh National Aptili Teeth Co., 32, TAFF STREET, PONTVPflrP49 (Opposite the Tredegar Arms). THE GENERAL AcciDENI ASSURANCE CORPORATION, Capital £ 250,000. Established & CHIEF OFFICES- 42-44, Tay St., Perth, E.C' 115-117, Cannon St., Londoill COMBINED ACCIDENT & DISEASE INSVRANO$ Policies issued covering' -a 0\ death, Disablement resulting from ANY KIND, together with Weekly Allowances iff Temporarily Disabled by SMALL-POX, TYPHOI^dl PHUS, SCARLET FEVER, DIPHTHERIA, or an ANNUITY; and DOUBLE the usual Coinpen^i should death or injury be caused bv Railway Acd"6 £ 1000 POLICY pERf^N» WORKMEN'S COMPENSATION. Assurances at low non-tariff rates. BURGLARY INSURANCE. s Rates from Is. 6d. per £100, where total contend insured. CYCLE INSURANCE. Policies issued covering Accidental damage to wac loss by Fire, Burglary, and Theft sØ WIIOLE-LIFE RAILWAY & TRAMWAY AC INSURANCE. tiJII Policies issued at a small SINGLE premium, these risks in any part of the world. '¡¡(' Prospectusfor any of these branches of business$ warded on application to- ( 1 Cardiff Branch: Quay St. Chambers, St. Mary str t f;fI Liberal Terms offered to Agel! I APPLICATION INVITED. ESTABLISHED IN 1836. NG, For the PROTECTION of STUBBS', U ts ts MERCANTILE OFF (STUBBSLtd.) p 42, GRESHAM ST., LONDON, Ef. Subscribers, by obtaining timely information thr0 v THE STATUS ENQUIRY DEPART#6 MAY AVOID MAKING BAD DEBT5. EVERY TRADER SHOULD READ STUBBS' WEEKLY GAZETTE., With which is issued a Supplement containiØ LISTS OF CREDITORS UNDER ALL THE IMPORTANT FAILURES. THE COMMERCIAL REGISTEFlS CONTAIN MORE THAN mt- NINE MILLION ENTRl^'y DEBTS RECOVERED PROMPT1' and remitted to Subscribers on TUESDAY and FRIDAY in each. BRANCHES at Aberdeen, Birmingham, Bl Bradford, Brighton, Bristol, Belfast, Cardiff, CorKi, don, Dublin, Dundee, Edinburgh, Exeter, Huddersfield, Hull, Leeds, Leicester, i er 0go (West End), Manchester, Newcastle, Norwich, ¡up.' ham, Plymouth, Portsmouth, Sheffield, Southanr Sunderland, Swansea, Wolverampton. SUB-OFFICES.—Buxton, Cambridge, Derby, Gloucester, Greenock, Grimsby, Halifax, HanleX> jjof1" ness, Ipswich, Limerick, Londonderry, Middle*^ Newport (Mon.), Northampton, Oxford, Perth, Reading, Stockton-on-Tees, Torquay, Walsall, Worcester, York. jtitti TERMS.— £ 1 Is., £ 2 2s., £ 3 3s., £ 5 5s., acco^1 requirements. oftj PROSPECTUS forwarded on application to IP above Offices. Take Life Easy AND WE'LL Get rid of your Coir ——— There are probably no such little discolof -oof' that so easily beset the even tenour of 0 joyments as CORNS. They worry our patience { They upset our temper J They sting our toes They stop our exercise They spoil our pleasures They magnify all our troub MUNDAY'S "VIRIDINE" ,i (Registered Trade Mark) ø; Will rid you of these torments and t you peace of mind and freedom fr J thoughts of such things as COlt m VIRIDINE Kills the oldest CORNS. ,ISO. VIRIDINE Stops the growing of CO^ VIRIDINE completely eradicates CO" j| It goes to the roots and kills withott^fcil1, M No caustic to burn-nothingto irritate | 'M SAFE, SURE, AND SPEEDY 1 In Bottles, 1/- post free. J. MUNDAY, Chem^ 1, HIGH STREET, CARD|9 Printed for the Proprietors, Rhondda Leader," Limited, by Short, at their Printing Works, ton Street, Tonypandy, and William David Jones, at 15, Street, Tonypandy, in the County o*
Advertising
GOLYGYDD- J. REES (Nathan Wyn), Ystrad-Rhondda. Pob Gohebiaethau, Barddoniaeth, &c., i'w cyfeirio i'r Golygydd.
Nathan Wyn yn Glaf.
Nathan Wyn yn Glaf. Blin iawn genym gael ar ddeall fod Golyg- ydd parchus yr Adran Gymreig, Nathan Wyn, yn wael ei iechyd er ys rhai dyddiau. Dymunwn iddo adferiad llwyr a buan i'w gynefinol iechyd, ac y ca blynyddau lawer eto i wasanaethu ei oes a'i genedl. Gofynwn i'n gohebwyr a'n beirdd fod yn amyneddgar. Ca eu cynyrchion oil ymddangos yn eu tro.
Hen Benillion.
Hen Benillion. 'Nol magu hwch'n y Blaenau Ac anfon hon i Frystau; Er maint a wel hi yma a thraw Yn hwch y daw hi adrau. HEN AWDWR. 0 cwyd dy ben i fyny, Rho wel'd dy wyneb gwyn Fe ddaw rhyw newydd eto, A heibio'r mwstwr hyn. HEN GAN. Cwd Cardotyn. Hen gardotyn wyf, a thlawd, Heb dad. heb fam, heb chwaer, heb frawd; Eto rwy n canu Dili Dwd, Heb gywilyddio cario cwd. Cario cwd ar hyd y wlad, Gofyn rhodd. a'i chael yn rhad A goreu swydd nid oes ei swd Yw'n ddigyffro cario cwd. Duw'n fy rhan 'traid gofyn gwell, Mae'n awr mewn cod, mae'n flawd mewn cell; Mae'n wisg, mae'n wysgod poeth a brwd, Dyma sydd o gario cwd. DAFYDD NICHOLAS. Y Ddafad Las a'i Hoen. Cyfansoddwyd y gan hon yn niwedd y ganrif o'r blaen, gan hen brydydd o'r enw Shon Llewellyn. Dyma rai penillion — Bydd daer a dewr aderyn A d'wed wrth Thomas Watcyn, Fod ei dtlafad las aji ho'n Yn blinio Shon Llewellyn. I ddaeth i lawr yn gynar I ryddid Shon y Weaver. I'r mynydd goreu, glasa'n bod, Sef Cefn Co'd y Cymmer. Os gallaf gadw'r persli I foddio meddwl Mari, Mi faddeuaf i'r ddafad las Sy'n ceisio bias y rheini. Pwy ddaeth a'r newydd imi Ar foreu oer, ond Mari- Fe aeth y ddafad las a'i ho'n A brig a bon y persli. Yr Ebol Llywarch. Fel y canlyn y cenid gynt yn nghan Ar- thur am yr Ebol Llywarch, mab Llawre, caseg y brenin Mae genyf ebol melyn 0 gwmpas tair blwydd oed, A phedair pedol arian 0 dan ei bedair troed. Fe neidia ac fe ddawnsia 0 flaen y geingen wen, Fe reda ugain milldir Cyn sigla'r ffrwyn ei ben. Ceffylau. Y mae yr hen fardd Owain Gruffvdd wedi canu ar greulonder at geffylau yn debyg i hyn:— Gyru'r anifeiliad gwirion ] I ferwi o chwis heb fawr achosion ( Fe fydd gruddfan rai'n ryw ddiwrnod ( Yn dyst i'w poeni yn dosta penod. Oes Dyn. O'r haf i'r gauaf, fal gofyn-y rhod, Felly y rhed y flwyddyn, 0 nos i nos fel rhosyn, 0 ddydd i ddydd derfydd dyn. HEN BKYDYDD. Dawnswye Gymreig. j Tri ddawnswr goreu yn Nghymru, < Syr Charles o Gefn Mebli, ( Ysgweier Lewis gwych o'r Fan, ( A Syr John Carne o'r Wenni. HEN GAKTOR. i
roliad Ysgrythyrol.
roliad Ysgrythyrol. Undeb Ysgol Sul Canolbarth y Rhondda. A. ganlyn yw ffrwyth Arholiad Ysgrythyrol Undeb Canolbarth y Rhondda, a gymerodd le Hydref yr 21ain, 1899, yn Libanus, Blaen- clydach; Bethania, Llwynypia; Seion, Tre- alaw a Pisgah, Penygraig. Yr arholwr ydoedd y Parch. William Richards, Maerdy. Adroddiad yr arholwr-- "Rhifedi y papyrau ddaethant i'm Haw oedd- ent 81. Yn y Dosbarth Hynaf, tri-yr oil yn Gymraeg. Dan 21ain oed, 14-yr oil yn Gymraeg. Dan 16eg oed, 24—tri yn Seisnig ac 21ain yn Gymraeg. Dan 13eg oed, 29— wyth yn Seisnig ac 21ain yn Gymraeg. Dan ddeg oed, 11—yr oil yn Gymraeg. Gwelir felly fod ymlyniad mwyafrif maw o'r ymgeis- wyr wrth yr "hen iaith," yr hyn sydd yn ganmoladwy iawn. Teimlwn wrth edrych dros eu papyrau mai mwy o ymdrech sydd eisieu i'w hysgrifenu yn fwy cywir Y mae y rhai Cymraeg ar ol y rhai Seisnig yn hyn. '1 y Mwy o ymarferiad, dyna y cwbl sydd eisieu. Gyda golwg ar ansawdd yr atebion, y maent ar y cyfan yn wir dda yn mhob dosbarth. Mae y rhai blaenaf yn mhob dosbarth o deil- yngdod ucliel, yn neillduol felly y blaenaf dan 13eg oed. Mae y papyr hwn o ran trefn, llwyrder, iaith a llawysgrif, yn un o'r rhai goreu a welais erioed gan neb o'r oedran hwn. Gall Ysgolion Sabbothol Canol Rhondda deimlo yn hollol foddlon eu bod wedi gwneyd gwaith ardderchog eleni eto yn nglyn a'r gwahanol feusydd llafur. Cefais bleser di- gymysg wrth ddarllen yr oil o'r papyrau, yr Z, hyn a wnes gyda'r manylder mwyaf." Dosbarth Hynaf. Vwchafrif John Griffiths, Penygraig 78 11 D E Griffiths, eto 74 William Be van, Trealaw 48 Dosbarth dan 21ain oed. Lizzie Olive Morris, Penygraig 88 William David Owen, Blaenclydach 81 William D Lewis, Penygraig. 79 David L Rees, Trealaw 77 Lizzie J Lewis, Blaenclydach 76 Mary Sampson, eto 75 Annie Ellis, Trealaw 73 Jane Davies, Blaenclydach 72 John Gritliths, Llwynypia 62 John G Davies, Trealaw 62 William Jenkins, Penygraig. 54 J 0 Rees, Llwynypia 53 Lizzie M Thomas, Trealaw 43 Hannah Davies, Blaenclydach 8 Dosbarth dan 16eg oed. Elizabeth A Martin, Trealaw 81 William H Williams, Penygraig 79 Joseph Jones, Penygraig 76 Susannah Martin, Trealaw 76 Ellen Lewis, Trealaw 73 Elias Evans, Penygraig 73 David Davies, eto 73 Sarah E Reynolds, Llwynypia 72 Gladys Howells, Trealaw 71 John T Williams, Llwynypia, 70 David Watkins, eto 70 Annie Price, eto 62 E J Owen, Blaenclydach 62 Hannah Evans, Trealaw 57 illie Griffiths, Llwynypia 56 R J Owen, Blaenclydach 55 Edith Miles, Trealaw 53 Evan W. Howells, Trealaw 53 William D John Penygraig 49 John Price, Blaenclydach 48 Madge Evans, Llwynypia 42 Maggie Davies, Blaenclydach 42 William Lewis, eto 42 Edward Griffiths, eto 36 Dosbarth dan 13eg oed. Elizabeth M Harris, Trealaw 96 Bessie Evans, Trealaw 89 Sarah Martin, eto 83 Maggie M Morgan, Blaenclydach 78 William Jones, Penygraig. 78 Ben Jones, Blaenclydach 75 Joseph J Davies, Jlx%,ynyl)ia 74 David R Griffiths, Blaenclydach 68 Agnes H Thomas, eto 62 Margretta Williams, Llwynypia 60 Annie Pugh, Blaenclydach 59 Joseph Rosser, Llwynypia 57 Emma Evans, eto 56 Jennie Evans, Trealaw 56 Rees Gribble, Llwynypia 55 David Thomas Trealaw 54 Benjamin Lewis, eto 53 Thomas E Bevan, eto 53 W R Edwards, Llwynypia 52 Blodwen Davies, Blaenclydach 51 Hannah Evans, Trealaw 51 Mary Morgan, Llwynypia 44 Sephorah Evans, Trealaw 43 Mary Ann Price, Blaenclydach 40 Willie Evans, Llwynypia 36 Daniel E Jones, Penygraig 32 James John, eto 32 Blodwen Evans, eto 19 Catherine J Lloyd, Llwynypia 12 Dosbarth dan ddeg oed. Gwilym Martin, Trealaw 93 William Griffiths, Blaenclydach 90 Emma Davies, Penygraig 83 Thomas Price, Blaenclydach. 80 Sarah Ann Jones, Penygraig. 74 Elizabeth J Adams, eto 71 Sophia Adams, eto 70 Willie Bevan, Trealaw 42 Nellie Eynon, Penygraig 37 Eleanor Roberts, eto 31 Annie M Jenkins, eto 31 Gobrwvir hefyd y rhai canlynol sydd wedi ysgrifenu y Cymraeg goreu yn eu hatebion yn y tri dosbarth ieuengaf:— Dosbarth dan 16eg oed, William H Williams, Penygraig. Dosbarth dan 13eg oed, Elizabeth Mary Harris, Trealaw. Dosbarth dan ddeg oed, (Emmn. Davies, Penygraig '(William Martin, Trealaw. Ysgrifenydd—D. J. Jones, Tonypandy.